sabato, maggio 27, 2006
Canolfannau Garddio
Ia wir, canolfannau garddio. Teulu mynd i'r rheiny oedden ni erioed. Dachi'n gwybod, ar Ddydd Sadwrn fin haf, pawb yn gwisgo fyny'n smart a mynd i Holland Arms neu Canolfan Garddio Treborth a chael bwyd yno, a wedyn mynd o amgylch y lle (bob wsos rwan, cofiwch) a pheidio a phrynu dim. Oeddwn i'n casau mynd i Holland Arms. Hoffais y bwyd, sef bob amser baget corgimwch neu toastie bacwn, ond oeddwn i'n casau mynd o amgylch y ganolfan ei hun yn edrych ar geraniums a hadau ffa. Oeddwn i yn mwynhau gweld y pysgod pwll, fodd bynnag, a'r Venus Fly Traps. Dw i'n cofio Nain yn dweud ei bod wedi gweld un o'r blaen a rhoi ei bys hi ynddo, dim ond er mwyn gweld beth oedd o'n neud.
Y peth rhyfeddaf am ganolfannau garddio ydi bod yno bob amser cyn gymaint o bethau yno sy ddim byd i wneud gyda garddio. O gwbl. Oeddwn i'n Treborth heddiw efo Nain a Mam (ac yn ffodus iawn oedd gennai gar felly wedi cael cig oen gwych mi yrrais o 'na fel Michael Schumacher ar speed (Ha ha. Ar speed. Eironig.) a sylweddoli bod yno o hyd sectiwn lyfrau yno. A dydi'r llyfrau ddim byd i wneud gyda garddio: heddiw yn Nhreborth roedd 'na lyfrau ar palmistry, deinosoriaid, astroleg a'r blydi llyfrau croeseiriau 'na. Ac ambell i lyfr am rhodedenrons ond dyna ni. Dw i ddim yn dallt y pwynt o gwbl. Mae o fel gwerthu CD's Dafydd Iwan yn Body Shop, neu pizzas efo blas o Dominos. Od o fyd, tydi?
giovedì, maggio 25, 2006
Degawd
- 1996: Eshi i car-boot sale yn rhywle
- 1997: Y tro cyntaf erioed imi fod mewn awyren. Eshi ar un o'r pleasure flights 'na o Ddinas Dinlle o amgylch Yr Wyddfa. Cofio'n iawn!
- 1998: Ges i lasania i de ym Menllech
- 1999: Mynd i ffarm Sion a chwarae gemau golff ar y cyfrifiadur. A mi ges i wers biano.
- 2000: Oni ar brofiad gwaith yn Swyddfa Plaid Cymru Caernarfon, a chael cinio gyda Yncl Owie ac Anti Betty. Gwelais i 'Gladiator' yn nos efo Rita a dwy o'i ffrindiau nad oedden nhw'n deall y ffilm o gwbl a dyma nhw'n chwerthin drwyddi.
- 2001: Neud pethau drwg yn ystod adeg yr etholiad. Gwell imi beidio dweud!
- 2002: Cael diwrnod diflas yn lle Nain.
- 2003: Oni'n siarad efo'm ffrind o Reading ar headphones dros y we, a roedd fy nghlustiau'n lladd.
- 2004: Cefais arholiad
- 2005: Ennillodd Lerpwl Cynghrair y Pencampwyr a doeddwn i'm yn meddwl y byddwn i'n 'pasio arholiad fory'. Anghywir oeddwn.
Aaaah! Dw i mor falch dw i'n cadw dyddiadur i weld gwir ddibwyntrwydd fy mywyd yn ei gyflawnder. A, gyda llaw, mae Dyfed yn siarad efo fi ar MSN a'n dweud bod o isho mensh ar y blog. Lwsar trahaus.
mercoledì, maggio 24, 2006
Panad a phentrefi diflas Cymru
Un peth dw i ddim yn caru ydi Bethel. Mi basiais i drwy Bethel ar fy ffordd o Dre ddoe. Er fod Anti Betty ac Yncl Owie yn byw 'na does gan Bethel ddim cymeriad o gwbl. Hi, yn wir, yw pentref mwyaf ddifflach a diflas Cymru, a mae i Gymru ei siâr ohonynt, ond i gyd gydag o leiaf un nodwedd diddorol:
- Libanus - enw diddorol
- Llanfairfechan - wrth lan y môr
- Pentrefoelas - y lle siocled 'na
- Llanilar - Dai Jones
- Llanbrynmair - y ddraig gwydr
- Capel Curig - does neb yn siwr lle mae'r union bentref
- Pob pentref ar Ynys Môn - pawb yn falch eu bod nhw, pawb sy'n byw ynddynt a'u naws cyffredinol o ddiflas ar Ynys Môn ac nid y tir mawr
- Mynydd Llandygai - mi fedri di weld Rachub ohono
Crybwylliad byr mi wn, gwyddwn i fod 'na lawer mwy ohonynt ond unig nodwedd Bethel ydi dy fod ti'n gorfod arafu yno ar dy ffordd i Gaernarfon neu fel arall, a mae o'r math o le dwyt ti ddim isho gwario llawer o amser yno. Ond gwell imi beidio slagio'r lle off yn ormodol rhag ofn i Anti Betty ddarllen a rhoi stid imi.
