Mae'n arholiad gyntaf i yfory, a mae gen i dair wythnos nesaf i gyd, cyn imi fynd adra i Rachub am bythefnos cyn yr un olaf. Dw i byth, erioed, wedi mynd mewn i gyfres o arholiadau a bod mor hynod ddi-glem amdanynt. Mae 'na ddwy does gen i wirioneddol ddim syniad am, a mae'r un 'fory yn hit and miss. Dw i dal heb dechrau adolygu, a'r peth gwaethaf ydi dydw i'm yn poeni dim os dw i'n methu ai peidio. Dw i'n meddwl bod hynny achos dw i'm wirioneddol isho hyfforddi fel athro flwyddyn nesa a bydda'n well gennai ailwneud y drydedd flwyddyn, er na chawn ar fy myw cael ei wneud yng Nghaerdydd.
Felly dyna'r cynllun am yr wythnos: cael rhyw math o syniad am beth sy'n digwydd. 'Mond ddoe es i a ffeindio allan pryd yn union oedd yr arholiadau'n cymryd lle! Casau trefnu a ffeindio allan petha. Ond dw i wedi blagio drwy gydol fy oes, a thebyg bod o leia thair wythnos ohoni ynof i oroesi rhagor.
Dio'm help fy mod i o hyd yn deffro mewn poen ar waelod fy nghefn. Dw i wedi trio popeth, fel newid pa ffordd dw i'n cysgu a rhoi clustog dan fy nghefn ond 'sdim yn gweithio. Wrth gwrs fe fydd yn amharu'n enbyd ar fy arholiadau, felly o leia gennai esgus i Mam pan fydda i'n methu.
2 commenti:
Hyn a gymraf fel canmoliant ac ewyllys da.
Mi fyswn i wedi deud pob hwyl ond ymddengys fy mod i ddwrnod ar ei hol hi! Gobeithio i bob dim fynd yn iawn! Ma croeso i chdi yng ngwrych o flaen ty ni flwyddyn nesaf, neu yn y gwair y tu-ol, dwi'n siwr y bydda chdi'n teimlo'n gartrefol!!
Posta un commento