Fydda i ddim yn wir yn hoffi
ysgrifennu am rywun na fu i mi erioed gwrdd â nhw rhag imi swnio’n arwynebol
neu’n ffuantus. Ond heddiw bu farw
Gerallt Lloyd Owen, a dwi’n teimlo rhyw reidrwydd i ddweud pwt.
Dwi’n cofio’n iawn dysgu am
farddoniaeth Gymraeg yn yr ysgol. Dwi’n siŵr nad oedd pawb yn licio
barddoniaeth i’r un graddau â fi (a dwi ymhell o fod yn arbenigwr o unrhyw fath
ar farddoniaeth cofiwch) ond ro’n i wrth fy modd yn bersonol. Ond cofiaf pan
ofynnai athro pwy oedd ein hoff fardd o’r hyn a astudiem, roedd ateb y dosbarth
yn gwbl unfrydol bob tro: Gerallt Lloyd Owen.
Egin genedlaetholwr
oeddwn i pan ddarllenais Fy Ngwlad am y tro cyntaf erioed. Ro’n i wedi
gwirioni arni. Roedd o fel petai’n adrodd rhywbeth wrthyf a anghofiais ond na wyddwn erioed amdano. Go
brin fod unrhyw linell unigol yn holl lenyddiaeth y Gymraeg sydd drwy ryw fodd
yn deffro’r Cymro greddfol yn rhywun na Wylit, wylit, Lywelyn ... a
hynny heb, ar ei phen ei hun, olygu unrhyw beth o gwbl.
Mae rhywbeth am gerddi Gerallt
sydd rywsut yn deffro rhywbeth ym mêr yr esgyrn. Fedra i ddim hyd heddiw roi fy
mys ar y peth. Arddelant genedlaetholdeb y pridd – y gwladgarwch greddfol a rhyfedd
hwnnw sydd i’w gael ymhlith ni’r Cymry Cymraeg – nid un yn seiliedig ar resymeg oeraidd na maniffesto
nac, efallai, synnwyr cyffredin llawer o’r amser, ond y cariad dwfn hwnnw y
gall dyn ei deimlo at ei dir, ei bobl a’i iaith sydd mor naturiol â charu mam.
Nid bod yn perthyn i rywbeth nac uniaethu ag ef ond ymdoddi iddo.
A, rhag i mi gamgyfleu fy
hun, mae hyn yr un mor wir am ei gerddi nad ydyn nhw’n rhai gwladgarol neu
genedlaetholgar. Mae’r naws ynddyn nhw hefyd. Ond i mi ei gerddi am Gymru bob
amser ydi’r rhai dwi’n troi atynt dro ar ôl tro.
Mae beirdd dirifedi wedi
llwyddo i gyfleu cariad at Gymru a’i phethau, ond nid oes yr un ohonynt wedi gwneud
yr hyn a wnaeth Gerallt. Do, gwnaeth hynny. Ond nid drwy fawlganu iddi Hi wlad
y gân neu Walia wen. Nid drwy ei throsi’n winllan na dweud mai yma fydd Hi hyd
Ddydd y Farn.
Yr hyn lwyddodd Gerallt i’w
fynegi oedd y boen ddofn, fyw honno sy’n aml yn cyd-fynd â bod yn Gymro Cymraeg.
Bod yn rhan o hen hil ar gyrion. Ac mor braf ydi’r gydnabyddiaeth honno yn lle
cael ein llesteirio’n gyson â meddwl bod popeth yn iawn. Roedd yn rhyddhad
clywed gwirionedd moel. Roedd yn rhyddhad darllen y gwewyr hwnnw ar bapur. A thrwy
hynny, nid gyrru neb i bwll o anobaith a wnaeth, ond atgyfnerthu eu gwydnwch.
Bydd y teimladau a ysgytia
cerddi Gerallt yn dragwyddol, hyd yn oed os, ar ddiwedd ein cân, na fyddwn
ninnau.
Am golled i Gymru Gymraeg
ydi Gerallt Lloyd Owen. Ond, Iesgob, roedden ni ar ein hennill o’i gael.
martedì, luglio 15, 2014
domenica, luglio 06, 2014
Breuddwyd Nain
"Roedda ni am fynd ar ein gwyliau. Chdi a fi a dy chwaer a Blodwen. Dyma fi'n pacio fy siwtces ac roedd o'n fawr a 'ma fi'n cael traffarth fynd â fo i'r giât. Aros am y bws oedda ni yn Llansadwrn a dyma fi'n edrych yn ôl i fyny'r lôn wrth iddo fo gyrradd at Pros Kairon ac roedd y gath 'di dod lawr efo fi. Wel to'n i'm am fynd ar ngwyliau efo'r gath a dyma fi'n deud hynna wrthi ac wedyn o'i i'n poeni 'sa hi'n rhedag i'r lôn.
"Mae 'na drafferth efo'r anifeiliaid 'ma," meddwn i wrth Blod.
"Wn i," medda hi, "mae gen i iâr ac mae honno'r un fath".
A dyma ni'n mynd ar y bws wedyn ar ein holidês."
lunedì, maggio 26, 2014
Sylwadau bras am etholiad neithiwr yng Nghymru
Y mae etholiadau Ewrop yn
haeddu blogiad, cyfres o flogiadau efallai, manwl, ond dwi ddim am gynnig hyn y
funud hon. Ond mi wna i gynnig sylwadau bras iawn, yn bennaf am berfformiad Plaid
Cymru.
1)
Dylai’r
Blaid gyfaddef nad oedd neithiwr yn ganlyniad da er bod sawl un eisoes yn ei
gweld hi fel buddugoliaeth o ryw fath. Roedd y cyd-destun gwleidyddol efallai’n
anffafriol ond y gwir ydi dihangfa gafodd hi, a waeth iddi gydnabod hyn (hyd yn
oed jyst yn breifat). Mae’r Blaid yn arbenigo ar ei hargyhoeddi ei hun fod
popeth yn iawn pan dydi o ddim, sydd jyst yn gwneud iddi edrych yn stiwpid, i
fod yn hollol onest.
2)
Roedd
y ddihangfa er gwaetha’r ffaith ei bod yn wybodaeth gyffredin y gallai golli ei
sedd Ewropeaidd. Tuedda pleidiau i wneud yn well na’r disgwyl pan fônt yn y
fath sefyllfa "cefn yn erbyn y wal". Hyd yn oed yn y fath sefyllfa, prin lwyddodd Plaid Cymru i argyhoeddi ei chefnogaeth graidd i
fwrw pleidlais drosti, ac mae hynny'n arwyddocaol. Yn fwy arwyddocaol nag y bydd unrhyw un yn y Blaid yn fodlon ei gyfaddef yn gyhoeddus, yn sicr.
