Reit, dyma’r drefn. Dwi’n gobeithio dadansoddi Blaenau Gwent ddydd Gwener neu ddydd Sadwrn. Wythnos nesaf, ceir Wrecsam, ac yn olaf un Ynys Môn, oherwydd o holl seddau Cymru, Ynys Môn ydi’r canlyniad dwi leiaf sicr yn ei gylch.
Ac ar ôl Môn y Fam Ynys fydda i ddim yn cyffwrdd mewn gwleidyddiaeth nes bod yr etholiad wedi'i alw!
O’r rhai sydd ar ôl, teg dweud mai Cwm Cynon ydi’r hawsaf i’w darogan yn llwyddiannus, oni chawn sioc a hanner. Dim ond un blaid, erioed, sydd wedi cynrychioli’r union sedd hon sef y Blaid Lafur. Os darllenwch y we wleidyddol Gymraeg fe gewch ambell ddarn sy’n awgrymu bod Plaid Cymru yn hyderus yma flwyddyn nesaf. Prin fod neb ond am Lafur eleni. Pam felly?
Wel, dyma canran y bleidlais gafodd Llafur a’r pleidiau eraill ar gyfartaledd yn yr 80au, y 90au a’r 00au (dynodir gan liwiau):
1980au: 61%; 9%; 11%
1990au: 70%; 11%; 10%; 9%
2000au: 65%; 16%; 8%; 10%
Roedd y Democratiaid Cymdeithasol yn eithaf gryf yma yn yr wythdegau, a dyma pam bod pleidlais Llafur y degawd ddiwethaf yn uwch na phryd hynny. Mae Plaid Cymru wedi gweld cynnydd yma, gyda’r Ceidwadwyr i’r lawr a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi segura.
Ond beth am union faint mwyafrif Llafur – sydd wedi bod dros Blaid Cymru bob tro – ers 1997?
1997: 19,775 (59.1%)
2001: 12,998 (48.2%)
2005: 13,259 (49.8%)
Mae’r niferoedd sy’n pleidleisio wedi dirywio ddeg y cant ond dydi’r un o’r tair plaid arall, gan gynnwys Plaid Cymru, wedi gweld newid mawr yn eu pleidlais – dim ond Llafur. Disgynnodd ei phleidlais 6,233 o bleidleisiau rhwng 1997 a 2005, sef o chwarter. Dydi hynny ddim cynddrwg â llawer o seddau eraill.
Beth am bethau yn y Cynulliad? Dyma faint o bleidleisiau a gafwyd gan pob plaid yn y tri etholiad ar gyfartaledd:
Llafur 10,584
Plaid Cymru 6,347
Ceidwadwyr 1,351
Dems Rhydd 1,217
Mae ‘na hanes y tu ôl i’r ffigurau hynny, wrth gwrs. Daeth y Blaid o fewn 677 o bleidleisiau i gipio’r sedd ym 1999, ond er hynny cafodd fwy o bleidleisiau y flwyddyn honno na chafodd yn 2003 a 2007 gyda’i gilydd. Ar y llaw arall, cafodd Llafur fwy o bleidleisiau yn 2007 ar y lefel hon nag erioed o’r blaen. Yn wir, dwi’n credu efallai mai dyma’r unig etholaeth Cynulliad yng Nghymru lle mae Llafur wedi cynyddu ei phleidlais deirgwaith o’r bron.
O ystyried hynny, mae’n ddigon anodd dyfalu pam bod Plaid Cymru mor hyderus yma ar gyfer y flwyddyn nesaf – i fod yn onest, dydi’r ystadegau ddim yn sail i’r brolio. Yr unig ffordd, a dwi’n golygu yr unig ffordd, y gall gyfiawnhau’r hyder hwnnw ydi drwy sicrhau canlyniad da eleni – rydyn ni’n sôn am gael o leiaf bumed o’r bleidlais.
Er, gallwn ddweud yn hyderus y daw Plaid Cymru’n ail yma eleni, dwi’n credu, ac na fydd y Ceidwadwyr na’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gwneud yn dda. Yr unig gwestiynau i’w hateb ydi pa mor dda a wnaiff y Blaid, ac a fydd y bleidlais Lafur yn disgyn yn sylweddol?
