Y mae rhai pobl yn
ysgrifennu fel math o gatharsis. Dydw i ddim yn meddwl imi erioed â gwneud
hynny, heblaw pan fydda i’n flin, fel arfer ar Blaid Cymru neu’n ddiweddarach,
efallai i chi sylwi, ar Awstria-ffycffês-Hwngari.
Ac, am ba reswm bynnag, dwi’n rhywun sy’n cadw ei feddyliau a’i wendidau mor
gudd ag y gall rhag pawb eithr ei ddetholedigion. Mae’n gas gen i bobl yn ‘siarad
yn agored’ am bob blydi dim; mae angen i bobl ddallt bod hynny weithiau’n
wrthgynhyrchiol – heb sôn am droëdig. Swni’n dadlau bod dyfalbarhad yn well na
hunan-dosturi a chwyno wrth bawb am ba mor galed ydi popeth i chi.
Ac eto, mae’n
anodd gen i esbonio pam arall y byddwn i yma’n ysgrifennu hyn. Dydw i ddim yn siŵr
fy hun.
Digwyddasai gwraidd
y peth rai misoedd yn ôl pan ges i adwaith alergol difrifol un noson. Mae gen i
alergedd i bysgod cregyn – mae’n ddatblygiad go newydd dros y ddwy flynedd
ddiwethaf, os hynny, ac yn achosi cryn loes imi oherwydd fy mod i wir yn caru
pysgod cregyn. Roeddwn i wedi f’argyhoeddi fy hun y noson honno mai yn fy mhen
oedd y cyfan ac fy mod i yn fy meddwod y noson gynt wedi bwyta corgimwch ac fy
mod i’n iawn.
Ugain munud ar ôl
trio cimwch fy chwaer (mae hwnna’n swnio’n rong) roeddwn i ar gadair masáj yng
Nghanolfan Red Dragon, yn methu â symud na siarad ac yn crynu’n drybeilig. Ddaeth
neb i fy helpu, o bosib yn meddwl fy mod i’n crynu achos fy mod i ar gadair
masáj, a lwcus bod y chwaer yno a bod ganddi brofiad o ddelio â sefyllfaoedd tebyg.
Doeddwn i methu symud fy mreichiau a oedd y gwbl stiff wrth f’ochr – yn eironig
ddigon yn siâp cimwch. Hyd yn oed o ran anaphylactic
shock, roedd hwn yn un go ysblennydd. Ond goroesais hen brofiad cwbl
annifyr nad ydw i eisiau ei gael byth eto, er bod Alan Llwyd bellach yn gwybod
fy ngwendid ac mae’n siŵr ei fod rŵan yn benderfynol o ddial (tasai o’n fyw).
Nid ers y noson
honno y bûm yr un fath cweit. Mi sbardunodd ynof rywbeth. Mi ddatblygais yn ei
sgîl rywbeth dwi’n amharod i’w alw’n anhwylder, ond yn sicr mae’n chwinc, a
hynny o bryder. Dros y misoedd diwethaf dwi wedi cael pyliau lu ohono, yn para
weithiau ryw 20 munud i ddyddiau o anesmwythder llai ond cyson.
Nid rhywbeth yn y meddwl
ydi o’n gyfan gwbl, yn wahanol i’r gred, er pan mae o’n cael ei effaith
ddieflig mae’n chwarae efo hwnnw hefyd, yn bennaf yn f’argyhoeddi fod fy
nghorff i am fynd yn gwbl stiff ac, yn rhyfeddaf oll, fod fy safn am gloi. Bydd
rhywun yn teimlo’n llewyg, isio denig, yn cael trafferth ynganu ac yn anadlu’n wael;
bydda i hefyd yn teimlo fy mraich chwith yn mynd yn ddideimlad a rhannau o’m
corff, fy ngwddw, fy safn a’m cefn gan mwya yn sbazio (fedra i’m meddwl am air
callach i’w ddisgrifio). Weithiau fydda i jyst yn crynu’n wirion fel deilen
betrus olaf coeden, heb deimlo’n erchyll o wael ac yn gallu ymdopi.
Yn gryno, dwi’n
cau lawr yn systematig am gyfnod.
Dros y misoedd
diwethaf dwi wedi gorfod gadael bwytai ynghanol pryd (boed am awyr iach, distawrwydd neu
jyst gadael yn llwyr) yn llwyr feddwl fy mod i wedi bwyta rhywbeth sydd am fy
lladd, gadael y dafarn neu eistedd yno efo fy hwd drosof, gofyn am lecyn distaw
mewn parti tŷ, wedi gadael y gwaith mewn blydi ambiwlans yn meddwl bod rhywbeth
mawr yn bod, cael cyfnodau byr i ffwrdd o'r gwaith, a’r gwaethaf o bosibl cael pyliau adref ben fy hun sydd wedi
arwain at yr ysbyty un neu ddau o weithiau hefyd (er ddim bob tro’n ddi-sail). Weithiau
maen nhw’n digwydd pan dwi’n hungover, yn aml pan dwi’n flinedig, weithiau pan
dwi’n ddigon sionc ac yn mwynhau bywyd.
Yn wir, roedd yna
adeg ddiwedd y llynedd lle’r o’n i wedi laru’n ofnadwy ar yr holl beth, ac yn
cerdded bobman yn ofalus ac amwni’n amheus, fel rhyw gath sy’n cael ei
hambygio. Ac er imi gael diagnosis o bethau gwahanol – hyperventilation ac, yn ddigon rhyfedd, bod yna grydcymalau yn fy
ngwddf i (dwi’n ffycin thyrti) leddfodd
yr un ddim ar y pyliau o bryder a phanig. Mae pyliau o bryder a phyliau o banig
yn eithaf tebyg i’w gilydd yn y bôn, ond yn wahanol i’m natur dwi’m yn
gwahaniaethu rhyngddynt ac wedi cael y ddau. Profiad bywyd de?
Ta waeth. Y mae
pryder yn beth annifyr tu hwnt, ac efallai’n gwbl amhosibl i gael rhywun nad sy’n
dioddef ohono i’w ddallt, ond yn aml nid yw’n fwy na chyfnod mewn bywyd, ac er
fy mod i’n cael pwl gwirion bob hyn a hyn – yr un gwaethaf diweddaraf yn Yr Hen
Lyfrgell lle bu’n rhaid i’m cydweithiwr fwy na heb fy nghario i allan – dwi’n well
nag yr oeddwn i rai misoedd yn ôl, lle o’n i’n meddwl ar adegau bod y byd ar
ben ac yn mynd ddyddiau’n gwbl anesmwyth ac yn argyhoeddedig mai fel ’na fyddwn
i am byth bythoedd. A ddim yn siŵr at bwy i droi ychwaith.
Hwnna oedd y peth
anoddaf – nid ddim gwybod at bwy i droi ond y newid dros nos deimlais i. O fynd
o fod yn hogyn (Hogyn o Rachub de
latsh?) hynod o fodlon, yn wir eithriadol o hapus efo bywyd a’i bethau ar y
cyfan a jyst yn mwynhau’n gyffredinol, i fod yn rhywun yr oedd mynd i’r pyb neu
am fwyd, am gyfnod o ddeufis eniwe, fel petai o’r peth anoddaf, mwyaf argoelus
yn y byd. Am wn i dwi’n ffodus fy mod i’n styfnig ar y diawl, achos ar y cyfan
mi orfodais fy hun i fynd a dal gwneud pethau a dwi’n meddwl, rywsut, fod hynny
wedi fy helpu i ddod dros y gwaethaf. Dwi’n eithaf ffodus hefyd fod gen i
synnwyr digrifwch (swreal) – mae adrodd wrth fy hun ac eraill fy mod i’n mynd yn mental neu’n boncyrs wedi ysgafnhau’r cyfan yn fawr; mae’n rhoi rhyw fath o
gydnabyddiaeth i’r cont peth heb roi iddo sylw gormodol, gan ei gadw ar yr
ymylon.
Wn i ddim a ydw i
cweit fy hun eto, neu a ydw i’n ymddangos i eraill yn cweit fy hun. Ond dwi ond
drwch blewyn o fod erbyn hyn.
Flynyddoedd yn ôl,
dywedodd fy ffrind Lowri Llew wrtha i tasa gen i enw Cymraeg mae’n siŵr na ‘Pryderi’
fyddai o. Ar ôl y misoedd diwethaf dwi’n eithaf hapus nad dyna fy enw, achos mi wn i
y byddai pawb yn galw Pryderi Pryderus arnaf, ac erbyn hyn byddwn i’n gaeth i’r
tŷ. Fel lwmp o gachu mewn toiled.
martedì, marzo 29, 2016
mercoledì, marzo 23, 2016
Mynd am dro
Mynd am dro. Fydda
i’n hoff o fynd am dro pan fydda i adref. Ddim yng Nghaerdydd – os y’ch magwyd chi
ar lethrau Moel Faban does gan unrhyw ddinas rywbeth call i’w gynnig wrth fynd
am dro. Waeth pa mor ddistaw y llecyn gwyddoch nad ydi o ond yn ynys fach dawel
ynghanol môr o brysurdeb. Gwell gen i’r llecynnau prysur yn ildio’u lle i’r
tawelwch mawr.
Fedra i ddim esbonio ag unrhyw eiriau digonol y newid ynof pan fydda i’n llusgo ‘nhraed ar hyd lannau’r afonydd neu ar y llwybrau defaid, boed yn gwrando ar chwyrlïo cyson y dŵr neu weryru pell y merlod gwylltion gwydn ar y gorwel. Theimla i ddim rhyfeddod – dydi hynny ddim yn fy natur. Fi ydi’r unig berson y gwn amdano nad yw’n teimlo rhyfeddod; fydda i’n meddwl weithiau sut deimlad ydi o. Fedra i syllu ar y sêr am oriau – yn wir, nid oes yn y ddinas unrhyw beth sy’n fy nhristau mwy na’r diffyg sêr na all unrhyw olau stryd ei lenwi – a gwenu gyda nhw, ond mae rhyfeddod y tu hwnt imi. Efallai fi sy’n ddyn hurt. Dyna’r ateb symlaf, callaf.
