lunedì, giugno 16, 2008

Y Gân Gylchdroi

Cân y funud ydi ‘O ble gest ti’r ddawn?’. Mae gan bawb wastad cân y funud y mae ganddynt obsesiwn â hi. Mae pawb yn hoff o’u cân y funud; mae’n ysbrydoli ac yn rhoi gwên i rywun, ‘blaw os rhyw Emo ydych chi a’ch bod chi’n gwrando am ryw lwmp o gân am hunanladdiad neu’i thebyg. Nid fy mod i’n gwybod beth ydi Emo, ond dwi’n gwybod taswn i yn un, mi fyddwn yn un hen.

Rhywbeth arall, fodd bynnag, ydi’r Gân sy’n Cylchdroi yn eich Pen. Mi all hon fod yn unrhyw beth ac mae’n mynd ar nerfau rhywun fatha Sais cofiwch. Yr un diweddaraf i wneud ei thaith o amgylch fy mhen am ryw bythefnos oedd anthem genedlaethol Ffrainc.

Y dacteg, yr unig dacteg, i gael y Gân Gylchdroi allan o’ch pen ydi ei chlywed yn ddidrugaredd o aml a dysgu’r geiriau. Go iawn. Ac ydi, mae hynny’n golygu fy mod wedi dysgu anthem genedlaethol Ffrainc, sydd, os nad yw’n unrhyw beth arall, yn ddiawledig o randym, hyd yn oed o’m safonau i. Nid dyma’r unig dro i hyn ddigwydd, wrth gwrs.

Y Gân Gylchdroi waethaf a mwyaf cywilyddus aeth drwy fy mhen i, a hynny am ddeufis da, oedd I Know Him So Well gan yr erchyll Barbara Streisand a’r un arall ‘sneb yn gwybod ei henw. Wel, dwi ddim, ac at ddiben y flog hon, fi ‘di pawb. Waeth bynnag. Ar ôl noson feddw yn y Model Inn mi ganodd Ellen a Llinos, y cyd-erchyllterau ac ydynt, y gân hon ar y carioci. Wel, dyna ddiwedd arni i mi; yn y gwely gyda’r nos, wrth gyfrifiadur y gwaith, mi gylchdrôdd, mi ailadroddodd, nes bron â dwyn fy mhwyll yn llwyr - nad yw’n beth anodd o ystyried cyn lleied gennyf sydd.

Yn ffodus, mae gen i Limewire, ac mae Youtube wastad yna i mi pan fydd y sefyllfa erchyll yn codi. Mae’r rhai o’r caneuon ar fy nghyfrifiadur yn warthus o randym a chrap erbyn hyn, ac nid o reidrwydd oherwydd fy mod yn hoff o gân ond oherwydd, weithiau, fy mod yn ei chasáu. Dyna ni. Wn i ddim pa gân ddaw nesaf i’m hunllefu, ond mi ddaw ac mi fydda i’n flin am fis go dda.

giovedì, giugno 12, 2008

Come Dine With Me...

Sôn am deledu (mi wnes ddoe i raddau, dylech ddarllen yn amlach, gyfeillion) mae nos Iau yn arbennig iawn. Iawn, mae gêm heno (sef Croatia a’r Almaen os nad ydych yn dilyn y pêl-droed) yn dod â dŵr i’m dannedd (dyna ‘di ffwcin dywediad a hanner) ond mae gan nos Iau un temtasiwn anferthol na allaf ei hanwybyddu (na fy ffrind gwirion Ceren Roberts; nid yn anaml y seilir ein hamser gyda’n gilydd o amgylch y gwychder hwn). Efallai ei bod yn hysbys i chi yn barod. Efallai nad ydych wedi clywed amdani o’r blaen, wn i ddim. Ei henw yw Come Dine With Me. Dyma raglen wychaf y bocs ar hyn o bryd.

Os nad ydych yn gyfarwydd â’r fformat, beth sy’n digwydd ydi bod pedwar person yn mynd o amgylch tai ei gilydd, gan goginio ar gyfer ei gilydd, nes bod pawb wedi gwneud hynny. Maen nhw’n rhoi marciau allan o ddeg i’w gilydd am y noson, yr awyrgylch, ac yn bennaf y bwyd. Ddiwedd yr wythnos mae’r un sydd â’r mwyaf o bwyntiau yn ennill £1,000.

Os ydych chi fel y fi ac yn ymhyfrydu mewn dadansoddi a chwerthin ar ymatebion pobl i sefyllfaoedd gwahanol byddech chi wrth eich bodd â’r rhaglen hon. Mae pob math o bobl yn cystadlu; pobl grand, pobl tai cyngor, henoed, pobl ifanc, pob llun a lliw. Heb sôn am sylwadau gwirioneddol doniol yr adroddwr, mae sylwadau rhai pobl am fwyd ei gilydd yn wneud i mi rolio chwerthin ar adegau, a ‘sdim byd yn well na'r erchylltra yn llygaid pobl o weld bwyd maen nhw’n ei gasáu, neu fwyd crap, yn cael ei weini.

Ac wedyn maen nhw’n troi’n bitchy. Nid bitchy cas, ond chwilio am ffyrdd o ddilorni bwyd eu gwrthwynebwyr mewn ffordd slei. Un o’r rhai gorau, a welais sbel yn ôl erbyn hyn, oedd pan oedd dynes hynod, hynod oriog sy’n berchen ar westy yn Heol y Gadeirlan yng Nghaerdydd, yn chwarae rhan y gwesteiwr. ‘Doedd hi’n amlwg ddim yn hoff iawn o bobl yn gyffredinol, ac mi sgoriodd 13 pwynt (allan o 40 bryd hynny, ond 30 o bwyntiau gewch chi erbyn hyn gydag un person yn llai ar y rhaglen) am ei bwyd, gan ennyn sylwadau megis, “If I had that in a pub, I’d send it back. It was crap”.

Ta waeth, os nad oes gennych gynlluniau heno ac nad ydi Awstria vs Gwlad Pwyl at eich dant, gwyliwch Come Dine With Me.Ydi, mae o ‘mbach yn rhwysg, yn ymhongar, ond mae’n rhoi syndod ar y diawl i rywun weld pa mor ddoniol y gall pobl yn coginio ar gyfer ei gilydd fod.

mercoledì, giugno 11, 2008

Diwrnod ym Mywyd yr Enwog Syr Ian

Yn wahanol i sawl person dwi’n eu hadnabod, a hwythau gwyddant pwy ydynt, nid yw fy mywyd yn cylchdroi o amgylch teledu, er fy mod i’n ddiog ac yn treulio’r nosweithiau o flaen y cyfrifiadur a’r teledu a dim arall yn lle gwneud pethau fel ymarfer corff ac ysgrifennu’r Stori Fer dragwyddol anorffenedig ond ffwc o ddoniol serch hyn.

Sôn am ddoniol dwi’n licio gweld pa fath o hiwmor sydd gan bawb, a sut fath o hiwmor y bydd rhywun yn ei gyfleu. Fydda i’n hoff o feddwl (yn gwbl gelwyddog) fod gen i hiwmor eangfrydig, ond a dweud y gwir hiwmor sy’n gyfuniad o fod yn swrreal, sarhaus a stiwpid-blentynnaidd sy gen i, sy’n cylchdroi o amgylch cymariaethau. Mae’n od mai Blackadder a Bottom yw fy hoff gomedïau, sy’n gwbl wahanol i’w gilydd, ond dwi methu er fy myw mynd i mewn i Family Guy na The Office. Dwi ddim yn ‘cael’ Family Guy, a dwi ddim yn chwerthin ar The Office.

Ta waeth, bod yn fwy cynhyrchiol y gwnaf. Dyna bwynt y blogiad hwn. Rhaid i ‘Diwrnod ym Mywyd yr Enwog Syr Ian’ gael ei gorffen. Beth i wneud efo peth o’r fath wn i ddim. Ond mi ffendia i rywbeth cos dwi’n grêt.

martedì, giugno 10, 2008

Y Siom a'r Caledi

Celwydd ni chewch. Gas gen i’r Iseldiroedd heddiw. Beth ydynt ond am Saeson acen wirion sy’n byw hanner milltir o dan y môr, wn i ddim. Dynesed cynhesu byd eang a distrywio’r melinau gwynt a’r tiwlips. Chwaled eu cawsiau a’u canals.

Iawn, efallai bod dyheu am dranc cenedl braidd yn or-ymateb, ond p’un bynnag dwi’n ddig ar y diawl heddiw. Ym maes chwaraeon, dwi’n gollwr drwg a chwerw. Yr unig beth sydd o gysur i mi oedd, er gwaethaf colli 3-0, chwaraeodd Yr Eidal yn well na Ffrainc na Rwmania. Tra bo pizza, bo gobaith.

O leiaf ei bod hi’n braf. Dwi’n tisian fel mong ond ta waeth, mae’r tywydd braf yn codi hwyliau’n ddi-ffael, fel y mae’r gaeaf, ond am y Nadolig, yn ddigon i dduo’r enaid i’r iselfannau, wel, isaf. Fodd bynnag, dwi’n byw ar gabaets a thatws ar y funud achos y Credit Crunch. Wn i ddim beth ydi’r ffasiwn beth yn Gymraeg, nac, yn wir, beth ydyw mewn difri, ond dwi ‘di ei chael i mewn i’m mhen fy mod yn ei deimlo. P’un ac wyf ai peidio, wn i ddim. Ond dwi wedi penderfynu fy mod ac felly’n gwario llai. Mi es cyn belled â phrynu bîff corn ddoe. Tebyg mae licio’r ddelwedd o gael “pethau’n anodd” dwi yn hytrach na dim arall, ac wedyn mynd allan wedi meddwi gan ddweud pethau megis “mai mor galed acw dwi’n bwyta corned beef”.

Tasa rhywun isio ‘sgwennu stori fer amdanaf byddan nhw’n cael ffycin field day go iawn.
Yn bur ffodus, prin iawn y byddaf yn gyrru, felly dydw i ddim yn gwario rhyw lawer ar betrol a diolch i Dduw am hynny neu mi fyddwn yn y cach go iawn. Ches i fyth mo’r gliniadur na’r stôf newydd. Mae fy holl obeithion ar grŵp o fytwrs sbageti o Fôr y Canoldir. Go wir. Enillaf £40 os enillant, ac mi gaiff bîff corn fynd i ffwcio’i hun wedi hynny.

lunedì, giugno 09, 2008

FORZA ITALIA!

Pan na lwydda tîm pêl-droed yr Eidal mewn cystadleuaeth megis yr Ewros mi fyddaf yn flin ac annifyr am ddiwrnodau. Dyn ag ŵyr y boen y byddwyf yn ei theimlo pe bai Cymru yno ac yn aflwyddiannus. Un peth da am Gymru byth yn llwyddo i fynd i’r rowndiau terfynol ydi na phrofem y ffasiwn boen, os edrychwch arni felly. Ond heno, byddaf yn sgrechian ITALIA, ITALIA o flaen y teledu.

Ew, efallai ga’i basta i de, hyd yn oed.

Yn wir, wastad wedi fy rhyfeddu pam fod cymaint o Gymry yn eithaf hoff o dîm yr Eidal (o’m mhrofiad i). Wn i ddim ba reswm sydd i hyn, ond mae’r gwaed ynof i.

Dwi wedi dilyn tîm pêl-droed yr Eidal yn selog ers yr oeddwn yn fach. Nid fod gen i deimladau cymysg pan chwaraea Cymru a’r Eidal, ond mae ‘na fflam ddofn yn llosgi mewn cystadlaethau. Felly dwi’n weddol nerfus cyn gêm yr Iseldiroedd heno. Yn bur anffodus, yr Iseldiroedd yw’r tîm sydd gen i yn swîp y swyddfa, ond dwi dal yn eiddgar disgwyl. Os na lwydda’r Eidal, sydd yn anffodus yn bosibilrwydd (dwi dal ‘di rhoi £5 iddyn nhw ennill y gystadleuaeth), mae ‘na dal ambell i dîm dwi’n cadw llygad arnynt, a rhai nad ydw i’n eu licio o gwbl. ‘Sdim math o amheuaeth bod Portiwgal yn un o’r rhai dwi’n eu licio, yn bennaf oherwydd Ronaldo ond pwy all ddilorni tîm sydd wedi rhoi cymaint o bleser i’r Cymry drwy guro Lloegr mewn ffyrdd mor greulon dros y blynyddoedd diwethaf? O ran hynny, mae Croatia hefyd yn un dwi’n eithaf hoff ohonynt, a Gwlad Pwyl hefyd achos mae Paul sy’n gweithio yno yn meddwl dw i’n wirion. A ddim mewn ffordd dda, amheuaf. Ac, er eu bod nhw’n ddiflas, dwi’n licio Sweden.

Heblaw am yr uchod dwi’m yn licio fawr neb. Mae dau o’m ffrindiau gorau yn cefnogi’r Almaen, sy’n ddigon o reswm i mi beidio. Gas gen i Ffrainc. Mae gan Sbaen ormod o chwaraewyr Lerpwl. Am ba reswm bynnag, o bosibl achos bod lot o Saeson yn eu cefnogi, dwi byth wedi cynhesu at yr Iseldiroedd. Ynghyd â Gwlad Belg a Sir Frycheiniog, y Swistir ac Awstria yw dwy o wledydd mwyaf diflas y byd. Dwi’n licio Rwsia ond ddim am eu cefnogi. Ac mae Groeg yn chwarae pêl-droed erchyll o ddiflas. Wn i ddim am Rwmania - dwi’n niwtral ar y ffrynt hwnnw. A dyna fi wedi cynnwys pawb, dw i’n meddwl. P’un bynnag, hoffwn i ddymuno pob hwyl i bawb sy’n cystadlu ond:

  • Dydi Del Piero ddim am ddarllen i wybod hyn
  • Mae’n rhy hwyr braidd
  • Dwi’m yn dymuno pob hwyl i bawb

venerdì, giugno 06, 2008

"I am not a nationalist"

Un o isafbwyntiau fy mywyd, yn ôl Lowri Dwd (fy ffrind trwyniog a chyffredinol amhwysig), oedd pan iddi fy nghanfod ryw nos Iau yn Senghennydd yn f’ystafell ben fy hun, efo botel o fodca hanner llawn yn fy llaw a ‘Pawb a’i Farn’ ar y teledu. Os gofynnwch i mi, ac ni wnewch, mae hwnnw’n gyfuniad bendigedig, ac â chithau’n slyrio ac yn annealladwy rydych chi’n teimlo mewn cwmni da gyda gwleidyddion. Anaml y byddaf yn cwrdd â gwleidyddion, cofiwch, er y gwnes ddydd Gwener ddiwethaf yn Shorepebbles (lle y byddaf yn treulio llawer gormod o amser erbyn hyn). Mi ges drafodaeth ddiddorol gyda gŵr sy’n aelod amlwg iawn o Blaid Cymru yng Nghaerdydd, nad ydw i am ei enwi oherwydd nad ydi hynny’n bwysig.

Wrth gwrs, roeddwn i’n feddw a wn i ddim sut y deuthum i drafod gwleidyddiaeth (sy’n beth trist i’w drafod yn sobor heb sôn am yn feddw). Mi siaradodd lawer o synnwyr, er na chytunais â phopeth a ddywedai, a dweud yn ddiffuant ei fod yn gwbl gefnogol i’r Gymraeg a Chymru annibynnol. Ond mi barodd un peth a ddywedodd bryder mawr i mi. Soniais fy mod yn pryderu am gyfeiriad cenedlaetholgar y Blaid, a’r ateb a gefais oedd, ‘I am not a nationalist’.

Mi darodd hwnnw fi fel y byddai Orig Williams yn ei wneud petawn i’w alw’n “bwff” (neu, o bosibl, “nansi bwoi”). Er popeth a ddywedwyd, a’r synnwyr a gefais, i fi mae rhywun ym Mhlaid Cymru yn dweud hynny yn dangos popeth sy’n gwbl, gwbl anghywir am y mudiad yn y lle cyntaf, er mae’n rhaid i mi ddweud, yn fy marn i, os ydych chi’n credu mewn Cymru rydd ac yn gefnogol i’r Gymraeg (dwi’m yn cofio i ba raddau y datblygodd y drafodaeth honno, ond dwi’n cofio anghytundeb ynghylch i ba raddau y dylid ystyried y ddeddf iaith – yn gyfan gwbl, ddywedais i, beth bynnag), rydych chi’n genedlaetholwr.

Ond mae rhywbeth mawr o’i le pan ddywed rhywun sy’n amlwg yn rhengoedd prif blaid genedlaetholgar Cymru yn dweud ‘I am not a nationalist’. Wn i ddim beth y byddai Gwynfor neu Saunders neu helaeth aelodau’r Blaid yn y gogledd a’r gorllewin yn ei wneud o glywed un o’u cyd-aelodau’n dweud hynny, ond mi roddaf fet i lawr y gallai fod yn destun trafod, a dweud y lleiaf.

mercoledì, giugno 04, 2008

Split Ends. Stori wir.

Roedd heddiw yn garreg filltir i mi. Am y tro cyntaf yn fy mywyd fe es i dorri fy ngwallt ben fy hun. Tair blynedd ar hugain ar y blaned drist a chrap hon a dyma’r tro cyntaf i mi gamu i mewn i siop drin gwallt a chael cneifiad. Anhygoel, a dweud y gwir.

Wel lwcus i mi fynd, hefyd. Fel tua thri chwarter swyddogaethau’r byd, ‘sgen i ddim amser i bobl trin gwallt. Mae gen i lai o fynadd efo nhw pan maen nhw’n dechrau siarad am wallt, oherwydd ‘does gen i fawr o ddiddordeb mewn gwallt. Mi ddechreuodd siarad am wallt, fel y gallwch ddychmygu.

“Lwcus,” dywedodd yn ei Saesneg hyllaf (sydd yn fawr o gamp efo Saesneg) “eich bod wedi dod yma. Split ends ydi 70% o’r gwallt hwn. Mis arall a fyddwn i methu â gwneud dim i chi. Ond mi allaf eich achub.”

Ffug-chwarddais, oherwydd dwi’n dda ar ffug-chwerthin a bod yn or-boleit, yn enwedig pan fo dyn camp efo pâr o sisyrnau yn sefyll y tu ôl i mi. Roedd o’n foel, fel y mae’n digwydd, a wn i ddim sut y gall rhywun moel wybod cymaint am wallt a dweud y gwir yn onest. Dywedais i mo hynny oherwydd fe fyddai’n anghwrtais a beth bynnag dwi’n arbenigwr ar ffugio. Chwinc chwinc. O ydw.

Ond daeth un canlyniad allan o’r gorchwyl: dwi’n edrych yn ifancach. I’r rhai ohonoch nad ydych yn f’adnabod (a gwyn eich byd a bendith arnoch am hynny) dwi’n edrych fel banana y mae mwnci wedi sugno’r ffrwyth allan ohoni gan adael y croen i bydru: llesg, blinedig, diflas, gofidus.

Iawn, dw i dal i edrych felly ond efo gwallt byr. A dim split ends. Dywedodd y gŵr trin gwallt mae’n rhyfedd cymaint o hogiau sydd na wyddant pa beth yw’r splint ends ‘ma. Syndod yn wir.

martedì, giugno 03, 2008

Sgwrs e-bost rhyngof i a Lowri Llewelyn

Ah, rwan dwi’n cofio pam fy mod yn blogio...!


Myfi: Lettuce be friends

Lowri Llewelyn: only if you turnip at my bedroom tonight...

Myfi: i have to beetroot-ful, i would love to come there and radish you, but I have to pea

Lowri Llewelyn: I carrot believe that you would rather pea than radish with me. I was going to leek you up and down. Jucie-y what you're missing?

Myfi: bean to your room before! It was far from pear-fect. I know that you have bread there before, even though you are a swede girl.

Pum Mlynedd o Fi! Hwrê!

Bum mlynedd yn ôl i heddiw, yr union ddyddiad, coeliwch a’i pheidio, mi ysgrifennais i fy mlogiad cyntaf. Mae’n bosibl y bydd un neu ddau ohonoch yn cofio sut y bu i mi grybwyll fy mod wedi rhoi fy nhrowsus ar y ffordd anghywir. Nid dyma’r tro olaf i hyn ddigwydd, yn anffodus.

Ta waeth, roedd hwnnw ar yr hen flog, pan oeddwn newydd orffen ysgol, yn eiddgar edrych ymlaen at fywyd prifysgol, heb syniad yn y byd beth yr oeddwn isio allan o fywyd yn gyffredinol. Ro’n i isio gadael fy mro; ro’n i’n gefnogwr tanbaid i Blaid Cymru; ro’n i’n eithaf ansinicaidd ac optimistig a ddim yn licio rygbi yn ormodol. Plys, doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd berfenw.

Yn wir, mae’r newid sy wedi digwydd i mi dros y pum mlynedd ddiwethaf wedi bod yn syfrdanol. Weithiau mi fyddaf yn methu Ogwen hyd teimlo’n gorfforol sâl erbyn hyn, ond eto’n ymhyfrydu yn fy sinigiaeth newydd; mae’r Plaid Cymru newydd yn codi cyfog arnaf hyd casineb, a’m syniad o’r nefoedd yw’r Mochyn Du pan fydd Cymru’n herio’r byd efo’r bêl siâp caill maharen. A dwi’n gwybod beth ydi berfenw (i raddau helaeth).

Erbyn hyn mae’r meddwi mawr a’r sesiwns yn diflannu, a’r straeon gwirion a’r lluniau’n troi’n synfyfyrio, gydag ambell i gymhariaeth wych yn serennu (hunan-hyrwddo sydd dda i’r enaid, cofiwch). Felly dyna pam yr oedd penderfynu a ddylwn barhau â’r blog yn beth mor anodd i mi. Nid blog yn unig ydi’r peth hwn i mi, cofiwch – mae’n gofnod o’r cyfnod gorau yn fy mywyd.

Felly dros y penwythnos diwethaf roeddwn i’n meddwl y byddai’n syniad da dod i ben â’r sioe heddiw, bum mlynedd ar ôl y blogiad cyntaf. Ond fedra’ i ddim. Dwi am barhau, sy’n golygu o leiaf am flwyddyn arall achos dwi’n licio gwneud pethau symbolaidd (e.e. gorffen bum mlynedd ar ôl y blogiad cyntaf). Beth bynnag, lle arall ga’i leisio ‘marn adeg etholiad? Ble arall sydd i mi gwyno? Lle ga’i synfyfyrio a hel syniadau? Lle ga’i gontio a phoeri dicter?

Unlle. O wel. Welai chi eto toc, y diceds.

lunedì, maggio 19, 2008

Brêc

Dwi'm fy hun yn mynd i'r unman ond mae'r flog yn mynd i hibernation am bythefnos bach tan ei phen-blwydd. Mi bicia'i draw i ddweud helo a tha ta bryd hynny, gyfeillion.

venerdì, maggio 16, 2008

Copïo GT: darogan yr etholiad nesaf

Rhaid i mi gyfaddef er fy mod i’n blogio’n aml dwi ddim yn darllen blogiau eraill digon (h.y. dwi yn, ond ddim cymaint ag yr oeddwn) ond un dwi yn ei ddarllen yn rheolaidd yw Blog Menai. Draw, draw, dros don a mynydd pell yn y blog hwnnw, mae ‘na ddarogan etholiadau San Steffan. Gêm beryglus ydyw: dwi’m yn meddwl y cawn etholiad cyffredinol tan 2010, ac mae beth all ddigwydd rhwng rŵan a bryd hynny yn ddiddiwedd, a byddwn yn rhybuddio am ei wneud.

Ond dwi’n licio darogan, felly hoffwn gynnig sylwadau ar y seddau y gwnaeth Blog Menai eu crybwyll – y Gorllewin (ŵŵŵŵ!). A mwy maes o law (mae GT yn licio dweud ‘maes o law’). Efallai heno gan nad wyf yn meddwi.

Ynys Môn ydi’r cyntaf o’r rhain, a’i thuedd ryfedd i gadw ei haelod presennol, ond daw’r her o du Plaid Cymru a’r Torïaid. Byddai popeth yma’n dibynnu ar Peter Rogers. Pe na fyddai wedi sefyll yn 2005 byddai Plaid wedi cipio Môn. Pe byddai wedi sefyll i’r Torïaid yn 2007, mae gen i deimlad y byddai ar ben ar Ieuan. O ddiystyru Peter Rogers, Plaid fydd yn mynd â hon, a’r Torïaid yn ail; gyda Rogers yn cystadlu gallai Albert gadw ei sedd drachefn os gall gadw ei bleidlais. Nid yn sedd hawdd i’w darogan.

Mae Arfon yn hawdd: Plaid yn chwalu Llafur. Pe bai Betty wedi sefyll yma yn hytrach na’r annwyl, ddi-glem Martin, ni fyddwn mor hyderus, hyd yn oed ar ôl canlyniadau mis diwethaf a 2007, ond dydi hi ddim. Mae’r hen wreiddiau Llafur wedi diflannu yn yr ardal hon o’r wlad.

Fel y dywedwyd ym Menai, mae niwed wedi’i wneud yn Nwyfor Meirionnydd i Blaid Cymru. Bydd Plaid yn ennill yma, p’un a fydd Llais Gwynedd yn sefyll ai peidio, ond gallai’r mwyafrif fod yn eithaf digalon i Bleidwyr. Bydd Preseli Penfro yn troi’n stwbwrn o las, a synnwn i ddim pe bai Adam Price yn ennill yn Nwyrain Caerfyrddin gyda mwyafrif o dros ddeng mil. Ond mae’ tair sedd sy’n weddill yn ddiddorol iawn.

Mae’r arwyddion oll yn awgrymu y bydd Plaid Cymru’n adennill Ceredigion, o’r fuddugoliaeth hawdd yn 2007 i berfformiad da 2008. Dwi’n pryderu braidd, fodd bynnag, y collodd Penri James, ymgeisydd y Blaid, ei sedd gyngor. Ni ellir dadlau bod hynny’n bwrw amheuon dros ei ymgeisyddiaeth ac os mai ef yw’r dyn cywir i adennill yr etholaeth. Ymddengys fod Plaid wedi sortio’u hunain allan, ac y ceir buddugoliaeth, ond wn i ddim o ba faint. Un peth ddyweda’ i: yr hiraf y bydd y disgwyl am etholiad, y mwy o fomentwm y bydd Plaid yn colli a’r mwy o amser y caiff Mark Williams i fagu enw da.

Fel GT, ar ôl edrych ar y canlyniadau cyngor a rhai y llynedd, dwi bellach yn argyhoeddedig mai Plaid fydd yn mynd â Llanelli. Rhaid peidio â bod yn orhyderus: roedd Plaid yn hyderus yn 2005 ond gogwydd i Lafur a gafwyd. Serch hynny, nid yw dirywiad Llafur yn y Gorllewin yn amlycach nag yn Llanelli; pwy feiddiai feddwl ym 1999 llai na degawd yn ddiweddarach y byddai Plaid yn ennill dros hanner y bleidlais yn Llanelli? Ond rhaid i Lafurwyr dod at Blaid Cymru neu fod yn apathetig, a rhaid bod gan y Blaid ymgeisydd cryfach na’r tro diwethaf. Gyda chyfuniad o’r fath, gallai Llanelli fod yn “sioc” ar y diawl.

Yn olaf, Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro. Ysgrifennwn i mo hynny eto, mae’n rhy hir. Yn y Cynulliad mae hon yn eithaf talcen caled i Blaid Cymru – dylai fod wedi ennill yn 2003 a 2007 ond ni wnaeth. Rhaid i mi gyfaddef dwi’m yn gwbl gyfarwydd gyda chanlyniadau’r etholiad cyngor yma, ond mae trosi hynny’n bleidleisiau cenedlaethol yn gynsail peryglus beth bynnag. Prin y gwna’r Blaid argraff yma mae etholiad cyffredinol mae arna’ i ofn – mae eu perfformiad San Steffan yma’n dila, a dweud y lleiaf, ond mae mwyafrif Llafur yma’n dila hefyd. Dwi’n dychmygu mai glas y bydd y rhan hon o’r byd yn troi, ond gall fod yn agosach na’r disgwyl.

