venerdì, maggio 05, 2006

Yr Olaf Ddarlith

Yr olaf ddarlith. Erioed (heblaw am flwyddyn nesaf, mae'n siwr). Oni'n meddwl y bydda fo'n ddiddorol, cael yr un olaf, cadw'r foment yn y cof am byth. Er hyn, diolch i'r ffaith nad oes gen i fawr o ots am ddim byd, neshi endio fyny'n peidio mynd o gwbl iddo fo a mynd i'r Tavistock yn lle. Dw i'n meddwl, blydi hel, be di'r pwynt de? Darlith olaf myn ffwc i. Uffar ots gen i, i fod yn hollol onast. Mae pobl yn cynhyrfu dros y pethau bychain fel'na yn mynd ar fy nerfau. Caria 'mlaen efo dy fywyd, er mwyn y Nefoedd!

Mae fy mol yn teimlo'n doji diolch i'r Tavistock 'fyd. Damia'r tywydd braf! Mae gennai draethawd i'w wneud heddiw a dw i'n fy llofft yn chwysu (ma'n ferwedig yma) ac yn llwgu. Dw i'm wedi cael bwyd yn y ty stalwm. Hynny yw, dim byd sy'n mynd efo'i gilydd. Mae gennai twmpath o sawsys gwahanol a mins yn y rhewgell, llysiau rhewedig, stoc a llwyth o kiwi ffrwts sy 'di mynd off (onid paella ydi hynny?). Dw i'n cofio Owain Oral yn dweud bod o isho mynd i Tescos heddiw, ond oeddwn i'n feddw iawn ar y pryd.

Er hyn oll fe gefais i fwyd hyfryd yn Weddyrsbwns ar City Road neithiwr. Ham, wy a sglods. Maethlonfwyd dosbarth gweithiol gadarn. Dw i'm yn sicr os mae myfyrwyr yn cyfri fel 'dosbarth gweithiol', ond dw i am wneud o hyn ymlaen. Dydw i'm isho bod yn ddosbarth canol, mae nhw'n bobl od iawn ar y cyfan efo'u garejys a torrwyr gwair drudfawr. Byddwn i'm yn meindio bod yn haen uchaf y gymdeithas achos dw i'n licio cimwch. Ond rhowch lobsgows wedi diwrnod cadal 'n chwaral i fi unrhyw ddydd. Caib a rhaw, hogia, caib a rhaw.

Nessun commento: