giovedì, marzo 18, 2010

Proffwydo 2010: Cymru Rachub

Felly dyna ddiwedd y gyfres Proffwydo 2010, gobeithio eich bod chi wedi mwynhau a’i ffendio’n ddiddorol – gallwch weld y cyfan drwy glicio’r ddolen ar y dde. Fydda i bellach yn cymryd saib haeddiannol tu hwnt o wleidydda. Ond gair bach i orffen, dyma Gymru fel dwi’n ei gweld ar Fai 7fed (fwy na thebyg) ...





LLAFUR: 21 (-8)

CEIDWADWYR: 9 (+6)

PLAID CYMRU: 6 (+3)

DEM RHYDD: 3 (-1)

ERAILL: 1 (-)

... ond mae pum sedd nad ydw i’n sicr ohonynt ac efallai y byddaf yn newid eu lliw ychydig ddyddiau cyn yr etholiad. Fel y nodir isod, does gen i ddim syniad mewn difrif ai Llafur neu Blaid Cymru fydd yn fuddugol ar YNYS MÔN. Mae cryfder cymharol Llafur dros y deufis diwethaf wedi peri mi boeni am ddarogan LLANELLI a DWYRAIN ABERTAWE, tra bod methiant y Ceidwadwyr i gynnal momentwm yn genedlaethol wedi gwneud i mi ailfeddwl BRYCHEINIOG A MAESYFED, ac ymgyrch drychinebus y Ceidwadwyr yn ABERCONWY yn rhoi honno’n y blwch ‘ansicr’.

Rŵan, yn ôl at gwyno a meddwi! Hwra!

4 commenti:

Anonimo ha detto...

Campus Mr Rachub. Mae'r genedl wleidyddol yn ddyledus i ti!

Cai Larsen ha detto...

Da iawn chi syr

GWILYM EUROS ROBERTS ha detto...

cyfres hynod ddiddorol..fydd hwn genai noson yr etholiad er mwyn cael gweld pa mor agos ati fyddi di.
sa ti'n mynd i'r bwci a rhoi bet ar rhain i gyd sa ti werth sofrin neu ddwy wedyn!

Hogyn o Rachub ha detto...

Fel dwi'n dweud dwi'n eithaf sicr mewn 35 o seddau - ond mi setla i am dros hanner!!!