lunedì, febbraio 13, 2006

Y Corff Yn Diffygio

Dw i'm yn licio'r nos. Methu cysgu ia. Neithiwr mi es i gwely am hanner 'di hanner, a tro diwetha imi edrych ar y cloc cyn llwyddo cysgu roedd hi'n chwarter i chwech. A wedyn mi ddeffroais am naw. Sy'n golygu fy mod i wedi blino gymaint nad ydw i wedi mynd i'm darlithoedd heddiw. Sy'n feri sad.

Cyn nos Sul roeddwn i wedi bod yn yfed ac wedi mynd yn hamyrd tair noson mewn rhes, ac erbyn Dydd Sul bu bron imi lewygu'n cegin y genod roeddwn i wedi blino cyn gymaint. Gyda pawb arall o'm cwmpas yn eitha meddw erbyn diwedd y p'nawn mi es i adra a tiwnio fy nheledu yn fy llofft (mai 'di bod 'na ers mis Medi heb ei thiwnio).

Nos Sadwrn ychydig o blyr, heblaw dw i'n cofio ista wrth ddiawl o ddynas hyll yn Dempseys ac yn galw hi 'y bastad' (dim i'w hwyneb, wrth reswm, roedd hi'n fwy na fi). A mae Clwb hefyd yn blyr ond mi wnes i ddisgyn i gysgu ar un pwynt a dwyn botel o Newci Brown off bwrdd rhywun cyn chwydu. A dw i dal i deimlo'n sal a dw i angen newid fy nillad gwely ond maesho mynadd efo gwneud hynny. Beth bynnag dw i newydd dacluso'n 'stafall i ddoe a dydi hi'm digon cluttered. Dw i'n licio clytyr, poeraf yng ngwyneb trefn, mi giciaf din taclusrwydd (cyn rhedeg i ffwrdd yn sydyn sydyn).

Rwan mi dw i am gwylio fy nheledu newydd-diwnedig drwy'r dydd a darllen a phigo nhrwyn.

sabato, febbraio 11, 2006

Cynulliad, Gibbons, Meddwi, Salwch. Yr iwsial, rili.

Ia helo fi yr Hogyn o Rachub sydd yma gyda mwy o straeon i'ch difyrru, diflasu a gwneud ichi chwydu. Heno mi gynlluniaf chwydu ar hyd waliau Clwb Ifor, ac ar y bownsar oren ei naws. Cont.

Gad imi feddwl am y dyddiau diwethaf 'ma. Dydd Mercher aeth 'na griw ohonom i'r Cynulliad am dro. Mae'n adeilad eithaf cwl mewn ffordd anniddorol hynod, a medrwch chi weld o'r galeri nad ydyn nhw'n gwneud dim ond edrych ar eu cyfeiriadau hotmail ar y cyfrifiaduron (go iawn rwan. Dw i'm yn un am gelwyddau, oni bai eu bod o fudd imi yn ariannol neu'n rywiol). Y boi Llafur Gibbons oedd yn gwneud hynny. Yn eironig mi sylweddolais ei fodo'n edrych fel gibbon, hefyd:

Eniwe i bethau llai pwysig a nos Iau. Dyma myfi, Gentleman Jason, gyda fy ffrind, Lady Ceren, yn ceisio mynd am beint i'r Hilton ond doeddan nhw cae agor y bar inni felly aethon ni i'r Goat Major yn lle wedi inni ganu We're In The Money wedi inni fod yn y twll yn wal yn Cathays a thynnu allan ugain punt yr un. Y diwrnod wedyn dioddefais y penmaenmawr gwaetha dw i erioed wedi ei chael.

Dim rhyfedd nad oeddwn i isho mynd allan nos Wener (penmaenmawr oedd fy esgus ond go wir roedd gwario noson allan gyda Dyfed yn digon i droi'n stumog). Aethon ni i'r Hard Rock Cafe a dyma rhyw ddynas y dwad fyny atom. Any of you single? gofynnodd. Fi a Haydn. Can you go and tell my friend that she's beautiful because she's been through a tough time splitting up with her boyfriend blah blah blah. 'Na,' meddaf i, 'ewch o 'ma. Rydych chwithau'n hyll hefyd ac yn oglau fel pwdin reis.' (Clwyddau a dweud y gwir. Er mwyn cael allan ohoni a gadael i Haydn neud prat o'i hun mi ddywedais i fy mod yn negatif ac yn hoyw. Dw i yn negatif, ond ddim yn hoyw. Heddiw, eniwe.)

