Rydych yn siŵr o wybod nad ydi’r Deyrnas Unedig yn genedl-wladwriaeth, nac ychwaith Sbaen, gyda phob un ag amryw bobloedd o drasau a diwylliannau gwahanol. Mae hyn hefyd yn wir am Ffrainc, er bod y wladwriaeth honno wedi bod yn fwy llwyddiannus o lawer yn ffrwyno’r hunaniaethau unigol sydd i’w cael yno.
Ond debyg nad ydi’r rhan
fwyaf ohonoch yn gyfarwydd â sefyllfa’r Eidal o ran hyn, gan felly dybio mai
cenedl-wladwriaeth ydi hi. Ond rydych chi’n anghywir i dybio hyn. Y mae’r Eidal
yn llawn hunaniaethau lleol ac ieithoedd gwahanol, ac yn wladwriaeth ag iddi
sylfeini gwantan iawn.
Yn wir, mae cenedlaetholdeb
Eidalaidd yn deillio yn fwy o ystyriaethau daearyddol, sy’n deillio’n ôl i
gyfnod y penrhyn Eidalaidd fel talaith Rufeinig, ac ystyriaethau gwleidyddol a
chymdeithasol, nag ymdeimlad o wir undod cenedlaethol. Unwyd y penrhyn ym 1870 –
ac roedd y diffyg cenedlaetholgar ym meddyliau nifer o bobl bryd hynny. Dwi’n
meddwl i ŵr o’r enw Massimo d’Azeglio, a fu’n Brif Weinidog Teyrnas Sardinia –
ei roi orau pan ddywedodd ‘Rydym ni wedi creu’r Eidal. Nawr, mae’n rhaid creu Eidalwyr’.
Llwyddwyd i wneud hynny i
raddau. Ond ddim yn llwyr o gwbl. Mae map ieithyddol yr Eidal yn gwneud i hyd
yn oed Sbaen edrych yn unffurf. Er bod pawb yn siarad Eidaleg safonol (fwy na
heb) mae ‘na amrywiaeth enfawr o ieithoedd yn cael eu siarad yno, o Feniseg yn
Fenis, Napolitaneg yn ardal Napoli, Sardineg yn Sardinia, Sisilianeg yn Sisili,
heb sôn am bocedi o Almaeneg, Ffrangeg, Ladin a Slofeneg, ymhlith eraill. Byddai
rhai yn galw rhai o’r ieithoedd hyn yn dafodieithoedd, ond coeliwch chi fi,
byddai’r siaradwyr a nifer fawr o ysgolheigion, yn dadlau fel arall. Roedd fy
nain bob amser yn mynnu y siaradai dair iaith: Eidaleg, Saesneg a Napolitaneg.
Ond nid yn unig y mae’r Eidal
yn llawn rhaniadau ieithyddol ond mae rhai gwleidyddol mawr yno hefyd. Bosib i
chi glywed am y Lega Nord, sy’n blaid
ranbarthol ddadleuol sy’n ymgyrchu dros ogledd yr Eidal (yn amrywio rhwng mwy o
ffederaliaeth ac annibyniaeth i Padania,
sef gogledd yr Eidal) ac sy’n profi cryn lwyddiant ym mron bob etholiad. Y mae
hefyd fudiadau sy’n arddel annibyniaeth i Sardinia a De Tyrol ymhlith eraill.
Y mae’r gwledydd bychain yn
codi ledled Ewrop ein hoes ni. Ond cael a chael ydi hi hefyd mewn difri. Mae’r
polau o hyd yn awgrymu mai lleiafrif sydd o blaid annibyniaeth yn Yr Alban, a
dydyn ni ddim yn gwbl sicr i ba raddau yr aiff Sbaen i atal ei rhanbarthau rhag
gwahanu oddi wrthi. Serch hynny, yn fy marn i, os ydych chi’n chwilio Ewrop am
y wladwriaeth nesaf bosibl, nid at Brydain na Sbaen y dylech edrych, ond yn
hytrach at Fenis y dylech droi.
Mae gan Fenis gryn
hanes, y mae llawer o bobl yn gwbl anymwybodol ohono heddiw. Bu’n wladwriaeth
annibynnol am dros 1,100 o flynyddoedd, ac yn rym morwrol a masnachol sylweddol
am lawer o’r cyfnod hwnnw, er y daeth i ben ym 1797 pan gafodd ei goresgyn gan
Napoleon. Wedi hynny’n bu’n rhan o Awstria am flynyddoedd nes dod i ddwylo
Teyrnas yr Eidal ym 1866. Dydi hi fawr o syndod bod ymdeimlad cenedlaethol cryf
i’w gael yno hyd heddiw.
Wrth gwrs, â hanes mor
ogoneddus a hirfaith does syndod yn hynny o beth – i’w roi mewn cyd-destun, sefydlwyd
Gweriniaeth Fenis o leiaf ganrif a hanner cyn i’r Alban uno’n un deyrnas, ac
ond ychydig ddegawdau ar ôl sefydlu Islam. Y gwir ydi, does ‘na ddim llawer o
genhedloedd yn Ewrop sy’n hŷn na Fenis.
Ond heddiw mae’r naratif
cenedlaetholgar Fenetaidd cyfoes wedi datblygu, a hynny yn wahanol i’r Alban,
Catalwnia, Gwlad y Basg, Fflandrys a hyd yn oed Cymru, yn ddistaw iawn, i’r
graddau mai prin yw’r rhai sy’n ymwybodol ohono. Ond ystyriwch hyn, ym mhob arolwg barn a gynhaliwyd es
tua 4 blynedd, mae mwyafrif trigolion Fenis wedi dweud eu bod o blaid
annibyniaeth. Mae hynny’n fwy na Chatalwnia, ac yn sylweddol fwy na’r Alban.
Efallai i chi ddarllen
stori am hyn ar y BBC yn ddiweddar. Cynhaliodd Fenis bleidlais gwlad - hynny yw
refferendwm heb rwymedigaeth gyfreithiol - i weld barn y cyhoedd ar annibyniaeth.
Pleidlais ar-lein oedd hi, ond credir yn gyffredinol fod y bleidlais yn agos
ati o ran y farn a fynegwyd. Pleidleisiodd 89% o blaid annibyniaeth. Fawr o
syndod, efallai, mewn refferendwm ar annibyniaeth a gynhaliwyd gan bobl o blaid
annibyniaeth; nes i chi gael gwybod bod tua 63% o bobl Fenis wedi bwrw
pleidlais ynddo.
Mae, fel y byddech yn ei
ddisgwyl, rwystrau i’r rhai sydd o blaid annibyniaeth. Fel yng nghyfansoddiad
Sbaen, nid oes darpariaeth i ranbarthau’r Eidal wahanu o’r wladwriaeth ganolog.
Ond nid oes gan yr Eidal ychwaith hanes o orthrymu’r rhanbarthau fel Sbaen, ac
mae ei llywodraeth ganolog fel arfer naill ai’n wan neu’n llawn trafferthion,
heb yr undod na’r penderfyniad gwleidyddol, nac yn wir synaidaeth gadarn ar undod cenedlaethol, i wir wrthsefyll ymgyrch hirhoedlog,
drefnus gan un o’r rhanbarthau.
Petaech chi’n gallu betio ar
hyn, ac yn ffansi bet ar wladwriaeth nesaf Ewrop, dybiwn i na fyddech ar eich
colled petaech yn ei roi ar Fenis.