3)
Mae’n
hollol deg dweud fod y Blaid yn cael trafferth ennyn sylw yn y wasg. Ond pan gafodd
sylw wnaeth hi fawr ddim argraff. Dylai ailedrych ar ei naratif a’i hymgyrch
dros y ddeufis ddiwethaf achos wnaeth hi ddim taro tant â phobl o gwbl.
4)
Ysgrifennais
bwt ar y dacteg o ymosod ar UKIP yma. Dyma wnaeth PC bob cyfle a gafodd, fel
plaid a hefyd fel ymgyrchwyr unigol (dwi’n colli cownt o faint o weithiau y
gwelais geiriau Leanne Wood am UKIP ar
ddechrau’r ymgyrch yn gwneud y rownds ar y cyfryngau cymdeithasol). Roedd o’n
gamgymeriad llwyr am amryw resymau a fu bron yn gostus tu hwnt.
5)
Yn
dilyn o’r pwynt hwnnw, mae cwestiynau dwfn iawn yn codi am safon a doethineb
arweinyddiaeth bresennol Plaid Cymru – y rhai sy’n pennu strategaeth y Blaid, y
rhai sy’n llywio’r ymgyrch, ia, ond yr arweinydd ei hun hefyd. Cafodd ddegawd o
arweinyddiaeth wan dan lywyddiaeth IWJ, a arweiniodd y Blaid drwy gyfnod bron yn ddi-dor o ddirywiad, a pharhau mae'r un patrwm heddiw. Heb fod isio
codi gwrychyn neb, na sarhau neb ychwaith, yr argraff gref dwi’n ei chael gan
bron pawb dwi’n siarad â nhw am hyn ydi nad ydi Leanne Wood yn ffit i’r job. Dynas
dda, egwyddorol, hoffus – mae yn sicr ei heisiau yng ngwleidyddiaeth Cymru - ond
dydi hi ddim yn arweinydd plaid wleidyddol. Dyna ni, dwi wedi’i ddweud o.
6)
Rhaid
i’r Blaid hefyd gydnabod fod lefel y dadrithio ymhlith ei chefnogwyr yn gwbl
gyffelyb â’r hyn sy’n effeithio ar y pleidiau eraill hefyd. Ni all feio neb
arall am hyn ond am ei hun.
O ran y pleidiau eraill:
7)
Noson
dda iawn i UKIP yng Nghymru. Dwi ddim yn siŵr a ydw i’n cytuno â’r ddamcaniaeth
a arddelwyd neithiwr gan rai mai mewnfudwyr o Saeson sy’n gyfrifol am hyn, er
does dim amheuaeth fod UKIP wedi ennill mewn rhannau o Gymru lle mae canran y
bobl a aned yn Lloegr yn uwch. Gan ddweud hynny, ddaethon nhw’n ail yn y Cymoedd hefyd – welodd neb mo hynny’n dod.
8)
Doedd
o ddim yn noson dda i Lafur. Er gwaetha’r ffaith iddi ennill ryw 8% yn fwy nag
etholiad ’09 roedd hynny o lefel hanesyddol isel. Hefyd, ac eithrio 2009, hwn
oedd perfformiad gwaethaf y blaid Lafur yng Nghymru ers ymhell cyn yr Ail Ryfel
Byd, sy’n werth cofio.
giovedì, maggio 01, 2014
Dyfodol yr Iaith a Radio Cymru
Gawni un peth o’r ffordd yn syth. Dwi’m yn foi radio. Fydda i ond yn
gwrando yn y car neu weithiau ar fy ffôn wrth lusgo adra o’r gwaith; fel arall,
byth. Llawer gwell gen i syllu’n farwaidd ar y bocs drwy’r nos a gwylio fideos
o hen bobol yn syrthio ar YouTube.
Ac yn ail, fydd unrhyw un sydd wedi darllen y blog hwn o’r blaen yn gwybod fy mod i’n hollol gefnogol, er yn feirniadol yn aml, o fudiadau cenedlaethol neu ieithyddol Cymru, fel Dyfodol yr Iaith. Ond ‘rargian, mae eu sylwadau ar newidiadau diweddar Radio Cymru yn hurt – a waeth i ni beidio â smalio, maen nhw’n amlwg wedi’u hanelu at un DJ yn benodol, sef Tommo; dydi’r ffaith nad ydi ei enw’n cael ei nodi ddim yn celu hynny. Yn ôl at hynny yn y man.
Ac yn ail, fydd unrhyw un sydd wedi darllen y blog hwn o’r blaen yn gwybod fy mod i’n hollol gefnogol, er yn feirniadol yn aml, o fudiadau cenedlaethol neu ieithyddol Cymru, fel Dyfodol yr Iaith. Ond ‘rargian, mae eu sylwadau ar newidiadau diweddar Radio Cymru yn hurt – a waeth i ni beidio â smalio, maen nhw’n amlwg wedi’u hanelu at un DJ yn benodol, sef Tommo; dydi’r ffaith nad ydi ei enw’n cael ei nodi ddim yn celu hynny. Yn ôl at hynny yn y man.
Fydda i'n dyfynnu o erthygl Golwg360 ar hyn (sydd yma), gan gymryd ei bod
yn rhoi darlun cywir o’r hyn a ddywed Dyfodol i’r Iaith. Mi wna i osgoi’r
demtasiwn o beidio â chwalu’n rhacs y syniad o gael dwy orsaf gydag un o’r enw
Radio Pop, gan geisio f’argyhoeddi fy hun mai enw cymryd y piss ydi hwnnw yn hytrach nag awgrym go iawn!
Dyma’r peth cyntaf sy’n codi fy ngwrychyn:
Byddai’r naill
yn targedu’r ifanc a’r dysgwyr gydag arlwy o gerddoriaeth ac iaith lafar
gyfoes, tra bo’r llall yn wasanaeth mwy cynhwysfawr ac amrywiol o ran
newyddion, drama ac adloniant gyda cherddoriaeth amrywiol Gymraeg yn unig.
Gorsaf radio i dargedu’r “ifanc a dysgwyr”? Fedrwn i ysgrifennu blogiad
cyfan am ba mor hurt ydi lwmpio’r ddau grŵp at ei gilydd a hynny heb sôn am yr
ensyniad, rywfaint yn sarhaus, fod pethau sy’n apelio i’r “ifanc a dysgwyr” yn
hollol wahanol i ... wel, i bwy? Oedolion aeddfed sy’n siarad Cymraeg yn rhugl?
