Un peth dw i ddim yn caru ydi Bethel. Mi basiais i drwy Bethel ar fy ffordd o Dre ddoe. Er fod Anti Betty ac Yncl Owie yn byw 'na does gan Bethel ddim cymeriad o gwbl. Hi, yn wir, yw pentref mwyaf ddifflach a diflas Cymru, a mae i Gymru ei siâr ohonynt, ond i gyd gydag o leiaf un nodwedd diddorol:
- Libanus - enw diddorol
- Llanfairfechan - wrth lan y môr
- Pentrefoelas - y lle siocled 'na
- Llanilar - Dai Jones
- Llanbrynmair - y ddraig gwydr
- Capel Curig - does neb yn siwr lle mae'r union bentref
- Pob pentref ar Ynys Môn - pawb yn falch eu bod nhw, pawb sy'n byw ynddynt a'u naws cyffredinol o ddiflas ar Ynys Môn ac nid y tir mawr
- Mynydd Llandygai - mi fedri di weld Rachub ohono
Crybwylliad byr mi wn, gwyddwn i fod 'na lawer mwy ohonynt ond unig nodwedd Bethel ydi dy fod ti'n gorfod arafu yno ar dy ffordd i Gaernarfon neu fel arall, a mae o'r math o le dwyt ti ddim isho gwario llawer o amser yno. Ond gwell imi beidio slagio'r lle off yn ormodol rhag ofn i Anti Betty ddarllen a rhoi stid imi.