Felly cytuno gyda GT hyd yn hyn o ran pwy fydd yn ennill, ond mae Ynys Môn a Cheredigion yn bell o fod yn sicr.

giovedì, maggio 15, 2008

Cynllunio fy nghosb

Oherwydd colled y ffôn dwi’n cosbi fy hun drwy beidio â mynd allan y penwythnos hwn. I fod yn onest dwi’m wedi fy argyhoeddi mai dyma’r peth teg i wneud – wedi’r cyfan, gall unrhyw ynfytyn golli ffôn, er bod mynd drwy ddeg ffôn ers symud i Gaerdydd yn warthus a, na, nid cyfeirio at Ellen Angharad na Haydn ydwyf. Go wir.

Serch hyn, a minnau’n mynd adref am benwythnos hir yr wythnos wedyn, efallai yr af allan y penwythnos hwn am sawl rheswm. Wel un, sef cystadleuaeth yr Eurovision (er bod Dogfael i’w weld yn ffan). Rhaid i mi gyfaddef, byddaf yn ei gwylio o bryd i’w gilydd, ond gan gasáu’r ffaith fy mod. Erchylltra o’r radd flaenaf ydyw ac ni wnaiff na dyn na Duw fy argyhoeddi fel arall.

Gan ddweud hynny fydda’ i ddim isio bod allan yn gwylio Cwpan yr FA yng Nghaerdydd a minnau’n eithaf dyheu i’w gweld yn colli. Peidiwn â mynd i mewn i’r rhesymau dros hynny, ond dwi’m yn licio CPD Caerdydd a fydda’ i fyth.

A beth bynnag, mi ga’i wylio Doctor Who ar yr iPlayer. Mi gollais fy ffôn, dwi’n haeddu sesiwn i godi f’ysbryd, yn siŵr?

mercoledì, maggio 14, 2008

Hunansynfyfyrio

Mae’r Gogledd diawledig wedi llwyddo cydio ynof drachefn, ond fel ers cryn amser dydi’r grafanc hon ddim am ddiflannu’n hawdd: mae’n aros gyda mi ac yn gwneud i mi deimlo’n isel. Dydi’r amser ddim yn iawn i mi ddychwelyd, fi ydi’r un cyntaf i ddallt hyn, ond mae’r teimlad yn parhau ac yn fy llesgau’n ofnadwy.

Ta waeth, mewn tua thair wythnos fydd Hogyn o Rachub (y flog, nid y fi) yn dathlu ei ben-blwydd yn 5 oed. Rŵan, mae ‘na sawl peth sy’n peri dryswch i mi. Dwi isio mynd allan efo BANG mawr bryd hynny a chael parti ond dydi hynny ddim yn hawdd. A p’un bynnag, byddai mynd allan ar ôl pum mlynedd yn eithaf camp - dwi’n falch, mewn ffordd wyrdroëdig, mai dyma un o’r blogiau Cymraeg hynaf sy’n bodoli ar y we: dim ond Morfablog a Nwdls sy’n hŷn, dwi’n siŵr!

Mae’n parhau’n anoddach dod o hyd i straeon difyr neu ddoniol pan fo rhywun yn gweithio 5 diwrnod yr wythnos, pan fo ganddynt hiraeth a’u bod yn synfyfyrio sy’n gwneud i’r flog hon barhau yn hytrach na byw ers ychydig (dwi’n teimlo, beth bynnag). Gan ddweud hynny, wn i ddim beth y byddwn i’n ei wneud heb flog ond am ffrwydro. Wedi’r cyfan, yn fwy na dim mae’n ffordd i mi ymwared â’m rhwystredigaethau, chwydu fy siom yn ysgrifenedig, a mynegi fy nicter at bopeth, a chael pleser o wybod bod ambell i un yn darllen am y fath beth er fy mod i'n gwybod cystal â neb nad oes hwyl i'w gael mewn darllen pethau felly.

A hefyd smalio fy mod i’n arbenigwr yn ystod etholiadau. Ffwcin dyfalu y mae arbenigwyr beth bynnag.

Ta waeth - mae gen i dair wythnos i ddod i benderfyniad ynglŷn â’r peth. Gydag Ewro 2008 yn dyfod mae’n siŵr y bydd angen galw draw i fynegi fy siom nad yw’r Eidal wedi ennill rhyw ben. Neu fynegi fy hiraeth a sôn am ryw dwat sy ‘di chwydu dros fy ‘sgidiau ac ati.

Cawn weld.

martedì, maggio 13, 2008

Yr Haf Hiraf yn Dyfod

Asu dwi’n oriog ar y funud, yn enwedig ers colli fy ffôn hyfryd iawn efo’i gerddoriaeth a’i luniau a phob math. Yn wahanol i bawb arall un oriog dwi yn y tywydd hwn beth bynnag, achos mae’n llygaid i’n cosi a’m gwddf yn gallu brifo’n eithriadol waeth bynnag faint a yfaf.

Felly mi fues i’n gollwr a chreu grŵp Facebook. Wyddoch chi, un o’r rhai sy’n dweud COLLI RHIFAU ANGEN RHIFAU PAWB. Dim ond deg o bobl sy wedi ymuno. Mae o leiaf tri o’r rheiny eisoes efo fy rhif ddydd Sul newydd. O diar. Doeddwn i’m yn gwybod bod fy amhoblogrwydd wedi diosg a phydru i’r fath raddau (er, mi oedd gen i syniad go dda).

Fyddai’m yn teimlo fel blogio yn ystod yr haf. Dwi’m yn teimlo y dylwn, a dwi’m efo’r un egni i fynd ar rants a, hyd yn oed, weithiau, dweud ambell i ffraethineb slei. Fe fyddaf, fel y chi, yn hoff o fanteisio ar y gerddi cwrw (sydd ddim yn bodoli yn Grangetown hyd y gwelaf i) a gwneud fawr o ddim arall; wn i ddim beth arall i’w wneud.

Ond fydd ‘na lai o yfed yr haf hwn na’r arfer. Ydi, mae hyd yn oed yr Hogyn yn teimlo’r tyndra ariannol y dyddiau hyn rhwng morgais a phetrol a bwyd a chael hwyl: mae’r siopa wythnosol yn costio mwy, y daith i’r gogledd yn dwyn mwy o geiniogau, popeth yn mynd yn waeth. Dwi’n ei ffendio’n eitha digalon na fyddaf allan cymaint ag yr hoffwn yr haf hwn. Bydd rhaid i mi ffendio rhywbeth rhad i wneud, debyg.

venerdì, maggio 09, 2008

Dydd Gwener

Dydd Gwener. Beth all rhywun ddweud am y dydd hwn? Byddaf bob tro yn disgwyl gwyrthiau o ddydd Gwener, ac mae’n fy siomi’n ddi-ben-draw. Byddaf yn disgwyl i rywbeth anhygoel ddigwydd, a hwyl a sbri’r byd a’i manion bethau ddod i’m canlyn i ddathlu diwedd yr wythnos waith. Disgwyliaf adar yn dawnsio canu yn y coed a’r gwair yn sglein a chlywed chwerthin plant a geiriau mwyn cariadon, cofleidio cyfeillion a chanu a cherddi’n llu.

Nid y fi ydi’r person mwyaf realistig, ni fedraf wadu hyn.

Fodd bynnag, dwi’n disgwyl cynnwrf yn yr awel ar ddydd Gwener ond byth yn ei gael. Prin iawn ar ôl dechrau gweithio mae rhywun yn sylwi mai diwrnod arall ydi dydd Gwener a bod yn rhaid i rywun gweithio, er gyda chryn lai o frwdfrydedd ac ymdrech nac unrhyw ddiwrnod arall. Rhaid i rywun weithio ar ddydd Gwener a dyna ddiwedd arni.

Gall nos Wener fod yn wag iawn heb fynd allan. Byddaf, mi fyddaf yn iawn efo botel o win coch mwyn yn y tŷ, ond nid yr un peth mohono ag ymryson ffraeth ffrindiau (neu, yn fy achos i, mwydro gwag a blinderog Lowri Dwd) dros beint mewn tafarndy.

Mae problem fawr yn hyn o beth. Dwi’n ffan o’r ‘peint distaw’, yr ambell beint a geir gyda’r nos cyn mynd adref. Yn Nyffryn Ogwen draw mae’n hanfod, ond rhaid dweud yng Nghaerdydd mae’n lled amhosib. Bai Caerdydd am fod yn fach ydyw. Ar ôl y peintiau distaw, mae’n ormod o demtasiwn, ac yn rhy hawdd o lawer, mynd i mewn i dre a meddwi’n jibidêrs tan yr oriau mân. Dydi hyn ddim yn arwain at gymdeithasu yn y modd arferol, chwaith, ond malu cachu o radd arallfydol (ac mi fynnaf fan hyn bod hyn yn benodol wir am y Cymry Cymraeg, sy’n hil o falwrs cachu didrugaredd, cythryblus) ac eithaf pen mawr y bore wedyn.

giovedì, maggio 08, 2008

Dwisho Facebook ac yn chwerw o'i herwydd, fel y gwelwch

Fel arfer dwi’n chwerwach na lemon y mae ei wraig wedi rhedeg i ffwrdd gyda banana gan ddwyn y siwgr ‘run pryd. Nid gwahanol mo heddiw.

Dwi’n ôl yn y ddinas ac yn ddig. Nid anaml y byddaf yn ddig, ac yn aml iawn pan fyddaf naill ai o amgylch Lowri Llewelyn (sy’n fy nigio) neu’n gwylio twat dosbarth canol yn sôn am fwyd organig (sy’n fy nigio) neu’n clywed rhywun yn mynegi barn dwi’n cytuno â hi ond ddim yn licio’r person (sy’n fy nigio), ond dig roeddwn neithiwr. Dwi ‘di malu’r rhyngrwyd acw. Fedrai’m mynd ar Facebook. Sydd, rhaid dweud, wedi fy nigio.

Un peth bach arall sy’n fy nigio ydi’r haul fastad ‘ma. Mae pawb yn licio haul, ond dwi’m yn licio haul. Ar y funud mae’n llygid i’n teimlo fel pe bai llwch ynddynt ac yn brifo. Hynny fydd yn digwydd i mi yn yr haf, wrth geisio manteisio ar y gerddi cwrw neu beint ar lannau’r dŵr, dwi’n mynd yn ddall ac yn teimlo eithaf trueni dros fy hun (sy’n ddigon teg achos ‘does neb arall yn teimlo trueni drosof – taswn i’n colli fy nghoesau mewn damwain erchyll â bwyell, neu fadfall, bosib, chwerthin y byddai pawb, cewch weled os daw’r dydd hwnnw).

Fyddai’m fel y bobl ofnadwy hynny sy’n dioddef yn erchyll o glefyd gwair. Maen nhw’n bobl ofnadwy canys eu bod yn tisian yn uchel ac yn snotian yn helaeth, a’u llygid yn troi’n goch ac yn siarad yn gwynfanllyd (fel Haydn yn hungover, braidd), w, hen bobl annifyr ydynt bob un.
Ond dyna ddigon o chwerwder am rŵan, rhaid i mi ei gronni hyd fy sgwrs nesaf.

martedì, maggio 06, 2008

Ben Foel

Ew, dwi’m wedi bod atoch chi ers sbel, naddo? Roeddwn yn bwriadu rhoi dadansoddiad manwl o’r etholiadau cyngor cyn penderfynu nad oeddwn i wirioneddol isio gwneud hynny. Wel, roeddwn i isio, ond wnes i ddim, felly dyna ddiwedd ar hynny.

Mi es ddoe i ben Foel. Mae’n bosib iawn mai ben Moel Faban ydi fy hoff le yn y byd i gyd; ‘doeddwn i heb fod am flynyddoedd felly mi es. Yr ochr draw i Foel ceir cwm diffaith, ond dwi wrth fy modd yno. Yr unig beth a glywch yno ydi brain a defaid, gweld y ceffylau gwyllt yn mynd ar eu busnes rhwng y carnau. Mae rhywbeth dwfn am heddwch y fan honno sy’n rhoi rhyw flas tangnefeddus i mi.

Serch hynny, dim ond Saesneg sydd i’w chlywed ar uchaf gyrion Rachub erbyn hyn. Fedra’ i ddim disgrifio’r teimlad yn llawn i chi o glywed Saesneg yn y pentref. Wn i ddim os mai casineb ydyw, neu dristwch, neu ddicter, neu anobaith, hyd yn oed, ond mae’n deimlad pwerus iawn nad ydw i’n cweit gallu delio efo fo, nac yn gallu ei anwybyddu. Mae’n waeth na chrafu ar fwrdd du neu sgrechian elyrch (sy’n sŵn afiach, cofiwch). Ond dyna ni, mae ‘na ddiwedd i bob cân, waeth pa mor gofiadwy ydyw.

venerdì, maggio 02, 2008

Plaid yn cipio Gerlan - hwrê!

Hoffwn i fod y cyntaf i gynnig llongyfarchiadau gwresog i Dyfrig am ennill ward Gerlan (sydd, yn bwysicach fyth, yn cynnwys Rachub – a dweud y gwir dwi’m yn hapus iawn na Gerlan ydi enw’r ward. Cynnig enw mwy addas: Rachub) yn disodli Llafur. Dwi ddim yn gwybod yr union ganlyniad oherwydd na fedraf fynd i safle Gwynedd, a ph’un bynnag Maes E sydd â’r gossip diweddaraf i gyd heddiw!

Er fy nadrithio diweddar o'r Blaid, dwi’n eithaf ffigwr o gasineb i rai o Lafurwyr Rachub, felly mae’n wirioneddol wneud i mi wenu’n slei tu fewn bod Plaid Cymru wedi, am y tro cyntaf erioed, cipio’r ward ar y cyngor oddi wrthynt. Llongyfarchiadau eto!

(Methu disgwyl i weld a ydi Sion White yn ennill heno yng Nghwmderi!!)

giovedì, maggio 01, 2008

Mae 'na hwyl i gael â phleidlais

Mi bleidleisiais cyn gwaith a gwneud fy mhenderfyniad terfynol wrth groesi. Roedd gen i dair pleidlais ond dwy a ddefnyddiais. Mae 'na hwyl i gael efo'r pleidleisio tactegol 'ma!

Hefyd, dyma, wedi rhywfaint o ymchwil, ddarogan canlyniad Cyngor Caerdydd:

Dem Rhydd 26 (-6)
Ceidwadwyr 21 (+11)
Llafur 19 (-8)
Plaid Cymru 7 (+3)
Annibynnol 2 (D/N)

Os mae'r Gath Ddu yn darllen, beth am fotel arall o win coch os mae hynny'n gywir? ;-)

mercoledì, aprile 30, 2008

Comrade Hogyn o Rachub

Dwi’n siomedig gyda fy hun am flogio’r nesaf peth i ddim am yr etholiadau lleol. Dwi’n siŵr fy mod wedi mynegi pe bawn yn defnyddio fy mhleidlais yn Rachub mai Plaid Cymru fyddai’n ei chael. Dim ond Plaid a Llafur sy’n sefyll yn Rachub. Dydi Llais Gwynedd ddim, ond pe byddent mi fyddwn yn fwy tebygol fyth o bleidleisio Plaid Cymru. Caiff pobl ddweud beth a fynnant, ond dydi Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd ddim yn ddrwg ar y cyfan, ar wahân i ambell i un nad enwaf.

Fodd bynnag, gyda’r etholiad ei hun yn dyfod yfory dwi wedi gwneud fy mhenderfyniad dros bwy i fwrw fy mhleidlais. Fel y dywedais, mae’n gas gen i bobl nad ydynt yn pleidleisio, neu o leiaf sbwylio’u papur. Ond dydw i ddim am wneud hynny. Yfory, mi fyddaf yn rhoi croes wrth enw’r Comiwnyddion.

Mae hynny’n eithaf cam i mi. Bob etholiad a fu ers fy neunaw dwi wedi bwrw pleidlais dros Blaid Cymru, ond mae’r Comiwnyddion yn addo ehangu addysg Gymraeg, a gwyddom oll record Plaid Cymru am wneud hynny yng Nghaerdydd. Gwarth. Wrth ddarllen eu pamffled prin i mi anghytuno gydag unrhyw beth a ddywedwyd sy’n ddiawl o chwa o awyr iach o’i gymharu â Lib Dem Focus Team neu Can’t Win Here a chachu mat felly, ond i fy syndod roeddwn yn dueddol o anghytuno gyda nifer o gynigion Plaid Cymru. Afraid dweud, i’r bin yn syth aeth rhai’r pleidiau mawrion.

Dwi wastad wedi fflyrtio braidd â chomiwnyddiaeth, er na ddisodlir fy nghenedlaetholdeb gan ddim, ond fel dwi wedi dweud ers cyfnod, dydi Plaid Cymru ddim yn haeddu fy mhleidlais, a chan fy mod i’n hoff o be sydd gan Gomiwnyddion Grangetown i’w ddweud, nhw gaiff fy mhleidlais, er gwaetha’r ffaith nad oes ganddynt gyfle o ennill sedd.

martedì, aprile 29, 2008

Pensiwn

Hoffech chi glywed ystadegyn trist? Fydda’ i ddim yn ymddeol nes y flwyddyn 2052, sef pan fyddaf yn 68, sydd mewn 45 o flynyddoedd (mae gen i ddwbl beth yw fy oedran rŵan, i bob pwrpas, i ddal i weithio). Dwi’n meddwl bod hynny’n erchyll, fy hun. Heb sôn am feddwl am fyw mewn byd y bydd yn hollol estron i chi, pwy ddiawl sydd isio gweithio nes eu bod nhw’n 68 oed?

Mae rhan ohonof yn rhywle sydd wastad yn meddwl nad lle dyn yw swyddfa neu floc neu rhwng muriau yn gweithio’n gaeth i drefn sydd ohoni. Mae rhan sy’n gweiddi’n groch am fod yn yr awyr iach ac wrth y môr a’r coed yn rhydd o ddesgiau a chyfrifiaduron. Gan ddweud hynny, mi wn yn iawn mi fi fyddai’r cyntaf i gwyno ar yr arwydd gyntaf o law mân neu pan y mae’n ddiawl o oer. Dydi hi byth yn peidio â’m rhyfeddu pa mor gaeth ydi’r byd rhydd, a chreulon fyddai rhyddid pur. Bob dim yn baradocs, mae’n rhaid.

Yn ddiweddar iawn mi ‘sgwennais ddarn ofnadwy am fethu’r Gogledd, yn fras, ac ar fy myw dwi’n edifar ei ysgrifennu. Os ydi rhywun yn ysgrifennu rhywbeth, mae’n ei wneud o’n go iawn, rhywsut. Fydda i’n mynd yn ôl ddydd Gwener tan y Mercher nesaf. Fedrai’m disgwyl arogli’r awyr unwaith eto, na gweld gwyrddni. Mae dallt y mynyddoedd yn dangnefedd ac yn gancr, yn eich arbed chi ac yn eich difa’n araf deg. Ydw, dw i angen brêc.

giovedì, aprile 24, 2008

Fy Mhleidlais a Grangetown

Dwi’n dechrau’n araf deg cael i mewn i’r ‘lecsiwn cynghorau ‘ma. Petai arwyddion yn unrhyw beth i fynd arnynt, yn Grangetown draw byddai Plaid Cymru yn ennill tri chwarter y bleidlais. Mae ‘na un Democrat Rhyddfrydol sy’n dweud ‘Winning Here!’ ac un Llafur yn dweud ‘Supporting Labour and the Bluebirds’, gyda rhai’r Blaid dros y lle fel annwyd. Dim ond angen cerdded ar hyd Cornwall Road sy’n rhaid i weld hyn. Mae hi fel etholiad cenedlaethol.

Y Rhyddfrydwyr sydd â thair sedd yma ar hyn o bryd. O edrych ar yr etholiadau diwethaf doedd ‘na fawr o bleidleisiau rhwng ymgeiswyr y Rhyddfrydwyr (y tri ar y brig) a Llafur (y tri nesaf), gyda Phlaid Cymru ddim yn eithriadol o bell yn ôl ar ôl hynny. Os na fydd Plaid yn ennill sedd yma’r tro hwn yna fydd hi’n adlewyrchiad eithaf drwg arnynt. Yn ogystal â 3 o bob un o’r tair plaid, mae ‘na o leiaf un Tori yn sefyll a Chomiwnydd.

Mae gen i dal feddwl i wneud o ran fy mhleidlais. Tan tua phythefnos yn ôl roeddwn i wedi penderfynu, a hithau’n etholiad lleol, mynd am Blaid Cymru eto, cyn i mi gael fy atgoffa y gwnaethant bleidleisio yn erbyn y cynllun ad-drefnu addysg. Felly ni chânt fy mhleidlais yn yr etholiad hwn, a ddiawl ots gen i chwaith os na chaiff ‘run ohonynt eu hethol ledled y ddinas.

Oherwydd y penderfyniad hwnnw, fe’m cyflwynwyd â’r dewis o roi pleidlais i’r Rhyddfrydwyr, a hwythau wedi bod y blaid y cynllun. Ond wna’ i mo’r ffasiwn beth. Wedi’r cyfan, mae Lib Dems yn crap, ac mae gen i deimlad eu bod nhw’n shag eitha’ crap, hefyd.

Ond daeth taflen y Comiwnyddion drwodd, yn mynegi cefnogaeth i sawl peth, fel ateb y galw am addysg Gymraeg, o'r meithrin i'r lefel uwchradd, ac yn wir siarad sens ar ambell i beth. Wyddwn i ddim o’r blaen, chwaith, bod y Blaid Gomiwnyddol o blaid senedd lawn i Gymru gyda grymoedd deddfwriaethol ac ariannol.

Dau ddewis olaf sydd wedyn (o gofio nad ydi Llafur na Thori yn ddewis – ddim i rywun efo hanner meddwl, beth bynnag). Sbwylio’r papur; ond dw i’m isio gwneud hynny. Peidio mynd i bleidleisio? Gas gen i bobl nad ydynt yn defnyddio’u pleidlais, rhaid i mi ddweud, ond â minnau’n teimlo mor ddadrithiedig o wleidyddiaeth ar y funud mae’n ddigon o ddewis i mi ei ystyried.

Fodd bynnag, dw i fwy neu lai wedi penderfynu beth i’w wneud. Efallai ddyweda’ i wrthoch chi, os mynnwch rywbryd.

martedì, aprile 22, 2008

Gorwedd wrth y Westgate

Doedd ‘na ddim ffordd y byddwn wedi gallu sôn am nos Sadwrn i chi ddoe na dydd Sul. Dw i dal mewn poen difrifol. Mae fy ochr dde yn brifo’n arw a’m pennau gliniau yn glwyfedig. Yn bur rhyfedd, dw i’n cofio pam. Wedi rhywsut llwyddo i golli batri fy ffôn a heb bres arnaf doedd ‘na ddim ffordd fy mod i’n gallu cerdded adref am 6.45 yn y bore o ganol dref, felly mi lusgais fy hun tua lle’r genod. Handi iawn ydi adnabod pobl sy’n byw yn eithaf agos i’r canol mewn sefyllfa felly.

Fedrwch chi ddychmygu, a hithau’n ben-blwydd arnaf, ac erbyn hynny wedi bod ar ddeffro ers y peth agosaf i dair awr ar hugain, roeddwn i mewn eithaf stâd, a ddim yn cofio dim byd am fynd i sawl tafarn, fel y Model Inn a Shorepebbles (er fy mod i’n cofio cael pisiad yno) a’r casino wrth i mi wylltio boi oedd yn eistedd wrth f’ymyl yn ei fwydro. Mi ddiflannodd.

Yn ôl i 6.45yb ac roeddwn i’n cerdded wrth y Westgate. Afraid dweud, roeddwn i wedi disgyn a baglu sawl gwaith erbyn hyn, yn bendant, ond rhywsut fanno mi ddisgynnais eto. Doedd gen i ddim math o egni, wrth gwrs, a dw i’n cofio meddwl i fy hun wrth orwedd yno, “Dyna ni. Bydd rhaid i mi gysgu fyma. ‘Sgen i’m dewis.” Mae siŵr mai eithaf golwg od ydoedd i’w gweld, minnau’n gorwedd wrth y groesffordd ar adeg mor swreal.

Yn y pen draw mi lwyddais i lusgo’r ambell i lathen i dŷ’r genod gan ddeffro a chythryddu Lowri Dwd.

Yn wir, roeddwn i mor chwil y diwrnod wedyn prin fy mod i’n cofio mynd am ginio. Trodd meddwod yn ben mawr. Difrifol a sâl. Aeth hwnnw, a daeth y boen gorfforol.

Ond ew, dw i’n dda. Mi lwyddais i golli’r stôn mewn mis!

sabato, aprile 19, 2008

23!

Penblwydd hapus i mi!
Bellach dw i'n ddau ddeg tri,
Blwyddyn arall cyn mi drengi;
Penblwydd hapus i mi!

martedì, aprile 15, 2008

Uwdlyd Fore

Wyddoch chi fi erbyn hyn: mwyn, aeddfed, heb na sarhad na gair drwg am ddim. Ond dwi’n ffwcin flin heddiw a dyna ddiwadd arni. Yr hwn fore roeddwn wedi deffro’n fuan iawn, am tua 7, ac wedi codi erbyn hanner awr wedi. Ew, uwd fydda’n dda, meddyliais, y peth iawn i’m cadw i fynd drwy’r bore hyd fy nghinio.

Ni all na Macbeth na chyflafan Peterloo y’i cyflawnwyd dwy ganrif nôl gymharu efo be ddigwyddodd nesaf. Disgynnodd y sosban ar hyd y popty, gan ddymchwel y rhan helaethaf o’r uwd dros fat y gegin. Llefrith ym mhobman. Dw i’n cofio’r union eiriau y bu i mi eu sgrechian yn y gegin, sef “Ffyc, bastad, bolycs”, a hynny atseiniodd ledled Grangetown.

Mi gymrodd chwarter awr dda i lanhau’r stôf, ac mi roddais y mat, sy’n gythraul o beth trwm, allan ar y lein yn uwd i gyd, yn y gobaith bydd rhyw ji binc ffraeth yn ei fyta cyn i mi fynd adref heno. Afraid dweud, mae ‘nhrowsus yn llychlyd diolch i’r mat uwdlyd, creulon, coch, ac ni chefais uwd ond Bran Flakes y mae Mam a’r Chwaer wedi’u prynu ond heb eu bwyta a’i adael i lawr yma felly rhaid i rywun ei fyta sef myfi. Felly ni’m llenwyd yn y lleiaf, a theimlo’n ddigalon a gwag.


Felly heddiw, dwi’n drist iawn.

lunedì, aprile 14, 2008

Caerdydd a Chwpan yr FA

Ceir ambell i glwb pêl-droed nad ydw i’n eu cefnogi mewn difri rydw i’n hoff ohonynt. Y mwyaf o’r rhain, am ba reswm od bynnag, ydi Southampton. Ar ôl gweld sgoriau Man Utd a Wrecsam, fydda i’n mynd i weld sut wnaeth ‘rhen Southampton. Dydyn nhw ddim yn gwneud yn dda. Y pwynt ydi, fodd bynnag, dw i’n licio Southampton a hynny heb reswm.

Ond hefyd nifer o glybiau pêl-droed nad ydw i’n eu hoffi am ddim rheswm penodol o gwbl: Aston Villa, West Ham, Middlesbrough, ac am ryw reswm rhyfeddach, Sheffield Wednesday. Ymhlith y rhain mae hefyd Caerdydd. Iawn, dw i’n gwybod dw i’n byw yma ers y rhan orau o bum mlynedd, ond dw i’m yn cefnogi Caerdydd mewn unrhyw fodd. A dweud y gwir i chi, dw i’m yn licio Clwb Pêl-droed Caerdydd yn y lleiaf.

Felly mae’n fy ngwylltio a’m gwneud i braidd yn sâl bod cymaint o bobl isio gwneud allan eu bod nhw’n cynrychioli Cymru yn rownd derfynol Cwpan yr FA. Bol-ycs. Clwb ydi Caerdydd: maen nhw’n cefnogi Caerdydd atalnod llawn. Chi’n meddwl y byddai ffan Arsenal yn cefnogi Chelsea yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr achos eu bod nhw’n cynrychioli Lloegr? Tybed pwy fydd selogion Abertawe yn eu cefnogi fis nesa? Cynrychioli Cymru myn uffarn i.

Dim y bydda’ i yn cefnogi Portsmouth o gwbl, cofiwch, a minnau efo cymaint o feddwl o Southampton. Ah. Southampton.