Fel dwi ‘di deud o’r blaen, dwi ddim yn licio pobl yn bloeddio snobyddiaeth,
ond mae geiriad yr holl frawddeg uchod yn drewi ohoni. A chadw “iaith lafar
gyfoes” i’r un orsaf honno?
Wn i ddim a ydi Dyfodol i’r Iaith yn gwybod hyn ond cyfrwng llafar ydi
radio yn y lle cyntaf. Wrth gwrs, mae angen amrywio’r iaith ar raglenni
gwahanol – fydd rhaglen geisiadau’n wahanol i’r newyddion – ond os dydi Radio Cymru
ddim yn adlewyrchu’r math o iaith mae pobl yn ei siarad bob dydd, waeth iddi
roi’r ffidil yn y to ddim. Cofio’r mwydryn Jonsi? Swni’m yn bersonol ‘di
gwrando ar Jonsi dan fygythiad arteithio, ond y gwir ydi roedd ei iaith lafar,
iaith ‘stryd’ os mynnwch chi ddefnyddio term crinjlyd braidd, yn apelio yn fawr
iawn at bobl a dyna pam fod ei raglen efallai yr un fwyaf poblogaidd yn hanes
diweddar RC. Roedd pobl yn fodlon maddau tiwns cachu a malu cachu i glywed
rhywun oedd yn siarad fel y byddan nhw’n ei wneud.
A does dim gwadu mai’r orsaf i’r “ifanc a dysgwyr” fyddai’r fwyaf
poblogaidd – achos byddai’r cynnwys yn apelio at y rhan fwyaf o bobl (mae label
Dyfodol i orsaf o’r fath yn hynod anffodus ac yn dweud lot, mae arna i ofn, am y
sawl a eiriodd hynny, pwy bynnag y bônt). Mae’r ail yn swnio fel fersiwn radio Cymraeg
o BBC4. Hynny yw, rhywbeth i leiafrif bach, ond ddim jyst lleiafrif yn yr achos
hwn eithr lleiafrif o fewn lleiafrif.
Yn anffodus, nid
yw’r newidiadau diweddar wedi llwyddo i wella gwasanaeth Radio
Cymru o gwbl, ac mae angen adolygu’r sefyllfa ar frys cyn i’r orsaf
Gymraeg golli ei cherddorion ifanc a’i chynulleidfa draddodiadol...
...Gofynnodd i’r
BBC: “Gan fod cymaint o anfodlonrwydd gyda’r gwasanaeth presennol,...
Mae’r gair ‘gwella’ yn gallu bod yn un camarweiniol achos ei fod yn awgrymu
rhywbeth absoliwt. Tydi newidiadau RC ddim am apelio i bawb, ond y gwir ydi
heblaw am ambell swnyn ar Twitter a Golwg wela’ i ddim tystiolaeth fod anfodlonrwydd
mawr ar y gwasanaeth presennol. Y ffon fesur fydd nifer y gwrandawyr – fydd yn
ddiddorol gweld yr ystadegau hynny pan gânt eu rhyddhau nesaf. Ond hefyd dylai
RC geisio apelio y tu hwnt i’r “gynulleidfa draddodiadol”, a’r gwir ydi mae
llawer o’r rhaglenni mwy ffurfiol yn rhai sydd yn iawn at ddant y rheini, ond
fyddai’n apelio dim at nifer fawr iawn o ddarpar wrandawyr, a nifer o bobl sy wedi
troi eu cefnau ar yr orsaf – nid achos safon yr iaith, nac o reidrwydd safon y
cynnwys, ond jyst achos bod RC wedi bod braidd yn boring i nifer o bobl dros y blynyddoedd diwethaf.
Ddaw hynny â ni at Tommo, sef dyn sy’n amlwg wedi cael ei ddewis i RC er
mwyn ceisio denu gwrandawyr newydd, gyda rhaglen sydd a dweud y gwir â gwedd
gwbl wahanol i unrhyw beth fu ar RC o’r blaen. Rŵan, cofio fi’n dweud uchod nad
ydw i’n foi radio? Yn sicr nadw, ond wyddoch chi be, fydda i’n rili, rili
mwynhau gwrando ar Tommo yn mwydro ac yn gweiddi yn y p’nawn. Mae’n gwneud i mi
wenu. Dwi heb wrando ar RC yn fynych ers yn agos i ddegawd. Dwi’n cofio troi at
Champion yn lle ‘slawer dydd achos ei fod o’n fwy, wel, hwyl. Ac achos bod
Tommo’n siarad yn llafar, a’i fod yntau’n ddigon o hwyl a chynnes, dwi’n fodlon
maddau’r iaith “wallus” (gas gennai bobl yn beirniadu iaith lafar pobl eraill)
a lot o’r caneuon.
Druan â’r boi. Mae o ‘di ei chael hi gan lot o bobl ar Twitter. Ond mae’n
rhaid i mi ddweud hyn, ac yn anffodus fedra i ddim mo’i ddweud heb fod yn
sarhaus, felly dyma ni: mae’r bobl sy’n cwyno am Tommo ar Twitter a chyfryngau
eraill yn union y math o bobl dwi’n falch
eu bod nhw ddim yn ei licio fo. Ac i’r gwrthwyneb, mae’r bobl sy’n dweud eu bod
nhw’n ei licio i’w weld yn bobl dwi’n falch fod ‘na rywbeth ar RC sy’n apelio
iddyn nhw. O’r diwedd!!!
I grynhoi, fe wyddoch efallai fy mod i’n credu'n gryf mewn safonau ieithyddol gan
hefyd gasáu snobyddiaeth ieithyddol. Yn groes i beth mae lot o bobl yn ei
feddwl, does dim yn rhaid i’r ddau beth hynny wrthdaro â’i gilydd. Ac o ran
cerddoriaeth Saesneg ar RC dwi’n tueddu i feddwl y dylai fod isafswm caneuon Cymraeg.
Dwi ddim yn meddwl o gwbl bod angen ail orsaf, ond dwi’n dallt bod dadl i’w
chael.
