sabato, febbraio 18, 2006
06 Awst, 2005 unwaith yn rhagor
Wrth gwrs, adra'n sal ydwyf i. Dydi hi ddim yn neis bod adra'n sal, ond mai'n well na coleg (llawer mwy o sympathi ar gael yn lle pawb yn dweud 'ti'n hollol iawn y bastad tew'. Llawer gwell cael Mam yn prynu eis lolis imi i wneud fy ngwddf i'n well! Hihi!). Er dydw i dal heb gysgu mwy na chwech awr ers bron i bythefnos. Ella fy mod i'n insomniac neu dydw i ddim yn gwneud digon o ymarfer corff. A dweud y gwir dw i'n gwneud dim, er mi goda i allan o 'ngwely pan goda'r awch. A blogio, sy'n waith caled ar y bysedd a'r meddwl.
Y glands sy 'di chwyddo dachi'n gweld. Gwneud llyncu'n boenus iawn a phoeri'n loes calon. Dw i ar gwrs o Penecillin sy'n gweithio i'r gwddw ond mae'n rhoi ffwc o gur pen imi. Felly mi es i'r gwely'n fuan neithiwr a gwylio rhyw gyfweliad gyda Meic Stevens ar S4C ac ar f'enaid gwelais i fy hun mewn deg ar hugain o flynyddoedd yn yfad ac efo gwallt hir ac yn meddwi ac yn gwisgo het cowboi a sbecdols haul (a hynny oll namyn y ddawn gerddorol). Dw i'm isho bod yn Meic Stevens. Dwisho bod yn Michael Douglas (efo gwraig ifanc hyfryd) neu Bill Gates (cyfoeth) neu efallai'r Pab (het cwl).
Reit ma'r 'stafall yn troi sy'n golygu dw i angan mwy o fediceshyn. Ys dywed y Ffrancwyr: la vache n'est pas heureuse.
giovedì, febbraio 16, 2006
Glands
Eniwe dw i'm am ysgrifennu mwy achos dw i yn sal a dw i'n mynd adra i Rachub yfory am 'chydig. Casau glands.
lunedì, febbraio 13, 2006
Y Corff Yn Diffygio
Cyn nos Sul roeddwn i wedi bod yn yfed ac wedi mynd yn hamyrd tair noson mewn rhes, ac erbyn Dydd Sul bu bron imi lewygu'n cegin y genod roeddwn i wedi blino cyn gymaint. Gyda pawb arall o'm cwmpas yn eitha meddw erbyn diwedd y p'nawn mi es i adra a tiwnio fy nheledu yn fy llofft (mai 'di bod 'na ers mis Medi heb ei thiwnio).
Nos Sadwrn ychydig o blyr, heblaw dw i'n cofio ista wrth ddiawl o ddynas hyll yn Dempseys ac yn galw hi 'y bastad' (dim i'w hwyneb, wrth reswm, roedd hi'n fwy na fi). A mae Clwb hefyd yn blyr ond mi wnes i ddisgyn i gysgu ar un pwynt a dwyn botel o Newci Brown off bwrdd rhywun cyn chwydu. A dw i dal i deimlo'n sal a dw i angen newid fy nillad gwely ond maesho mynadd efo gwneud hynny. Beth bynnag dw i newydd dacluso'n 'stafall i ddoe a dydi hi'm digon cluttered. Dw i'n licio clytyr, poeraf yng ngwyneb trefn, mi giciaf din taclusrwydd (cyn rhedeg i ffwrdd yn sydyn sydyn).
Rwan mi dw i am gwylio fy nheledu newydd-diwnedig drwy'r dydd a darllen a phigo nhrwyn.
sabato, febbraio 11, 2006
Cynulliad, Gibbons, Meddwi, Salwch. Yr iwsial, rili.