Dwi wedi dweud droeon erbyn hyn, ond o leiaf y gallaf ei ddweud am y tro olaf rwan(!), yn y fath sedd dydi’r cymhelliant i bleidleisio Llafur ddim yn uchel felly dylai’r bleidlais ddisgyn. 17,000 gafodd Llafur y tro diwethaf. Yn gyfrinachol, mi fydd Llafur yn fodlon ar unrhyw beth sy’n uwch 15,000, dwi’n tybio.
Dyma ganlyniad Ewrop – dim ond Llafur a Phlaid Cymru gafodd dros ddeg y cant o’r bleidlais yma:
Llafur 4145 (33%)
Plaid Cymru 3007 (24%)
Mae ‘na awgrym calonogol yma i Blaid Cymru. Dim ond tua 3,800 o bleidleisiau gafodd yn 2005, sy’n ofnadwy o isel i fod yn gwbl onest. Dim ond selogion sydd wirioneddol yn pleidleisio mewn etholiadau Ewrop, fodd bynnag, ac roedd y 3,007 a bleidleisiodd i’r Blaid ddim ymhell o faint bleidleisiodd drosti yn 2005. Dylai Plaid Cymru allu cadw’r rhain ac ennill mwy o bleidleisiau eleni. Faint? Wel, dyfalu fyddai rhywun mewn difrif. Ond o gael 3,000 o bleidleisiau yn Ewrop, mi fyddai Plaid Cymru yn disgwyl cynyddu hyn i o leiaf bedair mil eleni.
Yn 2001, wrth i’r Blaid sicrhau gogwyddau mawrion wrth Lafur, dim ond tua 5% o ogwydd gafwyd yma. Wrth gwrs, y flwyddyn honno oedd blwyddyn orau Plaid Cymru ar lefel San Steffan. Yn 2007, roedd y gogwydd dros 7%. Os cymerwn y bydd tua’r un faint yn pleidleisio eleni, dydi hi ddim yn afresymol meddwl y bydd y gogwydd rhywle rhwng y ddau (yn seiliedig ar y ffaith bod Plaid Cymru yn ddigon hyderus yma ond ei bod yn annhebygol o ailadrodd unrhyw ogwydd o 2007 mewn etholiad cyffredinol). Hefyd, i fod yn deg, byddai’r gogwydd hwnnw’n debygol nid o fod yn uniongyrchol, ond yn gwymp yn y bleidlais Lafur (7% at ddibenion damcaniaethu) a chynnydd bach i Blaid Cymru (tua 5%). Dyma’r canlyniad damcaniaethol:
Llafur 15,200 (57%)
Plaid Cymru 5,100 (19%)
Mwyafrif: 10,100 (38%)
Mae Llafur yn gadarn iawn yma, fodd bynnag. Mae Ann Clwyd yn aelod poblogaidd. Ddaru ‘na ddim llawer ddigwydd yma yn etholiadau’r cyngor, a dwi’n amau dim y caiff Llafur Cwm Cynon fudd enfawr o fod drws nesaf i’r peiriant gwleidyddol pwerus ofnadwy yn y Rhondda.
Yn gryno, dwi ddim yn argyhoeddedig o hyder y Blaid yma, a dwi’n meddwl y bydd Ann Clwyd yn gwybod y caiff ei dychwelyd i San Steffan gyda mwyafrif mawr unwaith eto eleni.
Proffwydoliaeth: Buddugoliaeth fawr i Lafur gyda thros hanner y bleidlais.
4 commenti:
Helo HoR
Dau beth i ystyried:
i) ddaru lot digwydd yn yr etholiadau cyngor diwethaf - canran a seddi'r Blaid yn cynyddu'n sylweddol
ii) mae na gryn ymdrech yn mynd i'r etholiad y tro hwn (mi ddyliwn i wybod!)
Digon teg, ac mae'n braf iawn cael gwybodaeth leol am etholaethau fel hyn dydw i heb erioed ymweld â nhw hyd yn oed! Alla' i ond gobeithio bod y number crunching yn anghywir!
"cafodd Llafur fwy o bleidleisiau yn 2007 ar y lefel hon nag erioed o’r blaen."
Gwir, ond fe newidiodd y ffiniau i wneud yr etholaeth yn fwy o rhyw 4,000 o bleidleiswyr. I LAWR aeth canran Llafur os cofia i'n iawn.
Do, aeth y ganran i lawr 8% ond roedd yr union nifer o bleidleisiau yn uwch nag erioed yn yr etholaeth.
Dydw i ddim yn siwr am y ffiniau'n newid chwaith?
Posta un commento