Ond yng nghwmni’r eithin dwi’n ddyn gwahanol. Wn i ddim p’un ai ydi’r caerau bychain pigog hynny’n fy ngwaredu rhag fy nghythreuliaid a’m gofidion, neu a ydi sglein yr haul dros y môr mawr yn fy llonni mwy nag yr ydw i erioed wedi ei ddeall. Y mae mudandod y llwybrau tan y coed ac ar lethrau’r foel rywsut y tawelu pob llais ac yn tawelu fy meddwl; nid oes ynddynt edifarhau am unrhyw beth a wnaed nac arswydo am yr hyn a ddaw. Nid oes ynddynt ond yr hyn sydd ac mae'n llon ac yn hyfryd. Y mae’n fudandod cyfeillgar, anwesog ac yn un y bydda i’n ysu amdano, ac yn ei angen, i wella fy hun rhagof fy hun. I ymdoddi’n ddim gyda’r llechi sbâr a’r waliau cerrig i gefndir bywyd, lle mae plethwaith y dyffryn rywsut yn cynnig ateb heb iddo ymholiad.
Dwi am fynd am dro.

mercoledì, marzo 16, 2016
Yn ôl at Fenis
Mi soniais dros y Nadolig,
os gwelsoch chi’r blogiad, am y pum
ymerodraeth fwyaf shit erioed. Mae gen i serch hynny ymerodraethau dwi’n eu
hoffi’n fawr. Dwi’n eithaf ffan o Bysantiwm ac Ymerodraeth Awstria (goeliwch
chi fyth – gen i broblem fawr efo Hwngari mae’n rhaid), a dwi'n cael blas ar Assyria, ond mae fy sylw
diweddar wedi’i hoelio ar rywle go wahanol ac anamlwg.
Fenis ydi’r wladwriaeth honno. Mae fy edmygedd i at y Fenis a fu yn fawr. Ni fu o bosibl unrhyw genedl â feistrolai’r grefft o wladweinyddiaeth yn well, nac mewn ffordd fwy doeth a chyfrwys na Fenis, ac mi oroesodd am hirach na chynifer o’i gelynion a’i chystadleuwyr am dros fil o flynyddoedd gan hynny. Drwy hynny troesant forlyn anwadal ac anghroesawgar yn un o wledydd pwysicaf, godidociaf, cyfoethocaf a mwyaf sefydlog Ewrop. Chymerodd hi neb llai na Napoleon – efallai’r cadfridog disgleiriaf yn y Gorllewin ers yr henfyd - i’w trechu yn y pen draw.
Hyd heddiw, mae Fenis yn ddinas y mae’n rhaid i rywun fynd iddi. Mae ‘na rywbeth am y lle sy’n ennyn rhyw ramant a rhyfeddod fel bron unman arall. Fues i yno ddwy flynedd yn ôl fy hun ac mae'r lle'n swynol. Ond dan yr wyneb mae ‘na bethau eraill yn digwydd yno.
Ddwy flynedd yn ôl, mi flogiais am Fenis. Roedd hynny cyn refferendwm yr Alban, a daroganais bryd hynny mai Fenis o bosibl fydd gwladwriaeth annibynnol nesaf Ewrop, neu efallai’n fwy cywir, y genedl nesaf i ddeffro o’i thrwmgwsg. Gyda’r grymoedd o blaid annibyniaeth yn yr Alban wedi’u trechu dros dro, a fawr ddim symud yng Nghatalonia na Gwlad y Basg mewn difrif, heb sôn am Fflandrys, mae’n rhyfeddol imi nad ydi Fenis yn cael yr un sylw.
Y mae’r dudalen Wikipedia ar refferendwm annibyniaeth Fenis yn un ddifyr i’w darllen, er y soniais am hynny yn y blogiad yn 2014. Ers hynny, mae’n ymddangos nad ydi’r awydd dros annibyniaeth yno wedi dirywio fawr ddim, os o gwbl. Y mae polau ers hynny wedi dangos yn gyson bod mwyafrif pobl Fenis yn ffafrio annibyniaeth – yn y pôl diweddaraf y gwn i amdano ym mis Mawrth 2015, roedd y ffigur yn 57%. Fedra i ddim meddwl am unrhyw le yn Ewrop benbaladr lle mae'r awydd dros dorri'r rhydd o'r wladwriaeth ganolog yn gryfach.
Ond mae’r sefyllfa yn un ddigon rhyfedd. Mae o bosibl fwy o bleidiau o blaid annibyniaeth yn Fenis nag yn unrhyw ‘ranbarth’ tebyg yn Ewrop gyfan – mae o leiaf bump. Yn wir, yn y Cyngor Rhanbarthol (eu cynulliad nhw) mae pleidiau cenedlaetholgar, i raddau gwahanol i’w gilydd, yn dal 32 o’r 51 sedd, gydag arlywyddion o naws genedlaetholgar yn dal arlywyddiaeth y rhanbarth yn nhri o’r pedwar etholiad diweddaraf, gyda Luca Zaia, yr arlywydd cyfredol, yn datgan ei gefnogaeth i annibyniaeth ar sawl achlysur. Mae hynny’n sefyllfa gryfach na chenedlaetholwyr Catalwnia neu Wlad y Basg.
Mae yno hyd yn oed hanes o bobl yn defnyddio dulliau terfysgol i ddod ag annibyniaeth gam yn nes – carcharwyd y rhai diweddaraf a gyhuddwyd o hyn yn 2014.

Dydi Llywodraeth
yr Eidal ddim yn ddall i’r hyn sy’n digwydd yno, ac wedi datgan bod cynnal
refferendwm swyddogol ar annibyniaeth yn mynd yn groes i gyfansoddiad yr Eidal.
Ond eto, all rhywun ddim gweld llywodraeth flêr yr Eidal wir yn mynd i’r afael
â’r peth yn yr un modd â Sbaen neu hyd yn oed y Deyrnas Unedig petai’r ymgyrch, neu ymdeimlad efallai sy'n air mwy priodol, dros annibyniaeth yn cryfhau
ymhellach. Dydi’r syniad o genedl Eidalaidd byth wedi ymsefydlu’n gryf iawn ar y pentir esgidiog; hawdd byddai ei datgymalu.
Problem Fenis, hyd
y gwelaf i, ydi un o’r nodweddion hynny sy’n diffinio holl drigolion yr Eidal, er na fu hi erioed yn nodwedd gan Fenis yn hanesyddol –
er eu bod nhw’n coelio mewn rhywbeth, maen nhw’n eithaf diymdrech wrth geisio cyflawni
unrhyw beth. A does erioed wedi bod un ymgyrch benodol, unedig dros annibyniaeth, am ba reswm bynnag. Yn wahanol i genedlaetholdeb yn yr Alban neu Gatalwnia, sydd wedi
ffrwydro dros y blynyddoedd diwethaf, ffrwtian y mae cenedlaetholdeb Fenetaidd ers iddi golli ei hannibyniaeth ddwy ganrif yn ôl. Ond bosib bod hynny’n rhoi
iddi seiliau mwy gwydn yn yr hirdymor. Mater o amser ydi hi, mae’n siŵr, nes i’r
grymoedd uno a bod cenedlaetholdeb yn Fenis yn cael sylw dyledus.
Ddywedais i ddwy
flynedd yn ôl mai Fenis fydd gwladwriaeth annibynnol nesaf Ewrop. Ddyweda i
fawr fwy na hynny oherwydd dwi ddim isio ailadrodd. Ond os ydi’r Fenetiaid yn
cael eu shit at ei gilydd – yn adalw
rywsut ronyn o gyfrwyster a chrebwyll anhygoel eu cyndeidiau – Fenis fydd o
hyd gwladwriaeth nesaf Ewrop, ac mae hynny’n ddiamheuaeth.
mercoledì, febbraio 10, 2016
Cachfa ddiweddaraf Plaid Cymru
Digon hawdd, mae’n
siŵr, wrth ddarllen blog dwi’n ei ysgrifennu am ffolinebau Plaid Cymru feddwl
mai’r bwriad ydi ei thanseilio neu ymosod arni. Ond ni fu hynny erioed, nid
unwaith, yn fwriad – hyd yn oed petai pawb mwy na bron neb yn darllen. Yn hytrach
mae’r blogiau hynny’n gri o rwystredigaeth lwyr â phlaid wleidyddol sydd,
ysywaeth, yn edrych yn gynyddol hurt ac amherthnasol.
Os ydych chi’n darllen hwn mi dybiaf i chi ddarllen am fwriad diweddaraf gwallgof y Blaid i geisio sefydlu rhyw fath o gytundeb â’r Gwyrddion a’r Democratiaid Rhyddfrydol cyn etholiad mis Mai – cynllun na ddylai erioed wedi cael ei ystyried heb sôn am fynd i ddwylo’r cyfryngau. A dyma pam fy mod i yma’n egluro pam fod y syniad nid yn unig yn un hurt, ond yn dangos diffyg crebwyll gwleidyddol o’r math mwyaf annealladwy o du’r sawl a feddyliodd amdano.
Cyflwr y pleidiau

Mae rhai, fel Adam
Price, wastad wedi sôn am yr angen i sefydlu rhyw fath o gynghrair wrth-Lafur
yng Nghymru. Yn gyffredinol dydi hynny ddim yn syniad drwg. Y broblem ydi dydi’r
sefyllfa wleidyddol bresennol yn gwbl, gwbl amlwg ddim yn caniatáu hynny (onid yw'n cynnwys y Ceidwadwyr, ac mae hynny'n flogiad arall). Mae’r
Gwyrddion yn boenus o amherthnasol yng ngwleidyddiaeth Cymru. Eu canlyniadau
diweddaraf yng Nghymru oedd 2.6% y llynedd yn yr etholiad cyffredinol, 4.5% yn
etholiadau Ewrop yn 2014 a 3.4% yn etholiadau’r Cynulliad yn 2011. Mae hynny
heb drafod y ffaith nad oes ganddyn nhw hyd yn oed gynghorydd yma.
