Nid eich gwerthoedd chi mo gwerthoedd Cymru. Mae pleidlais i UKIP yn bleidlais yn erbyn Cymru, ac bleidlais yn erbyn buddiant cenedlaethol Cymru. Ni allwn, ac ni fyddwn, yn gadael i’w gwleidyddiaeth hyll ein rhannu fis Mai.
Dydw i ddim yn meddwl bod ensynio bod UKIP yn ‘Anghymreig’ yn beth ffôl i’w wneud, achos mewn nifer o ffyrdd, mae hi – er rhaid pwysleisio na ddefnyddiodd Leanne Wood y gair penodol hwnnw wrth ymosod arni. Y mae ei hagwedd at Gymru yn un ymerodraethol, hen ffasiwn, ac yn hynny o beth yn annerbyniol. Drwy gamau bychain mae Cymru heibio hynny. Does dim ots gen i beth ddywedodd Dafydd Êl am ei bod yn cynrychioli barn ‘ddilys’ yng Nghymru yn hyn o beth, mae UKIP yn Anghymreig. Roedd y ddwy frawddeg gyntaf, yn fy marn i, yn rhai digon teg a gwir.
Y broblem ydi disgrifio ei gwleidyddiaeth fel gwleidyddiaeth ‘hyll’, a dwi’n meddwl bod hynny’n mynd â rhywun i dir peryglus iawn. Dau beth yn unig sy’n poeni UKIP – yr Undeb Ewropeaidd a mewnfudo – mae hi’n erbyn y ddau. Tydi bod yn erbyn aelodaeth y DU, na Chymru, o’r UE ddim yn beth ‘hyll’ iawn; dydi dweud y byddai’r DU yn well ei byd y tu hwnt i’r UE ddim yn gwbl ddi-sail achos mae anfanteision i’r aelodaeth honno hefyd. Os edrychwch ar y ffeithiau dydi hi ddim y ddadl gadarnaf yn sicr ond mae mân rinweddau iddi. A dydi ymdeimlad gwrth-UE ddim yn rhywbeth nodweddiadol Seisnig, mae i’w gael yng Nghymru hefyd (yn wir, os edrychwch hi ar bolau dros y blynyddoedd ar gyfansoddiad Cymru, mae ‘na hollt ryfeddol o agos ymhlith y rhai sy’n coelio mewn annibyniaeth i Gymru o fewn yr UE a’r tu allan iddi).
Ond efallai mewnfudo sydd
fwyaf dadleuol yma. Mewn polau piniwn, fe welwch dro ar ôl tro bod pobl yn
tueddu i feddwl bod gormod o fewnfudo i’r DU: a dwi ddim yn meddwl bod y rhai
sy’n cytuno â hynny’n arddel gwleidyddiaeth ‘hyll’ ychwaith. Tybed, pe byddech
chi’n byw mewn rhan o Loegr sydd wedi gweld ymchwydd enfawr o fewnfudwyr o’r tu
allan i Loegr yn eich ardal chi, gan newid a thanseilio holl gymeriad eich
ardal, a fyddech chi’n fwy sympathetig at y farn honno?
Onid ydym ni’n gweld yr un
fath yn digwydd yng Nghymru – mewnfudo o fath gwahanol, efallai, ond un sy’n
tanseilio ein diwylliant, ein hiaith a’n treftadaeth ein hunain? Dydi ddim
eisiau i’ch cymuned chi newid y tu hwnt i bob adnabod ddim yn wleidyddiaeth
hyll. Mae’n ddigon teg. Wrth gwrs, mae rhai pobl yn erbyn mewnfudo am resymau
hiliol. Byddwn i’n gyndyn iawn o ddweud bod hynny’n gynrychioliadol o’r
mwyafrif sy’n coelio hynny. A phe byddech chi’n dweud hynny, go debyg eich bod
yn un o’r bobl hynny sy’n lluchio’r cyhuddiad o ‘hiliaeth’ at bobl yn rhy hawdd
o lawer beth bynnag. Dyna ydi gwleidyddiaeth hyll!
A dyma’r peth arall. Dwi’n
tueddu i feddwl bod Plaid Cymru ar y chwith i nifer fawr iawn o’i chefnogwyr
traddodiadol a selocaf. Dydi hynny efallai ddim yn broblem anorchfygol ynddi’i
hun. Ond tybed faint o gefnogwyr craidd y Blaid sy’n tueddu i feddwl bod gormod
o fewnfudo – ar lefel y Deyrnas Unedig ac ar lefel Cymru?
Dwi’n meddwl eich bod, ym mêr eich esgyrn, yn gwybod yr ateb i hynny. Debyg iawn bod barn cefnogwyr Plaid Cymru’n unfath â’r ymdeimlad cyffredinol ym Mhrydain ar hyn o bryd. Ond dwi ddim yn meddwl bod hynny’n golygu bod cefnogwyr Plaid Cymru’n arddel gwleidyddiaeth ‘hyll’ – a fedra i ddim gweld sut mae ensynio hynny, er yn anuniongyrchol, yn mynd i fod o fudd i’r Blaid mewn ti mis.
Peidiwch â’m camddeall ychwaith.
Mae UKIP mewn nifer o ffyrdd yn blaid eithaf boncyrs, ac mae plaid o’i natur hi’n
anorfod am ddenu cymeriadau a chefnogwyr digon ... ‘lliwgar’. Ond mae labelu ei
phrif nodweddion gwleidyddol – lleihau mewnfudo a gadael yr UE – fel ‘hyll’
ddim yn iawn. Y gwir ydi mewn nifer fawr o ffyrdd, maen nhw’n safbwyntiau teg (er,
wrth gwrs, bydd rhai yn eu cefnogi am resymau hyll). Pe bai gennym yng Nghymru
wleidyddiaeth y byddai trwch y boblogaeth yn ymwybodol ohoni, tueddaf i feddwl
mai tanseilio ei chefnogaeth fyddai geiriau Leanne Wood, nid ei sicrhau na’i
hehangu, at yr etholiadau sydd ar ddod.