sabato, maggio 06, 2006

Lluniau o waliau

Dw i'm allan heno. Dw i'n mynd o amgylch y rhyngrwyd yn chwilio am bethau gwirion. Isho dweud wrthoch chi am gwefan bach doniol o'r enw www.picturesofwalls.com sy'n jyst yn luniau o graffiti o'r byd. Hwn di'n ffefryn i:

a'r gwych:



a'r hyfryd syml...

Mwynhewch!

venerdì, maggio 05, 2006

Yr Olaf Ddarlith

Yr olaf ddarlith. Erioed (heblaw am flwyddyn nesaf, mae'n siwr). Oni'n meddwl y bydda fo'n ddiddorol, cael yr un olaf, cadw'r foment yn y cof am byth. Er hyn, diolch i'r ffaith nad oes gen i fawr o ots am ddim byd, neshi endio fyny'n peidio mynd o gwbl iddo fo a mynd i'r Tavistock yn lle. Dw i'n meddwl, blydi hel, be di'r pwynt de? Darlith olaf myn ffwc i. Uffar ots gen i, i fod yn hollol onast. Mae pobl yn cynhyrfu dros y pethau bychain fel'na yn mynd ar fy nerfau. Caria 'mlaen efo dy fywyd, er mwyn y Nefoedd!

Mae fy mol yn teimlo'n doji diolch i'r Tavistock 'fyd. Damia'r tywydd braf! Mae gennai draethawd i'w wneud heddiw a dw i'n fy llofft yn chwysu (ma'n ferwedig yma) ac yn llwgu. Dw i'm wedi cael bwyd yn y ty stalwm. Hynny yw, dim byd sy'n mynd efo'i gilydd. Mae gennai twmpath o sawsys gwahanol a mins yn y rhewgell, llysiau rhewedig, stoc a llwyth o kiwi ffrwts sy 'di mynd off (onid paella ydi hynny?). Dw i'n cofio Owain Oral yn dweud bod o isho mynd i Tescos heddiw, ond oeddwn i'n feddw iawn ar y pryd.

Er hyn oll fe gefais i fwyd hyfryd yn Weddyrsbwns ar City Road neithiwr. Ham, wy a sglods. Maethlonfwyd dosbarth gweithiol gadarn. Dw i'm yn sicr os mae myfyrwyr yn cyfri fel 'dosbarth gweithiol', ond dw i am wneud o hyn ymlaen. Dydw i'm isho bod yn ddosbarth canol, mae nhw'n bobl od iawn ar y cyfan efo'u garejys a torrwyr gwair drudfawr. Byddwn i'm yn meindio bod yn haen uchaf y gymdeithas achos dw i'n licio cimwch. Ond rhowch lobsgows wedi diwrnod cadal 'n chwaral i fi unrhyw ddydd. Caib a rhaw, hogia, caib a rhaw.

mercoledì, maggio 03, 2006

Arennau

Casau arennau. Oce, clwydda, dw i'n caru bwyta arennau, ond dw i'n casau f'un i. Ers Dydd Sadwrn mae f'un ochr dde wedi bod yn brifo'n aruthrol. Dw i'm wedi yfad ers nos Sadwrn (newydd cael can yn y gegin yn gwylio Simpsons. Sad, de?) so 'sgen y bastad ddim ffwcin esgus. Mi ddeffroais am hanner awr wedi saith bora 'ma o'i herwydd, a dw i'm yn meddwl bod o'n ddoniol.

Mae f'arennau yn meddwl ei fod o'n ddoniol, dw i'n amau dim, mewn rhyw Grand Alliance gyda'm iau a'm mhledren i wneud fy mywyd yn fwy poenus na sy'n rhaid iddo fo fod. Dw i'n gwybod bod fy iau yn fy nghasau (odl ryfedd) achos dw i'n ei orfodi fo fyta iau (dw i'm yn sicr ond mae gennai deimlad erchyll dw i newydd ddweud rhywbeth sy'n dangos cyn lleied ydw i'n dallt am y corff ddynol: ond o leiaf dw i'm yn meddwl fod gennai ddau galon, un go iawn ac un am bacyp. Gwenan.), a mae'r pledren yn mynnu fy mod i'n mynd i biso hanner ffordd drwy unrhyw beint y câf.

