Felly roedd yno dair chwaer yno ‘di galw
heibio ‘run pryd i weld gŵr Nain. Un arw ydi Nain erioed sy’n mynnu bod Grandad
yn rhoi sws iddi pan ddaw yno, er nad ydi o isio mewn difri, ac yna’n ista yno’n
pwdu am ei fod o’n sâl a ddim yn cynnig unrhyw gysur eithr syllu’n flin ar y
dyn drws nesa’ sy’n tagu bobmathia. Ta waeth roedd Anti Betty ‘di dod ag Anti
Nel i mewn. Doedd Grandad ddim yn or-hapus fod Anti Nel yn dod draw achos mae
Anti Nel yn gweiddi achos mae hi flwyddyn yn hŷn nag yntau a ddim yn clywed
dim, sy’n ei gwneud yn hawdd iawn i bawb o’i hamgylch ddweud “mae hon yn drysu
eto”. Hi ydi’r hynaf o ferched tylwyth Pros Kairon Llansadwrn ac maen nhw i gyd
ar y cyfan yn hen ferched blin, a Nain y fwyaf blin o’u plith. Mae gan Nel gath
ac mae hi’n mynd â hi rownd Bangor am dro ar
dennyn.
Anti Betty, yr ieuengaf o’r tylwyth, ddaeth â hi yno, ac
mae Anti Betty yn wahanol i’r lleill o enethod y fferm achos dydi Anti Betty
ddim yn flin nac yn gas ond bob amser yn chwerthin. Felly mi fûm innau a Betty
yn chwerthin yn hapus braf yn yr ysbyty â’n gilydd a hithau’n ailadrodd y stori
pan syrthiais i off y beic ym Methel. Bydd yn hoffi’r stori hon er mai brawddeg
yn unig ydi hi.
Ta waeth pan mae Nel a Nain yn dechrau siarad maen nhw’n
mwydro a ‘sneb yn dallt dim am beth maen nhw’n siarad. Mi oedd Nain yn dweud
wrth Betty bod ‘na bobl ym Mhatagonia sy’n gwybod pwy ydw i, yr Hogyn o Rachub,
a bod ‘na hysbyseb amdana i wedi bod mewn caffi ym Mangor (a wir i chi, dyma ddywedodd
Nain, toes ‘na ddim clwydda ar y blog hwn byth) a doeddwn i ddim yn dallt, a
doedd Betty fawr callach, ond mi dorrodd Nel ar draws i sôn am dwthpics oedd hi
wedi’u prynu felly ddysgais i ddim yr hyn a geisiodd Nain ei gyfleu. Ond mae’n
hysbys yn ein teulu ni bod Nel yn defnyddio twthpics. Mae gen innau dwthpics yn
tŷ ‘cw yng Nghaerdydd ond tydw i ddim yn defnyddio fawr ddim arnyn nhw, felly
tydw i ac Anti Nel ddim ‘run peth o ran hynny.
Doedd hi fawr o syndod bod Grandad bron â chysgu felly
roedd yn rhaid ei adael a mynd i gaffi ‘Sbyty Gwynedd. Brynodd Betty goffi i
bawb. Ges innau gappuchino. Cafodd Nel bot o de, ond fedr Nel ddim gweld yn dda
ac roedd hanner y te yn y soser ganddi ac roedd Nain yn gwneud y stumiau
rhyfeddaf arni. ‘Sneb yn gwneud stumiau cas yn well na Nain pan fydd isio.
Mi ddywedodd Betty wrth Nel yn sdrêt fod angen carped
newydd arni’n lownj ‘cw, ac roedd Nel i weld yn cîn ond am bod hi’n methu â
chlywed yn dda roedd yn rhaid i Nain weiddi arni yr hyn ddywedodd Betty dros y
caffi “Mae gin Betty bishyn o garped i chdi, tisho fo neu ddim?” meddai. “Wel
dwi’m yn gwybod,” gwaeddodd Nel yn ei hôl. Mi ddywedodd Betty am y pishyn
carped a’i fod yn neis ac y deuai rywfaint draw i Nel weld. Mae Nel ‘di prynu
soffa ddrud newydd felly bydd yn rhaid iddi symud mymryn ar y dodrefn yn lownj
beth bynnag, “ac mi gei di’r carped bryd hynny,” meddai Nain, “mi gei di gadw
cadair i chdi wylio telifishyn yno tra eu bod nhw’n neud y peth a symud dodrafn
arall i gyd am ddiwrnod”. “Nadw, dwi’m yn neud hynna yn f’oed i,” meddai Nel
wrthi’n benderfynol. Gollais i rywfaint ar y sgwrs ar ôl hynny, gan droi’r
siwgr i mewn i’m cappuchino yn araf, araf.
“Wn i ddim pam fod hi ‘di prynu soffa mor ddrud yn ei
hoed hi beth bynnag,” dywedodd Nain wrthyf ar ôl inni ffarwelio â nhw.
Roedd Nain mewn tymer digon gwael achos dim ond Gaviscon
roddodd y doctor iddi yn gynharach y diwrnod hwnnw at ei chest hi. Nid hi yn unig sy’n y wôrs, fel y dywedan nhw, achos mae
gan y chwaer wddw giami hefyd. Ddywedais hi wrthi, wrth fynd â Nain adra, y
gwnâi bach o glorofform fyd o les iddi. Corsadol, fe’m cywirodd, nid
clorofform. Ond tydw i ddim yn athronydd nac ydw?
Bu’n ddiwrnod hir ac ro’n i’n edrych ymlaen i fynd adra
ond mae Nain yn blydi niwsans ar ei gorau ac fe’m gorchmynnwyd ganddi i fynd i
Spar Llandegfan i nôl tri thomato a Daily Post. “Tydw i ddim isio bod yn
niwsans,” meddai ond mi ydw i’n nabod Nain a does gan Nain uffar o ddim ots am
fod yn boen yn din i neb.
Ond dyna ydio
de, fel y dywed pobl ddim sy ddim yn rhy siŵr at beth y maen nhw’n ei gyfeirio.