O ran y
Democratiaid Rhyddfrydol, mae’n debycach y cawn nhw 0 sedd eleni na 2 – sef y
mwyaf y maen nhw’n debygol o’i gael. Yn gryno, ar ôl eleni bydd y Democratiaid
Rhyddfrydol hwythau yr un mor amherthnasol i wleidyddiaeth Cymru â’r Gwyrddion.
A hyd yn oed os
ydi’r ddwy blaid yn cyrraedd y Cynulliad y flwyddyn nesaf, y sefyllfa orau i’r
ddwy fyddai dwy sedd yr un. I roi hynny’n ei gyd-destun mae angen 5 sedd ar blaid i
ffurfio plaid seneddol yn y Cynulliad. ‘Eraill’ ydyn nhw fel arall. Rhaid bod yn onest hefyd, mae Plaid Cymru'n annhebygol o gyflawni unrhyw beth o bwys ar Fai'r 6ed.
Egwyddor y peth a natur pleidlais y Blaid
Does gen i ddim
gronyn o wrthwynebiad i bleidiau’n dod i gytundeb â’i gilydd i beidio â chystadlu
yn erbyn ei gilydd cyn etholiad. Mae pwy maen nhw’n gwneud hynny â nhw’n fater
arall.
Dwi wedi blogio
o’r blaen am y Gwyrddion – pan geisiwyd dod i ryw fath o gytundeb od â nhw
yn 2015. Roedd y peth yn warth. O holl bleidiau Cymru, y Gwyrddion ydi’r
Seisnicaf ei naws a dydyn nhw erioed wedi dangos mymryn o frwdfrydedd dros
ddatganoli, yr iaith Gymraeg na Chymru fel cenedl. Dylai hynny ynddo’i hun eu
gwneud yn wrthun i blaid genedlaetholgar honedig. Yn anffodus, yr hyn a ddengys
y ffaith i hyn gael ei ystyried ydi bod cenedlaetholdeb, heb ronyn o amheuaeth
bellach, yn ail yn rhestr blaenoriaethau Plaid Cymru y tu ôl i syniadaeth
wleidyddol asgell chwith leiafrifol, gyfyngedig.
Yr hyn a ddengys
hynny ydi, fel dwi hefyd wedi dweud o’r blaid, anallu neu amharodrwydd mawrion
y Blaid i gydnabod ... adnabod hyd yn oed ... natur ei phleidlais hi. Mae o’n
dorcalonnus ... o dwp, ac yn drewi o gyfforddusrwydd anhaeddiannol â'i sefyllfa. Unig pwynt gwerthu unigryw Plaid Cymru ydi ei chenedlaetholdeb. Yn
hytrach mae hi’n mynd o’i ffordd i geisio apelio at lefftis, lleiafrifoedd a
hipis a hynny oll drwy fod yn ofalus iawn peidio ag ypsetio Saeson. Y bleidlais
sydd yno i’w hennill – os caf i fod yn blaen – ydi’r dosbarth gweithiol Cymraeg.
Nhw ydi’r mwyafrif, a dydyn nhw ddim yn licio Llafur ddim mwy.
Y fathemateg etholiadol
Dylai hwn fod yn
amlwg, ond yn amlwg dydi o ddim. Byddai pact o’r fath ddim yn dod yn agos at yr
18-22 sedd a grybwyllwyd. Mae hynny’n deillio o amhoblogrwydd y Democratiaid
Rhyddfrydol, amherthnasedd y Gwyrddion yng Nghymru ac anallu cyson Plaid Cymru i
ennill y seddi sydd eu hangen arni. Mae’r tri pheth hynny’n wir eleni. A hyd yn
oed petai modd cyrraedd 18 sedd, fel lleiafswm, mae problem fwy craidd...
Y strategaeth etholiadol
Dylai hwn fod wedi
bod yn boenus o amlwg cyn hyd yn oed meddwl am geisio trafodaethau. Sut yn
union y byddai’n gweithio? Iawn, mi fedra i werthfawrogi y gallai weithio i raddau
yn yr etholaethau (ond, cym off it, y
Dems Rhydd a’r Gwyrddion yn cytuno i beidio â sefyll yng Ngheredigion?) ond
does yna ddim hyd yn oed mymryn o gyfle o gael cytundeb yn y rhanbarthau, sef y
lle mwyaf addas i gael cytundeb. Fyddai Leanne Wood yn fodlon ildio i’r
Gwyrddion ranbarth Canol De Cymru, er enghraifft? A fyddai’r Democratiaid
Rhyddfrydol yn fodlon ildio’r Canolbarth i’r Blaid neu'r Gwyrddion o ystyried
eu bod nhw’n wynebu colli pob etholaeth?
Ond dywedwn ni fod
hynny, drwy ledrith yn cael ei gytuno
arno, mae problem sydd hyn yn oed yn fwy craidd...
Trosglwyddo pleidleisiau
I gael unrhyw
gyfle o lwyddo byddai angen i’r pleidiau oll ddarbwyllo eu pleidleiswyr nhw
fwrw pleidlais dros blaid arall. A hefyd, byddai angen iddyn nhw gynyddu eu pleidlais oddi ar yr etholiad diwethaf. Mae hynny’n mynd â fi’n ôl at y pwynt uchod –
diffyg dealltwriaeth o natur cefnogwyr nid yn unig y Blaid, ond y ddwy blaid arall hefyd.
Gymerwn ni
Gaerffili ac Islwyn, sydd yn rhanbarth de-ddwyrain Cymru lle mae Plaid Cymru’n
tueddu i wneud yn gymharol dda. A fyddai’r rhai sy’n pleidleisio i’r Blaid yno’n
gallu cael eu darbwyllo gan Blaid Cymru i bleidleisio i’r Gwyrddion ar y
rhestr, er enghraifft? Na – does yn yr ardaloedd hynny ddim mo demograffeg
pleidleiswyr y Gwyrddion. A fyddan nhw’n cael eu darbwyllo i roi fôt i’r
Democratiaid Rhyddfrydol a glymbleidiodd â’r Ceidwadwyr? Wrth gwrs ddim.
A fyddai pleidleiswyr
y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Canolbarth yn gallu cael eu darbwyllo i
bleidleisio dros Blaid Cymru, neu Wyrddion y Gogledd drosti? Na – dydi'r rhai fyddai'n pleidleisio drostynt ddim yn agored i hynny o'u hanfod. Y mae’r holl beth mor
rhyfeddol o amlwg o amhosibl dwi bron â sgrechian. Dydi pleidleiswyr Plaid Cymru
ddim o reidrwydd yn amgylcheddwyr nac yn rhyddfrydwyr. A dweud y gwir, byddwn i’n
dadlau bod y rhan fwyaf helaeth o’i phleidleiswyr y naill na’r llall.
O, ac un pwynt
arall.
Rhyddhau’r stori i’r cyfryngau
Wn i ddim o ba
ffynhonnell y daethai hyn. Mae fy ngreddf yn dweud – o ddarllen ambell beth ar
Twitter – o du Plaid Cymru. Ni allaf ond â mynegi hyn: os dyna’r achos, mae’r
ffynhonnell yn haeddu cael ei ysbaddu’n gyhoeddus. Am beth mor rhyfeddol, mor
wirioneddol dwp i’w wneud. Mae’n embaras llwyr. Mae’n berffaith amlwg fod y
Dems Rhydd – y nhw sy’n wynebu colli pob sedd sydd ganddynt – wedi tynnu allan
o’r darpar gytundeb cyn unrhyw un arall. Dydyn nhw sy’n
wynebu colli pob sedd, sydd mewn sefyllfa gwbl anobeithiol, ddim yn fodlon
rhoi cynnig ar hyn. Achos yn y bôn, dydi hyn ddim yn effeithio ar y Dems Rhydd
na’r Gwyrddion. Debyg na chaiff fawr o effaith ar bleidlais y Blaid ar ddiwrnod
yr etholiad, does bron dim yng Nghymru’n cael effaith ar ddim gwaetha’r modd, ond
i’r rhai sy’n ymddiddori mewn gwleidyddiaeth maen nhw’n edrych yn dwp.
Ylwch, rhowch y
peth fel hyn. Mae’n siŵr bod y syniad ddaeth i’r amlwg heddiw wedi cael ei
ferwi dros gyfnod a chyda brwdfrydedd. Dydw i ddim yn un i ganu fy nghlodydd fy
hun – wir, dwi ddim – ond mae o wedi cymryd llai nag awr i fi, nad ydw i'n fwy na thipyn cyfieithydd sydd erioed wedi gweithio yn y byd gwleidyddol mewn unrhyw ffordd, rwygo’r peth yn
rhacs yn y blogiad hwn. Fyddwn i’n gallu dweud mwy, ond mae awr yn ddigon i
dreulio ar y gachfa ddiweddaraf ‘ma o du ein plaid genedlaethol ddi-glem.
