Hwra, rhywun yn gwneud synnwyr!
Mae ‘nghalon i yn tristáu wrth fynd nôl i Rachub. Dwi ddim yn cofio y tro diwethaf, er enghraifft, i mi glywed naill ai rhieni’n siarad Cymraeg â’u plant nac, yn waeth fyth, plant yn siarad Cymraeg efo’i gilydd. Mae’n llythrennol yn flynyddoedd ers i mi glywed yr ail yn sicr, er efallai nad adref yn ddigon aml ydw i.
Mae gwarchod yr iaith yn ei chadarnleoedd gangwaith bwysicach na chreu Cymru 'ddwyieithog', rhywbeth dwi wedi'i ddweud o'r blaen sy'n wrthyn i mi beth bynnag, fel un sy'n credu mewn Cymru Gymraeg. Wn i ddim p’un ai diffyg ewyllys neu petrustra gwleidyddol, neu hyd yn oed rhyw fath o ffug barchusrwydd gwleidyddol, sy'n sail i'r ffaith na fu diogelu'r Fro fyth yn flaenoriaeth gan y Cynulliad. Un o’r pethau mwyaf damnïol y gellir ei ddweud am ein llywodraeth genedlaethol ydi bod yr ardaloedd Cymraeg wedi dirywio’n waeth nag erioed yn oes datganoli.
Dwi ddim am fanylu achos mai’n rhy fuan y bore, ond oni arallgyfeirir adnoddau’r iaith i’r Bröydd Cymraeg, fydd ‘na ddim gobaith am Gymru ddwyieithog beth bynnag, heb sôn am y Gymru Gymraeg y credaf i ynddi. A dydi’r un mesur iaith, na’r un alwad am hawliau ieithyddol, am newid hynny iot.
Ac eto, weithiau mae rhywun yn teimlo weithiau nad oes gan ddigon o bobl ots mewn difri beth bynnag.
1 commento:
Diolch am y wegofnod hynod ddiddorol! Mae darllen dy sylwadau ar yr iaith hefyd yn agoriad llygad - ond dwi wir yn synnu clywed am y bobl ifanc yn Rachub. Os felly, mae hi'n argoeli'n wael iawn, iawn arni :-(
Posta un commento