Llafur
Pa mor wael sydd angen iddyn nhw ei wneud i golli etholiad
yng Nghymru?
Fel mae’n digwydd,
mae hwn yn gwestiwn amserol. Eisoes mae ‘na bobl gallach na fi wedi nodi bod y
system etholiadol, er gwaethaf yr elfen gyfrannol iddi, yn drwm o blaid Lafur. Er
mae’n anodd gen i gredu y gwelwn ni newid mawr yn ystod y tymor hwn o ran hynny
– pam fyddai Llafur yn gwthio am newid y system? Ond mae’r ateb ei hun yn syml
iawn: llawer gwaeth, a dydi hynny o
hyd ddim yn llwyr ddibynnol arnyn nhw eu hunain. Hyd yn oed petai Llafur yn
disgyn i’r ugeiniau uchel yn yr etholaethau, go debyg y cadwent y rhan fwyaf o’u
seddi. Tra nad oes un gwrthwynebydd clir ganddynt, mae’n anodd iawn, iawn
rhagweld unrhyw un yn eu trechu mewn etholiad cynulliad.
Bob etholiad pan
fydd Llafur yn gwneud yn wael ac eto’n cadw seddi bydd y gwybodusion yn anochel
ddweud mae’n rhaid iddyn nhw wneud yn waeth na hynny (sydd, derp!, yn amlwg yn wir): ond erbyn hyn,
dwi’n eithaf sicr nad oes gan neb syniad cadarn o ba mor wael yn union fyddai’n
rhaid i Lafur wneud nes y gwireddid hynny.
Cafodd Llafur eu vindicatio yn yr etholiad yma. Defnyddion
nhw’r un hen dactegau negyddol ag y maen nhw erioed wedi ac mi weithiodd: y
gwir ydi, does gan yr un o’r pleidiau eraill yr ateb i ddatod hyn. Ar ôl 17
mlynedd o lywodraethu, a bod dan y chwyddwydr yn fwy nag erioed o’r blaen, dwi’n
meddwl ei bod yn deg dweud bod Llafur yn colli 1 sedd yn 2016 yn gamp go drawiadol.
Y cyfan sydd angen
i Lafur ei wneud, mae arna i ofn, ydi dal ati fel erioed. Dydyn nhw heb addasu
am na fu’n rhaid addasu. Efallai mai’r hyn y dylai’r pleidiau eraill ei wneud
mewn etholiadau, o ran tactegau, ydi nid ceisio bod yn wahanol i Lafur, ond eu
hefelychu.
A fyddai dod eto’n brif wrthblaid gyda dim ond 12-13 sedd wir yn ddigon i gyfrif fel noson lwyddiannus, eto o ystyried hirhoedledd rheolaeth Llafur ar Gymru?
Wn i’n iawn y bydd llawer sy’n darllen hwn yn anghytuno â’m
hateb i hyn: na. Er, ymddengys fod digon o bleidwyr yn fodlon ar wneud dim ond
am ennill sedd a dod yn brif wrthblaid eto. Ta waeth, imi, mae ‘na dair cymhariaeth
ddifyr yn yr etholaethau i’w gwneud yma.
Blaenau Gwent oedd canlyniad rhyfeddaf y noson. Mae’n etholaeth
lle nad oes gan y Blaid fawr ddim trefniadaeth, dim hanes o lwyddiant a doedd
hi ddim ar y radar: mae’r pwynt olaf yn peri cwestiynau difyr ynddo’i hun. Cymharer
hynny â Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro – etholaeth lle mae gan y Blaid
drefniadaeth a lle lluchiwyd ymgyrchwyr ac adnoddau ati, dim ond i gael ei chanlyniad
gwaethaf erioed yno. Allai’r cyferbyniad ddim fod yn amlycach.
Roedd Gorllewin Caerdydd a Llanelli’n ddwy sedd debyg
mewn ffordd: trefniadaeth dda, hanes diweddar o lwyddiant, ymgeiswyr amlwg ac egnïol.
