Feddyliais wrth i mi ddechrau’r dadansoddiadau hyn ym mis Medi y llynedd mai Ynys Môn fyddai’r sedd olaf i mi ei dadansoddi a’i darogan. Am dda reswm. Er i mi ddweud nad oeddwn yn siŵr am Geredigion, er enghraifft, dydi gwlad y Cardis yn cymharu dim â Gwlad y Medra. O holl seddau Cymru, hon ydi’r un dwi isio ei dadansoddi leiaf. Pam? Y gwir ydi dwi ddim yn gwybod pwy sydd am ennill yma. ‘Sgen i’m clem. A dwi’n adnabod Sir Fôn yn dda.
Erbyn heddiw mae ‘na dair carfan ar yr Ynys. Yn gyntaf, Caergybi, sy’n pleidleisio’n drwm dros Lafur. Yn ail mae Cymry Cymraeg yr ynys ei hun – carfan sydd, ysywaeth, yn gwywo ar Ynys Môn – ond sy’n byw yn bennaf yng nghanol yr Ynys. Mae’r rhain, yn gyffredinol, yn fwy tebygol o bleidleisio dros Blaid Cymru. Ac yn drydydd mae’r garfan gefnog, yn aml yn Saeson, mewn lleoedd fel Benllech a Biwmares, sy’n gogwyddo at y Ceidwadwyr.
Heb unrhyw amheuaeth, yn ystod y blynyddoedd i ddod, daw Ynys Môn yn ras deirffordd rhwng Llafur, Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr – ac oherwydd newidiadau demograffeg bydd y Blaid yn ei chael yn anoddach ennill yma, a’r Ceidwadwyr yn haws, ond ta waeth am hynny, arhoswn yn 2010 y tro hwn.
Soniwn ni ddim am y Dems Rhydd yma. Dydyn nhw byth wedi dod yn agos at ennill 10% ar Ynys Môn - maen nhw’n gwbl amherthnasol. Ond awn am bawb arall fesul plaid, oherwydd dyma’r peth hawsaf i wneud – a chredwch chi fi, mae Sir Fôn yn unrhyw beth ond am hawdd!
Llafur ydi’r deiliaid ac felly’n lle call i ddechrau. Ar ôl i Cledwyn Hughes ymddeol cafodd Llafur gyfnod du iawn yma. Erbyn 1983, cafodd lai na saith mil o bleidleisiau, ond erbyn 1997 roedd pethau wedi gwella’n syfrdanol wrth i Lafur ddod o fewn 2,500 o bleidleisiau i gipio’r sedd gan Blaid Cymru a sicrhau traean o’r bleidlais.
Roedd Ynys Môn yn un o’r unig seddau i Lafur ei chipio yn 2001, a hynny’n annisgwyl, er gwaethaf tueddiadau gwleidyddol rhyfedd y fam ynys. Er hynny, disgynnodd pleidlais Llafur bron i fil a hanner o bleidleisiau, er iddi sicrhau 35% o’r bleidlais. Ond yn 2005, cynyddodd Llafur ei phleidlais fymryn. Mae hynny’n dyst i boblogrwydd cymharol Albert Owen - a bydd ei angen o ddifrif ar Lafur os ydyw’n bwriadu cadw Ynys Môn. Fel y gwelwn yn nes ymlaen, debyg mai Albert Owen unwaith eto ydi’r ymgeisydd cryfaf o blith y rhai sy’n gobeithio cynrychioli Ynys Môn eleni.
Gallwn ni ddim edrych ar ganlyniadau cyngor Môn - mae pethau’n llawer rhy ddryslyd! Ond roedd canlyniad 2009 yn erchyll i Lafur. Trydydd pell - 2100 (13%) o bleidleisiau – bron i deirgwaith yn llai na’r Blaid.
