Henffych hawddamor, gyfeillion, myfi a ydwyf teimlo'n Gymraeg fy naws heddiw, a phaham lai? Dw i wastad wedi hoffi darllen Cymraeg orberffaith, a bod yn onast efo chi, a fel hynna byddwn i'n siarad taswn i'n ddewin (Iason y Goedwig).
Ydi 'gorberffaith' yn baradocs? Achos perffaith ydi, wel, y di-nam, y gwych hollol digamsyniol na'i threiddir gan gam neu, wrth gwrs, amherffeithrwydd.
Ydi 'gorberffaith' yn gyfystyr ag amherffaith? Oherwydd y mae 'gor-' yn awgrymu gormodedd, ac nid ydyw gormodedd, na'i chroes-air, annigonol, yn berffaith, nac ydynt? Sy'n golygu eu bod yn amherffaith. Yn tydi?
Ffacinel mi ddechreuish i'r blog yma eisiau siarad am be' wna'i heddiw a dw i wedi mentro mewn i Peter Wyn Thomas territory. Ac nid braf mohoni yma.
2 commenti:
Ond cofia linell anfarwol Oasis "true perfection has to be imperfect". Ydi hyn yn golygu fod gorberffaith yn berffaith?
Na, mae hwnna'n golygu bod yr amherffaith yn berffaith.
Ma hwn yn benffwc.
Posta un commento