Mae’n anodd iawn cynnig unrhyw gysur i Ddemocratiaid Rhyddfrydol at 2015 -
yng Nghymru neu’n unman arall. Does neb yn amau bod eu bod am wneud yn wael
flwyddyn nesa’. Gallai pethau fod wedi bod mor wahanol.
Blwyddyn
|
Pleidleisiau
|
Canran
|
Seddi
|
2001
|
189,254
|
13.8
|
2
|
2005
|
256,249
|
18.4
|
4
|
2010
|
295,164
|
20.1
|
3
|
Un ffordd o wir gyfleu’r argyfwng sy’n wynebu’r blaid yng Nghymru ydi hyn:
petai’r un nifer o bobl yn pleidleisio flwyddyn nesaf ag yn 2010, a bod y Dems
Rhydd yn cael y 7.4% ‘na yn yr etholiad, byddai hynny gyfystyr â thua 107,000 o
bleidleisiau. Mae hynny ddwy ran o dair yn is na 2010. Awtsh. Ar ben hynny mae
wir-yr yn anodd gweld unrhyw beth o gwbl yn digwydd a fydd yn cynyddu eu
poblogrwydd rhwng rŵan a’r etholiad.
Roedd ‘na arwydd o faint y gallai pethau fynd o chwith yn 2011 yn
etholiadau’r Cynulliad – cafodd y blaid ddihangfa drwy golli ond un o’i chwe
sedd y flwyddyn honno. Cafodd y blaid 10.6% o’r bleidlais yn yr etholaethau– mi
fyddan nhw’n lladd er mwyn cael canlyniad cystal yn 2015 – ond doedd hynny ddim
yn dangos y darlun yn ei gyfanrwydd chwaith. Cafodd y blaid lai na mil o
bleidleisiau mewn 10 sedd (a llai na 500 mewn pedair o’r rheiny) a chollodd ei
hernes mewn 17 o seddi. Mi fydd hi’n debygol o golli ei hernes mewn mwy yn
2015.
Y broblem fawr i’r Democratiaid Rhyddfrydol, yn bur eironig, ydi eu cryfder
mwyaf nhw: strategaeth. Yn draddodiadol maen nhw wedi llwyddo targedu seddi a’u
cadw, gan gyfeirio adnoddau at y seddi hynny a ffurfio cynghrair eang yn erbyn
deiliaid y sedd. Pe na baent yn rhan o lywodraeth, mae seddi yng Nghasnewydd,
Abertawe a hyd yn oed Merthyr a fyddai ar y rhestr darged ond sydd erbyn hyn yn
freuddwyd gwrach. Llwyddo i fod yn ddewis arall oedd prif fantais y blaid, yn
aml i Lafurwyr, ond wrth gwrs ni all y blaid ei chyfleu ei hun felly mwyach. Sy’n
dod â ni at fap.
Yn ystod y dadansoddiadau plaid fydda i’n grwpio seddi’n dri chategori – y rhai
nad oes gan y blaid obaith o’u hennill, rhai y mae’n bosibl iddynt eu hennill (sy’n
cynnwys seddi lle bydd y canlyniad yn agos), a rhai y maent yn debygol/sicr o’u
hennill. Fedra i ddim gweld gobaith mul i’r blaid yn 37 o seddi Cymru; ac os
dwi’n onest, dwi wedi bod yn hael wrth liwio’r uchod.
Fel y dywedais uchod, sail llwyddiant y Democratiaid Rhyddfrydol fel rheol oedd
llwyddo i greu cynghrair o fath i ddisodli’r blaid oedd yn dal y sedd, rhywbeth
yr oedden nhw’n llwyddiannus iawn yn ei wneud. Lwyddon nhw wneud hyn yng
Nghanol Caerdydd a Cheredigion yn 2005, gan ddal y seddi ers hynny, a daethon
nhw’n agos mewn sawl lle yn 2010, er am resymau penodol fe gollwyd Trefaldwyn. Ond
wrth gwrs, drwy fynd i lywodraeth, mae’n anoddach cadw’r “wrth-bleidlais” y
gwnaethon nhw ei meithrin mewn cynifer o seddi.
O ystyried y glymblaid, mae’n anodd gweld y Dems Rhydd yn llwyddo i ddenu pobl
i bleidleisio’n dactegol yn erbyn y Torïaid. Dyna ydi’r broblem fawr yn seddi
Powys, achos dim ond dwy blaid sydd ynddi – y Dems Rhydd a’r Ceidwadwyr. I fod
yn deg, mae gan y blaid gefnogaeth erioed yn y seddi hyn, yn hytrach na gorfod ennyn
cefnogaeth yn erbyn plaid benodol, ond eto mae rhywun yn tybio bod ‘na ddigon o
bobl ym Mhowys sydd wedi benthyg pleidlais i’r Dems Rhydd i atal y Ceidwadwyr. Anodd
gweld hynny’n digwydd mwyach, p’un ai a ydi’r pleidleiswyr hyn yn eu cannoedd
neu eu miloedd. Gobaith y Dems Rhydd yw mai’r cyntaf sydd agosaf ati yn hyn o
beth, a bod eu cefnogaeth graidd yn dal i’w cefnogi.