Gad imi feddwl am y dyddiau diwethaf 'ma. Dydd Mercher aeth 'na griw ohonom i'r Cynulliad am dro. Mae'n adeilad eithaf cwl mewn ffordd anniddorol hynod, a medrwch chi weld o'r galeri nad ydyn nhw'n gwneud dim ond edrych ar eu cyfeiriadau hotmail ar y cyfrifiaduron (go iawn rwan. Dw i'm yn un am gelwyddau, oni bai eu bod o fudd imi yn ariannol neu'n rywiol). Y boi Llafur Gibbons oedd yn gwneud hynny. Yn eironig mi sylweddolais ei fodo'n edrych fel gibbon, hefyd:
Eniwe i bethau llai pwysig a nos Iau. Dyma myfi, Gentleman Jason, gyda fy ffrind, Lady Ceren, yn ceisio mynd am beint i'r Hilton ond doeddan nhw cae agor y bar inni felly aethon ni i'r Goat Major yn lle wedi inni ganu We're In The Money wedi inni fod yn y twll yn wal yn Cathays a thynnu allan ugain punt yr un. Y diwrnod wedyn dioddefais y penmaenmawr gwaetha dw i erioed wedi ei chael.
Dim rhyfedd nad oeddwn i isho mynd allan nos Wener (penmaenmawr oedd fy esgus ond go wir roedd gwario noson allan gyda Dyfed yn digon i droi'n stumog). Aethon ni i'r Hard Rock Cafe a dyma rhyw ddynas y dwad fyny atom. Any of you single? gofynnodd. Fi a Haydn. Can you go and tell my friend that she's beautiful because she's been through a tough time splitting up with her boyfriend blah blah blah. 'Na,' meddaf i, 'ewch o 'ma. Rydych chwithau'n hyll hefyd ac yn oglau fel pwdin reis.' (Clwyddau a dweud y gwir. Er mwyn cael allan ohoni a gadael i Haydn neud prat o'i hun mi ddywedais i fy mod yn negatif ac yn hoyw. Dw i yn negatif, ond ddim yn hoyw. Heddiw, eniwe.)
Wel mi eshi gysgu yn O'Neills beth bynnag cyn mynd i lle'r genod a stwffio Jaffa Cakes i fyny trwyn Lowri Dwd a chael Lowri Llew yn pestro fi eisiau gwneud wy wedi'i ferwi imi. Oeddwn i'n iawn, wedi gwario f'olaf dima ar 6 chicken mcnugget oer o Macdonalds.
mercoledì, febbraio 08, 2006
Ymrwbio yn y mawrion
Heddiw dw i'n flinedig, ond wedi casglu ambell i gliw am nos Sadwrn doeddwn i'm yn cofio hyn yn hyn:
- Mi gerddais ar hyd wal ar y ffordd o'r Mochyn Du, dim ond i ddisgyn i mewn i'r llwyn yr ochr draw. A brifodd.
- Myfi ydyw Gentleman Jason, wedi'r sgwrs dros Cosmopolitan
- Doedd y Gatekeeper ddim wedi llifogi. Yr heddlu oedd yno. Fi oedd yn meddwl ei bod wedi ei lifogi (heb dim reswm yn y byd, aparyntli). A meddyliodd pawb yr un peth wedyn.
- Y Peth Mwyaf Cywilyddus Yn Y Byd: cael dy wrthod i mewn i CLWB IFOR am fod yn RHY CHWIL. Er y cefais fynd i mewn wedi imi fynd am goffi (peint).
- Mi geshi gic allan o Clwb Ifor gan y boi oren (10% man 90% citrus fruit) sy'n fy nghasau heb reswm o gwbl a sydd wrth ei fodd yn rhoi cic owt imi. Cont.
- Mi geshi ffishcec ar y ffordd adra
martedì, febbraio 07, 2006
Dysg 1#
Diwedd y wers. I'ch diddori yn ei le dyma lun o Lowri Llewelyn a Ceren ar canal gyda hen ddyn sad, yn amlwg yn cael hwyl (sbiwch ar y dileit ar eu hwynebau!)
domenica, febbraio 05, 2006
Pentrebane
Reit, gad imi sortio'r allweddau allan cyn mynd ymlaen (mae nhw dros y lle i'm llygaid ar y funud). Iawn. Wedi'r Mochyn Du oeddem ni am fynd i Callaghans. Cafodd Lowri Dwd a fi syniad gwych sef neindio ar y bws cynta welsom ni a mynd i rywle. A fe euthum ar fys 51 (ella) i Bentrebane. Oce, mewn difri wnaethon ni ddim cyrraedd Pentrebane, yn rhannol oherwydd does gan yr un ohonom ni syniad lle mae o. Oeddan ni'n pestro pawb ar y bys yn gofyn pa stop oedd y cynta gyda pyb wrth ei hochr a endio fyny'n y Fairwater (dim syniad lle mae o). Fe oeddem ni yno am sbelan go hir, 'fyd, wrth i amser fynd heibio. Dw i'n cofio'r ddynas dew uffernol tu ol i'r bar a un o'r genod yn siarad Cymraeg er na chawsom ni fawr o sgwrs. Wedyn oedd y tacsi tua £7 i ganol dre. Bastad.