***
Ac un gair i gloi, rhag ofn i ryw smartarse droi fyny â chwyno fy mod i'n cwyno am Blaid Cymru ond yn gwneud dim fy hun. Dwi ddim yn aelod o blaid. Pleidleisiwr ydw i: nid mwy na llai. Nid fy nyletswydd i - nid fymryn - ydi dewis plaid wleidyddol na chyfrannu ati. Dyletswydd plaid wleidyddol ydi fy narbwyllo i bleidleisio drosti efo'i syniadau a'i gweithredoedd. Ac ar y funud, dwi bron yn sicr pan ddaw hi at etholiad mis Mai, eistedd ar fy nhin a wna i drwy'r dydd a pheidio â bwrw pleidlais, achos bod holl bleidiau ein gwlad ar hyn o bryd yn gawod o gachu pur. Iawn ydi meddwl yn ddwfn am syniadau , "datrysiadau", hefyd, ond pan maen nhw'n syniadau shit peidiwch â ffycin pwdu bod rhywun yn pwyntio'r peth allan. Rhowch hwnnw yn eich ffycin cetyn a'i smocio.
martedì, febbraio 02, 2016
Iowa
Bron tri mis yn ôl, ysgrifennais am y frwydr yn rhengoedd
y Gweriniaethwyr, a’r ffaith fy mod i o farn waeth pwy fydd yn ennill yr
enwebiad, fy mod i o’r farn fod mantais ganddynt yn yr etholiad arlywyddol
waeth pwy fydd yn ennill. Yn y blogiad hwnnw, dywedais mai’r bet call am yr
enwebiad oedd TCR (Trump, Carson, Rubio). Ar ôl profi bod hyn yn oed
llawfeddygon yn gallu bod yn rhyfeddol o wirion, ma Carson bellach yn hen
hanes, sydd wir yn dangos anwadalwch gwleidyddiaeth. Ond ddaeth ‘na ‘C’ arall
yn ei le, sef yr erchyll Ted Cruz. Felly o’n i bron yn iawn.
Y peth na soniais amdano bryd hynny oedd ras y Democratiaid. Eto, gan ddangos anwadalwch gwleidyddiaeth, mae’r ras honno bellach yn un ddifyrrach o lawer nag ymddangosai ar yr olwg gyntaf.
Y Llwybr i Ennill
Ma’n werth cyn bwrw ymlaen ystyried hyn – cyn 14 Mawrth mae’r cynadleddwyr yn tueddu i gael eu dyrannu drwy system led-gyfrannol. Ar ôl hynny mae mwy o daleithiau â system lwyr neu rannol winner-takes-all, lle bydd yr enillydd yn hawlio’r holl gynadleddwyr os enillan nhw’r bleidlais. Mae’r rhain yn cynnwys taleithiau mawr fel Florida, Illinois, Ohio, Efrog Newydd a’r fwyaf oll, Califfornia.
Y peth na soniais amdano bryd hynny oedd ras y Democratiaid. Eto, gan ddangos anwadalwch gwleidyddiaeth, mae’r ras honno bellach yn un ddifyrrach o lawer nag ymddangosai ar yr olwg gyntaf.
P’un bynnag, erbyn hyn mae’r cymal cyntaf drosodd –
cawcus Iowa. Dyma ambell sylw brysiog am y canlyniadau o’r ddwy ochr i’r ffens
wleidyddol.
Y Llwybr i Ennill
Ma’n werth cyn bwrw ymlaen ystyried hyn – cyn 14 Mawrth mae’r cynadleddwyr yn tueddu i gael eu dyrannu drwy system led-gyfrannol. Ar ôl hynny mae mwy o daleithiau â system lwyr neu rannol winner-takes-all, lle bydd yr enillydd yn hawlio’r holl gynadleddwyr os enillan nhw’r bleidlais. Mae’r rhain yn cynnwys taleithiau mawr fel Florida, Illinois, Ohio, Efrog Newydd a’r fwyaf oll, Califfornia.
Y mae’n system fwy cymhleth na hynny ac mae gwahaniaethau
rhwng y rhai Democrataidd a Gweriniaethol. Cyrraedd y pwynt hwnnw ydi’r nod i
nifer fawr o’r ymgeiswyr.
Y Gweriniaethwyr
Fydd canlyniad Iowa yn y pen draw ddim yn un enfawr, ond
ar ei ôl mae ‘na lu o ymgeiswyr sydd yn edrych fel petaen nhw allan ohoni erbyn
hyn waeth beth fydd yn digwydd wythnos nesaf yn New Hampshire. Anodd gweld
trywydd i’r enwebiad bellach i Jeb Bush, Chris Christie, Ben Carson a John Kasich ynghyd â’r mân ymgeiswyr eraill. Mater
o leihau’r gorlan ydi Iowa a NH.
O ran Trump, roedd Iowa’n dangos bod troi anfodlonrwydd
yn bleidleisiau’n beth anodd. Roedd pethau wastad am fod yn lled agos yn Iowa
ond roedd methiant Trump i gael ei bleidleiswyr allan yn sylweddol – roedd ei
berfformiad o’n waeth na’r margin of
error (ac mae hwnna’n gallu bod yn fawr mewn nifer o bolau Americanaidd).
Serch hynny, mae hi ymhell o fod drosodd iddo gan nad Iowa oedd y tir
ffrwythlonaf iddo. Nesaf daw NH a De Carolina – dwy dalaith y mae Trump
ymhellach o lawer ar y blaen ynddynt. Ond gyda’r gwynt wedi’i daro o’i hwyliau
rhyw fymryn, a’i anallu i gael pawb sy’n ei gefnogi i bleidleisio, mae’n siŵr fydd
pethau’n agosach na’r disgwyl. Byddwn i ddim serch hynny’n ei ddiystyru. Pwy all
wir ei weld yn ildio? Na, mae Trump isio mynd yr holl ffordd, ac os bydd o’n
methu ag ennill yr enwebiad fydd o’n siŵr o lusgo pawb arall i lawr efo fo’n
fwriadol.
Ar y llaw arall roedd Iowa’n ganlyniad mawr i Cruz – sydd
yn fy marn i yr ymgeisydd ffieiddiaf o’r cyfan, ond mi roddaf fy marn i’r naill
ochr yn y darn hwn. Y cyfan sydd angen iddo ei wneud ydi aros y tri uchaf tan Ddydd
Gŵyl Dewi pan fydd llu o daleithiau’n pleidleisio, llawer iawn ohonynt yn y de
lle mae ei gefnogaeth gryfaf, gan gynnwys Texas a Georgia. Os gall Cruz o leiaf
ennill mewn llu o’r taleithiau hyn bryd hynny, mae o mewn sefyllfa gref iawn,
hyd yn oed os yw ei apêl gyffredinol yn gyfyngedig.
Rubio, ar y llaw arall, ydi’r boi i’w wylio bellach.
Gwnaeth o’n well na’r disgwyl o gryn ffordd. Ond dydi’r ffordd ddim yn hollol
glir iddo yntau chwaith. Mae llawer iddo fo’n dibynnu ar ymgeiswyr eraill yn
tynnu allan, a po gyntaf y gorau. Gellir disgwyl i raddau i bleidleiswyr mwy
prif ffrwd ddechrau dod ato, er bod hynny’n sefyllfa ryfedd ynddi ei hun. Dydi Rubio
ddim yn ymgeisydd cymedrol yn y lleiaf. Hefyd, rhaid cofio, mae o dal y tu ôl i
Trump a Cruz yn y rhan fwyaf o’r polau, ac o ystyried pa mor ddiawledig mae’r
ymgeiswyr gwirioneddol gymedrol yn ei wneud, mae modd dadlau nad oes gormod o
bleidleisiau iddo eu hennill waeth faint ohonyn nhw sy’n tynnu allan. Bydd ei
dalaith o, Florida, yn un o’r taleithiau mawr sy’n winner-takes-all yn pleidleisio ar 15 Mawrth, yn dyngedfennol. Yn ôl
y polau oll mae o’n drydydd fanno hefyd, gyda llaw. Y gwir ydi, ar ôl New Hampshire
a De Carolina, dydi trydydd ddim yn mynd i fod yn ddigon da, rhaid iddo fo ddisodli
naill ai Cruz neu Trump yn y ddau uchaf.
Ar y cyfan, cadarnhaodd Iowa rywbeth sy’n amlwg yn y dŵr
yn rhengoedd y Gweriniaethwyr. Rydym ni yn Ewrop wedi gweld y Gweriniaethwyr
fel plaid eithafol erioed, ond mae ‘na elfennau cymedrol ynddi (mae’r
gwahaniaeth rhwng Clinton a Bush , er enghraifft, yn ddigon ansylweddol ar y
cyfan). Maen nhw wedi’u llwyr drechu yn yr etholiadau hyn; mae’r Gweriniaethwyr
yn fwy asgell dde nag y maen nhw erioed wedi bod. Mae’n anodd i rywun yr ochr
yma i’r Iwerydd mewn difri ddweud pa mor niweidiol, os o gwbl fydd hynny iddyn
nhw.
Hefyd, mae ‘na gyfle mawr iawn, iawn ar hyn o bryd y bydd
y Gweriniaethwyr mewn sefyllfa mewn rhai misoedd lle na fydd gan unrhyw un o’r
ymgeiswyr fwyafrif o gynadleddwyr i gipio’r enwebiad. I bob pwrpas bydd mawrion
y blaid yn gorfod dethol ymgeisydd os digwydd hynny. Rubio fyddai hynny heb os.
Ond mae sut y gallent ei ddewis gan hefyd gadw cefnogwyr Trump a Cruz yn fodlon
yn dasg amhosibl, yn enwedig os ydi o dal wedi dod yn drydydd.
Y Democratiaid
Hon oedd y stori, waeth be ddywed neb. Tan yn ddiweddar
iawn, iawn, roedd Hillary Clinton ymhell ar y blaen yn Iowa. O drwch blewyn
oedd hi’n fuddugol neithiwr. Rŵan, mae o hyd yn anodd gweld hi’n colli’r
enwebiad mewn difrif, ond mae’r ffaith bod Sanders nid ychydig fisoedd yn ôl
40% y tu ôl iddi yn y polau yno a bron â’i threchu neithiwr yn arwyddocaol. A
hon yw’r adeg berffaith i ddechrau ennill momentwm. Mae’r syniad mai fater o
goroni fyddai dewis Clinton wedi’i chwalu, ac mae hwnnw’n newid canfyddiad
pwysig. Y mae’n werth cofio hefyd bod Iowa ddim y math o le y byddai disgwyl i
Sanders wneud hyn dda, heb sôn am bron trechu Clinton yno.