Mewn difrif, mae’n anodd eu gweld yn disodli Glyn Davies yn Nhrefaldwyn, y
tro hwn o leiaf, ac mi fydd hi’n agos ym Mrycheiniog a Maesyfed, i’r graddau
fod y sedd honno’n amhosibl ei darogan ag unrhyw sicrwydd. Fydd ymyrraeth UKIP yn
gwneud fawr ddim i’w gobeithion, neu anobeithion efallai – mewn ardal fel Powys
maen UKIP yr un mor debygol o effeithio ar y Dems Rhydd ag ydyn nhw ar y
Ceidwadwyr.
Yng Ngheredigion, bydd angen i Blaid Cymru ddwyn hen dacteg y Democratiaid
Rhyddfrydol o geisio ffurfio cynghrair yn erbyn y blaid sy’n dal y sedd. Heb
amheuaeth rhoddodd nifer o Lafurwyr bleidlais i’r Dems Rhydd yn 2010 yn y sedd,
pleidleisiau nad ydyn nhw am eu cadw y tro hwn. Ond er gwaethaf gobeithion y
Blaid yma erys un ffaith: mae gan Mark Williams fwyafrif enfawr yma, a ddylai
fod yn ddigon i gadw’r sedd. Yn bersonol dwi’n meddwl os ydi’r Dems Rhydd am
gadw sedd yng Nghymru, hon ydi’r bet gorau o bell ffordd (nid fod hynny’n beth
dewr i’w ddweud o bell ffordd!). Bydd, mi fyddant yn colli pleidleisiau yma,
ond byddai’n ganlyniad trychinebus iddynt golli. Mi ymhelaetha i ar y rhesymau
fy mod i’n meddwl y dylen nhw gadw’r sedd mewn blog diweddarach, gan fod Ceredigion
yn sicr yn sedd sy’n haeddu’r sylw.
Mi dybiaf fod y Dems Rhydd yng Nghymru yn gwybod yn iawn fod yn rhaid iddyn
nhw ganolbwyntio ar y tair sedd hyn ac y byddan nhw’n defnyddio eu holl
adnoddau i’w cadw, tra bydd gan y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru’n seddi eraill i’w
hymladd, boed i’w cadw neu eu cipio. Mae hynny’n ei gwneud yn haws i’r blaid allu
dal Ceredigion a Brycheiniog. Petai AS Ceidwadol Trefaldwyn yn llai poblogaidd,
efallai y byddai mwy o obaith yno iddynt hefyd, o ddewis ymgeisydd cryf a
thargedu’r sedd.
Byddwch chwi anoracs yn sylwi fy mod i heb drafod eu trydedd sedd Gymreig –
Canol Caerdydd. Ond mi wyddoch pam mewn difrif: does ganddyn nhw ddim gobaith
caneri o’i chadw. Os ydyn nhw’n gall, mi ganolbwyntian nhw ar y tair sedd yn y
canolbarth yn hytrach na’u hunig sedd yn y brifddinas. Mae honno wedi hen fynd.
Felly ar hyn o bryd, o ystyried eu hamhoblogrwydd enfawr a’r ffaith nad oes
‘na fawr strategaeth y gallan nhw ei mabwysiadu i gadw eu pleidlais heb sôn am
ddenu pleidleisiau newydd, mae’n edrych yn ddu iawn ar y Democratiaid Rhyddfrydol
yng Nghymru. Synnwn i’n fawr petaent yn cynnal ymgyrch o unrhyw fath y tu allan
i 4-5 sedd, a dyna fyddai gallaf iddynt wneud.
I grynhoi, mae’n anodd rhagweld sefyllfa lle bydd gan y blaid fwy na dwy
sedd yng Nghymru yn 2015, a dydi naill ai Brycheiniog na Cheredigion yn sicr. Waeth
beth fo’r canlyniadau Cymru gyfan, y gwir yw bydd cadw’r ddwy sedd hynny’n
cyfrif fel etholiad llwyddiannus i’r blaid, hyd yn oed os ydi hi’n dod yn bumed
o ran nifer y pleidleisiau, sydd bron yn sicr o ddigwydd erbyn hyn. Ond mae ‘na
gyfle gwirioneddol y gallant golli pob sedd Gymreig, a allai wir arwain at
dranc y blaid yng Nghymru. Yn yr etholiad hwn, y gwir ydi bod dyfodol y blaid
Gymreig yn y fantol.