Rŵan, mae Rhodri Glyn Thomas yn dweud a gwneud pethau gwirion yn aml yn ddiweddar, a ddim yn hoff berson i lot ohonom. Ei syniad hurt diweddar, mae’n siŵr y byddwch yn gwybod, ydi y dylai Hen Wlad fy Nhadau gael ei chanu ochr yn ochr â God Save the Queen yn y ffeinal. Yn ffeinal Cwpan Lloegr. Sôn am syniad hurt.

Braint Caerdydd ydi chwarae yn y strwythur pêl-droed Seisnig. Fe ddylent gydymffurfio â phob dim sydd ynghlwm iddo. Does ‘na ddim rheswm pam y dylai anthem gwlad arall gael ei chanu ynghyd ag anthem genedlaethol Lloegr, waeth bynnag pa mor ofnadwy ydyw.

Os oes un peth sy’n waeth na gwleidydd yn stwffio’i drwyn i mewn i chwaraeon, yna Rhodri Glyn Thomas yn gwneud hynny ydyw!

venerdì, aprile 11, 2008

Wythnos tan y 23

Wythnos i ‘fory dw i’n dathlu fy mhen-blwydd. Wythnos i ‘fory mae’n rhaid i mi bwyso 11.6 stôn. Wythnos i ‘fory dw i am feddwi a gwneud bob math o bethau drwg a swnllyd nad ydi pobl dosbarth canol a chapelwyr yn hoff ohonynt. Ond mae amodau, ac elfen gref o betruster. Nid yw rhywbeth yn teimlo’n iawn.

Dydw i ddim yn hoff o’r rhif 23. O fod yn 22, gall rhywun smalio ei fod yn 21 o hyd. Nid felly 23. Rŵan, dw i’n raddol gweld llawer o’m ffrindiau yn callio i raddau; licio arbed ychydig o arian, mynd allan am fwyd, sesiwns mawrion, gwyllt, anfoesgar yn diflannu cam wrth gam, a dw i’m yn licio. Ac mae rhyw ddisgwyl cyffredinol i rywun ddechrau callio rhywfaint ar yr oedran hwn. Dwi am wrthod, wrth gwrs, er gan deimlo y dylwn.

Dydi bod yn 23 yn ei hun ddim yn fy mhryderu’n ormodol, callio sy’n fy mhoeni i. ‘Does gen i ddim bwriad gwneud. Dw i eisoes yn chwerw fy mod i’n gweithio a ddim yn cael mynd i’r pyb drwy’r dydd, er yn fodlon iawn ar fy chwerwder parhaus, distaw sy’n bennaf nodwedd i mi. Ond dw i ar ddeiet ar y funud, a ddim isio bol cwrw, ac yn bwyta’n iach a gwneud ambell i weithgaredd!

Mi synfyfyriaf.

Anodd ydi cael cymeriad wedi’i bennu i chi; mae pawb yn ei gael ac yn aml iawn fe fyddwn oll yn actio i’r cymeriad hwnnw, yn raddol ymffurfio i fod yn gymeriadau ohonom ein hunain. Ydi rhywun yn driw i’w hun am fod yn gymeriad/bersonoliaeth y maent eisiau bod, a chwarae i hynny? Neu ai gwell ydi bod beth yr wyt ond ddim mor hoffus ohono? Neu a oes rhyw ganol hapus i’w cyfuno, neu a ellir newid i ba bwy bynnag neu le bynnag rydych? Os rydych chi fel y fi, fyddwch chi’n hoff iawn o ddadansoddi personoliaethau a phobl: dyn ag ŵyr, mae cyfran go dda o’m sgyrsiau yn cylchdroi o amgylch dadansoddi eraill.

Un o’r pethau rhyfeddaf o ddiddorol ydi pethau fel ‘tasa X yn fwyd/anifail, be fyddan nhw?’. Dwi’n cael pethau crap fel cwstard a broga o hyd. Broga’r Cwstard. Taswn i’n anifail, byddwn i am fod yn Froga’r Cwstard, yn ddiamheuaeth.

giovedì, aprile 10, 2008

Y Celfyddydau

Ni fu’r celfyddydau byth at fy nant. Yn wir i chi, pan ddaw at y rhan fwyaf o’m gwaethaf weithgareddau, mae’r celfyddydau yn dod yn agos i frig pob rhestr. Er gweithio yng Nghanolfan y Mileniwm ac ymhyfrydu mewn barddoniaeth Gymraeg , dw i’n un o’r bobl hynny sy’n meddwl bod y celfyddydau, yn gyffredinol, yn ddiflas.

Hyd yn oed o ran barddoniaeth dw i’n eithaf cul fy meddwl: dw i’n gwybod bod dweud bod barddoniaeth Saesneg yn rybish yn orsymleiddio ac yn beth ysgubol i’w ddweud, felly gwell i mi ei ddweud: mae barddoniaeth Saesneg yn rybish. Mae hyd yn oed y farddoniaeth Saesneg orau, fel rhai Dylan Thomas ac R.S. Thomas, yn rhai efo tinc Cymraeg iddi. Dw i’n meddwl y byddwn yn chwydu gwaed petawn yn gorfodi dioddef clywed cachu fel cerddi Shakespeare neu Wordsworth am fwy na phymtheg munud.

Bydd Shakespeare yn f’arwain at beth sydd, i mi, yn noson annelfrydol o’r radd isaf: noson yn y theatr. Mae’r theatr yn gyfrwng dw i’n ei gasáu yn llwyr a byth wedi’i fwynhau, o fynd i bantomeimau crap yn Lerpwl yn ifanc at y tro olaf i mi fynd sef cynhyrchiad lledr o Branwen, a oedd yn ddeniadol oherwydd y lledr a dim byd arall.

A chelf. O mam bach, dw i’n casáu gwaith celf. Roeddwn i’n eithaf gallu llunio cartŵns (mae cartŵns yn wych) yn iau, ond mae gwaith celf yn rhywbeth na fedraf ei werthfawrogi yn y lleiaf, a sefyll o gwmpas a gofyn be ‘di ystyr ychydig o linellau gwirion (yr arlunydd yn arllwys ei enaid myn uffarn i). Mae rhai lluniau’n iawn, wrth reswm, ond byddwn i’n methu â llusgo’n hun o amgylch oriel ag unrhyw frwdfrydedd, yn enwedig y crap celf fodern ‘ma gan dramps fatha’r ddynas Emin ‘na a’r boi sbectols sy’n torri buchod yn ddau. Os oes gwaeth na chelf, rhywbeth sy’n ceisio bod yn gelf ydyw.

Mi anghofiais ‘fyd, canu opera. Mae canu opera (neu ‘canu gwirion’ yn ôl Nain) yn wirion. Mae cerddoriaeth glasurol yn iawn, ond dim opera. Gwell gen i noson yn A&E na noson efo’r ffwcin Proms.

A pheidiwch â’m dechrau ar y ffieiddra mochaidd gwrthyrrol anfoesol putaingarol fersiwn-haint-a-drosglwyddir-drwy-ryw-y-theatr yr ydyw sioeau cerdd.

Nid fy mod yn berson materol, cofiwch. Jyst, ‘sa’n well gin i fynd i’r pyb.

mercoledì, aprile 09, 2008

Ffwaff

Dw i’n amgyffred bod Lowri Llewelyn yn feipen.

Fodd bynnag, sut mae maip yn blasu? Dw i’n cael un i de heno allan o chwilfrydedd pur. Tybed
?

lunedì, aprile 07, 2008

Penwythnos Cynhyrchiol

Wythnos arall yn dechrau, o fwyta salad diflas a rhedeg a gwneud sboncen a badminton a rhyw lol felly. Fues i’n hogyn drwg wicend. Cefais bizza a chaniau lagyr (a dweud y gwir neithiwr fe ffrwydrodd un yn y lownj ac ar fy soffa a’m carped hyfryd, gan ddrewi’r lle; sawl arogl annifyr sydd i’r byd ac mae lagyr a amddifedir o’i beint neu gan yn un ohonynt). Serch hynny, mi fydda’ i’n meddwl fy mod yn haeddu gwobr fechan weithiau, felly nid ymddiheuraf.

Er gwaethaf y sïon a glywais fod pawb yn f’erbyn yn Shorepebbles nos Sadwrn ac yn annog Lowri Dwd i’m curo, oherwydd bod nhw “ddim isio iddo fo gael y satisffacshyn” (wancars), mi ges benwythnos hapus ar y cyfan. A chynhyrchiol. Dw i’n hoff o’r gair cynhyrchiol – mae productive braidd yn horni o air, ond mae cynhyrchiol yn gaib a rhaw, halen y ddaear, gwreiddiau dwfn ac ati.

I mi, fedr penwythnos neu pa ddydd bynnag ond bod yn gynhyrchiol os gwnaf olchi dillad. ‘Does neb, ond am Mam, yn mwynhau dyletswyddau’r cartref: fy ngwaethaf beth i ydyw golchi dillad, a newid dillad gwely. Ni fyddaf ychwaith yn or-hoff o smwddio, sy’n iawn achos ni fyddaf yn dueddol o smwddio’n aml. Dw i’n ffendio hwfro yn boen hefyd, yn enwedig gan nad ydwyf wedi newid bag yr hwfar am saith mis, a ddim yn rhy siŵr sut i wneud hynny fodd bynnag. Llawn cymhlethdodau ydyw bywyd domestig modern Caerdydd i hogyn bach o Rachub.

Mi ddarllenais bwt newyddion doniol tu hwnt yn y papur newydd heddiw a thu llun ohono. Mi a’i blogiad nes ymlaen fan hyn. Chwerthin, mi fyddwch.

Ew, stwffiai, dyma fo o wefan y BBC:

http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/asia-pacific/7334233.stm

giovedì, aprile 03, 2008

Newyddion Diweddaraf y Deiet

Newyddion diweddaraf cyflym sydd gennyf i chi heddiw ar y deiet. Heddiw, mae’n bythefnos ers i mi ddechrau arno, a phryd hynny, yn ôl clorian Boots, roeddwn i’n pwyso 12.6 stôn. Ddoe, mewn rhyw bwl o iachusrwydd, cerddais (ia, cerddais) i Argoes (fel y byddaf yn ei alw) i nôl cloriannau rhad i mi’n hun. Neithiwr, yn wir, sylwais fod y bol yn cilio rhywfaint waeth bynnag.

Y Sadwrn diwethaf, yn ôl clorian Rhys a Sioned yn y Bae draw, gyda naw niwrnod wedi mynd, roeddwn yn 12 stôn ar ei ben.

Ddoe, wedi pwyso’r cloriannau cachlyd personol, deuthum lawr i 11.11 stôn, felly mewn pythefnos dw i wedi colli tua naw phwys. Yn ôl pawb arall, mae hyn yn dda.

Er, dim ond cloriannau Boots sy’n cyfrif yn y Bet Mawr, a hynny bythefnos i ddydd Sadwrn. Mi ga’ i ffwc o bizza pythefnos i ddydd Sadwrn, dw i’n deutha chi.

martedì, aprile 01, 2008

Y Ddawn Gerddorol

Dwi’n lyfio pobl sy’n dweud “dwi’n gallu chwarae piano!” ac yna’n neud rwbath bach crap, fel Sion Bryn Eithin ‘stalwm yn gwneud y theme-tune i Terminator 2 neu’r gân di-di-dŵ-di-di, di-di-dŵ-di-di, di-di-dŵ-di-dŵ-di-dŵ-di-di (fe'i gwyddoch yn iawn, fy ffrindiau mochaidd, anwadal).

Dros fy oes hir, drist, yn aml aflwyddiannus a llawn dirmyg a her, dwi wedi troi fy llaw at sawl offeryn dros gyfnodau amrywiol o amser: y ffidil (a ‘does gwell gen i na chlywed un ffidil unigol yn canu alaw, ‘sdim swyn yn ennyn fy nghalon cymaint), y delyn (ai, pwff, wn i), y clarinét, y gitâr (roedd rhoi’r gorau iddo’n edifar oes i mi), y trymped, y recorder ac, wrth gwrs, y piano.

Nid oedd fy nawn piano byth yn ymwneud â darllen nodau. A dweud y gwir i chi, prin fod fy nawn piano yn eithriadol p’un bynnag - dim ond cordiau y medraf chwarae â’r llaw chwith, tra bod y llaw dde yn eithaf handi ei ddawn gerddorol. Ond araf a hir ydi i mi ddarllen nodau a’u chwarae, a gwaeth byth gan nad oes gen i bellach fynediad at biano yn handi. Dwi’n eithaf trist o hyn, mae gallu chwarae offeryn yn rhywbeth i fod yn falch ohono, yn fy marn i, a phrin ydyw doniau’n byd sy’n uwch na dawn gerddorol. Dawn ysgrifennu ydyw’r mwyaf yn fy marn i, er bod o hyd plancton ar gornel anial o Fawrth sy’n meddu ar fwy ohoni na ni flogwyr, fel rheol.
Ond yn ôl i’r Ddaear a Myfi, da ydwyf am glywed alaw ac, wedi munud neu ddau, mi fedraf roi eithaf cynnig arni ar y piano, ‘rôl chwarae am bach.


Uchafbwynt cerddorol fy mywyd oedd y daith rygbi i Iwerddon yn 2006, pan ro’n i’n mynd o amgylch tafarndai Dulyn yn swyngyfarddu’r pianos ac yn gallu, er fy chwildod chwalfawr trychinebus, chwarae pob cân y gofynnwyd i mi ei chyfeilio. Erbyn hyn mae’n ddawn honno wedi diflannu gennyf rywfaint. Dyna bwynt go iawn y blog hwn, i ddweud y frawddeg honno. Os oes i rywun y ddawn o ymestyn brawddeg yn nofel, myfi a’i hawliaf yn anad neb.

lunedì, marzo 31, 2008

Methu DI yn Shorepebbles damiai

Wedi bod allan nos Wener am y tro olaf am dair wythnos bu bron i mi grio i mi fethu Dafydd Iwan yn Shorepebbles nos Sadwrn, a Sylvia yn rhoi ei CD Dafydd Iwan ar yn ffwl blast. Ffodus ydi na fentrais allan hefyd oherwydd mi wn y byddwn wedi gofyn am gân a dechrau canu efo’r CD ac edrych yn rêl nob. Wrth gwrs, a minnau wedi hen arfer o wneud nob llwyr o’m hun yn fy meddwod mae’r cywilydd bore wedyn yn deimlad sydd wedi’i ddileu’n llwyr o’m system erbyn hyn. Pa diben edifar? Waeth bynnag, er nad ydi DI fy hoff unigolyn yn wleidyddol, ym maes canu ‘does gwell.