Ond pan mae Dyfodol yr Iaith yn sôn am “wella” Radio Cymru, a bod angen
gwneud hynny ar frys, fedra i’m ond â meddwl mai isio gwneud hynny ar eu cyfer
nhw eu hunain a rhan fechan o’r Cymry Cymraeg y maen nhw, ac nid i’r mwyafrif
sydd eisiau gorsaf radio sy’n eu hadlewyrchu nhw, a chyflwynwyr sy’n siarad fel
nhw.
sabato, marzo 29, 2014
Gwladwriaeth annibynnol nesaf Ewrop
Yn Ewrop heddiw, mae
pum prif wladwriaeth: y Deyrnas Unedig, Ffrainc, Yr Almaen, Sbaen a’r Eidal.
Ond os edrychwch yn fanylach arnynt, dim ond un ohonynt sydd mewn difrif yn
cyfrif fel cenedl-wladwriaeth, sef Yr Almaen. Y mae’r Almaen, ar ryw ffurf
neu’i gilydd, wedi bod yn rhan o’r un endid gwleidyddol ers dros fileniwm, gan
rannu diwylliant ac iaith gyffredin, er y bu’n amryw deyrnasoedd, tywysogaethau
a dinasoedd rhydd am lawer o’r amser hwnnw ar ffurf cynghrair. Am y rhan fwyaf
o’r cyfnod hwnnw bu’n endid ar ffurf yr Ymerodraeth Lân Rufeinig, ond ni
ddaethai’n wladwriaeth gwbl unedig tan 1918 pan draflyncwyd yr hen deyrnasoedd
amrywiol a ffurfiai’r Almaen yn gyfan gwbl gan y llywodraeth ganolog.
Rydych yn siŵr o wybod nad ydi’r Deyrnas Unedig yn genedl-wladwriaeth, nac ychwaith Sbaen, gyda phob un ag amryw bobloedd o drasau a diwylliannau gwahanol. Mae hyn hefyd yn wir am Ffrainc, er bod y wladwriaeth honno wedi bod yn fwy llwyddiannus o lawer yn ffrwyno’r hunaniaethau unigol sydd i’w cael yno.
Rydych yn siŵr o wybod nad ydi’r Deyrnas Unedig yn genedl-wladwriaeth, nac ychwaith Sbaen, gyda phob un ag amryw bobloedd o drasau a diwylliannau gwahanol. Mae hyn hefyd yn wir am Ffrainc, er bod y wladwriaeth honno wedi bod yn fwy llwyddiannus o lawer yn ffrwyno’r hunaniaethau unigol sydd i’w cael yno.
Ond debyg nad ydi’r rhan
fwyaf ohonoch yn gyfarwydd â sefyllfa’r Eidal o ran hyn, gan felly dybio mai
cenedl-wladwriaeth ydi hi. Ond rydych chi’n anghywir i dybio hyn. Y mae’r Eidal
yn llawn hunaniaethau lleol ac ieithoedd gwahanol, ac yn wladwriaeth ag iddi
sylfeini gwantan iawn.
Yn wir, mae cenedlaetholdeb
Eidalaidd yn deillio yn fwy o ystyriaethau daearyddol, sy’n deillio’n ôl i
gyfnod y penrhyn Eidalaidd fel talaith Rufeinig, ac ystyriaethau gwleidyddol a
chymdeithasol, nag ymdeimlad o wir undod cenedlaethol. Unwyd y penrhyn ym 1870 –
ac roedd y diffyg cenedlaetholgar ym meddyliau nifer o bobl bryd hynny. Dwi’n
meddwl i ŵr o’r enw Massimo d’Azeglio, a fu’n Brif Weinidog Teyrnas Sardinia –
ei roi orau pan ddywedodd ‘Rydym ni wedi creu’r Eidal. Nawr, mae’n rhaid creu Eidalwyr’.
Llwyddwyd i wneud hynny i
raddau. Ond ddim yn llwyr o gwbl. Mae map ieithyddol yr Eidal yn gwneud i hyd
yn oed Sbaen edrych yn unffurf. Er bod pawb yn siarad Eidaleg safonol (fwy na
heb) mae ‘na amrywiaeth enfawr o ieithoedd yn cael eu siarad yno, o Feniseg yn
Fenis, Napolitaneg yn ardal Napoli, Sardineg yn Sardinia, Sisilianeg yn Sisili,
heb sôn am bocedi o Almaeneg, Ffrangeg, Ladin a Slofeneg, ymhlith eraill. Byddai
rhai yn galw rhai o’r ieithoedd hyn yn dafodieithoedd, ond coeliwch chi fi,
byddai’r siaradwyr a nifer fawr o ysgolheigion, yn dadlau fel arall. Roedd fy
nain bob amser yn mynnu y siaradai dair iaith: Eidaleg, Saesneg a Napolitaneg.
Ond nid yn unig y mae’r Eidal
yn llawn rhaniadau ieithyddol ond mae rhai gwleidyddol mawr yno hefyd. Bosib i
chi glywed am y Lega Nord, sy’n blaid
ranbarthol ddadleuol sy’n ymgyrchu dros ogledd yr Eidal (yn amrywio rhwng mwy o
ffederaliaeth ac annibyniaeth i Padania,
sef gogledd yr Eidal) ac sy’n profi cryn lwyddiant ym mron bob etholiad. Y mae
hefyd fudiadau sy’n arddel annibyniaeth i Sardinia a De Tyrol ymhlith eraill.
Y mae’r gwledydd bychain yn
codi ledled Ewrop ein hoes ni. Ond cael a chael ydi hi hefyd mewn difri. Mae’r
polau o hyd yn awgrymu mai lleiafrif sydd o blaid annibyniaeth yn Yr Alban, a
dydyn ni ddim yn gwbl sicr i ba raddau yr aiff Sbaen i atal ei rhanbarthau rhag
gwahanu oddi wrthi. Serch hynny, yn fy marn i, os ydych chi’n chwilio Ewrop am
y wladwriaeth nesaf bosibl, nid at Brydain na Sbaen y dylech edrych, ond yn
hytrach at Fenis y dylech droi.
Mae gan Fenis gryn
hanes, y mae llawer o bobl yn gwbl anymwybodol ohono heddiw. Bu’n wladwriaeth
annibynnol am dros 1,100 o flynyddoedd, ac yn rym morwrol a masnachol sylweddol
am lawer o’r cyfnod hwnnw, er y daeth i ben ym 1797 pan gafodd ei goresgyn gan
Napoleon. Wedi hynny’n bu’n rhan o Awstria am flynyddoedd nes dod i ddwylo
Teyrnas yr Eidal ym 1866. Dydi hi fawr o syndod bod ymdeimlad cenedlaethol cryf
i’w gael yno hyd heddiw.