Wel mi eshi gysgu yn O'Neills beth bynnag cyn mynd i lle'r genod a stwffio Jaffa Cakes i fyny trwyn Lowri Dwd a chael Lowri Llew yn pestro fi eisiau gwneud wy wedi'i ferwi imi. Oeddwn i'n iawn, wedi gwario f'olaf dima ar 6 chicken mcnugget oer o Macdonalds.

mercoledì, febbraio 08, 2006

Ymrwbio yn y mawrion

Dw i am ymrwbio yn y mawrion. Dyna beth yw 'rub shoulders with the big guns' yn Saesneg, fe ddysgem yn y ddarlith ddoe. Bu bron imi biso chwerthin, yr anaeddfedaidd beth ydwyf, ar draws yr ystafell.

Heddiw dw i'n flinedig, ond wedi casglu ambell i gliw am nos Sadwrn doeddwn i'm yn cofio hyn yn hyn:
  1. Mi gerddais ar hyd wal ar y ffordd o'r Mochyn Du, dim ond i ddisgyn i mewn i'r llwyn yr ochr draw. A brifodd.
  2. Myfi ydyw Gentleman Jason, wedi'r sgwrs dros Cosmopolitan
  3. Doedd y Gatekeeper ddim wedi llifogi. Yr heddlu oedd yno. Fi oedd yn meddwl ei bod wedi ei lifogi (heb dim reswm yn y byd, aparyntli). A meddyliodd pawb yr un peth wedyn.
  4. Y Peth Mwyaf Cywilyddus Yn Y Byd: cael dy wrthod i mewn i CLWB IFOR am fod yn RHY CHWIL. Er y cefais fynd i mewn wedi imi fynd am goffi (peint).
  5. Mi geshi gic allan o Clwb Ifor gan y boi oren (10% man 90% citrus fruit) sy'n fy nghasau heb reswm o gwbl a sydd wrth ei fodd yn rhoi cic owt imi. Cont.
  6. Mi geshi ffishcec ar y ffordd adra

martedì, febbraio 07, 2006

Dysg 1#

1. Peidied byth a rhoi eich cyfrinair i neb arall, neu mi a bostiant pethau drwg amdanat ar flog.

Diwedd y wers. I'ch diddori yn ei le dyma lun o Lowri Llewelyn a Ceren ar canal gyda hen ddyn sad, yn amlwg yn cael hwyl (sbiwch ar y dileit ar eu hwynebau!)

domenica, febbraio 05, 2006

Pentrebane

Dw i'n sal. Hyngowfyr. Mae neithiwr yn blyr. Mi gollodd Cymru (dw i'n meddwl. Fyny i fi fywiogi'r ffacin Mochyn Du unwaith eto) yn ddrwg a theimlais yn ddrwg. Ond cofied, "Mae'r hen Saeson wedi methu torri calon hogia' Cymru", a dyna'n strategaeth am weddill y nos - anghofio'r gwaelgem a meddwi. Mi wnes yn eithaf hawdd, a dw i'n dioddef heddiw gyda chur pen a plaque.

Reit, gad imi sortio'r allweddau allan cyn mynd ymlaen (mae nhw dros y lle i'm llygaid ar y funud). Iawn. Wedi'r Mochyn Du oeddem ni am fynd i Callaghans. Cafodd Lowri Dwd a fi syniad gwych sef neindio ar y bws cynta welsom ni a mynd i rywle. A fe euthum ar fys 51 (ella) i Bentrebane. Oce, mewn difri wnaethon ni ddim cyrraedd Pentrebane, yn rhannol oherwydd does gan yr un ohonom ni syniad lle mae o. Oeddan ni'n pestro pawb ar y bys yn gofyn pa stop oedd y cynta gyda pyb wrth ei hochr a endio fyny'n y Fairwater (dim syniad lle mae o). Fe oeddem ni yno am sbelan go hir, 'fyd, wrth i amser fynd heibio. Dw i'n cofio'r ddynas dew uffernol tu ol i'r bar a un o'r genod yn siarad Cymraeg er na chawsom ni fawr o sgwrs. Wedyn oedd y tacsi tua £7 i ganol dre. Bastad.

Roedd y Gatekeeper wedi cau am ba reswm bynnag, a ni'n dau am gael botal o win. Ond i'r Shitty Arms aethon ni cyn mynd i y bar cocktails ddirgel o dan y Gatekeeper. Dw i'm yn cofio be gesh i ond oedd o'n lyfli. Wedyn Dempseys, meddwi mwy, Clwb Ifor, chwydu, adra'n fuan. Blegh. Iw, mae gwinadd fi'n sgym heddiw.

