Mae ‘na lond dwrn o seddau yng Nghymru y byddent yn Geidwadol doed â ddêl ond am y ffaith eu bod yng Nghymru. Un sedd yn unig sydd o ddifrif yn wahanol i’r duedd honno a’r sedd honno yw Mynwy. Mae’r sedd yn fwy llewyrchus na’r rhan fwyaf o Gymru, a byddai rhai yn dadlau mai dyma’r rhan leiaf ‘Cymreig’ o Gymru hefyd, o ran ei naws a hefyd yn ieithyddol. Mewn arolwg o blant ysgol a holodd am eu cenedligrwydd, etholaeth Mynwy oedd â’r ganran uchaf yr ystyriasant eu hunain yn Brydeinwyr - dros 55%.
Gan ystyried hynny, allwn ni ddim ond am ddiystyru Plaid Cymru. Yn draddodiadol, dyma ei sedd wannaf yng Nghymru. Dydi’r Blaid byth wedi cadw ei hernes, byth wedi dod yn uwch na’r pedwerydd safle yn y Cynulliad, ac yn isetholiad 1991 cafodd un o’i chanlyniadau gwaethaf erioed - daeth yn bumed gyda 277 o bleidleisiau, safle’n is na’r Monster Raving Looney Party.
Dydi’r Democratiaid Rhyddfrydol fawr o rym yma chwaith. Cânt tua 10% - 15% o’r bleidlais yn fynych yn y Cynulliad ac yn San Steffan a hefyd yn etholiadau Ewrop eleni.
Hwyl fawr i’r ddwy hynny felly. Er mai Ceidwadol ei naws ydi Mynwy, mae pocedi o gefnogaeth Lafuraidd yma – ardaloedd megis Croesyceiliog sy’n ffurfio rhan o Sir Torfaen yn hytrach na Sir Fynwy, ond sy’n rhan o’r sedd hon.
Yn gyffredinol, fodd bynnag, dydi’r blaid Lafur ddim yn llwyddo ym Mynwy oni fo pethau’n mynd o’i phlaid yn sylweddol. Enillodd yma ym 1966, pan lwyddodd ennill ei chanran uchaf erioed o’r bleidlais yng Nghymru, a phob un ond am bedair sedd, ac eto ym 1997 ym mlwyddyn waethaf erioed y Ceidwadwyr yng Nghymru a thu hwnt.
Y rhesymeg felly ydi er mwyn i Lafur ennill ym Mynwy, rhaid iddi lwyddo’n ysgubol ledled Cymru. Dwywaith mewn hanes lled-ddiweddar y mae Llafur wedi ennill dros 20,000 o bleidleisiau, pan gollodd yma ym 1992 a phan enillodd ym 1997. Ar y llaw arall, mae’r Ceidwadwyr yn mynych gael 20,000 o bleidleisiau yn y sedd, ac mae’n anodd eu gweld yn cael llai na hynny eleni.
Yn ddigon ffodus mae ‘na arolwg barn wedi’i gyhoeddi heddiw i YouGov ac ITV. Rŵan, mae gan ITV hanes aflwyddiannus iawn wrth gomisiynu polau piniwn yng Nghymru, ond gan nad ydi lliw y sedd yn destun dadl dwi ddim yn gweld dim yn bod â’i ddefnyddio.
Honnir bod Llafur yn dechrau adfywio yng Nghymru, ond gadewch i ni fod yn gwbl glir am hyn, gwneir yr honiad hwnnw ar sail y pôl diwethaf, nid canlyniad yr etholiad diwethaf. Dirywiad ydi hynny i mi, nid adfywiad.
Fodd bynnag, yn ôl y pôl petai etholiad byddai Llafur yn cael 37% o’r bleidlais Gymreig a’r Ceidwadwyr yn cael 29%. O drosi o’r etholiad diwethaf yng Nghymru, mae hynny’n ostyngiad o chwe phwynt canran i Lafur – ac yn fwy na hynny byddai hynny’r canlyniad gwaethaf i Lafur Cymru yn San Steffan ers cyn yr Ail Ryfel Byd – a byddai’r Ceidwadwyr i fyny saith pwynt canran – eu perfformiad gorau yma ers deunaw mlynedd.
Felly ymddengys bod gogwydd uniongyrchol rhwng y ddwy blaid i bob pwrpas. Sut y byddai gogwydd o’r fath yn amlygu ei hun mewn etholiad, gyda, dyweder, tri chwarter pobl Mynwy yn pleidleisio?
Ceidwadwyr 25,700 (54%)
Llafur 14,700 (31%)
Mwyafrif: 11,000 (23%)
Mae’n werth nodi un peth am yr uchod, dydi’r Ceidwadwyr byth wedi taro 25,000 o bleidleisiau dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf. Dydyn nhw byth wedi ennill gyda mwyafrif tebyg - heblaw, yn bur rhyfedd, ar lefel y Cynulliad. Mae Llafur wedi gwneud cyn waethed â hynny yn yr wythdegau, ond dwi’n amau a fydd yn cyrraedd y fath iselfannau eleni.
Beth am ddefnyddio arolwg gwahanol? YouGov eto, rhwng 2-3 Mawrth, gyda Llafur ar 32% a’r Ceidwadwyr ar 38%.
Ceidwadwyr 25,200 (53%)
Llafur 16,100 (34%)
Mwyafrif: 9,100 (19%)
I mi mae’r ail yn ymddangos fymryn yn debycach. Mae’r ddau arolwg yn awgrymu yn y sedd hon y caiff y Ceidwadwyr dros hanner y bleidlais ac y bydd y mwyafrif yn sylweddol. Efallai na ddylai hynny ein synnu, fodd bynnag. Yn y Cynulliad, mae Mynwy ymhlith seddau mwyaf diogel Cymru – cafodd David Davies bron 58% o’r bleidlais yn 2003, ac mae gan Nick Ramsey fwyafrif o wyth mil a hanner.
Trodd Mynwy yn lasach, os rhywbeth, yn Etholiadau Ewrop 2009. Enillodd y Ceidwadwyr bron i 9,000 o bleidleisiau (38%) a daeth Llafur yn drydydd y tu ôl i UKIP gyda 3,200 o bleidleisiau, neu 14%. Dyma’r math o etholaeth a fydd yn mwynhau rhoi cic i Lafur eleni.
Dydw i ddim yn rhagweld y caiff y Ceidwadwyr lai na ugain mil o bleidleisiau yma eleni. Fel arfer byddwn yn dweud mai’r unig ffordd i Lafur ennill pleidleisiau mewn difrif yw bod nifer sylweddol uwch o bobl yn pleidleisio. Pleidleisiodd 72% o etholwyr Mynwy y tro diwethaf, a phrin y bydd y ffigwr mor uchel y tro nesaf fel y bydd Llafur yn ennill pleidleisiau. Synnwn i’n fawr petai Llafur yn ennill 16,000 o bleidleisiau yma eleni.
Proffwydoliaeth: Y Ceidwadwyr amdani gyda thros hanner y bleidlais
Felly dyma hi hyd yn hyn gen i, gyda chwe sedd i fynd. Dylwn i ddweud fan hyn fy mod i'n ailfeddwl sawl sedd ar hyn o bryd, nid leiaf Llanelli, Aberconwy a Brycheiniog a Maesyfed - ond mi ddof i gasgliad terfynol ar ôl darogan pob sedd.