Wrth gwrs, â hanes mor
ogoneddus a hirfaith does syndod yn hynny o beth – i’w roi mewn cyd-destun, sefydlwyd
Gweriniaeth Fenis o leiaf ganrif a hanner cyn i’r Alban uno’n un deyrnas, ac
ond ychydig ddegawdau ar ôl sefydlu Islam. Y gwir ydi, does ‘na ddim llawer o
genhedloedd yn Ewrop sy’n hŷn na Fenis.
Ond heddiw mae’r naratif
cenedlaetholgar Fenetaidd cyfoes wedi datblygu, a hynny yn wahanol i’r Alban,
Catalwnia, Gwlad y Basg, Fflandrys a hyd yn oed Cymru, yn ddistaw iawn, i’r
graddau mai prin yw’r rhai sy’n ymwybodol ohono. Ond ystyriwch hyn, ym mhob arolwg barn a gynhaliwyd es
tua 4 blynedd, mae mwyafrif trigolion Fenis wedi dweud eu bod o blaid
annibyniaeth. Mae hynny’n fwy na Chatalwnia, ac yn sylweddol fwy na’r Alban.
Efallai i chi ddarllen
stori am hyn ar y BBC yn ddiweddar. Cynhaliodd Fenis bleidlais gwlad - hynny yw
refferendwm heb rwymedigaeth gyfreithiol - i weld barn y cyhoedd ar annibyniaeth.
Pleidlais ar-lein oedd hi, ond credir yn gyffredinol fod y bleidlais yn agos
ati o ran y farn a fynegwyd. Pleidleisiodd 89% o blaid annibyniaeth. Fawr o
syndod, efallai, mewn refferendwm ar annibyniaeth a gynhaliwyd gan bobl o blaid
annibyniaeth; nes i chi gael gwybod bod tua 63% o bobl Fenis wedi bwrw
pleidlais ynddo.
Mae, fel y byddech yn ei
ddisgwyl, rwystrau i’r rhai sydd o blaid annibyniaeth. Fel yng nghyfansoddiad
Sbaen, nid oes darpariaeth i ranbarthau’r Eidal wahanu o’r wladwriaeth ganolog.
Ond nid oes gan yr Eidal ychwaith hanes o orthrymu’r rhanbarthau fel Sbaen, ac
mae ei llywodraeth ganolog fel arfer naill ai’n wan neu’n llawn trafferthion,
heb yr undod na’r penderfyniad gwleidyddol, nac yn wir synaidaeth gadarn ar undod cenedlaethol, i wir wrthsefyll ymgyrch hirhoedlog,
drefnus gan un o’r rhanbarthau.
Petaech chi’n gallu betio ar
hyn, ac yn ffansi bet ar wladwriaeth nesaf Ewrop, dybiwn i na fyddech ar eich
colled petaech yn ei roi ar Fenis.
venerdì, marzo 14, 2014
Plaid Cymru ac UKIP
Gwnaeth ymosodiad Leanne
Wood ar UKIP nifer o benawdau newyddion yr wythnos hon yng Nghymru. Mae rhai eisoes wedi cwestiynu doethineb hynny. Dwi’n rhyw dueddu i gytuno fy hun ei fod
yn ymosodiad rhyfedd – a hynny am resymau strategol – ond yn fwy na hynny yr
iaith gref a ddefnyddiwyd. O roi i’r un ochr fy marn ar y Blaid ac UKIP yn y
blogiad hwn, gadewch i mi geisio esbonio. Dyma ddywedodd Leanne Wood:
Dydw i ddim yn meddwl bod ensynio bod UKIP yn ‘Anghymreig’ yn beth ffôl i’w wneud, achos mewn nifer o ffyrdd, mae hi – er rhaid pwysleisio na ddefnyddiodd Leanne Wood y gair penodol hwnnw wrth ymosod arni. Y mae ei hagwedd at Gymru yn un ymerodraethol, hen ffasiwn, ac yn hynny o beth yn annerbyniol. Drwy gamau bychain mae Cymru heibio hynny. Does dim ots gen i beth ddywedodd Dafydd Êl am ei bod yn cynrychioli barn ‘ddilys’ yng Nghymru yn hyn o beth, mae UKIP yn Anghymreig. Roedd y ddwy frawddeg gyntaf, yn fy marn i, yn rhai digon teg a gwir.
Y broblem ydi disgrifio ei gwleidyddiaeth fel gwleidyddiaeth ‘hyll’, a dwi’n meddwl bod hynny’n mynd â rhywun i dir peryglus iawn. Dau beth yn unig sy’n poeni UKIP – yr Undeb Ewropeaidd a mewnfudo – mae hi’n erbyn y ddau. Tydi bod yn erbyn aelodaeth y DU, na Chymru, o’r UE ddim yn beth ‘hyll’ iawn; dydi dweud y byddai’r DU yn well ei byd y tu hwnt i’r UE ddim yn gwbl ddi-sail achos mae anfanteision i’r aelodaeth honno hefyd. Os edrychwch ar y ffeithiau dydi hi ddim y ddadl gadarnaf yn sicr ond mae mân rinweddau iddi. A dydi ymdeimlad gwrth-UE ddim yn rhywbeth nodweddiadol Seisnig, mae i’w gael yng Nghymru hefyd (yn wir, os edrychwch hi ar bolau dros y blynyddoedd ar gyfansoddiad Cymru, mae ‘na hollt ryfeddol o agos ymhlith y rhai sy’n coelio mewn annibyniaeth i Gymru o fewn yr UE a’r tu allan iddi).
Dwi’n meddwl eich bod, ym mêr eich esgyrn, yn gwybod yr ateb i hynny. Debyg iawn bod barn cefnogwyr Plaid Cymru’n unfath â’r ymdeimlad cyffredinol ym Mhrydain ar hyn o bryd. Ond dwi ddim yn meddwl bod hynny’n golygu bod cefnogwyr Plaid Cymru’n arddel gwleidyddiaeth ‘hyll’ – a fedra i ddim gweld sut mae ensynio hynny, er yn anuniongyrchol, yn mynd i fod o fudd i’r Blaid mewn ti mis.
Nid eich gwerthoedd chi mo gwerthoedd Cymru. Mae pleidlais i UKIP yn bleidlais yn erbyn Cymru, ac bleidlais yn erbyn buddiant cenedlaethol Cymru. Ni allwn, ac ni fyddwn, yn gadael i’w gwleidyddiaeth hyll ein rhannu fis Mai.