Yfory mi ga'i fy olaf ddarlith fel myfyriwr erioed. Ffycin ffantastic medda fi, 'di blino ar Dafydd ap Gwilym a gramadeg. Dim ond bywyd o ddysgu rheiny i'r nesaf genhedlaeth rwan. Champion.

lunedì, maggio 01, 2006

Y Record Gwrthod Mewn i Clwb Ifor

Mae Crôl Canton yn neis achos mae'n newid. Mae'n gyfle inni gyd fynd i ochrau arall y ddinas am newid bach diddorol. Dw i'n dweud 'diddorol' achos mae f'atgof yn wan (oni'n gwybod dylwn i wedi blogio nos Sadwrn, yn ffiaidd forthwyledig). Y problem mwyaf ydi nad ydw i'n adnabod yr ardal yn dda iawn felly sgennai'm syniad lle y bues i drwy'r nos, o ran enwau'r tafarndai. So dwi'm am boddran. Mewn difri ddigwyddodd na fawr o ddim yn Canton ei hun. Dibynna hynny ar be' dachi'n feddwl gyda 'digwydd'. Mi welais i'r cwpl mwyaf hyll yn hanes y byd yn yr Ivor Davies, os mae hynny'n cyfri. Oedd y ddynas yn dalach na'r boi efo gwallt cyrliog llwyd a thrawsnwch, y dyn efo bron dim ar ôl o'i wallt sinsir, a'r llall yn rhyw fath o fersiwn abl o Llinos.

Felly nyni a cherddem o fanno i'r Cayo a'r Mochyn Du. Ceisiais i chwarae'r piano yn feddw a methu (er bod Rhys Ioro yn medru. Dw onastli ddim yn meddwl bod na unrhywbeth na fedar y dyn 'na neud) a stormio i ffwrdd i'r Westgate a gorfod dioddef Al Tal yn poeri ymhob diod a gefais, y mochyn budur. Yn Callaghans esi am dro i darn gwesty y lle efo Owain Ne a fe eisteddem ni lawr yn siarad i Sais am tua ugain munud. Nid hapus mo'r Sais, yn talu mwy o sylw i'w bapur newydd na ni, oedd yn eithaf anghwrtais yn meddwl ein bod ni wedi mynd yno a siarad am bobmathai iddo fo, a fynta'n edrych yn unig ar y diawl. Ffycwit.

Dyna'r oll sy'n ddiddorol am Grôl Canton o'm safbwynt i ond trodd y noson yn anffodus diolch i yr hyfryd, hyfryd Tanjarin Man sy'n fownsar i Clwb a'r ffaith fy mod i'n berson stiwpid. Eshi mewn i Clwb Ifor efo fy ngherdyn a dyna'r boi 'na wrth y til yn dweud 'Mae hwn 'di ecspeirio ers mis Chwefror' neu rhywbeth. A dwinna'n berson onast, a chytunais a dywededd 'Wn i, ond neshi mond defnyddio fo i sgipio'r ciw' cyn cael fy hel allan ar f'union. Sy'n golygu fy mod i rwan wedi cael fy nghwrthod mewn dwywaith, a dw i'm yn abod neb sydd wedi cael ei wrthod i'r twll din o le o gwbl. Felly mi eshi am Troy cibab efo Sian a Rhys Teifi. [mi wneshi 'chydig o ffwl o'n hun yno 'fyd, mi ofynnais i un o'r pobl yna wedi iddyn nhw ddod a rhyw de imi "what's thank you in Arabic?". "I'm Turkish" atebws ef, cyn mynd i ffwrdd yn ddig]