Neges destun y diwrnod: Wel dagish i ar goc dy nain ddoe. Mmm! Gobeithio gei di ddiwrnod shit! - Dyfed


Reit, mi geisiaf gofio'r diwrnod drwy lluniau. Dyma Haydn yn ei pose Gaydn. Mi ddwynodd fy nghamera wedi hynny a cherdded o'r Mochyn Du i'r Westgate gyda'i din i olwg pawb. Ick.


Mae'r tun bins yma'n mynd i fod yn amlwg iawn mewn ychydig. Cewch chi weld. Dydi Ceren a Lowri Llew ddim.


Llun anffodus ohonof ond sbiwch ar y cocktail. Dyna cefais i. A dw i'n cofio mai y Cosmopolitan oedd o. Lyfli. Ond y peth oedd oni'n gachu bants a felly'n mynd rownd yn cesio ymddwyn yn cosmopolitan ond yn edrych fel tramp farfiog efo Cosmopolitan. Blydi hel mae 'na joban cadw'r hylif yn y gwydrau 'na 'fyd.

Ia wir, Lowri Dwd ydyw. Ond nid y hi sy'n bwysig yma ond y cnau a'r ffaith ei bod yn dal ei hyn i fyny wrth y bar wrth i ryw lesbian ceisio ei syrfio. Roedd y cnau yn afiach (hi a'u prynasant - dydi hi ddim yn licio cnau a neb arall yn eu licio chwaith) ond y cocktail yn neis iawn. Pumpunt 'fyd. Bastad lle drud. Casau bastad lle drud.


Bydda hwn wedi gallu bod yn lun bach neis o Savage a Lowri Llew, debyg, oni bai bod Lowri Llew methu cymryd llun call a mai'n edrych fatha chipmunk.

giovedì, febbraio 02, 2006

Colli crib, colli urddas

Dw i mor bôrd. Dw i wedi cael diwrnod blinedig a mae'n llaw i'n brifo wedi imi geisio taro Kinch, dim ond i'm llaw daro'r ffrij. Dw i'm yn licio llaw 'fo briw.

Dechreuodd y diwrnod efo 'Cymraeg I Oedolion'. Sef fi. Sorted. 'Hanes yr Iaith' yn uffernol o ddiflas. Son am hanes geiriaduron a ballu. Ffwc ots gen i. Dio'm help fod fy narlithydd yn obsesd efo gramadeg oedd RHAID iddo ddod a fo mewn i ffycin 'Hanes yr Iaith' doedd? A wedyn Cynllunio Ieithyddol gyda Colin Williams. Mae'n edrych i fod yn ddiddorol ond mae gan Colin Williams lais rhy swynol: oeddwn i'n teimlo'n high am awr yn gwrando arno. (O.N. dw i ddim yn ffansio Colin Williams, sylwebu ar ei lais ydw i. Dallt?)

A p'nawn 'ma fe gefais i arholiad stiwpid efo Sgriptio a do'n i methu a sgwennu'n dda iawn efo fy llaw ffrijbrifiedig. Oeddwn i'n eitha meddw neithiwr, a dweud y gwir. Dw i'n f'ystafell yn gwrando ar Dafydd Iwan ac yn gwisgo fy nghap Rwsiaidd. Mae hyn oherwydd dw i newydd olchi fy ngwallt ac os na'i wisgaf mae fy ngwallt yn mynd yn wallgof i bob man. A dw i wedi colli fy nghrib. Sy'n stiwpid. Dw i'm wedi brwsio fy ngwallt ers oes pys rwan. Dim rhyfadd dw i mor minging.

Beth bynnag, dw i wedi blino. Mi ddeffrois yn fuan (am 9) a dw i'n teimlo fel crempog (yn gwisgo het Rwsiaidd ac yn gwrando ar Dafydd Iwan). Dim yn aml fyddai'n teimlo felly, chwaith.

martedì, gennaio 31, 2006

Lobsgows, Lowri Dwd a babanod drewllyd

Ew, gennai lu o straeon i chi heddiw! Yn gyntaf dwisho brolio fy mod i wedi gwneud lobsgows o rhyw math hyfryd neithiwr a chytunasant bawb oll gyda mi. Ond, ar y cyfan, dyddiau annifyr y bu'r rhai diwethaf, yn enwedig wedi'r parti lle'r unig ddiddanwch imi'n bersonol oedd fy nain Eidaleg yn popio balwns a mynd yn gyffredinol wallgo (I 'ave to 'ave something to do, dywedodd) a chwerthin fel injan car sy cae dechrau.