Dydi Llafur byth wedi gwneud yn dda iawn yma ar lefel y Cynulliad – er i dros hanner pobl yr Ynys bleidleisio yn 2007, dim ond 4,681 bleidleisiodd i Lafur, sef dirywiad cyson a phendant ers 1999. Y peth amlycaf am hynny ydi nad oes gan gefnogwyr Albert Owen fawr o feddwl o’r Cynulliad. Ond pam y dylen nhw? Wedi’r cyfan, mae economi Ynys Môn mewn cyflwr ofnadwy. Ond wrth gwrs, mae llywodraeth ganolog hefyd yn gyfrifol am hyn, efallai’n bennaf gyfrifol, sy’n newyddion drwg iddo.
Y newyddion drwg arall i Albert Owen ydi, yn wahanol i bron bob sedd Llafur arall yng Nghymru, ni all ddibynnu ar bleidleisiau i atal y Ceidwadwyr. Dwi’n siŵr y daw selogion Llafur allan y tro hwn, ond mae ‘na uchafswm pendant i’r gefnogaeth honno. Alla i ddim gweld Llafur yn cael mwy na 35% o’r bleidlais – ond ar Fôn gall hynny fod yn ddigon.
Deuaf at y Ceidwadwyr nesaf, ond hefyd Peter Rogers. Fe wyddoch, mae’n siŵr, yr hanes fanno, a dwi ddim am ei ailadrodd. Mae Ceidwadwyr Môn, i bob pwrpas, wedi bod ar chwâl ers colli yma ym 1987. Ar eu huchafbwynt ym 1983 cafodd y blaid dros bymtheg mil o bleidleisiau, a thua hynny ym 1987 a hyd yn oed 1992. Ond o gyrraedd 8,500 ym 1997, aeth y bleidlais i lawr i lai nag wyth mil y tro nesaf.
Pam felly? Mae’n rhaid bod trefniadaeth yn rhan ohoni, ynghyd â dirywiad cyffredinol y Ceidwadwyr yn ystod y cyfnod. Ond hefyd yn ddiweddar mae’r Ceidwadwyr wedi dewis ymgeiswyr nad a wnelent ddim â’r Ynys, na Chymru. Mae hynny’n cyfyngu eu pleidlais yma’n sylweddol.
Mae hefyd wrth gwrs y Peter Rogers ffactor (ers 2005), sy’n haeddu sylw iddo’i hun. Gwnaeth y Ceidwadwyr yn uffernol ar Ynys Môn yn 2005, a hefyd yn 2007 (gan gael 11% a 13%), pan safodd. Mae’n anodd, i raddau, wybod pa mor dda y byddai’r Ceidwadwyr wedi’i wneud hebddo. Cafodd Peter Rogers 5,216 o bleidleisiau yn 2005 (15%) a 6,261 yn 2007 (23%). Mae’n debygol y byddai’r Ceidwadwyr wedi dod yn ail yn 2007, ond o hyd yn drydydd yn 2005.
Anodd felly ydi darogan sut y byddai’r Ceidwadwyr yn gwneud yma hebddo. Ond, ar ôl treigl amser, daw Ynys Môn yn fwy gobeithiol iddynt mi dybiaf. O ran Peter Rogers, synnwn i ddim o gwbl petai’n agosáu at sicrhau o leiaf chwe mil o bleidleisiau y tro hwn.
Gyda Peter Rogers yn sefyll eleni, mae’r Ceidwadwyr yn gwybod nad oes ganddynt obaith mul o ennill yma. Mae ei ymgeisyddiaeth yn hwb enfawr i Albert Owen hefyd – dydi pobl sy’n pleidleisio drosto fo ddim fel rheol am roi math o bleidlais i Rogers. Ond byddai Plaid Cymru wedi darllen ei fwriad i sefyll ag arswyd. Wedi’r cyfan, mae wedi datgan digon o weithiau, ei brif nod wrth sefyll ydi atal y cenedlaetholwyr.