Yn ôl y polau, mae Sanders ymhell iawn ar y blaen yn New
Hampshire. Mae’n anodd gweld ar ôl neithiwr hynny’n newid, ond fe allai o
bosibl leihau’r bwlch yn Ne Carolina (lle mae Clinton ymhell ar y blaen). Ond daw
Nevada cyn De Carolina, ac mae ambell sylwebydd wedi awgrymu eisoes y gallai
Sanders ennill yno. Mae’n sefyllfa od, ond gallai Sanders wneud y dda iawn yn y
taleithiau traddodiadol Democrataidd a Clinton ei ysgubo o’r neilltu yn y
taleithiau traddodiadol Gweriniaethol. Mae honno’n adrodd cyfrolau – dydi
rhaniadau’r blaid Ddemocrataidd ddim mor amlwg na chas â rhai’r Gweriniaethwyr
ond mae nhw yno, ac maen nhw wedi dyfnhau.
Yn fwy cyffredinol, mae ymgeisyddiaeth Sanders – er y
bydd yn siŵr o fethu yn y pen draw – yn newyddion drwg i’r Democratiaid. Y gwir
ydi, dylai rhaniadau’r Gweriniaethwyr fod wedi gwneud pethau’n haws o lawer i’r
Democratiaid eleni ond mae ymgyrch hirhoedlog ac annisgwyl am yr ymgeisyddiaeth
ar ddod. Efallai ni fydd hynny’n eu niweidio gormod, ond dydi o’n sicr ddim o
gymorth.
Mae’r llwybr at yr arlywyddiaeth ei hun o hyd yn un maith
a throellog. Bydd yna fawr o oblygiadau i ganlyniad Iowa yn y pen draw, ond mi
ydyn ni o leiaf wedi cael cipolwg bach difyr ar yr hyn a allai ddigwydd dros y
misoedd nesaf.
giovedì, dicembre 31, 2015
Y 5 Ymerodraeth Fwyaf Shit Erioed
Bydd unrhyw
un sy’n f’adnabod, y bendithiol rai, yn gwybod mai hanes ydi fy mheth i;
llyfrau am hanes ydi’r rhai dwi’n eu darllen yn fwyaf brwd. Mae hanes yn
ddifyr. Tydw i ddim yn fath o ysgolor nac ysgolhaig nac arbenigwr, ond dwi’n
licio fy hanes yn fawr.
5. Ymerodraeth Denmarc (1536 – 1945)
Doedd
Ymerodraeth Denmarc erioed yn Ymerodraeth Denmarc, mewn difrif, gyda llaw.
Dechreuodd yr holl hanes di-ddim drwy undeb personol â Norwy a barodd rai
canrifoedd cyn i bawb sylweddoli mai gwastraff amser oedd y cyfan. Wrth gwrs,
Denmarc ydi Denmarc ac o ran ymerodraethu fuo hi’n ddigon hanner-pan; yn wir,
wnaeth hi ddim hyd yn oed lwyddo concro cenedl arall. Etifeddu’r ymerodraeth
gan Norwy a wnaeth i bob pwrpas: ym 1814, roedd Sweden wedi hawlio Norwy i fod
mewn undeb bersonol â hi, a gadawodd Norwy ei thiriogaethau tramor yn llwyr i’w
chyn-bartner.
4. Yr Hen Aifft (3150 CC – 30 CC)
Ei hunig
lwyddiant cynnar oedd hawlio’r rhan fwyaf o Somalia, un o’r unig rannau o
Affrica heb unrhyw adnoddau naturiol o gwbl ac o bosibl un o’r trefedigaethau
mwyaf dibwynt yn holl hanes trist Affrica’r cyfnod hwnnw. A hynny eto gyda
rhywfaint o help, neu o leiaf ganiatâd, gan Brydain.
Bywyd
ymerodraethau sy’n ddifyr. Y peth ydi, mae pethau lu yn cael eu hysgrifennu am
y rhai mawrion, llwyddiannus – y rhai gorau os mynnwch (wn i y bydd yna ryw gont
yn darllen yn meddwl “ond mae ymerodraethau’n beth drwg!” ond go with the flow efo fi ar hwn, iawn?)
ac mae ‘na ymerodraethau eithaf blydi trawiadol wedi bod ar y ddaear: Rhufain,
Ymerodraeth y Qing, Persia, y Galiffiaeth Fwslimaidd ac, sori dweud, yr
Ymerodraeth Brydeinig, i enwi ond rhai.
Ond dydi
rhestru pethau da ddim yn hwyl. Mae yna ymerodraethau hynod shit wedi bodoli.
Roedd yn anodd cyfyngu’r rhestr i bump – pump na fydd pawb yn cytuno â nhw
ychwaith. Barodd Ymerodraeth Corea, er enghraifft, 13 mlynedd, sy’n llai na
hanner f’oedran i. Barodd yr Ymerodraeth Lân Rufeinig ganrifoedd heb adael ei
marc ar y byd. Roedd yr Ymerodraeth Rufeinig Orllewinol yn siop siafins (yn
wahanol i’r dwyrain; Bysantiwm, a oedd, yn wahanol i’r gred, actiwli yn ôsym)
ac mae dwy ganrif olaf yr Otomaniaid yn rhai truenus tu hwnt.
Ond mae ‘na
shitiach na’r rhain. Dyma, yn fy marn i, bump o’r ymerodraethau mwyaf shit fu
erioed.
5. Ymerodraeth Denmarc (1536 – 1945)
Dwy elfen
sydd i shitrwydd Ymerodraeth Denmarc. Y gyntaf ydi’r gwledydd a reolai, a’r ail
yw’r gymhariaeth rhyngddi â gwledydd bychain eraill Ewrop.
Unig gyflawniad Denmarc |
Gadawsai
hynny Ddenmarc yn rheoli tair tiriogaeth sydd efallai’n llai brawychus na
thriawd y buarth: Gwlad yr Iâ, Ynysoedd Ffaröe a’r Ynys Las. I bob pwrpas, tri
lle doedd neb bron yn byw yno. A chollodd hi Wlad yr Iâ ar ddechrau’r ugeinfed
ganrif. Dydw i ddim yn siŵr i fod yn onest a oedd gan Ddenmarc unrhyw
ddiddordeb mewn bod yn ymerodraeth. Nath o jyst rywsut ddigwydd.
I fod yn deg,
gwnaeth hi ymdrech i ledaenu ei dylanwad i gyfandiroedd eraill. Roedd ganddi
gyfres o gaerau yn Affrica, pentrefi yn yr India ac ynysoedd bychain yn y
Caribî. Gwerthodd bob un i naill ai Prydain neu UDA, jyst achos ‘mynadd. Tra
bod gwledydd bychain eraill Ewrop fel Portiwgal a’r Iseldiroedd wedi
dyfalbarhau a chreu ymerodraethau go bwerus a wnaeth ambell waith beryglu
dylanwad gwledydd llawer mwy, ddaru Denmarc, yn benderfynol o fyth eisiau
cyflawni unrhyw beth erioed, ddim.
Wrth gwrs mae
hi dal yn berchen ar yr Ynys Las ac Ynysoedd y Ffaröe. A sôn am Pharoaid...
4. Yr Hen Aifft (3150 CC – 30 CC)
Wel, fydd hwn
ddim yn boblogaidd, ond dwi am ei ddweud o. Doedd yr Hen Aifft ddim hanner
cystal ag y mae pobl yn ei feddwl. Does â wnelo’i chynnwys yn y rhestr hon ddim
â’i hirhoedledd trawiadol, er bod ei hirhoedledd yn ychydig o fyth. Rhwng tua
3150 CC a 1500 CC fe’i rheolid gan linachau brodorol ond treuliodd y fil a
hanner o flynyddoedd nesaf yn cael ei chwipio’n ddidrugaredd gan bawb arall o’r
Asyriaid, y Babyloniaid, y Persiaid, y Groegiaid a’r Rhufeiniaid – a dydi hynny
ddim yn hanner y rhestr. Wnaethon nhw hyd yn oed gael eu cymryd drosodd gan
grŵp o’r enw’r Hyksos, nad oeddent yn
wreiddiol ond yn grŵp o fewnfudwyr. Peidiwch â dweud hynny wrth UKIP.
'Mond rhain oedd hi |
Hefyd,
lwyddodd yr Aifft ddim dinistrio unrhyw un o’i gelynion niferus ei hun. O gwbl.
Cafodd pob un o’i gwrthwynebwyr eu llwyr drechu gan ffactorau mewnol neu gan
wledydd eraill. Roedd Pharoaid yr Aifft yn dilyn polisi ynysol caeth ac yn
canolbwyntio ar ddwyn deunydd adeiladu o feddrodau eu rhagflaenwyr i greu gorffwysfannau
godidocach iddyn nhw eu hunain yn hytrach na chymryd drosodd y byd. Na, ddim
jôc wael ydi honno, roedden nhw wir yn gwneud hynny – i’r fath raddau dyna oedd
ffawd terfynol Amarna, sef blydi prifddinas
yr hen Aifft am gyfnod. Yn wir, y pellaf aeth dylanwad yr Aifft oedd Syria,
a hynny drwy gyfres o wladwriaethau a dalodd deyrnged iddi yn hytrach nag
actiwli concro rhywun. Ac roedd y gwladwriaethau bychain hynny fel y gwynt beth
bynnag, yn newid eu teyrngarwch i ba bwy bynnag a fyddai’n rhoi’r fantais
fyrdymor orau iddynt.
Ar y cyfan,
ddatblygodd yr Aifft fawr ddim dros y cyfnod ychwaith, naill ai’n filwrol, yn
gymdeithasol, yn wyddonol, yn wleidyddol nac yn ddeallusol – o ystyried am ba
hyd y parodd, ac i wareiddiadau eraill ac ifancach ei hoes ei llwyr goddiweddyd
ym mhob un o’r agweddau hynny, ni ellir ond â dod i’r casgliad fod yr hen
Aifft, er gwaetha’i henw da a’r rhyfeddod y mae’n ei ennyn, yn sylweddol fwy
shit na’r realiti.