Roedd y Gatekeeper wedi cau am ba reswm bynnag, a ni'n dau am gael botal o win. Ond i'r Shitty Arms aethon ni cyn mynd i y bar cocktails ddirgel o dan y Gatekeeper. Dw i'm yn cofio be gesh i ond oedd o'n lyfli. Wedyn Dempseys, meddwi mwy, Clwb Ifor, chwydu, adra'n fuan. Blegh. Iw, mae gwinadd fi'n sgym heddiw.
Neges destun y diwrnod: Wel dagish i ar goc dy nain ddoe. Mmm! Gobeithio gei di ddiwrnod shit! - Dyfed
Reit, mi geisiaf gofio'r diwrnod drwy lluniau. Dyma Haydn yn ei pose Gaydn. Mi ddwynodd fy nghamera wedi hynny a cherdded o'r Mochyn Du i'r Westgate gyda'i din i olwg pawb. Ick.
Mae'r tun bins yma'n mynd i fod yn amlwg iawn mewn ychydig. Cewch chi weld. Dydi Ceren a Lowri Llew ddim.
Llun anffodus ohonof ond sbiwch ar y cocktail. Dyna cefais i. A dw i'n cofio mai y Cosmopolitan oedd o. Lyfli. Ond y peth oedd oni'n gachu bants a felly'n mynd rownd yn cesio ymddwyn yn cosmopolitan ond yn edrych fel tramp farfiog efo Cosmopolitan. Blydi hel mae 'na joban cadw'r hylif yn y gwydrau 'na 'fyd.
Ia wir, Lowri Dwd ydyw. Ond nid y hi sy'n bwysig yma ond y cnau a'r ffaith ei bod yn dal ei hyn i fyny wrth y bar wrth i ryw lesbian ceisio ei syrfio. Roedd y cnau yn afiach (hi a'u prynasant - dydi hi ddim yn licio cnau a neb arall yn eu licio chwaith) ond y cocktail yn neis iawn. Pumpunt 'fyd. Bastad lle drud. Casau bastad lle drud.
Bydda hwn wedi gallu bod yn lun bach neis o Savage a Lowri Llew, debyg, oni bai bod Lowri Llew methu cymryd llun call a mai'n edrych fatha chipmunk.
giovedì, febbraio 02, 2006
Colli crib, colli urddas
Dechreuodd y diwrnod efo 'Cymraeg I Oedolion'. Sef fi. Sorted. 'Hanes yr Iaith' yn uffernol o ddiflas. Son am hanes geiriaduron a ballu. Ffwc ots gen i. Dio'm help fod fy narlithydd yn obsesd efo gramadeg oedd RHAID iddo ddod a fo mewn i ffycin 'Hanes yr Iaith' doedd? A wedyn Cynllunio Ieithyddol gyda Colin Williams. Mae'n edrych i fod yn ddiddorol ond mae gan Colin Williams lais rhy swynol: oeddwn i'n teimlo'n high am awr yn gwrando arno. (O.N. dw i ddim yn ffansio Colin Williams, sylwebu ar ei lais ydw i. Dallt?)
A p'nawn 'ma fe gefais i arholiad stiwpid efo Sgriptio a do'n i methu a sgwennu'n dda iawn efo fy llaw ffrijbrifiedig. Oeddwn i'n eitha meddw neithiwr, a dweud y gwir. Dw i'n f'ystafell yn gwrando ar Dafydd Iwan ac yn gwisgo fy nghap Rwsiaidd. Mae hyn oherwydd dw i newydd olchi fy ngwallt ac os na'i wisgaf mae fy ngwallt yn mynd yn wallgof i bob man. A dw i wedi colli fy nghrib. Sy'n stiwpid. Dw i'm wedi brwsio fy ngwallt ers oes pys rwan. Dim rhyfadd dw i mor minging.
Beth bynnag, dw i wedi blino. Mi ddeffrois yn fuan (am 9) a dw i'n teimlo fel crempog (yn gwisgo het Rwsiaidd ac yn gwrando ar Dafydd Iwan). Dim yn aml fyddai'n teimlo felly, chwaith.