Pobl Stiwpid Y Byd #1: Llinos Williams, Pwll Glas ['be ydi grizzly bear, oes 'na ffasiwn beth go iawn?']
Pobl Stiwpid Y Byd #2: Lowri Dwd, Llanrwst ['na, mae eirth yn fatha mystical creatures. O na, na, meddwl am bleiddiau oeddwn i']

sabato, aprile 29, 2006

Y Twcan Newydd

Neithiwr mi es i i weld Jakakokyayk(ayokoakyak?) yn y Twcan newydd sydd ar Newport Road. Welish i mohono achos oeddwn i'n gwynebu'r ffordd anghywir, sy'n eithaf siomedig. Serch hyn, wedi cael noson o gael fy nghyhuddo am bopeth dan haul a yfed peintiau drud, mi benderfynais i dw i'm yn licio'r Twcan newydd 'ma. Ma'n crap. Mae'n llai na'n 'stafall i a mae gen i benmaenmawr oherwydd y bastad lle.

Dw i'n mynd i ddiodda rwan ond cyn imi fynd dwisho gwybodaeth gynnoch chi. Dachi'n gwybod y ddynas ddu 'na sydd wastad yn Clwb neu mewn gigiau Cymraeg sy'n fyr ac efo gwallt coch cyrliog wedi'i ddeio? Pw ffwc ydi hi?

giovedì, aprile 27, 2006

Varnish

Dw i newydd ddod yn ôl o ddarlith a mae'n 'stafall i'n drewi o varnish. Bai'r garej drws nesa' ydi hyn, mi dybiaf, a chan fy mod i'n byw yn yr atig mae 'na lot o ogleuon o fanno yn treiddio'u ffordd yma. Dw i, fodd bynnag, ddim yn hoffi ogla varnish a dw i'n teimlo'n sâl iawn, rhwng hynny a chlywed Lowri Dwd yn snwfflian drwy ddarlith ar Saunders Lewis.

Dw i a Haydn ac Ellen am fynd i arwyddo am ein tŷ ar gyfer flwyddyn nesa', a dw i'n ofni fy mod i wedi ffwcio popeth i fyny. Un crap fues i erioed am arwyddo dogfennau a ballu, a dw i 'di anghofio cael rhywbeth gan Mam i brofi ei bod yn bodoli (fel nad ydw i'n ddigon o dystiolaeth...!) felly gobeitho y cyrrhaeddith hwnnw erbyn Ddydd Sadwrn. Dros ffordd i TGI Fridays y byddwn ni (dachi'n gwybod, y lle 'na sy'n codi crocbris am fwyd anwreiddiol a normal), sy'n bell iawn o Clwb Ifor a 'dwn i ddim sut ddiawl dw i am ffeindio'n ffordd i adra bob nos Sadwrn. Mi a farwaf cyn cyrraedd adra, hynny mi wn.

Neithiwr mi gefais i araith gan Kinch ar rwbath nad oeddwn i'n deall. Mae o'n astudio Ffiseg Meddygol (neu rhywbeth tebyg, dw i'm yn cymryd gormod o ddiddordeb yn ei fywyd annuwiol) a'r araith oedd am gyhyrau yn y braich. Eisteddais i yno am chwarter awr yn gwrando arno fo ac yn dallt dim, er roedd gennai'r cwrteisi cyffredin i ddweud ei fod yn ddiddorol a fy mod wedi mwynhau'n arw. Un am ddysgu pethau newydd fues i erioed. 'Sa chi'm yn coelio'r pethau dw i wedi dysgu yn ddiweddar. Fel Psalm 23. Eniwe. Serch hyn, wedi ei weld yn ystryffaglu cofio'i eiriau fedra i ddim helpu ond meddwl y bydd o'n suddo heddiw, yn gorfod adrodd o flaen penaethiaid pwysicaf ei gwrs a'r myfyrwyr.