Dydw i ddim yn meddwl bod ensynio bod UKIP yn ‘Anghymreig’ yn beth ffôl i’w wneud, achos mewn nifer o ffyrdd, mae hi – er rhaid pwysleisio na ddefnyddiodd Leanne Wood y gair penodol hwnnw wrth ymosod arni. Y mae ei hagwedd at Gymru yn un ymerodraethol, hen ffasiwn, ac yn hynny o beth yn annerbyniol. Drwy gamau bychain mae Cymru heibio hynny. Does dim ots gen i beth ddywedodd Dafydd Êl am ei bod yn cynrychioli barn ‘ddilys’ yng Nghymru yn hyn o beth, mae UKIP yn Anghymreig. Roedd y ddwy frawddeg gyntaf, yn fy marn i, yn rhai digon teg a gwir.
Y broblem ydi disgrifio ei gwleidyddiaeth fel gwleidyddiaeth ‘hyll’, a dwi’n meddwl bod hynny’n mynd â rhywun i dir peryglus iawn. Dau beth yn unig sy’n poeni UKIP – yr Undeb Ewropeaidd a mewnfudo – mae hi’n erbyn y ddau. Tydi bod yn erbyn aelodaeth y DU, na Chymru, o’r UE ddim yn beth ‘hyll’ iawn; dydi dweud y byddai’r DU yn well ei byd y tu hwnt i’r UE ddim yn gwbl ddi-sail achos mae anfanteision i’r aelodaeth honno hefyd. Os edrychwch ar y ffeithiau dydi hi ddim y ddadl gadarnaf yn sicr ond mae mân rinweddau iddi. A dydi ymdeimlad gwrth-UE ddim yn rhywbeth nodweddiadol Seisnig, mae i’w gael yng Nghymru hefyd (yn wir, os edrychwch hi ar bolau dros y blynyddoedd ar gyfansoddiad Cymru, mae ‘na hollt ryfeddol o agos ymhlith y rhai sy’n coelio mewn annibyniaeth i Gymru o fewn yr UE a’r tu allan iddi).
Ond efallai mewnfudo sydd
fwyaf dadleuol yma. Mewn polau piniwn, fe welwch dro ar ôl tro bod pobl yn
tueddu i feddwl bod gormod o fewnfudo i’r DU: a dwi ddim yn meddwl bod y rhai
sy’n cytuno â hynny’n arddel gwleidyddiaeth ‘hyll’ ychwaith. Tybed, pe byddech
chi’n byw mewn rhan o Loegr sydd wedi gweld ymchwydd enfawr o fewnfudwyr o’r tu
allan i Loegr yn eich ardal chi, gan newid a thanseilio holl gymeriad eich
ardal, a fyddech chi’n fwy sympathetig at y farn honno?
Onid ydym ni’n gweld yr un
fath yn digwydd yng Nghymru – mewnfudo o fath gwahanol, efallai, ond un sy’n
tanseilio ein diwylliant, ein hiaith a’n treftadaeth ein hunain? Dydi ddim
eisiau i’ch cymuned chi newid y tu hwnt i bob adnabod ddim yn wleidyddiaeth
hyll. Mae’n ddigon teg. Wrth gwrs, mae rhai pobl yn erbyn mewnfudo am resymau
hiliol. Byddwn i’n gyndyn iawn o ddweud bod hynny’n gynrychioliadol o’r
mwyafrif sy’n coelio hynny. A phe byddech chi’n dweud hynny, go debyg eich bod
yn un o’r bobl hynny sy’n lluchio’r cyhuddiad o ‘hiliaeth’ at bobl yn rhy hawdd
o lawer beth bynnag. Dyna ydi gwleidyddiaeth hyll!
A dyma’r peth arall. Dwi’n
tueddu i feddwl bod Plaid Cymru ar y chwith i nifer fawr iawn o’i chefnogwyr
traddodiadol a selocaf. Dydi hynny efallai ddim yn broblem anorchfygol ynddi’i
hun. Ond tybed faint o gefnogwyr craidd y Blaid sy’n tueddu i feddwl bod gormod
o fewnfudo – ar lefel y Deyrnas Unedig ac ar lefel Cymru?
Dwi’n meddwl eich bod, ym mêr eich esgyrn, yn gwybod yr ateb i hynny. Debyg iawn bod barn cefnogwyr Plaid Cymru’n unfath â’r ymdeimlad cyffredinol ym Mhrydain ar hyn o bryd. Ond dwi ddim yn meddwl bod hynny’n golygu bod cefnogwyr Plaid Cymru’n arddel gwleidyddiaeth ‘hyll’ – a fedra i ddim gweld sut mae ensynio hynny, er yn anuniongyrchol, yn mynd i fod o fudd i’r Blaid mewn ti mis.
Peidiwch â’m camddeall ychwaith.
Mae UKIP mewn nifer o ffyrdd yn blaid eithaf boncyrs, ac mae plaid o’i natur hi’n
anorfod am ddenu cymeriadau a chefnogwyr digon ... ‘lliwgar’. Ond mae labelu ei
phrif nodweddion gwleidyddol – lleihau mewnfudo a gadael yr UE – fel ‘hyll’
ddim yn iawn. Y gwir ydi mewn nifer fawr o ffyrdd, maen nhw’n safbwyntiau teg (er,
wrth gwrs, bydd rhai yn eu cefnogi am resymau hyll). Pe bai gennym yng Nghymru
wleidyddiaeth y byddai trwch y boblogaeth yn ymwybodol ohoni, tueddaf i feddwl
mai tanseilio ei chefnogaeth fyddai geiriau Leanne Wood, nid ei sicrhau na’i
hehangu, at yr etholiadau sydd ar ddod.
mercoledì, febbraio 26, 2014
Symud S4C
Mae’n siŵr y gwyddoch fod
S4C yn ystyried symud ei phencadlys, gyda Chaernarfon a Chaerfyrddin y prif
leoliadau arfaethedig. Hefyd mae ei chadw yng Nghaerdydd yn opsiwn. Byddai
hynny’n drueni; does ‘na ddim dwywaith y byddai cael S4C yn hwb economaidd ac
ieithyddol (er y gellir dadlau gyda’r ddau faint o wahaniaeth a wna mewn difri)
i ardal y Fenai neu fro Myrddin.