3. Ymerodraeth yr Eidal (1886 -1943)
Fel rhywun â
gwaed Eidalaidd ynddo ac sydd â hoffter at yr Eidal i’r graddau fe’m harswydwyd
gan y syniad o Gymru’n chwarae’r Eidal yn Ewro 2016, dydi hwn ddim yr hawsaf i’w
chynnwys ar y rhestr hon, ond ei chynnwys sy’n rhaid. I feddwl mai Eidalwyr,
mewn ffordd, ydi puraf ddisgynyddion y Rhufeiniaid – sefydlwyr enwocaf yr
ymerodraethau – mae’n rhyfeddol faint o gachfa wnaethon nhw pan geision nhw
ailsefydlu Mare Nostrum fil a hanner
o flynyddoedd yn ddiweddarach. O leiaf fod gan yr hen Aifft yr esgus o fodoli
ym mhlentyndod gwareiddiad a bod Denmarc yn fach, oer ac, wel, Denmarc ydi hi. Gan
hynny, wrth feddwl am bobloedd trefnus, cyfrwys a blydi peryg y byd, nid yr
Eidalwyr ydi’r gyntaf ohonynt i ddod i’r meddwl. A dyna wraidd y broblem.
Roedd dechrau
Ymerodraeth yr Eidal yn un pur bathetig. Pan ddechreuodd Ewrop droi ei sylw at
Affrica tua thraean olaf y 19eg ganrif, roedd yr Eidal eisoes yn llygadu
Tiwnisia, ond daeth i’r amlwg fod Ffrainc hefyd â’i bryd ar y dalaith (talaith
Otoman oedd hi, ar adeg yr oedd yr ymerodraeth honno wedi dirywio i fod yn
destun gwawd). Mewn panig, cynigiodd yr Eidal ei rheoli ar y cyd â Ffrainc, a wnaeth
heb unrhyw syndod i unrhyw un heblaw am yr Eidal wrthod y cais. Hawliodd
Ffrainc Diwnisia a phwdodd yr Eidal.
Ar ôl degawd
o bendroni sut ddiawl aeth y cynllun hwnnw o chwith, mi ddygodd hi borthladd
oddi wrth yr Eifftiaid ym 1886, sydd rywsut yn eithriadol o bitw o beth i’w wneud.
Wnaeth hi ddim hyd yn oed llwyddo gwneud hyn ar ei phen ei hun, gan gael ei
chynorthwyo gan Brydain. Yn hyderus tu hwnt ar ôl y llwyddiant ysgubol hwn, ymosododd
ar Ethiopia (yn ymerodraeth ynddi’i hun) a chafodd gweir ddwywaith wrth geisio
gwneud hynny – yr unig rym Ewropeaidd i golli rhyfel yn erbyn gwlad
Affricanaidd. Wrth gwrs, llwyddodd i hawlio Ethiopia ym 1936 am bum mlynedd
ogoneddus.
"Ymerodraeth yr Eidal" |
Erbyn 1940
roedd yr Eidal hefyd yn rheoli Libya ac Albania (jyst abowt yn yr ail achos) cyn
mynd i ryfel â Groeg yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Aeth ymgyrch honno mor wael, a
hynny’n erbyn gwlad sylweddol lai na hi, fel y bu’n rhaid i Hitler atgyfeirio
byddinoedd i’w helpu. Canlyniad uniongyrchol hynny oedd y bu’n rhaid iddo oedi
wrth ymosod ar Rwsia am rai wythnosau hir – ac mi wyddoch chi beth ddigwyddodd
oherwydd hynny.
Roedd
Ymerodraeth yr Eidal mor shit fel y cyfrannodd hi’n sylweddol at drechu’r
Natsïaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac o ystyried ei bod hi ar yr un ochr â
nhw, mae hynny’n ddiawledig o ddiawledig.
2. Ymerodraeth Canolbarth Affrica
(1976 - 1979)
Dydi
ymerodraethau ddim fel rheol yn cael eu sefydlu oherwydd bod un person yn gwbl,
ddidrugaredd o wallgof, ac efallai nad ydi hon mewn difrif yn cyfrif fel
‘ymerodraeth’ yng ngwir ystyr y gair ond mae’r holl beth mor hurt o wirion
rhaid iddo fod ar y rhestr.
Jean-Bédel
Bokassa oedd unben Gweriniaeth Canolbarth Affrica – sy’n bodoli hyd heddiw. Yn
ddigon annymunol ac ystrydebol ‘unben Affricanaidd’ ei naws mi benderfynodd ar
hap ym 1976 y byddai’n well ganddo gael ei gyfeirio ato fel Ymerawdwr nag Arlywydd, er bod Ffycin Nytar
yn sylweddol fwy addas. Felly dyna wnaeth o – newid enw’r wlad ac enw’i deitl.
Newidiodd o fod yn Fwslim i fod yn Gatholig hefyd ar yr un pryd, fwy na thebyg
nid oherwydd unrhyw ddaliadau crefyddol diffuant cymaint â’r ffaith ei fod o
jyst isio. Mae unbeniaid yn tueddu i fod yn bobl sy’n gwneud rhywbeth “jyst achos”.
Gwariodd yr
Ymerawdwr Bokassa draean o incwm y wlad ar y seremoni goroni, ac er iddo wahodd
llu o arweinwyr tramor ddaeth yr un ohonyn nhw iddi. Ei ymateb i hyn oedd cwyno
bod pawb arall wedi cadw draw am eu bod nhw’n pwdu fod ganddo ymerodraeth, a
hwythau heb un. O ddiystyru’r ffaith ei fod yn llofrudd seicopathig, mae
hynny’n eithaf ciwt.
Gorsedd Bokassa yn ei goroni - ia, go iawn. |
Cafodd yr
ymerodraeth ei diddymu pan roedd coup
yn erbyn Bokassa pan oedd wrthi’n ymweld â Gaddafi ym 1979. Mae’n drist braidd
fod y wlad erioed wedi adfer ei hun o hynny a’i bod dal yn dioddef problemau
treisgar enbyd hyd heddiw, ond dydi hynny ddim yn esgusodi’r ffaith, yn nhermau
ymerodraethol, roedd Ymerodraeth Canolbarth Affrica’n hynod o shit.
1. Awstria-Hwngari (1867 – 1918)
O fy Nuw. Os
ydych chi wedi fy nghlywed i’n trafod hanes ar ôl peint neu ddau, dwi’n meddwl eich
bod wedi fy nghlywed yn gwawdio Awstria-Hwngari. Sgwrs bathetig gan berson
trist, mi wn. Ond waeth pa mor bathetig ydw i fel person, dwi’n well nag
Awstria-Hwngari.
Doedd eu
rhagflaenwyr, Ymerodraeth Awstria, ddim yn shit. Roedd honno’n ymerodraeth
ddiwylliedig ac, am gyfnod, rhyfeddol o ryddfrydol am ei hoes. Roedd hi hefyd
yn hanfodol wrth drechu’r Otomaniaid nid unwaith eithr dwywaith rhag rheibio i
berfeddion Ewrop. Ac er i Napoleon ei threchu ar faes y gad, roedd hi’n ddigon
cyfrwys i beidio â adael iddo fynd yn gwbl drech na hi a daeth allan o’r
rhyfeloedd hynny’n gryfach nag erioed. Yn fy marn i, mae’n anodd iawn, iawn
dychmygu Ewrop gyfoes heb gyfraniad Awstria. Sydd efallai uwch bopeth yn
adlewyrchu’n wael ar Hwngari.
Y gwir oedd
roedd Awstria-Hwngari’n hen ymerodraeth flêr, yn wleidyddol ac yn strwythurol a
heb unrhyw hunaniaeth a unodd bawb na chyfeiriad penodol, sy’n eithaf hanfodol
mewn ymerodraeth. Gellid dweud rhywfaint am ei natur amlethnig ond rhyw oddef
ei gilydd wnaeth bawb fu’n rhan ohoni yn hytrach na mwynhau, mae o ychydig fel
myfyrwyr sy’n byw efo pobl eraill sydd ar yr un cwrs â nhw yn hytrach na phobl
y maen nhw’n mynd ar y piss efo nhw. Roedd
hyd yn oed ymdrechion yr ymerodraeth i gydnabod pob iaith ac ethnigrwydd, er yn
ganmoladwy iawn, yn rhai aneffeithiol a arweiniodd at greu mwy o densiwn oddi
ynddi na dim arall ac a gyfrannodd yn fawr at ei diddymu yn y pen draw.
Yn filwrol,
ymladdodd Awstria-Hwngari ddim o gwbl tan y Rhyfel Byd Cyntaf lle roedd hi’n
eithaf aneffeithiol ac, rywsut, lleihaodd poblogaeth y moch yn yr ymerodraeth
gan 90% yn ystod y rhyfel hwnnw sy’n ystadegyn gwirion iawn sy’n gweddu
ymerodraeth wirion iawn.
Llun teuluol olaf Awstria-Hwngari |
Pan geisiodd
oresgynnu Serbia, collodd yr ymerodraeth dros hanner ei byddin yno, sy’n
wirioneddol ryfeddol o ystyried bod Awstria-Hwngari’n cael ei hystyried yn un o
bwerau mawrion y byd bryd hynny a bod Serbia yn un o wledydd lleiaf Ewrop y
pryd. Cafodd hunllef o ryfel ar y cyfan yn erbyn Rwsia (sef y Rwsia a fu’n
rhaid tynnu allan o’r rhyfel am iddi wneud mor wael). Wnaeth hi ddim hyd yn oed
llwyddo yn erbyn yr Eidalwyr (ia, nhw eto); yn wir, wnaeth hi mor wael ar
feysydd y gad yng nghyfnod olaf y rhyfel yn eu herbyn fel yr arweiniodd bron yn
uniongyrchol at ddiddymu’r ymerodraeth.