Wedi bod yng nghynhadledd y Blaid ydoedd, yn ôl y sôn. Mi gedwais olwg barcud ar hon am ran helaeth o ddydd Sadwrn, rhaid i mi gyfaddef. Rhaid i mi hefyd gyfaddef mai ples, ar y cyfan, roeddwn o’r hyn a glywais. Mentraf ddweud bod yr holl sôn ac ymrwymiad at annibynniaeth wedi codi fy ysbryd gwleidyddol i raddau helaeth. Dydi hynny ddim cweit yn golygu bod Plaid am gael fy mhleidlais yn ystod yr etholiadau lleol (yng Nghaerdydd y byddaf yn pleidleisio’r tro hwn, dw i wedi penderfynu – wedi’r cyfan, er bod fy nghalon yng Ngwynedd, yng Nghaerdydd dwi’n talu fy nhreth gyngor ac yn gosod fy miniau allan ar ddydd Iau), ond mae unrhyw hwb i’r achos annibynniaeth yn anochel codi fy hwyliau. A pham lai?

Un peth diddorol oedd gweld rhyw symudiad pendant tuag at genedlaetholdeb yn seiliedig ar ddinasyddiaeth yn hytrach na chenedlaetholdeb ddiwylliannol. Mae fy nheimladau am hyn yn gymysg. Ar y naill law dw i’n cydnabod yn llwyr bod hwn yn gam hanfodol sy’n rhaid i Blaid Cymru, a chenedlaetholdeb yn gyffredinol, ei gymryd. Ar y llaw arall, er cymaint fy mod yn ceisio cymryd y cam hwnnw fy hun, cenedlaetholwr diwylliannol ydw i yn y bôn: cenedlaetholwr emosiynol sy’n cael ei swyngyfareddu gan yr egwyddor yn hytrach na’r agwedd ymarferol ar annibynniaeth.

Felly cawn weld dros bwy y byddaf yn bwrw pleidlais, oni sbwyliaf fy mhapur pleidleisio. Dal braidd yn gytud na chefais ambell i Cerddwn Ymlaen nos Sadwrn ‘fyd

venerdì, marzo 28, 2008

Torri Gwallt

Do, mi es i dorri fy ngwallt neithiwr. Fel hyn y mae'n edrych:




Ydwyf, dw i'n edrych fel Harri'r VII. A na, dydw i ddim yn licio edrych fel Harri'r VII.

giovedì, marzo 27, 2008

Obsesiynau

Mi aeth y syniad o nofio fy heibio yn handi iawn. Os na wnaf rywbeth ar unwaith, heb oedi nac ystyried, mi a’i cyflawnaf. Os oedaf, meddwl a phwyso a mesur, prin y gwna’ i. Wn i ddim amdanoch chi, ond fel rheol dw i’n rhywun sy’n cael syniad i mewn i’w ben, yn mynd efo fo, ac yn diflasu wythnos yn ddiweddarach. Mae rhai pobl yn para gyda diddordeb neu hobi, neu obsesiwn, hyd eu hoes – dw i’n lwcus i bara mis.

Ymhlith yr obsesiynau dw i wedi eu cael ar draws y blynyddoedd mae sgwids (sef ystifflog, môr lawes, twyllwr du neu bibwr – cymer hynny, Saesneg!), yr Eidal, hud tywyll, Pabyddiaeth, y Teulu Brenhinol, hetiau, Dafydd Wigley, The Sims a dysgu manion mewn ieithoedd Celtaidd, a fedrwch chi ddim dadlau bod hynny’n gymysgedd od (y byddai o bosibl yn bizza diddorol iawn). Erbyn hyn, mae Lord of the Rings wedi bod yn obsesiwn ers tua phedair blynedd, sy’n gyfnod aruthrol o hir i mi. Os gellir ystyried ystadegau’r Gymraeg yn obsesiwn, mi fu ers y cyfrifiad diwethaf, a dw i byth wedi cweit ymwared â’m Heidalrwydd. Bai fy Nain Eidalaidd ydi hynny.

Byddaf yn trafod Nain Sir Fôn yn aml ar y flog hon, ond dydi Nain ‘Reidal ddim yn cael lot o sylw. Er ei bod hi’n byw pum tŷ i ffwrdd yn Rachub, a hynny ers 40au’r ganrif ddiwethaf, mae ganddi acen Eidalaidd gref a dydi hi’m yn gall, yn parhau i feddwl efallai fy mod yn byw yn Llandudno erbyn hyn, ond mae ganddi demensia, sy’n esgus. Wedi’r cyfan, dw i’m yn cofio pen-blwydd Mam na Dad (i fod yn onest yr unig rai dw i’n eu cofio o’r galon ydi rhai Nain, y chwaer, Lowri Dwd a Sion Bryn Eithin - a’m un i, wrth gwrs), a’m hesgus i yw fy mod yn anghofus. Ond dyna ni, dw i’m yn credu i mi gofio rhywbeth a oedd yn werth cofio. Er, pe na bawn wedi, ni fyddwn yn cofio, mae’n siŵr.

Ydi hynny’n gwneud synnwyr, dwad?

martedì, marzo 25, 2008

Cydio'r Oerwynt Ddietegol

Pwy gythraul fyddai ar ddeiet? Ia, twat fatha fi. O, mi ddioddefais yn y caffi efo Mam a Nain ddydd Sadwrn, yn glafoerio ar y pasta eog a merllys mewn saws hufen oedd ar y fwydlen, cyn cadarnhau’r meddwl a chael brechdan grawn cyflawn ham. Efo salad. Gas gen i ffwcin salad a phawb sy’n dweud eu bod nhw’n hoffi salad.

Lobsgóws a chinio dydd Sul y bwyteais drwy’r penwythnos yn y Gogledd, a physgodyn melyn efo reis a phys melyn. Nid un i gyfrif calorïau mohonof ond er mwyn ennill Y Bet efo Dwd rhaid i mi gadw un llygad bach allan amdanynt, er i fod yn onest efo chdi ‘sgen i’m syniad be uffar ydi calori; bron yn yr un ffordd nad oes gen i syniad be ‘di malaria, ond mae’n ddrwg i chi, ebe hwynt.

Serch hyn, oni lwgaf hyd eithaf fy marw, ni fyddaf yn colli pwysau jyst drwy fwyta pethau efo llai o’r calorïau ‘ma. Felly nofio, o bosib, ydi’r peth gorau i mi. Wedi’r cyfan, mae gen i fol cwrw felly ni foddaf oni fflotiaf bol-i-fyny fatha afanc. Mae loncian yn ymdrech rhy galed. Lonciais i lawr i’r siop welyau nos Iau ddiwethaf ac yn ôl, a drodd allan yn llai na deng munud ond ro’n i bron â marw yn cyrraedd y tŷ.

Llai nag wythnos i mewn a dw i’n methu fy mara a fy nghaws. A fy niodydd swigod. A fy nghwrw, a dywedodd Mam fod corgimwch yn llawn braster, a dw i’n caru corgimwch efo fy nghalon fechan ddu a’i muriau tar. A llai o datws, o! Pa fudd i fyw heb dysan?
A dim cwrw na gwin, fy unig gariadon selog. Wedi’u lluchio megis puteiniaid f’arferion alcoholaidd caeth i ffos fy ngwacter maethlon hwythau ydynt, yn amddifad, yn ddi-wraidd.

Hanner ffordd drwy’r wythnos gyntaf, a dwisho pizza.

mercoledì, marzo 19, 2008

Shit.

Yn wir mae gen i ddatganiad parthed y pwysau erbyn hyn. Dw i, yn anffodus, ychydig dros hanner stôn yn fwy na ddylwn fod. Mi es efo’r Dwd i Boots i ffendio allan ar un o’r peiriannau. Dw i’m yn gwybod be ‘di Body Mass Index, neu Fynegai Màs y Corff, ond dw i’n 26.3 sy’n fwy na ddylwn fod.

Mae Dwd hithau efo her haws o lawer, a hithau’n ddau bwys o dan beth y dylai fod yn ôl y peiriant.

Felly mae gen i fis i fynd i lawr i 11.6 stôn. Anogaeth, plîs. Dwi’m isio colli tenar i Lowri Dwd.

Her Fawr Hogyn o Rachub

Yn wir, dyma fo, Her Fawr Hogyn o Rachub, sy'n rhywbeth fel Grand Slam Glyn Wise ond bod gen i Gymraeg well.

Mae’r amser wedi dod i gyhoeddi’r syniad penigamp. Heddiw ydyw 19eg Mawrth. Mewn mis bydd Ebrill 19eg arnom, sef dyddiad fy mhen-blwydd (trefnwch i sicrhau na chewch mwy na hwyl na fi ymlaen llaw, thanciwplis). Gosodwyd yr her: dw i’n gorfod colli stôn neu roi tenar i Lowri Dwd. A chwi a’m hadwaen gwyddoch na fynnwn roi ceiniog i’r wrach y rhibyn honno oni fo erchyll reswm dros wneud.

Wrth gwrs, y peth cyntaf ac angenrheidiol i’w wneud yn ffendio allan faint dw i’n ei bwyso yn barod. Rŵan, y tro diwethaf i mi wneud hyn oedd tua mis Rhagfyr 2006, a phryd hynny roedd i’n tua 12.5. Ers Chwe Gwlad eleni dw i wedi ehangu’n sylweddol fy nghwmpas boliog felly mi fydd hyn yn her.

Y broblem gyntaf i’w gorchfygu ydi nad ydw i’n ffan o fwyd iach h.y. cachu fel salad. Yn ail dw i’n hoffi cwrw, sy’n gorfod mynd o’m deiet (er dw i wedi addo i’m hun 2 sesiwn cyn y dyddiad terfynol). Hefyd, dw i’n un am dêc-awê nos Sul, a does amheuaeth bydd yn rhaid i hwnnw fynd i’r diawl. Dim cwrw, dim têc-awê, dim ffrio bwyd, lot o gachu iach a llwgu.

Dw i, wrth gwrs, yn eithaf gobeithio mai newid deiet yn sylweddol fydd yr allor i lwyddiant yn hyn o beth, ac y gallaf osgoi ymarfer corff yn gyfan gwbl. Fodd bynnag, a minnau’n cerdded i'r gwaith bob dydd am awr i gyd dylai hyn fod yn ddigon.

Felly dyna ni. Pwyso yn gyntaf. Cychwyn arni’n syth bin. O, fydd hyn yn hwyl. I chi. Dw i am gasáu bob munud.

martedì, marzo 18, 2008

Y Syniad Penigamp

Dwi’m am siarad am y Gamp Lawn: mae gan bawb eu stori a ‘sgen neb arall ddiddordeb yn straeon ei gilydd, ond waeth i mi ddweud bod meddwi a chanu yn rhan hanfodol o’r dathliadau, a dw i’n meddwl y bydd pawb ohonom ar uchel don yr wythnos hon.

Felly dydw i ddim am gwyno, chwaith, achos dwi’n teimlo mai amhriodol a chas byddai difethaf tymer pawb arall. Ac mi hoffwn roi cymeradwyaeth gynnes i fy ffrind a gelyn Ceren Siân, a lwyddodd i dreulio noson yng nghwmni Elfyn Llwyd (a dangos iddo sut i weithio ei ffôn) nos Wener a chael diodydd efo Dudley nos Sadwrn. Camp Lawn, yn wir.

Mae’r haul yn braf a Chymru’n bencampwyr, ond dw i o leiaf hanner stôn yn drymach na fues i gychwyn y Chwe Gwlad. Mis i ‘fory byddaf yn 23 oed, felly llawn ddisgwyliwch i mi gwyno bryd hynny, ac ar gyfer yr hwn benwythnos hir dw i’n mynd i’r Gogledd. Gyda hynny ar feddwl mi es i siopa neithiwr, ond nid i f’annwyl Morristons ond yn hytrach i Asda i brynu prydau parod. Ia, prydau parod; er bod hynny’n welliant arnaf yn barhaol prynu ugain Chicken McNugget ar y funud nosweithiau Sadwrn (ac ydw, dw i’n gwybod ‘na ieir wedi’u stwnshio ydyn nhw, felly ffyc off).


Mae gen i syniad yn fy mrên. Mi ddywedaf wrthoch ‘fory.

venerdì, marzo 14, 2008

Dwisho byd yng Nghwmderi a churo'r Gamp Lawn

Drwy gydol yr wythnos cyn gêm Lloegr roeddwn i’n aflonydd ac yn methu gweithio a dw i ‘di bod yn eithaf tebyg i hynny'r wythnos hon, er bod yn rhaid i mi gyfaddef dw i’n bryderus pa mor anodd bydd cael peint gyda 250,000 o bobl eraill yn gystadleuaeth i mi.

Dwi ‘di penderfynu nad ydw i’n licio’r celfyddydau. Iawn, dw i’n licio barddoniaeth, os Cymro ydw i felly mae hynny’n anochel. Ond mae orielau yn hen bethau diflas tu hwnt yn fy marn i. Dwi’n cael dim mwynhad o drempio rownd y lle yn edrych ar luniau, a gwaeth fyth eu dadansoddi. A’m noson annelfrydolaf (dyna ‘di gair) ydi treulio noson yn y theatr. Dw i’n un o’r bobl hynny y byddai’n well ganddynt fynd ar Facebook a gwylio Pobol y Cwm.

Ar y funud dw i ‘i mewn i’ Pobol y Cwm. Dwisho credu mai Denzil roddodd y Deri ar dân, ond yn nyfnion fy nghalon gwn nad dyma’r achos. Siomedig.

A lle mae Anti Marion ‘di mynd?

A ydi’r genedl yn unfrydol yn eu casineb o Sara?