martedì, maggio 23, 2006
Wastio 'Mywyd
Dwisho mynd i Fangor heddiw i brynu Cysgliad i'r llapllop a'r cyfrifiadur yma imi gael sillafu'n gywir a ballu. Mi ragwelaf (a mi ydw i'n rhagweld pethau, a dw i bob amser yn gywir) bydd medru sillafu yn gywir o fantais pan yn athro aeddfed.
Deffroais am hanner awr wedi saith bora 'ma. Od ydyw hyn o'r herwydd pan dw i adra dw i'm yn deffro tan o leiaf 10 rhan fwyaf o'r amser. Dod adra ydi 'ngwyliau i bellach, a pham mae rhywun yn mynd i Rachub am wyliau mae nhw unai gyda hiraeth, heb bres neu'n paratoi ar gyfer hunanladdiad.
W, newydd gofio bod 'na CD allan gan Celt heddiw, so bydd yn RHAID imi brynu hwnnw. 'Sgen i'm car ar y funud ond dw i'n cael menthyg un Nain tra ei bod hi'n dawnsio llinell yn nghanolfan Cefnfaes, felly mi wna i bob dim yn ogystal a sortio allan joban am yr haf i'm hun. 'Misho gweithio. Tydi tyfu fyny yn beth annifyr? (er nad ydw i erioed wedi tyfu fyny pasio 5"7, ac annhebyg y gwna i rwan. Plantos, peidiwch boddra byta'ch llysiau i dyfu fyny'n iach, ges i llwyth ohonyn nhw a rwan mae pawb yn fy ngalw i'n Hobbit Tew. Bastads.)
domenica, maggio 21, 2006
Dydd Sul Glawiog yn Rachub
Does gen i ddim cynllun bendant ar gyfer heddiw, heblaw bod Nain (bendith arni) wedi dweud ei bod hi'n gwneud cinio i bawb. Fydd hynny'n dda, dw i angen egni achos doeddwn i methu cysgu neithiwr. Dad 'di meddwi yn gwneud swn yn dod i mewn a wedyn rhyw hogia am hannar 'di dau'n bora yn gweiddi rwbath am 'my fucking shin'. Annymunol iawn.
Mae Dad yn y ffenast rwan yn dweud imi fynd i lle Nain am fwyd, sy'n biti achos mae genni lot mwy i'w ddweud i chi. Duw, 'motsh. Hwyl am y tro, gyfeillion!
venerdì, maggio 19, 2006
Gwinllan a roddwyd
Saunders Lewis sydd heddiw. Boi bach hyll, fainlais, cenedlaetholwr i'r carn oedd yn hoff o losgi ysgolion fomio. Gwinllan a roddwyd i'm gofal yw Cymru fy ngwlad; melltith o waelod fy enaid i ti, Llywelyn; trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo. Dyna'r oll dw i'n wybod. Ond mi fedra i adrodd Gwinllan a Roddwyd o gof...
Gwinllan a roddwyd i'm gofal yw Cymru fy ngwlad
I'w thraddodi i'm plant
Ac i blant fy mhlant
Yn dreftadaeth tragwyddol;
Ac wele'r moch yn rhuthro arni i'w baeddu.
Minnau yn awr,
Galwaf ar fy nghyfeillion,
Cyffredin ac ysgolhaig,
Deuwch atyf i'r adwy,
Safwch gyda mi yn y bwlch;
Fel y cedwir i'r oesoedd a ddel y glendid a fu.
Gwych! O leia os dw i'n methu heddiw bydda i'n gwybod fy mod i wedi gwneud ychydig o waith drwy flogio!
mercoledì, maggio 17, 2006
Hannar ffordd...
Eniwe, dw i newydd gerdded i'r Rhath o Dalybont yn y glaw mawr, yn anffodus sylweddoli bod y parker neis 'na y prynais i rhyw ddeufis yn ôl ddim yn wotyrprwff, a wedi socian fy waled a'n ffôn, ynghyd â ddau feiro, tabledi a goriad drws ffrynt. Ond 'sdim am ostwng fy hwyliau, dwi'n iach unwaith yn rhagor! Warwww!
Hannar ffordd...
Eniwe, dw i newydd gerdded i'r Rhath o Dalybont yn y glaw mawr, yn anffodus sylweddoli bod y parker neis 'na y prynais i rhyw ddeufis yn ôl ddim yn wotyrprwff, a wedi socian fy waled a'n ffôn, ynghyd â ddau feiro, tabledi a goriad drws ffrynt. Ond 'sdim am ostwng fy hwyliau, dwi'n iach unwaith yn rhagor! Warwww!