A dyna’r peth
mwyaf pathetig oll am yr ymerodraeth hon. Pan gododd y cyfle ym 1918 i
ddiddymu’r ymerodraeth roedd pawb eisiau gwneud hynny. Pawb, hyd yn oed yr
Awstriaid a’r Hwngariaid. Doedd yna ddim ymdrech o du neb i’w hachub. Gwnaeth
hyd yn oed y teulu brenhinol ddim ond am geisio’n wangalon ddod yn benaethiaid
ar Hwngari. Roedd hi’n ymerodraeth a gyflawnodd uffar o ddim, a wnaeth uffar o
ddim, ac a wywodd i fod yn uffarn o ddim heb fod gan neb uffarn o ots. A llai
na chanrif ers ei diwedd, does bron neb yn cofio amdani.
Awstria-Hwngari,
llongyfarchiadau – yn swyddogol yr Ymerodraeth Fwyaf Shit Erioed.
mercoledì, dicembre 23, 2015
Eryrod Pasteiog III: Caryl Parry-Jones a'r Wy
Pei pluog y wybren welw;
yr eryr pasteiog yw.
Eisteddai
Caryl Parry-Jones â’i llygaid yn llonydd anelu at yr wy. Eisteddai’r wy yn
llonydd hefyd gan syllu’n ôl. Roedd ei chadair bren yn anghyfforddus, ond ei
hunig gadair bren ydoedd, felly eisteddai arni’n eiddgar. Ni allai fforddio
colli un arall. Un wy oedd ar ôl ganddi, a chymerodd ato fel gwair at y pridd,
gan ei anwesu yn ei mynwes am bedair awr hir. Llwgai am na chawsai wy, ac nid
oedd ar ôl yn y tŷ fwyd eithr tameidiau caws y noson gynt, ac ymenyn.
Roedd y tŷ
mor unig ers ymadawiad Huw Chiswell, neu, fel y’i gelwid gan ei ffrindiau, “Huw”.
Lletyai yno am sbel, ond blinodd ar y deuawdu cyson dibaid a gadawsai’r noson
gynt, gan adael Caryl heb gwmni; heb ddim, yn wir, eithr ei dri sandal a’i un
esgid dda.
Ni segurodd hithau
drannoeth ymadawiad Huw. Aeth i’w phot celf, a chael ffelt pen glas allan. Gafaelai
am yr wy’n ofalus, a llunio arno ddwy lygad, trwyn smwt, tamaid o wallt a gwên
fawr garedig. Fe’i gosododd yn ofalus yn y twb ymenyn a’i roddi ar y bwrdd. Gwenai
iddi ei hun.
“Y mae gennyf
yn awr gwmni,” meddai’n fuddugoliaethus. Ac edrychodd ar yr wy. A’r wy a
edrychodd yn ôl. Gwenodd y ddau at ei gilydd am weddill yr wythnos. Ond nid
oedd hyd yn oed i Garyl Parry-Jones wy’n gwmni digonol. Suddodd ei chalon yn y
pen draw ac meddai at yr wy, “O, oni fyddet fyw. Byddwn fam iti”.
Roedd fflachiad
arian a’i dalliodd ennyd, ond pan welsai drachefn gwelsai dylwythen deg foliog
yno o’i blaen. “Henffych Garyl,” meddai’r dylwythen, “yr wyf yma i ateb eich
dymuniad. Myfi yw Tylwythen Deg yr Wyau.”
“Brensiach a
brawychiaeth,” ebe Caryl, “pwy ydych chi?”
“Clywais gri
eich calon. Deuthum i’w hateb, gantores gaboledig.”
“Pam ydych
chi yma?” holodd Caryl.
“Rhoddaf i’r wy
fywyd a chwi a fyddwch iddo’n fam!”
“A ydych yma
i roi bywyd i’r wy a’m gwneud iddo’n fam?”
“Yli,” meddai’r
dylwythen wyau, “stopia ofyn pethau dwi newydd ddweud. Mae’n blentynnaidd, ac
mi wyt ti’n ddynas yn dy oed a’th amser. Mae gen i gannoedd o ddymuniadau wy i
wneud heddiw fel y mae hi, heb orfod dioddef dy nonsens di. Wyt tisho’r wy ‘ma
fyw neu be?”
“Ydw,”
atebodd Caryl yn bwdlyd ar ôl saib, yn eiddgar eisiau ymddwyn yn anaeddfed.
Ennyd, yr oedd fflach arall. Rhwbiodd Caryl ei llygaid. Ac o’i blaen, gwelsai'r llygaid bychain del yn syllu arni, a’r geg fechan ar wyneb yr wy yn edrych arni’n
llon. “O fy wy bach!” gorfoleddai, “Wyt fyw! Fe’th alwaf yn Hermon a chawn
gyd-fyw yma hyd ddiwedd oes!”
Ond troes
gwên yr wy’n banig. “O Mam,” meddai’n drist, “pa beth a wnaethoch? Edrychwch arnaf.
Ni allaf gerdded canys nad oes gennyf goesau. Ni allaf ymestyn na gafael am nad
oes gennyf freichiau na dwylo. Ac rydych wedi fy rhoi mewn twb ymenyn, yn goron
ar y sarhad. Nid yw hyn yn ffordd i neb fyw!* O, paham a roesoch imi fywyd mor
greulon a disylwedd? Pa beth a wnaeth i chi feddwl mai syniad da byddai rhoi
bywyd i wy?”
“F’anwylyd,”
atebodd Caryl yn ddagreuol, “o, f’anwylyd. Rwyt yn gywir. Tyrd yma, ‘machgen”.
Ac ymafaelodd am yr wy bach, a rhoddi cusan dyner am ei gorun, a’i wasgu nes i’w
blisg ildio a’i bysedd drywanu’i felyn. Wylodd yn wyllt, fel na wylai neb ers
Llywelyn, gan rolio ar y llawr ym mherfeddion ei mab wyog, a rholiodd i’r
parlwr a rholiodd i’r ardd ac yna rholiodd i’r gegin.
Rhedodd
Golwg360 y pennawd “Caryl Parry-Wy” pan dorrodd y stori yn y cyfryngau,
oherwydd dyna’r math o bennawd y byddai Golwg360 yn meddwl amdani.
*heblaw am Dyl Mei.
*heblaw am Dyl Mei.
mercoledì, novembre 11, 2015
Etholiad UDA 2016 - Y fantais â'r Gweriniaethwyr
Fydda i’n cymryd
diddordeb yng ngwleidyddiaeth mwy o wledydd na Chymru, er bod yn rhaid imi
gyfaddef fod fy niddordeb yn ein gwleidyddiaeth ni, sy’n hynod o ddiflas ac yn
llawn gwleidyddion didalent, yn anodd ei gynnal, ac mae BlogMenai wedi hen fonopoleiddio
gwleidyddiaeth Iwerddon – sy’n iawn gen i achos does gen i fawr o ddiddordeb yn
y Gwyddelod nac amser iddynt chwaith.
Ond dwi’n cadw llygad go fanwl ar wleidyddiaeth ambell wlad arall – Ffrainc, yr Eidal ac, wrth gwrs, yr Unol Daleithiau. O ran UDA, mae hyn am ei bod mor wahanol i’r math o wleidyddiaeth a gewch yn Ewrop ond mae hi’n wleidyddiaeth fywiog, ddifyr hefyd. Dwi ddim am fynd i drafod Democratiaid yn erbyn Gweriniaethwyr yn y blogiad hwn, mater arall ydi hwnnw, ond yn hytrach trafod y camsyniad cyffredinol sydd gan bobl, dwi’n meddwl, fod goriadau’r Tŷ Gwyn yn anochel fynd i un arall o dylwyth Clinton.
Y mae ymgeisyddiaeth Clinton yn gwbl sicr, ond mae gan y Gweriniaethwyr lond pentref o ymgeiswyr i ddewis ohonynt o hyd. Rŵan, er gwaetha’r ffaith fod y ddau sydd ar y blaen yn wallgof (er, dwi ddim yn argyhoeddedig fod Trump yn wallgof o gwbl, dwi wastad wedi teimlo mai licio corddi mae o ac nad oes ganddo fo fawr ddim ideoleg y mae’n ei dilyn – dwi bron yn meddwl ei fod o’n neud y cyfan am laff) a bod yr ymgeisydd ei hun am gael effaith ar y canlyniad, mae yna arwyddion y bydd pethau’n agos o hyd. O ran y polau cenedlaethol, yn gyffredinol mae’r gwahaniaeth rhwng Clinton a’r prif wrthwynebwyr Gweriniaethol (Trump, Carson, Rubio – er dwi’n ceisio edrych ar bawb fel ‘cyfanswm’ o ryw fath) yn fach. Yn y ddau bôl diweddaraf (RealClear a HuffPost) mae hi’n arwain ar gyfartaledd o 4% yn erbyn yr amryw Weriniaethwyr, ond yn erbyn TCR mae hynny’n llithro i 1.7% (yn wir, mae hi tu ôl i Carson yn y ddau). Ymhell o fewn yr hen margin of error.
Serch hynny, nid nifer y pleidleisiau sy’n bwysig yn y pen draw eithr pa daleithiau a enillir, i’r fath raddau bod y polau cenedlaethol yn eilradd i raddau wrth ddarogan buddugwr. I symleiddio’r system Americanaidd i’r rhai ohonoch nad ydych yn llwyr gyfarwydd â hi, i bob pwrpas mae “pwyntiau” wedi’u pennu i bob un o daleithiau UDA ac os wyt ti’n ennill y mwyaf o bleidleisiau mewn talaith ti’n mynd â’r holl bwyntiau ar gyfer y dalaith honno. Mae Califfornia, y fwyaf, yn werth 55 – gelli di ennill yno o un bleidlais un unig â mynd â’r 55 ‘pleidlais etholiadol’. Nid yw’n system gynrychioliadol mewn unrhyw ffordd.
Ac o ganlyniad, fel yng Nghymru, llond dwrn o lefydd fydd yn penderfynu ar bwy sy’n fuddugol. Yn UDA mae yna lu o daleithiau sydd 90%+ yn sicr o bleidleisio fel a ganlyn...