Ble dwi’n gwneud cais i gael swydd Gwynfor? (beth bynnag ‘di honno)

Cymaint o drallodion sydd i Gwmderi. Yn bersonol, dw i’n licio’r rhaglenni lle does 'na fawr o ddim yn digwydd, fel yr anfarwol raglen a grybwyllwyd gennyf sawl gwaith yn flaenorol lle y bu Meic Pierce a Denzil yn chwilio am geffyl. Dwisho ‘mywyd i fod fel ‘na.

mercoledì, marzo 12, 2008

Cwlio lawr

Dwi wedi dechrau setlo ers dweud fy ffarwél i Blaid Cymru, ac mae’r dicter wedi gostwng rhywfaint. O’m rhan i, mae gan Blaid Cymru o hyd cyfle o ennill fy mhleidlais erbyn 2011; mae popeth rŵan yn dibynnu ar ddeddf iaith gref a’r refferendwm (yn ogystal â gwthio’r agenda addysg Gymraeg ymhellach). Os ceir hynny tebyg y gallaf eto bleidleisio i’r Blaid erbyn 2011: a dwi’n dweud hynny oherwydd fy mod isio gallu gwneud hynny efo’r un ffydd a oedd gennyf gynt.

Dwi wedi hen benderfynu y bydd Hywel Williams yn cael fy mhleidlais, os dim ond am y rheswm bod gen i barch mawr ato, a p’un bynnag mae meddwl am Eaglestone yn cynrychioli Arfon yn ormod o lawer i mi allu stumogi. Os un peth sy’n rhaid ei edmygu am y Blaid Lafur, hynny ydi eu bod nhw’n dragwyddol thick. Pe bai Betty yn sefyll yn Arfon, mi fyddai Arfon yn troi’n goch, dw i’n amau dim, ond eto dw i’m yn amau na chaiff Eaglestone lwyddiant.

Rhwng dau feddwl ydwyf o hyd o ran pleidleisio yn yr etholiadau sirol. Mae etholiadau sirol yn bethau od. Iawn, dydi Plaid ar y cyngor ddim yn grêt, ond mae’n eithaf anodd meddwl am enghreifftiau o gynghorau da, tydi? Mae’r rhai Llafur yn y Cymoedd yn erchyll, a ‘sdim ond angen edrych ar Sir Fôn neu Geredigion i weld yr annibyns ar waith. A, hyd yn oed pe bai’r dewis gennyf, dw i’m digon sad i bleidleisio Lib Dem. Ac yn rhy egwyddorol i roi fôt i’r Toris.

Ah, dirmyg gwleidyddol, ‘sdim gwell.

Bydd yn ddiddorol gweld hanes Llais Gwynedd. Er cymaint ag y mae Plaid wedi fy mhechu, byddwn i ddim yn bwrw pleidlais dros y rhain. Mi fyddant yn ennill seddau yn yr ardaloedd gwledig, ond yn yr ardaloedd hynny lle mae’r ysgolion mwy dw i’n dueddol o feddwl y byddant yn bomio, os yn wir y byddant yn sefyll yno. Mi es innau i ysgol fwy, yn Llanllechid, a dw i’n ei ffendio’n hurt bod adnoddau yn cael eu harallgyfeirio i rai ysgolion efo tua 15 o blant. Iawn, dw i’m yn cytuno’n gyfan gwbl gyda’r Cynllun arfaethedig, a dw i’m isio cau pob ysgol wledig o bell ffordd (yn fy marn i mae nifer yr ysgolion a fyddai’n cau yn rhy uchel o lawer), ond mae’r ffasiwn beth a bod yn annichonadwy, ac mae rhai ysgolion bychain yn hynny.

Does ‘na ddim byd yn bod gydag ysgolion ardal ac ysgolion ffederal; does dim i mi’n awgrymu’n wahanol, a thrist a nawddoglyd ar y diawl ydi clywed rhai o du LlG yn dweud bod pobl sy’n dweud hynny naill ai wedi llyncu propaganda neu jyst ddim yn dallt y mater wrthlaw. Mae’r ddadl o gymunedau’n cael eu chwalu, ond mae digon o gymunedau bywiog ddi-ysgol. Yn wir, os mai ysgol yn unig sy’n cynnal ein cymunedau erbyn hyn, mae hynny’n adlewyrchu’n ddrwg ar y gymuned yn hytrach na dim arall.

Mae’r ddadl genedlaethol yn peri problemau i mi. Doedd yr Alban, sydd â phoblogaeth o dros ddwy filiwn yn fwy na Chymru, methu cynnal dwy blaid genedlaetholgar. Dydi Cymru methu chwaith; dim peryg. Felly mi fyddaf innau erbyn hyn yn aros ar yr ochrau, yn gwylio a dadansoddi i mi’n hun sut y mae’r Blaid yn gwneud, ac yn pleidleisio ar eu perfformiad ac nid yn emosiynol.

Dw i’m meddwl bod hynny’n ddigon teg.

martedì, marzo 11, 2008

Natur Cymru

Fel y gwyddoch, oni bai eich bod yn newydd yma (yn yr achos hwn dylech ddarllen y pedair blynedd a hanner o gofnodion sydd i’r flog hon i ddal fyny, achos dw i’m am ailadrodd popeth rŵan myn uffarn), dw i’n hoffi bwyd, dw i’n hoffi cwrw a dw i’n hoffi synfyfyrio. O’r rhai, cwrw ydi’r hoffaf, ac yna bwyd, gyda synfyfyrio yn rhywbeth i’w wneud gyda chyfuniad o’r uchod.

Mi wnes, wedi’r cwbl, cael noson arferol neithiwr, yn gwylio rhaglen ddogfen ar fyd natur a chyfnewid sarhadau â Dyfed Flewfran (e.e. TI’N FINC, Chdi di gê y gors, Chdi a Lowri Dwd yn Clwb Ifor a.y.y.b.). Do, fel y dywedais, gwylio Natur Cymru fu fy hanes, a mwynhau. Doeddwn i’m yn gwybod bod y llysywen bendoll yn nofio drwy afonydd Cymru, er na fydd y wybodaeth hon o ddefnydd ymarferol imi yn y dyfodol, oni ffafriaf lysywen bendoll i’m te rhywbryd, neu y caf dröedigaeth rywiol ryfedd (neu ryfeddach na’r un gyfredol, ond nid lle ydyw blog i drafod honno).

Deuthum at sawl casgliad yn ystod y rhaglen. Y cyntaf ydyw bod angen jiráffs ar Gymru. Yn ail, mae gwas y neidr yn cŵl. Yn drydydd mae angen i Iolo Williams newid ei grys yn amlach, neu brynu mwy, achos roedd o ym mhedwar ban Cymru mewn un glas neithiwr. Yn bedwerydd, ni ddylid ceisio atal llyffantod rhag cael rhyw. Yn bumed dw i ‘di cofio bod cri alarch yn gyrru ias lawr fy nghefn.

Roeddwn innau a Dyfed yn arfer, pan gefais yr anfri o fyw gydag o, yn hoff o ddyfeisio anifeiliaid. Cofnodir hwynt yma am byth rŵan: y blewfran, y mochyn cwpan, y chwadan borffor, yr afiachbry, y fuwch bustl, y mwydyn mwstas (un diweddar ond mi a’i hawliaf), y cachgranc.

Dw i’m yn cofio’r lleill. Roedd yn flwyddyn ddiffrwyth, mae’n rhaid.

lunedì, marzo 10, 2008

S4C

Iawn, iawn gêm wych ac ati, ‘sdim pwynt i mi fynd drwy’r mosiwns yn dweud sut wnes i feddwi a pha mor wych ydi Cymru, achos mi fyddwch yn gwybod neu’n dyfalu neu’n amgyffred hyn oll yn barod. Meddwl am S4C o’n i.

Yn tŷ fues i’n gwylio’r gêm efo Sion, a hynny ar S4C, mwy oherwydd fy mod i’n hoffi clywed HLlD yn dweud pethau fel ‘y deunaw stôn o Donga’ a phiso chwerthin ar hynny. Mae ‘na rhywbeth anfarwol o ddoniol am glywed ‘y gwŷr mewn gwyrdd’ a ‘Pharch Crôc’, ond efallai mai fy hiwmor syml i ydi hynny.

Meddwl oeddwn i faint ydw i’n gwylio S4C, ac mi synnais fy mod i’n ei wylio yn eithaf defodol. Mi wnaf ymdrech go iawn i wylio pethau fel Codi Canu a Johnathan, oherwydd dwi’n eu mwynhau, a Phobol y Cwm ydi’r unig opera sebon dw i’n ei wylio’n rheolaidd, ond am Neighbours (wrth gwrs) a Hollyoaks (dw i’m yn gwylio Hollyoaks ond mae o wastad ar ôl y Simpsons a fyddai ar y we ar ôl y Simpsons a ddim yn newid sianel - am 7 fel arfer dw i dal ar-lein ond yn dueddol o droi’r sianel i S4C a chael Wedi 7 arnodd). Ond mae PyC yn cymharu'n ffafriol efo'r sebonau opera Saesneg mawr: maen nhw'n wirioneddol gachlyd.

Am 7.30 fel arfer mi roddaf Newyddion ‘mlaen. Ar ôl tua 9 rhaid i mi ddweud mai troi at y Saesneg y byddaf ond dw i’n wirioneddol edrych ymlaen at Natur Cymru fydd ar am 9 heno (a diolch i Dduw am hynny, rhaid i rywun lenwi bwlch ar ôl Life in Cold Blood, fedrai’m neud heb raglenni natur am hir). A dweud y gwir, ar wahân i ambell i gachloddest fel Mosgito mae S4C yn olreit y dyddiau hyn. Fe aeth drwy gyfnod. Tua phum mlynedd yn ôl yn sicr roedd arlwy S4C yn wael, ond mae’r safon wedi codi erbyn hyn ac mae’n cymharu’n ffafriol â’r sianeli Saesneg analog.

Rhaid i S4C geisio cynnig rhywbeth i bawb: yn aml ceisir plesio pawb gan lwyddo gyda neb, ond bydd rhai pobl wastad yn cwyno amdani. Ond ers rhyw ddwy flynedd, mae S4C wedi gwella, ac yn olreit ar y cyfan.

Y broblem fawr, o ran y ffigurau gwylio, yn fy marn i, ydi y bu i’r sianel golli llawer o wylwyr yn ystod y cyfnod hwnnw pan ddisgynnodd y safon yn isel iawn, a heb eu hennill yn ôl. Ond o roi cyfle iddi, dydi hi ddim yn ddrwg, ac mae’n cael gormod o feirniadaeth a dim digon o glod yn aml iawn. Ond mewn gwlad mor anwadal â hon, beth arall y gellid ei ddisgwyl?

venerdì, marzo 07, 2008

Pêl-droed a Rygbi

Y ddadl dragwyddol: ai pêl-droed neu rygbi ydi gêm genedlaethol y Cymry? Dw i’n siŵr fy mod wedi dweud eisoes a sawl gwaith bod yn well gen i bêl-droed fel gêm, ond yn ystod cyfnod y Chwe Gwlad dim ond rygbi sydd ar fy meddwl (y rhan fwyaf helaeth o’r tymor pêl-droed byddaf yn ymwybodol iawn o’r holl dransffers a phwyntiau a gwahaniaeth goliau, ond o gêm gyntaf y Chwe Gwlad i’r olaf ‘sgen i ddim syniad beth sy’n digwydd be sy’n digwydd).

Ond mae’n rhaid i mi ddweud, efo cryn siom, mai rygbi ydi gêm genedlaethol y Cymry. Iawn, mae ‘na fwy o bobl yn chwarae pêl-droed, a hyd yn oed yng Nghaerdydd ‘sdim ond angen cymharu torfeydd y Gleision â’r rhai ym Mharc Ninian i weld bod pêl-droed yn gryfach yn y brifddinas (yn fy marn i) hyd yn oed. Ond dydi’r Gogledd ddim yn bêl-droed i gyd, chwaith. Mae ochrau Rhuthun ffor’ acw i rygbi i gyd – hyd yn oed yn Nyffryn Ogwen hyd Dyffryn Nantlle mae rygbi yn eithriadol boblogaidd (a dweud y gwir, byddwn i’n fodlon dweud mai Pesda ydi cadarnle rygbi mwyaf gogleddol Cymru).

Cymysg ydi’r darlun yn y pen draw, ond pan ddaw hi at angerdd y gêm genedlaethol, yn anffodus dydi pêl-droed methu â chymharu â rygbi. Mae’n drist ond rhaid cyfaddef ei bod yn wir - mae’r holl awyrgylch a’r canu Cymraeg, a’r ‘banter’ rygbi (heblaw yn erbyn y Saeson pan ddaw i lawr at gasineb craidd yn aml) yn atyniadol iawn i mi. Ond dyna ni, fy marn i ydi hyn i gyd.

A chas gen i bobl sy’n dweud “na, dw i’m yn gwylio’r rygbi, ddim diddordeb” neu “mae ffwtbol yn crap”. Ond efallai bod hynny’n dod lawr i’r ffaith bod gen i wir angerdd at y ddwy gamp, a dw i’n licio pobl sy fel fi. A beth bynnag mae rhywbeth yn well na ffwcin criced (pwy FFWC sy’n GALL ac yn mwynhau CRICED?)

Y pwynt dw i’n ceisio’i wneud, yn gwbl, gwbl aflwyddiannus, ydi fy mod yn edrych ymlaen at ddydd Sadwrn yn ofnadwy. Ond pêl-droed neu rygbi, ennill sy’n bwysig, a phan fydd Cymru yn curo bydd yn rhoi gwên ar y wyneb am weddill yr wythnos, sydd bob amser yn neis.

Iesu, nes i ddim cyflwyno'r pwynt bwriadedig o gwbl naddo?

mercoledì, marzo 05, 2008

Nodweddion Pennaf y Cymry

Nid yn anaml yr hoffwyf ddweud pethau mawrion, ac nid yn anaml i’r iaith Saesneg y cyfeirir y llid hwnnw ati. Yn wir, mor drahaus ydwyf ar y mater fel y byddaf yn datgan yn groch a phendant mai hen iaith gomon a hyll ydi’r Saesneg: hyll oherwydd ei seiniau di-nod a diflas a chomon oherwydd bod pawb yn ei medru. Does math o goethder na chelf yn perthyn iddi, yn fy marn onest i. Adroddir cyfrolau am y Saesneg y medr bron pob gwlad arall ei siarad yn well na’i wlad a roes enedigaeth iddi.

Ond gwell i mi beidio â dweud mwy, neu bydd rhywun yn sicr am fy ngwaed.