Dwi wedi clywed ambell ddadl na ddylid symud S4C i’r gorllewin o gwbl a’i gadael yng Nghaerdydd, yn bennaf rhag ofn iddi gael ei gweld fel rhywbeth “iddyn nhw fyny/draw fanno”. Tydw i ddim yn poeni fawr ddim os mai dyma fyddai’r canfyddiad ymhlith rhai pobl. Dwi bob amser wedi meddwl ein bod ni Gymry Cymraeg yn rhoi gormod o sylw i beth mae eraill yn ei feddwl ohonom, a’i fod yn hen bryd i ni fod yn hunanol a mynnu pethau drosom ein hunain yn llawer mwy nag ydyn ni. Os ydi rhai yn gweld y Gymraeg fel rhywbeth sy’n berthnasol i’r gorllewin yn unig, wel, stwffia nhw, ‘does fawr o ots gen i am eu barn, a does dim byd am newid eu barn chwaith.
I gyfaddawdu, mentraf ddweud fy mod innau'n bersonol yn gefnogol i ymgais y ddwy dref.
Ond fydd o ddim yn syndod i chi ychwaith mai ymgais Caernarfon dwi fwyaf cefnogol iddi. Ond mae fy rhesymeg dros hynny yn fwy ymarferol nag emosiynol – byddai well gen i weld S4C yng Nghaerfyrddin nag aros yng Nghaerdydd. Y prif reswm y mae hyn yn cael ei weld fel cyfle euraidd, a bod y ddwy dref am hudo’r sianel, ydi rhoi hwb i’r Gymraeg yn yr ardaloedd hynny (mi dybiaf i nifer o bobl fod unrhyw ddadl arall yn eilaidd yn y bôn). Mae rhai sydd o blaid Caerfyrddin wedi dweud nad oes angen help ar y Gymraeg yn y gogledd-orllewin a dyma pam y dylai fynd i Gaerfyrddin. Dydi’r bobl hyn yn aml ddim yn adnabod y gogledd-orllewin yn dda iawn. Er, mi fyddwn i’n derbyn bod angen mwy o help ar yr iaith yn Nyfed na Gwynedd.
Dwi wedi hyd yn oed darllen ensynio fod 'na lot gormod yn mynd i Gaernarfon, er mi fentrwn ddweud bod hyd yn oed y rhai sy'n arddel y ddadl honno'n gwybod mai un wirion ydi hi.
Yn gryno, byddai’r effaith economaidd ac ieithyddol a gâi symud S4C yn gryfach o lawer yng Nghaernarfon na Chaerfyrddin a hynny oherwydd daearyddiaeth seml. Serch hynny, ym mêr fy esgyrn mi deimlaf mai penderfynu aros y gwnaiff S4C, a bydd hynny’n gyfle wedi’i golli i’r naill ardal neu’r llall.
Dwi wedi clywed ambell ddadl na ddylid symud S4C i’r gorllewin o gwbl a’i gadael yng Nghaerdydd, yn bennaf rhag ofn iddi gael ei gweld fel rhywbeth “iddyn nhw fyny/draw fanno”. Tydw i ddim yn poeni fawr ddim os mai dyma fyddai’r canfyddiad ymhlith rhai pobl. Dwi bob amser wedi meddwl ein bod ni Gymry Cymraeg yn rhoi gormod o sylw i beth mae eraill yn ei feddwl ohonom, a’i fod yn hen bryd i ni fod yn hunanol a mynnu pethau drosom ein hunain yn llawer mwy nag ydyn ni. Os ydi rhai yn gweld y Gymraeg fel rhywbeth sy’n berthnasol i’r gorllewin yn unig, wel, stwffia nhw, ‘does fawr o ots gen i am eu barn, a does dim byd am newid eu barn chwaith.
I gyfaddawdu, mentraf ddweud fy mod innau'n bersonol yn gefnogol i ymgais y ddwy dref.
Ond fydd o ddim yn syndod i chi ychwaith mai ymgais Caernarfon dwi fwyaf cefnogol iddi. Ond mae fy rhesymeg dros hynny yn fwy ymarferol nag emosiynol – byddai well gen i weld S4C yng Nghaerfyrddin nag aros yng Nghaerdydd. Y prif reswm y mae hyn yn cael ei weld fel cyfle euraidd, a bod y ddwy dref am hudo’r sianel, ydi rhoi hwb i’r Gymraeg yn yr ardaloedd hynny (mi dybiaf i nifer o bobl fod unrhyw ddadl arall yn eilaidd yn y bôn). Mae rhai sydd o blaid Caerfyrddin wedi dweud nad oes angen help ar y Gymraeg yn y gogledd-orllewin a dyma pam y dylai fynd i Gaerfyrddin. Dydi’r bobl hyn yn aml ddim yn adnabod y gogledd-orllewin yn dda iawn. Er, mi fyddwn i’n derbyn bod angen mwy o help ar yr iaith yn Nyfed na Gwynedd.
Dwi wedi hyd yn oed darllen ensynio fod 'na lot gormod yn mynd i Gaernarfon, er mi fentrwn ddweud bod hyd yn oed y rhai sy'n arddel y ddadl honno'n gwybod mai un wirion ydi hi.
Ond os ydi’r symud posibl i
fod yn fuddiol – yn economaidd ac yn ieithyddol – mae un elfen hanfodol iddo,
sef nid symud S4C y sefydliad ond symud y bobl sy’n gweithio yn y pencadlys hefyd. Wn
i ddim beth i wneud o hyn mewn ffordd, achos fydd o fawr o iws i bobl sydd
eisiau aros yn naill ai Caernarfon na Chaerfyrddin os ydi pobl jyst yn symud
yno efo swyddi da; debyg y dywedant, yn ddigon teg, pam nad oes mwy yn cael ei
wneud i’w helpu nhw aros yn y gorllewin na helpu Cymry Cymraeg i symud yn ôl.
Ond o safbwynt ieithyddol mae’n nod amlwg.
Debyg na fyddai pawb eisiau
symud wrth gwrs, ac mae hynny’n ddigon teg. Ond byddai cael pobl mewn swyddi da
mewn ardal Gymraeg yn sicr yn hwb yno, a byddai effaith dreigl i raddau hefyd.
Ond dyma ni'n dod ati, sef y broblem fawr efo
Caerfyrddin – mae Caerfyrddin o fewn pellter teithio i’r gwaith o Gaerdydd a’r cyffiniau.
Allwch chi gyrraedd Caerfyrddin mewn tua awr o Gaerdydd; a’r gwir ydi dyma
fyddai llawer o bobl yn ei wneud yn hytrach na dadwreiddio o Gaerdydd. Tydi
hynny o fawr ddim budd i’r iaith Gymraeg yn Sir Gâr, os o gwbl. Ni fyddai’r effaith
ieithyddol yn cael ei theimlo mor gryf ag y gallai pe na fyddai dewis gan bobl
ond symud. Adleoli swyddi fyddai symud i Gaerfyrddin, nid adleoli pobl - neu eu hannog i wneud hynny o leiaf!