Rŵan, fel y
gwelwch o hynny, o ran y taleithiau cwbl sicr, mae gan y Democratiaid fantais
fechan – rhain yw’r taleithiau, gyda llaw, lle na fydd yr ymgeisydd yn newid y
canlyniad y tro hwn. Dyma Ferthyron Tudful America, fel petai.
Dau beth bach i’w nodi cyn bwrw ymlaen. Y cyntaf ydi, does dim disgwyl i’r Gweriniaethwyr golli unrhyw un o’r taleithiau a enillwyd ganddynt yn 2012 – dim un (North Carolina yw’r eithriad annhebygol, nid yw’n goch ar y map uchod o ganlyniad i agosrwydd y bleidlais yn 2012 – ond o gymryd y bydd yn aros yn driw iddynt yn 2016 rhydd hynny 206 o bleidleisiau etholiadol go bendant i’r Gweriniaethwyr – mantais i’r cochion felly). Ac er bod y polau’n awgrymu na wnaiff Clinton gystal ag y gwnaeth Obama yn 2012 (sydd fawr o syndod o ystyried y bydd UDA wedi cael 8 mlynedd o Arlywydd Democrataidd erbyn blwyddyn nesaf, a bod pob Arlywydd yn amhoblogaidd wedi’r cyfnod hwnnw bron yn ddieithriad) does dim awgrym hyd yma bod y polau i’r Gweriniaethwyr fawr gwell nag yn 2012; sy’n golygu nad oes sicrwydd sanctaidd y byddant yn cipio unrhyw un o’r taleithiau gleision. Serch hynny, mae’n anodd gweld y byddant yn segura i’r fath raddau.
Golyga hynny mai 11 talaith, gydag 78.5 miliwn o bobl yn byw ynddynt – lot llai na thraean o’r boblogaeth - sydd am benderfynu ar bwy fydd arweinydd gwlad bwysicaf y byd. Yn eironig bron, dyna faint poblogaeth Iran.
Rŵan mae rhai o’r rhain sy’n debygol o droi’n goch, ond mae cryn fynydd gan y Gweriniaethwyr i gipio ambell un arall fel Mecsico Newydd (angen gogwydd 5.1%). Er o graffu arnynt nid yw’r un yn amhosibl. Y peth pwysicaf i’w gofio ydi nad oes angen i’r Gweriniaethwyr gipio pob un o’r un dalaith ar ddeg hyn. Y rhain, ac eithrio ambell un sy’n llai tebygol o newid dwylo, yw’r swing states – a does angen ennill pob un ar y naill blaid i gipio’r Arlywyddiaeth.
I egluro’r dull o ddadansoddi sut y gallai pethau weithio allan dwi wedi, wrth gwrs, ystyried y polau cenedlaethol ond hefyd y polau fesul talaith. Yn rhai o’r rhai dydi’r wybodaeth ddim yn rhy ddiweddar ond mae’n bosib efallai drwy ddefnyddio patrymau cenedlaethol gael syniad o ba ffordd mae’r gwynt yn chwythu. Hefyd rhaid cofio mai Clinton fydd yr ymgeisydd i’r Democratiaid, ac er ei bod yn anos darogan pwy aiff â’r Gweriniaethwyr i faes y gad, erbyn hyn Trump, Carson a Rubio ydi’r ffefrynnau. Anodd gweld Bush yn llwyddo dringo’i ffordd yn ôl i mewn i’r ras; bet dyn call fyddai ar un o’i tri hyn.
Yn fras iawn, dyma dabl yn crynhoi’r sefyllfa o ran arolygon barn yn yr 11 talaith. Er fy mod i wedi ystyried hanes etholiadau arlywyddol, dyna’r unig etholiadau eraill dwi wedi’u hystyried – mae’r gyfatebiaeth yn UDA rhwng y mathau gwahanol o etholiadau’n wannach o lawer nag a geir yma.
Cofiwch hefyd, y tro diwethaf, roedd pob un o’r isod yn daleithiau ‘glas’. Yr ail golofn ydi’r fantais Ddemocrataidd, a’r tabl olaf ydi sut dwi’n amau y byddai’r dalaith yn pleidleisio pe cynhelid etholiad heddiw. Sori ymlaen llaw am y ffaith fod y tabl yn rhy fawr i'r blog!

Mecsico Newydd
|
10.2%
|
Dim data
diweddar, ond awgrym cryf iawn o’r Democratiaid yn dal – gormod o fwlch i’r
Gweriniaethwyr, ond gallai Rubio o bosibl fod yn ymgeisydd delfrydol i agosáu
pethau yma. Bush yn fuddugol yma yn 2004.
|
DEM
|
Minnesota
|
7.7%
|
Gogwydd diweddar
a phendant i’r Gweriniaethwyr – TCR oll yn curo Clinton (6% cyfartaledd) yn y
polau, ond heb bleidleisio i’r Gweriniaethwyr ers Richard Nixon – anodd gweld
y Democratiaid yn colli
|
DEM
|
Wisconsin
|
6.9%
|
Polau oll yn rhoi
buddugoliaeth glir i Clinton dros unrhyw Weriniaethwr – cyson er nad yn gwbl
gadarn i’r Democratiaid ers blynyddoedd
|
DEM
|
Nevada
|
6.7%
|
Bob pôl ers dros
flwyddyn yn dangos Clinton ar y blaen i’r Gweriniaethwyr yn rhyfeddol o
gyfforddus. Enillodd Bush yma ddwywaith.
|
DEM
|
Iowa
|
5.9%
|
GWE*
| |
New Hampshire
|
5.6%
|
Arfer bod yn
gadarnle od i’r Gweriniaethwyr yn y gogledd-ddwyrain, ond tueddu’n fwyfwy at
y Democratiaid yn ddiweddar; mantais glir gan Clinton yn y polau diweddaraf.
|
DEM
|
Colorado
|
5.4%
|
Dim data
diweddar, awgrym o ogwydd at y Gweriniaethwyr
|
GWE
|
Pennsylvania
|
5.4%
|
Agos iawn – ond mae’r
gogwydd wedi symud o Clinton i unrhyw Weriniaethwr mewn polau diweddar. Tueddu
i bleidleisio dros y Democratiaid yn ddiweddar ond nid o fwlch mawr ar y
cyfan.
|
GWE*
|
Virgina
|
3.9%
|
Ar y cyfan polau’n
awgrymu mai’r Gweriniaethwyr aiff â hi
|
GWE
|
Ohio
|
3.0%
|
Mantais i’r
Gweriniaethwyr yn y polau, hanes o ogwyddo rhwng y ddwy blaid.
|
GWE
|
Fflorida
|
0.9%
|
GWE*
|
*rhy agos i'w galw
Iawn, dwi wedi bod
yn bach o gachwr gyda thri o’r uchod. Ond taswn i’n ychwanegu’r canlyniadau dwi’n
amau uchod i’r map, fel hyn byddai pethau:
Rhaid ennill 270 o bleidleisiau etholiadol (pwyntiau!) i ennill yr etholiad Arlywyddol. Debyg gen i ar y funud, o’r 11 talaith sy’n nwylo’r Democratiaid ar hyn o bryd ac a fydd yn penderfynu ar y canlyniad, bydd y Gweriniaethwyr yn cipio 3 a 5 yn aros yn las. Ond wrth gwrs, mae hynny’n gadael y fantais nid â’r Democratiaid, ond y Gweriniaethwyr, waeth faint o bleidleisiau a gânt yn genedlaethol. Mae hyn yn rhoi’r Gweriniaethwyr mewn sefyllfa gadarn oherwydd petaent yn cipio Virginia ac Ohio (tebygol) ac yna Colorado ar ben hynny (sy’n gwbl realistig), ni fyddai angen iddynt ond ag ennill yn Fflorida i gipio’r Arlywyddiaeth. I bob pwrpas, ni fyddai buddugoliaethau ym Mhennsylvania ac Iowa, sy'n dalcenni caletach, ond yn fonws. Ar y llaw arall rhaid i Clinton ennill yn Fflorida a hefyd naill ai yn Iowa neu ym Mhennsylvania i ennill. Mae yna oblygiadau logistaidd ynghlwm wrth y fath ofynion strategaethol.
Rŵan, nid rhyw astudiaeth academaidd ddwys mo’r uchod o gwbl. Mae’r ffactorau sy’n rhaid eu hastudio mewn etholiad arlywyddol Americanaidd yn llawer gormod i un person eu dadansoddi (am ddim, beth bynnag). Mae’n nhw’n hurt o gymhleth, a dydi pobl yr ochr hon i’r cefnfor ddim bob amser yn ymwybodol ohonynt e.e. mae’r Gweriniaethwyr yn gallu gwneud yn dda iawn ymhlith pobl o dras Sbaenaidd, a thra bod Protestaniaid yn pleidleisio’n drwm o blaid y Gweriniaethwyr tuedda Catholigion i ddewis y Democratiaid, heb sôn am dueddiad pobl sy’n ystyried eu hunain yn ‘annibynnol’ i fwrw pleidlais dros y Gweriniaethwyr yn y pen draw. Ac eto, mae hynny heb i ni wybod eto’n sicr pwy fydd yr ymgeiswyr. Bydd y ras Weriniaethol ynddi’i hun yn werth ei gwylio.
Serch hynny, er gwaethaf y ffaith ein bod dan yr argraff yma mai’r Democratiaid sy’n codi yn UDA y dwthwn hwn, byddwn i’n awgrymu bod y fantais at flwyddyn nesaf yn nwylo’r Gweriniaethwyr, o bosibl waeth pwy fo’r ymgeisydd.
Mapiau wedi’u creu o wefan 270towin.com

Gwybodaeth polau o amryw ffynonellau Wikipedia (cenedlaethol
a thaleithiol)
a RealClearPolitics.com
yn bennaf
Iscriviti a:
Post (Atom)