Daeth Neil McEvoy yn agos i gipio’r gyntaf, ond yn Llanelli cynyddodd mwyafrif
Llafur, a hynny er gwaetha’r ffaith fod deiliad y sedd, a gafodd bleidlais
bersonol gref, yn camu i lawr. Y gwahaniaeth ydi mai’r Blaid oedd y ffefrynnau
yn Llanelli, tra yng Nghaerdydd gobeithiol oeddent yn fwy na sicr o ennill.
Yn olaf, Rhondda a Chwm Cynon. Roedd cipio’r Rhondda’n
ganlyniad gwirioneddol wych i Blaid Cymru – efallai doedd hi mo’r ‘sioc’ y cred
rhai pobl yr oedd, ond ni waeth am hynny; roedd maint y fuddugoliaeth yn dyst i
boblogrwydd lleol Leanne Wood. Dwi’n dweud lleol achos drws nesaf yng Nghwm
Cynon cafodd y Blaid un o’i chanlyniadau gwaethaf. Os oes Leanne effect a oes unrhyw le y tu allan i’r Rhondda y dylid bod
wedi’i theimlo’n fwy?
Rhoddaf i mo fy nghasgliadau personol am y rhesymau dros
y cymariaethau gwrthgyferbyniol uchod, dim ond dweud bod angen i’r Blaid eu
hystyried.
Wrth gwrs, diwedd y gân i Blaid Cymru ydi mai un sedd
ychwanegol sydd ganddi, a chynyddodd ei phleidlais fawr ddim – 1.3% yn yr
etholaethau a 3.0% yn y rhanbarthau. Os ar ôl un o’i hymgyrchoedd gorau erioed,
maniffesto a ganmolwyd yn helaeth, a chydag arweinydd poblogaidd ac amlwg iawn,
fod hynny’n cyfrif fel llwyddiant, anodd ei gweld yn dod yn agos at fod yn brif
blaid Cymru fyth.
Fel gyda chynifer o etholiadau dros y blynyddoedd, roedd
hwn yn un anhrawiadol ar y cyfan i Blaid Cymru, gydag un llygedyn o obaith, y
tro hwn yn y Rhondda, yn ddigon i blastro’r craciau unwaith eto.
Sut ar ôl 17 mlynedd o Lafur, er gwaetha’r ffaith eu bod mewn llywodraeth yn San Steffan, y gall tindroi neu golli seddi gael ei ystyried yn ganlyniad da i'r brif wrthblaid?
Wel – ateb syml, roedd hwn yn ganlyniad
gwael iawn i’r Ceidwadwyr. Roedd y gostyngiad yn eu pleidlais yn eithaf
sylweddol, ac er iddynt gadw eu seddi presennol yn ddidrafferth iawn, roedd eu
methiant i wneud cynnydd yn eu seddi targed yn fethiant llwyr. Dydi’r ffaith
fod yr wythnosau diwethaf wedi bod yn rhai cythreulig o anodd i’r blaid ar
lefel Brydeinig ddim yn cuddio’r ffaith nad ydi hi’n ddeufis ers iddynt
obeithio gwneud enillion lu yn y gogledd-ddwyrain, yn y Fro a Chaerdydd ac yng Ngŵyr.
Waeth i ni gofio o ddweud hynny, tydi’r
wythnosau diwethaf heb fod yr hawsaf i Lafur ychwaith.
Yn wir, methiant heb ronyn o gysur oedd methiant y
Ceidwadwyr, eithr efallai am y ffaith eu bod eto wedi ennill mwy o bleidleisiau
na Phlaid Cymru yn yr etholaethau. Ond efallai mai’r gwir plaen, diymadferth
iddyn nhw ydi eu bod nhw bob amser am wneud yn well mewn cyd-destun Prydeinig
nag un Cymreig a bod 2011, yn nhermau’r Cynulliad, wedi bod yn benllanw – anodd
eu gweld yn rhagori ar y 25% y cawsant bryd hynny.
Os bydd pethau cyn waethed â’r disgwyl, 1-2 sedd, oes unrhyw obaith iddyn nhw fod yn rhan bwysig o wleidyddiaeth Cymru eto?