Mae hynny hefyd yn wir am yr
effaith economaidd. Tydi cymudwyr ddim mor werthfawr â thrigolion.
Does dim modd cymudo i
Gaernarfon o Gaerdydd yn feunydd, mae’n fater o symud neu golli swydd. Petai S4C
yn symud i Gaernarfon, byddai pobl â swyddi da yn symud yno gyda hi, a byddai’r
swyddi a fyddai’n wag yn mynd i bobl sydd naill ai’n lleol neu bobl eraill a
hoffai symud yno. Byddai’r effaith yn uniongyrchol, tra yng Nghaerfyrddin mi
dybiaf mai anuniongyrchol iawn fyddai.
Yn gryno, byddai’r effaith economaidd ac ieithyddol a gâi symud S4C yn gryfach o lawer yng Nghaernarfon na Chaerfyrddin a hynny oherwydd daearyddiaeth seml. Serch hynny, ym mêr fy esgyrn mi deimlaf mai penderfynu aros y gwnaiff S4C, a bydd hynny’n gyfle wedi’i golli i’r naill ardal neu’r llall.
Er, mae'n rhaid imi ddweud fy mod i'n synnu braidd na wnaeth Rachub gais.
domenica, gennaio 26, 2014
Ein Cyfaddawd Ni
Mae’n anodd bod yn Gymro Cymraeg
â pheidio â chael llond bol ar bopeth. Ond mae o’n teimlo weithiau fel petai holl
rymoedd y byd hwn yn uno yn ein herbyn. Dwi’n siŵr nad fi ydi’r unig un sydd wedi sylwi,
dros y ddwy neu dair blynedd ddiwethaf yn benodol, fod straeon a sylwadau
gwrth-Gymraeg yn dod yn bethau mwy cyffredin nag yr oedden nhw rai blynyddoedd
ynghynt. Beryg y bu ffigurau’r cyfrifiad yn fêl ar fysedd y lleiafrif hyll
hwnnw yng Nghymru, nad yw’n lleiafrif dibwys gwaetha’r modd, sy’n casáu’r
Gymraeg ac yn ddirmygus o’r rhai ohonom sy’n ceisio’i siarad a’i harddel. I’r
rhai sy’n ymosod arnom o’r tu hwnt i Glawdd Offa – pobl sy’n gwybod dim am
Gymru, heb sôn am ystadegau cyfrifiadau, ond am yr hyn a arddelo’u rhagfarn – nid
a wna’r un ganran na ffigur wahaniaeth i’w barn druenus. Byddai’n rhy ddiflas
peidio â phigo ar leiafrif y mae’n dderbyniol ei sarhau, wedi'r cyfan.
Duw ag ŵyr.
Duw ag ŵyr.
Ond dwi’n siŵr o un peth. Y
mae’r ymosodiadau ar y Gymraeg fel petaent yn amlhau – y cyfan yn ensynio pam ddylai’r
di-Gymraeg orfod cyfaddawdu i’r lleiafrif gwirion sy’n mynnu dal ynghlwm wrth
iaith a ddylai fod wedi hen farw wrth i weddill y byd esblygu? Y gair allweddol
ydi ‘cyfaddawd’. Nefoedd, dwi wedi cael llond bol ar bobl yn dweud neu’n
ensynio eu bod yn gorfod ‘cyfaddawdu’ i siaradwyr Cymraeg.
Beth ydi’r cyfaddawd
erchyll hwn a wna’r di-Gymraeg yng Nghymru? Dysgu rhywfaint o’r iaith frodorol
yn yr ysgol yn lle rhywbeth “call” fel Sbaeneg neu Fandarin; ffieiddio ar y
ffaith fod rhai swyddi yn Gymraeg ‘hanfodol’ (os cofiaf yn iawn, 2% o swyddi yn
y sector cyhoeddus sy’n ffitio’r disgrifiad hwn - un o bob 50); dioddef
arwyddion mawr gyda dwy iaith arnynt ac, o ia, palu arian mewn i sianel na
allan nhw mo’i deall. Erbyn 2016 bydd cyllid y Sianel yn £74.5m -llai na £25 y
pen i bawb yng Nghymru, i’w roi ffordd arall. Bŵ-ffycin-hŵ.
Efallai y dylent ystyried a deall,
hyd yn oed yn fras, ein cyfaddawd ni.
Gwasanaethau eilradd yn
Gymraeg – ym mhob maes posibl. Gorfod cyfiawnhau ein bodolaeth yn dragywydd. Cael
ein bychanu, ein gwawdio a’n dilorni’n gyson gan rai pobl yn ein gwlad ein
hunain neu dros y ffin, a gyfiawnheir â rhyddid mynegiant, a hynny heb fyth gael
y cyfle i ateb yn ôl. Ein gweld ein hunain yn troi’n lleiafrif hyd yn oed yn
ein cadarnleoedd traddodiadol, bron yn ddiymadferth i wrthdroi’r sefyllfa.
Derbyn na allwn fyw ein
bywydau - hyd yn oed weithiau gwneud y pethau mwyaf sylfaenol - drwy gyfrwng ein hiaith ein hunain, yn ein gwlad ein hunain, hyd yn oed
yn yr ardaloedd hynny lle’r ydym yn niferus neu’n fwyafrif clir.
Pwy Saesneg ei iaith
erioed a aeth i garchar, neu a fynychodd brotest, neu hyd yn oed a lofnododd
ddeiseb, am yr hawl i fyw o leiaf rai elfennau o’i fywyd yn Saesneg yng
Nghymru? Pwy yn wir.
Ydi, mae dwyieithrwydd yn
gyfaddawd. Ond ein cyfaddawd ni ydi o – cyfaddawd unochrog a gorfodol
a orchmynnwyd ar y Cymry Cymraeg. Cyfaddawd nad oes gennym ddewis yn ei gylch
eithr ei dderbyn. Pan fyddo’r rhai sy’n ein casáu'n uchel eu croch, neu rywrai'n cwestiynu’r cyfaddawdau
a wnân nhw erom ni, byddai’n syniad da iddynt gymryd ond munud i feddwl am wir natur dwyieithrwydd yng Nghymru.
Ein cyfaddawd ni ydi o.
Iscriviti a:
Post (Atom)