Ar ôl darllen Morfablog a gweld dolen i raglen Rob Brydon’s Identity Crisis fe’m synnwyd sut yr oedd ei ddirnadaeth o’r Cymry yn wahanol i ddirnadaeth y Cymry am eu hunain. Wyddwn i fy hun fyth y cawsom ein hystyried yn bobl brudd a diflas.

Dw i ers erioed wedi meddwl bod y Cymry fel rheol yn gyfeillgar, yn ffraeth ac yn fodlon iawn ar fynd drwy fywyd heb wneud dim o fawredd ond am fodloni’n hapus. Dydi ein cyfraniad i’r byd yn ei fawredd ddim yn llawer, a dw i’n meddwl ei bod ni’n eitha’ bodlon efo hynny. Nid gor-ddweud yw ein bod yn gantorion o fri, naturiol chwaith - mae ‘llais ffantastig’ dros y ffin fel arfer yn cael ei ystyried yn ‘llais da’ fan hyn.

Iawn, oce, dw i’n swnio’n drahaus iawn, ond problem fawr y Cymry ydi nad ydyn nhw’n gwneud digon o sŵn am eu rhinweddau. Oherwydd, fel y gwyddoch, o bosibl, os cymeroch sylw, dw i’n hoffi rhestri, a dyma yn fy marn i Ddeg o Nodweddion Pennaf y Cymry:


  1. Bodlonrwydd dwys
  2. Ffraethineb
  3. Canu yn y gwaed (diolch i’r capeli, rŵan pawb, “diolch, capeli...”)
  4. Ymdeimlad cymunedol cryf
  5. Rhyw rinwedd ‘oes a fu’ - rydym yn rhan fyw o’r hen fyd nad ydyw mwyach, a byddwn tra byddwn yn parhau
  6. Gwerthfawrogiad o'r pethau mân
  7. Mwy na’r un genedl arall ni ellir ein gwahanu o’n tir
  8. Ysbryd gwrthryfelgar (er ein bod yn gyndyn i weithredu)
  9. Smygrwydd. Mae’r Cymry yn ddwys o smyg am y ffaith nad ydynt yn Saeson
  10. Edwina Hart

(iawn, oce, dydi Edwina Hart ddim yn un o rinweddau’r Cymry, ond y gwir ydi fedrai’m meddwl cymaint â 10 ... roedd pump yn ffwcin straen...)

giovedì, febbraio 28, 2008

Tafarn leol

Wrth i Lowri Dwd ddod am ei gwyliau i Stryd Machen draw mae’n noson cwis dafarn yn y Cornwall. Bydd ambell un ohonoch yn gyfarwydd â thafarn y Cornwall, sef fy nhafarn leol, lle y byddwn yn mynd, ambell i waith, i chwarae’r cwis. A meddwi.

Rŵan, dw i’n berson cwynfanllyd a phenodol pan ddaw at dafarndai. Ers i’r Siôr gael ei chymryd drosodd gan Saeson (a rhai dw i’m yn ffond iawn ohonyn nhw o ran hynny - nid fy mod i’n ffond iawn o Saeson fel arfer, chwaith) mae’r Tavistock yn hawlio’i lle dyledus felly fel fy hoff dafarn. Dw i heb fod yno ers blwyddyn a mwy bellach, ond mae’r ddelwedd berffaith ohoni’n parhau, a dw i’n ddigon bodlon aros â’r ddelwedd o’r lle. Roedd y Tavistock yn dafarn leol heb ei hail, ac yn aml iawn bydd fy nghalon yn canfod ei ffordd yn ôl i’m trydedd flwyddyn yn y brifysgol a’r dyddiau a’r nosweithiau gwych a gafwyd yno: does fawr o amheuaeth gen i ddweud y treuliwyd rhai o ddyddiau gorau fy mywyd yn y dafarn fechan honno’n Y Rhath draw.

Erbyn i ni adael roedd y Tavistock wedi troi yn eithaf cyrchfan i Gymry Cymraeg yr ardal. Nid yn anaml mai’r Gymraeg a deyrnasai yno. Gwir iawn ydi hyn am y Cornwall - dw i’m eto wedi bod yno heb glywed Cymraeg. Ond er gwaethaf y ffaith hyfryd honno, dydi’r Cornwall ddim cymaint i’m hoffter. Gwir, mae’n gyfforddus, ond i mi’n bersonol mae’n ddiffygiol o ran rhywbeth a wn i ddim beth. Nid ydyw wedi llenwi’r blwch a adawodd y Tavistock - bosib oherwydd nad ydw i’n yfed cweit cymaint â phan fues fyfyriwr. O bosib oherwydd bod fy ffrindiau, agosaf a pellach, yn ddaearyddol bellach na fuont.

Dw i’n teimlo’n hen ŵr (ifanc) yn hiraethu am bethau bach felly. Ond ni wnaeth hiraethu ddrwg i neb.

mercoledì, febbraio 27, 2008

Cyflawnder Amser

Y peth gwaethaf y gall rywun ei ystyried a meddwl amdano yn ei wely yn ceisio cysgu ydyw’r bydysawd. Dw i’n gwybod bod hynny’n swnio braidd yn rhyfedd, ond mi grwydrodd fy meddwl i’r hwnnw gyfeiriad neithiwr. Mae’r peth i gyd mor gymhleth fel ei bod yn amhosib dweud dim amdano, yn dydi? O’r gwyddonydd enwocaf i’r uchaf esgob, mae gan bawb eu damcaniaeth am sut y’i crëwyd, a’r gwir plaen am y mater ydi bod pob eglurhad yr un mor debygol â’i gilydd.

Wrth i hynny fy nharo, penderfynais na fyddwn yn cysgu pe bawn yn meddwl am hynny, felly daeth y meddwl i lawr at y ddaear hon. Amser; y gelyn cyffredin. Anhygoel ydyw meddwl na fydd yr Wyddfa yn bodoli rhyw ddydd. Prin iawn y byddwn ni’r Cymry yno bryd hynny: dyn ag ŵyr pwy fydd.

A minnau wastad yn ddilornus o’r Saeson hynny sy’n symud i Gymru i fod yn agos at dir na fedrant ei ddallt byth, a bod “yn rhan o natur” drwy bethau gwirion fel mediteiddio, pan ein bod ninnau’n rhan annatod o’r tir hwn ers cof: mae’r tir hwn yn fam i ni, mewn gwirionedd, yn perthyn i ni, a fedr neb ddod yn perthyn i ddim drwy geisio. Rydych chi yn, neu dydych chi ddim.

Ond rhyfedd hefyd: rydym ni wastad yn ystyried mai eiddo’r Cymry ydyw Cymru, ac mai Cymru sy’n ein llunio, ond efallai nad ydym ni’n gywir wedi’r cwbl. Bu, mewn oes bell, bobl ar y tir a elwir yn Gymru heddiw nad Cymry’r oeddent – trigai eraill yma cynom ni, a thrig eraill arni ar ein hôl. Efallai mai’r Saeson a’u hiaith nhw fydd y nesaf, mae’n ddigon posibl, ond yn sicr nid y nhw ychwaith fydd yr olaf o gryn ffordd.

Rhyfedd hefyd ydyw meddwl bod Cymru’r genedl ond yn eiliad fechan yn hanes Cymru’r tir. Bu’r Carneddau’n sefyll yn wyliadwrus a’r tonnau’n herio’r clogwyni cyn y clywid cân dyn na chri’r eryrod. Nid oedd y Gymraeg, y’i ffurfiwyd gan y tir ym mhle y trigasai, yno o’r dechrau un, a daw dydd lle y bydd hithau’n angof - ynghyd â Chymru a’r Cymry, ond hefyd ynghyd â’r hen elyn o dros y ffin: ni chofir cerddi heddiw ym mha iaith bynnag y’u hyngenir, yn yfory amser. Tybed faint o wareiddiadau’r bydd sydd eisoes wedi diflannu’n gyfan gwbl, a faint o’r rheini yr oeddent yn credu’n gryf y byddent “yma hyd ddiwedd amser”? Pwy feiddiai dau fileniwm yn ôl ddarogan na fyddai Lladin i’w chlywed; pwy ond pedair ugain o flynyddoedd yn ôl byddai’n darogan fod Ymerodraeth Lloegr yn dod o derfyn?

Rydym ninnau’r Cymry rhywfaint i’r gwrthwyneb, bu gelynion yn proffwydo ein machlud yn ystod ein gwawrddydd, ond megis traeth sy’n gwrthod ildio i’r trai daw ein diwedd ninnau hefyd yn y pen draw. Yng nghyflawnder popeth, dydyn ni, na’r holl bethau rydym ni’n sefyll drostynt yn ddim. Daw’r dydd na fydd neb yn cofio dim ohonom.

Y tric mawr ydi mwynhau popeth tra eu bod yn para, ymhyfrydu ac ymdrybaeddu yn y pethau bychain a’r pethau mawrion, o bob cwrdd â chyfeillion i bob cerdd sy’n llonni; pob cinio Sul gyda’r teulu, a meddu ar bob chwarddiad nad atseinir ‘fory. Os gwnawn ni hynny, prin y byddai’r un ohonom yn edifar rhyw lawer.

Wn i ddim sut i orffen y blogiad hwn – felly mi adawn ni pethau’n fanno!

venerdì, febbraio 22, 2008

Mae gan Lowri Dwd gorff fel chicken and mushroom slice

Y tro diwethaf y bu gêm Chwe Gwlad, mi aeth yr Hogyn allan am unarddeg, a bu’n ei wely yn cysgu’n braf cyn chwech, fynta’n cerdded adref yn chwil gaib efo beiro ar ei wyneb a staens seidr blac o amgylch ei geg fel y Joker o Batman, wrth i hanner Caerdydd dechrau am allan. Dydi hyn ddim am ddigwydd yr hwn benwythnos. Mae gen i bwynt i’w brofi. Mi a’i profaf. Neu mi fydd Rhys yn fy lluchio i mewn i Afon Taf, dywed ef.

Un o’r pethau doniolaf a welodd ganolfan chwaraeon Talybont erioed oedd y Fi yn mynd efo Lowri Dwd i chwarae badminton yno’r wythnos hon. Yn ddiau mae gennyf gorff fel cwstard wy efo coesau sosej a Fruit Pastille yn ben iddo (a’r Dwd hithau chicken and mushroom slice tamp o gorffyn cnawdol â thrwyn banana estynedig) ond dw i’n dda ar fadminton ac yn dda ar denis. Ond mae problem. Bu blynyddoedd o gam-drin fy nghorff mewn amryw ffyrdd yn ddigon erbyn hyn i wneud i mi golli fy anadl yn ddifrifol wrth ddringo grisiau, heb sôn am chwarae badminton am awr.

Yn ffodus reit, penderfynodd y Dwd daro’r wennol yn ôl ataf yn syth bron bob tro. Wedyn mi fyddaf yn beryg. Mae gen i shot fel bwled – mi fedraf daro’n galed neu osod yn goeth. Ond mae’r fantais o daro cain yn cael ei gydbwyso gyda’m hanalluogrwydd i redeg, a thalcen caled ydyw: i’m curo i mewn gêm, pa gêm bynnag y bo, y dacteg y dylid ei mabwysiadu yw gwneud i mi redeg (dydi hyn, wrth gwrs, ddim yn cynnwys pŵl).

Felly, dyna’r dystiolaeth nad un iachus mohonof, pe byddid angen y fath dystiolaeth yn y lle cyntaf. Ond daeth ôl-effaith cas yn ei sgil. Stiffdod. Ia wir, ers nos Fercher mae fy mraich dde yn hollol stiff, yn brifo megis cryg cymalau, a chyda minnau’n ei ddal yn glwyfedig reit dw i wedi cael ambell i olwg amheus, ddyweda’ wrthych chi.

Yn ogystal â hyn cefais quiche i de nos Fercher a nos Iau, sy’n ffordd ddigon bodlon o orffen blogio’r wythnos hon.

mercoledì, febbraio 20, 2008

Nodyn Bodyn y Diwrnod

Hoho! Nid PC yn y lleiaf mo’r nodyn bodyn hwn a dderbyniais gan unigolyn a fydd yn aros yn anhysbys, ond mi wnaeth i mi wenu fel giât…!

"Dwi mewn lle doctor yn Bute town a dwi’n timlo fel dwi’n India dim Cymru! Fi di’r unig berson gwyn yma heblaw am y receptionist!"

martedì, febbraio 19, 2008

Y Tywydd (nas bwriadwyd)

Twyllodrus ydyw’r heulwen. Mi ddaw honno i ddywedyd helo yn llawn addo cynhesrwydd ac mai dal yn ffwcin oer. Serch hyn, dw i ddim am drafod y tywydd efo chi. Petawn gyda chi’n bersonol, mae cyfle sylweddol y byddwn yn gwneud hyn, oherwydd ar lafar mi fyddaf yn trafod y tywydd, gan hoffi dywedyd pethau megis:

“’Rargian mai’n oer”
“Mae’r cythraul gwynt ma’n chwthu, ‘chan”
“Uw, mi o’n glos echoddoe, ‘ndoedd?”

ond, fel y gwelwch, yn ysgrifenedig felly nid yw’r tywydd yr un mor ddiddorol ag ydyw yn y byd go iawn. Ond pa drafodaeth bynnag ynghylch y tywydd sydd, mae’r geiriau “chwythu”, “gafael” a “braf” yn anochel am lithro i mewn i’r sgwrs.

Hynny ydi, mae “chwythu” nid yn cyfeirio at y gwynt ond “Gwynt Mawr”, fel petai. Dyma dywydd dal dy het, atal rhag rhoi dillad ar y lein a.y.y.b.

Mae “gafael” yn echrydus o oer, ond yn aml y gwynt ei hun, ac nid y tywydd o reidrwydd sy’n oer. Felly pan fydd yn chwythu, mai’n gafael.

Yng Nghymru, gall “braf” olygu unrhyw beth nad yw’n “chwythu” neu’n “gafael”. Ymhlith yr enghreifftiau ydyw tywydd clos, eira trwchus a glaw heb wynt yn yr awel. Dyma ydyw ystyr “braf”.

Noder:
Brâf – tywydd heulog
Bràf – ddim cystal; safonau Cymreig yn gymwys
Brêf – haul yn y Canolbarth