Efallai bod hwn yn garedicach o gwestiwn na’r rhai uchod
mewn ffordd, achos mi ellir troi’r chwalfa hon yn llygedyn o obaith – o fod yn
greadigol. Does neb am ddadlau y bu hwn yn etholiad llwyddiannus i’r Dems
Rhydd; os rhywbeth roedd hi’n waeth nag y gobeithid.
Serch hynny, efallai bod y tactegau i’w mabwysiadu’n
cynnig rhywfaint o obaith. Ar yr ochr wael i bethau, dim ond mewn 4 etholaeth
maen nhw bellach yn berthnasol o gwbl; ond o anghofio am bobman arall a
chanolbwyntio’n llwyr ar y rheiny gallen nhw, efallai, eu hadfer eu hunain;
does yr un y tu hwnt i’w gafael wedi’r cwbl. A chollon nhw ddim llwyth o bleidleisiau, er wrth gwrs roedd
eu sefyllfa’n wan beth bynnag.
Er hynny, anodd gwybod yn union beth fydd union ffawd y
Dems Rhydd yng Nghymru. Yn sicr, mae pethau’n edrych yn ddu iawn, iawn arnyn
nhw. Anodd braidd ydi gweld erbyn hyn ba gyfraniad sydd ganddynt i’w wneud i
wleidyddiaeth Cymru. Yn reddfol, dwi’n teimlo y bydd pethau’n gwella iddynt,
ond rydyn ni’n sôn am gyfnod o ddau neu dri chylch etholiadol cyn i’r egino
hwnnw ddigwydd – a byddwn i ddim yn betio hyd yn oed ffeifar arno.
Waeth faint o seddi y byddan nhw’n eu hennill, ydyn nhw wir am allu cadw disgyblaeth a bod yr un faint o grŵp erbyn 2021?
Nodyn bach ar y canlyniad ei hun: roedd
ennill 7 sedd yn ganlyniad arbennig i UKIP, waeth o ba ongl edrychwch chi arni.
Er, dwi’n reddfol deimlo eu bod nhw wedi disgwyl gwneud yn well na’r 12.5% a’r
13.0% a gawsant o ran pleidleisiau – heb sôn am eu problem fythol o fod yn
unman agos at gipio etholaeth.
O ran y cwestiwn, wn i ddim a allwn i fod
wedi’i ofyn yn fwy amserol. Lai nag wythnos wedi’r blogiad hwnnw a’r etholiad
ac mae grŵp UKIP fel petaent yn chwalu
eu hunain yn rhacs yn barod.
Felly mae’r ateb yn syml. Dim ffiars o beryg.
Y Gwyrddion
Pryd ddaw hi’n amlwg i’r Gwyrddion – sydd eto’n debygol o ennill dim sedd – mai’r unig ffordd y byddan nhw o unrhyw bwys yng ngwleidyddiaeth Cymru ydi drwy fod yn blaid werdd sy’n gwbl annibynnol, fel yn yr Alban?
Dwi’n edifar hyd yn oed gofyn cwestiwn am y
Gwyrddion. Roedd eu canlyniad nhw’n wael i’r graddau nad oedden nhw’n haeddu
cwestiwn. Ni chawsant yr effaith leiaf yn yr etholaethau ac nid yn unig y collon
nhw dir ar y rhestri, ond daethent yn 7fed y tu ôl i blaid Abolish the Welsh Assembly – pwy bynnag ddiawl ydyn nhw.
Ta waeth, mae’n dangos y tu hwnt i amheuaeth
amherthnasedd y blaid Werdd yng Nghymru; mae’n cyfiawnhau’n llwyr barn y sawl
ohonom fynegodd cyn yr etholiad nad oedd unrhyw reswm eu cynnwys yn y dadleuon.
Nid yn unig nad ydi’r Gwyrddion yn berthnasol yng Nghymru, dwi’n synhwyro nad
oes ganddyn nhw fawr o ots am hynny chwaith, sy’n golygu dim plaid werdd
Gymreig, a dim newid yn eu ffortiwn etholiadol yma.