Dechreuodd wrth i mi a Gwenan wneud ein ffordd i lawr o Gaer i Gaerdydd. Mae Amwythig, fel y tybiais, yn crap. Ond roedd y tren i Gaerdydd yn ORLAWN a roeddwn i'n sefyll yn y darn rhwng y carijys: wrth y toiled. A dyma rhyw foi a babi yn mynd mewn 'na a dod a allan a ffycin hel oedd 'na ddrewdod. Arclwy' oni'n teimlo'n sal. Dw i wedi dweud cant a mil o weithiau mae babanod yn sgym, ond roedd hwnnw'n afiach. Fo fydd y plentyn drewllyd yn y gornel 'sneb yn licio sy'n pigo'i drwyn ac yn bwyta clai. Ych a fi, cont iddo fo. Wedyn mi gefais bleser cwmni Huw Psych pan fu imi ffeindio lle i eistedd, wrth i ddyn dros y ffordd taro golygon milan arnom a'n hiaith estronol, anwar.

Heddiw mae'n ben-blwydd ar Lowri Dwd, Dwd mwyaf enwog Llanrwst a Thrwyn enwocaf y Gym Gym. Pen-blwydd hapus, Lowri ... byddwn i'n ddweud oni bai am yr ARTAITH mae hi wedi'n rhoi i drwodd heddiw! O. Mai. God. Tyrd efo fi i'r ddarlith cynta 'ma dw i efo, ella mond fi fydd yno a ella nei di newid i'r modiwl yma. Iawn, Lowri, f'anwylyd, i ti mi a wnaf.
Felly fe euthum i ddarlith I Fyd Y Faled (am deitl ponslyd!), cyn iddi Hi sylweddoli nad oedd Hi ychwaith wedi cofrestru i'r ddarlith, ac felly ddim angen bod yno ei hun. Mae'n un peth mynd a rhywun i ddarlith dydyn nhw ddim yn gwneud y modiwl, ond i fynd a rhywun i ddarlith does yr un ohonoch chi ynddo? W. Oni'n flin. Blin iawn. Yn enwedig o ystyried bod ein darlithydd (sy'n hynod annwyl a blewog) wedi gofyn imi o flaen pawb os oeddwn i'n canu baledau ar y carioci.

Do'n i'm yn rhyw hapus iawn yno achos oeddwn i'n drewi o genin a roddais i mewn i'r bwyd neithiwr drwy'r ddarlith. Felly gwell mi olchi 'nwylo.

sabato, gennaio 28, 2006

Ieeeei! Chwech diwrnod o flogio a dw i'm yn gorfod gwneud dim mwy! Diolch i Dduw achos dw i'n rhedeg allan o straeon i'w hadrodd. Wir-yr.

Oni'n Morrison's Bangor heddiw; roedd Mam wedi gyrru fi yno er mwyn cael 'chydig mwy o fwyd i'r parti fawr heno. Wel, breaded mushrooms, beth bynnag. Oeddwn i'n teimlo fel nob yn mynd rownd Morrison's yn chwilio amdanynt, a ches i mo hyd iddyn nhw a roedd gen i ormod o ofn gofyn "Sgiws mi, lle mae'r breaded myshrwms?" a mynd i'r tiliau efo dau fag ohonynt. Dw i'm isho neb meddwl 'na vegan dwi na'm byd (dyna pam dw i am gael Mam i wneud bechdan wy a bacwn imi rwan).

So dyna ddiwedd fy wythnos wirion i. Mae'n straen enfawr meddwl am beth fedrwn i falu cachu am yma yn ddyddiol so mi ga'i egwyl bach haeddianol rwan gobeithio (= welai chi 'fory).

Mi a gefais i caniau Fosters yn ty ben fy hun neithiwr yn gwylio The Two Towers fel lonar yn y sdydi. Felly yfaf i ddim heno achos dw i'n gyrru a rhyw gachu fel 'na. Fy mharti sobor gyntaf erioed. Mae nhw ddigon drwg fel arfer ond yn SOBOR! Erchylldra bydded. Mae'n argoelus ac yn fy mrawychu. A dw i rili, rili, rili isho meddwi'n gachu.