Fel yna ydw i hefyd. Hoffwn i feddwl fy mod i'n berson eitha hyderys ar y cyfan; dw i'n ddistaw, ydw, yn llawer ddistewach na mae pawb yn fy ngwneud allan i fod, ond 'sgen i ddim hyder o gwbl yn siarad o flaen pobl. Dw i'n crynu a dw i'n siarad fel bo gennai faget yn sownd yn fy nghorn gwddw, yn ailadrodd fy hun, yn ailadrodd fy hun (welsoch chi mo hwnnw'n dod naddo?!) ac yn gyffredinol ffwcio pethau fyny. A'r peth ydi hoffwn i ddim gwell na bod yn areithiwr o fri, heblaw am ryddhau Cymru, prynu tafarn a bomio Bethel i uffern dân. Ydw i'n gofyn gormod o fywyd?

martedì, aprile 25, 2006

Sarhad ASDA

Mi a'i i rhan fwyaf o lefydd yn llawn disgwyl cael fy sarhau; yr Adran Gymraeg, Theiseger Street, Clwb Ifor, y Tavistock neu, yn sicr, fama'n 28 Russell Street. Mae'n rhan annatod o fy mywyd i, dachi'n gweld, sarhau pobl a chael gwaeth yn ôl (nid gwaeth yn unigol, ond pan mae'r byd a'r betws eisiau cymryd sweip ma'n eitha anodd peidio digalonni weithia). Tan hyn, fe gymerais fod ASDA ym mae Caerdydd yn hafan ddiogel. Oeddwn i yno ddoe efo'r Dyfedbeth (Ffieiddws Maximus) a mi helpais i o bacio ei fwyd yn do (yn cynnwys dau borsiwn o ASDA Brand Ffish Portions oeddwn i wedi slipio mewn yn ei droli). Roedd 'na hen ddynes hyll yn y ciw a slag hen hyll yn y checkowt. A dyma fi yno'n pacio'n braf.

Slag yn y ciw: You can 'elp me do that after if you want, love!
Fi: No no! I'm just here to look pretty!
Slag hyll y checkowt: No you don't. If HE was there it'd be different. But not you!

Heb fymryn o wen na dim, 'fyd. Ti 'di ffwcin cael gwaeth bethau 'na fi, Miss Splott 2001, medda fi i'n hun cyn pacio'n gynt a mynd i ffwrdd cyn gynted ac y gallwn i. Casau ASDA.

sabato, aprile 22, 2006

Y Diwrnod Olaf

Mae heddiw'n ddiwrnod olaf i mi mewn sawl ffordd imi. Byddai yng Nghaerdydd eto yfory, a wedi cael fy ngwyliau olaf 'adra' fel myfyriwr. Sgeri, de? Mewn tua mis bydda i wedi gwneud fy arholiadau i gyd am y tro olaf erioed. Sy'n sgeri. Erbyn hynny bydda i hefyd wedi cael fy narlith olaf (wel, heblaw am rhai cwrs dysgu flwyddyn nesa', lle bydda i'n gorfod bod yn eitha ofalus am be sy'n mynd ar y blog 'ma yn lle cael fy hun neu eraill i mewn i draffarth fel yn ddiweddar!). O leiaf bydda i byth yn gorfod mynd i mewn i lyfrgell eto, mae'n siwr.

Ond dyna ni mae'n rheswm imi gwyno a digalonni. Mae'n rhaid imi gyfaddef fy mod i'n un o'r pobl yma sydd byth yn hapus oni bai bod rhywbeth yn bod neu bod rhywbeth o drafferth neu darcalon imi. Wythnos yma dw i wedi bod ar y cyfrifiadur cyn gymaint fel bo fy mhen yn brifo lot lot o hyd a bu bron imi chwydu bora 'ma (er bod hwnnw lawr i'r ffaith fy mod i'n gwylio Saturday Kitchen a chlywed Anthony Worral Thompson yn dweud ei fod yn chwysu chwartia, ac yn dal i goginio'r cont jinjyr tew).

A dyma fi yma'n awr yn go iawn yn teimlo fod fy nhaith brifysgol yn dirwyn i ben. Mi ddechreuais i flogio yr haf cyn imi fynd i Brifysgol. Tybed os fydd gennai rwbath i'w ddweud flwyddyn nesa??