Mae dirywiad Plaid Cymru ar Ynys Môn wedi bod yn amlwg. Mae hi wedi colli tua thraean o’i phleidlais rhwng 1997 a 2005. Gan ddweud hynny, pan etholwyd Ieuan Wyn Jones yn gyntaf enillodd bron i 19,000 o bleidleisiau, rhywbeth nad ydym wedi’i weld ar Fôn mewn cof, felly mae’r potensial yno i ennill, ac ennill yn dda. Cafodd Ieuan Wyn hefyd fwyafrif o ddeng mil ym 1999, ond anghywir byddai galw Ynys Môn yn gadarnle i Blaid Cymru – dydi hi ddim. Fuo hi fyth. Hyd yn oed yn y Cynulliad dydi’r sedd ddim yn gwbl ddiogel i Blaid Cymru.
Ta waeth, collodd y Blaid yma yn 2001, ond methodd yn llwyr ag ail-gipio’r sedd yn 2005. Collodd bleidleisiau gyda nifer uwch yn pleidleisio. Pam? Wel, fe wnaeth Rogers yn dda mewn rhai o’r pentrefi sy’n draddodiadol yn gryf i’r Blaid. Gan ddweud hynny, rhaid hefyd edrych ar realiti’r sefyllfa - byddai ddim yn syndod hyd yn oed heb Rogers petai’r Blaid wedi colli yma yn 2005 o edrych ar y ffigurau - byddwn i ddim yn meddwl bod mwy na 25% o’i bleidleisiau yn dod o du Pleidwyr. Os felly, gallai Plaid fod wedi colli yma beth bynnag. Os felly, rhaid gofyn pam.
Mae Plaid Cymru wedi gwneud yr un camgymeriad â’r Ceidwadwyr yma dros yr ychydig etholiadau diwethaf o ran dewis ymgeiswyr. Mae ymgeiswyr y Blaid wedi bod yn anaddas a gwan, ac yn anffodus dyma’r canfyddiad cyffredinol o ymgeisydd eleni, Dylan Rees. Dydi o ddim yn cymharu ag Albert na Peter Rogers. Yn y sedd hon, mae hynny’n broblem fawr. Ac mae’n arwydd o wendid ymhlith rhengoedd y Blaid ar Ynys Môn.
Mae’r ffaith bod yr economi yma’n ofnadwy ac mai Ieuan Wyn ydi’r Gweinidog dros yr Economi hefyd yn ergyd i Blaid Cymru cymaint ag ydyw i Lafur. Mae ymdeimlad ymysg llawer o bobl ar Ynys Môn bod y ddwy blaid wedi eu gadael i lawr – Plaid Cymru llawn gymaint â Llafur. Dydi dadrithio gwleidyddol ddim yn unigryw i ardaloedd fel Cymoedd y De – mae’n wenfflam ym Môn.
Vaughan Roderick, mi gredaf, ddywedodd ei bod yn haws o lawer dweud pam na fydd unrhyw blaid yn ennill Ynys Môn na dweud unrhyw beth o’u plaid! Rŵan, o gyrraedd y pwynt hwn, dim ond Llafur a Phlaid Cymru sydd ynddi. Heb Rogers, gallai’r Ceidwadwyr fod â chyfle, ond gan fod y ddau yn rhannu’r un sail gefnogaeth i bob pwrpas, fydd yr un yn fuddugoliaethus yma eleni.
Beth sydd o blaid Llafur? Wel, Albert Owen. Mae ganddo sail gref yng Nghaergybi sydd wedi aros yn driw iddo. Mae ganddo enw gweddol dda ar yr ynys, ac wedi cael 9 mlynedd i brofi ei hun. Mi lwyddodd, yn erbyn y disgwyl cyffredinol, i ennill yn 2001 ac yn 2005. Yn gryno, mae o’n ymgeisydd cryf. Mae Llafur, hefyd, i’w gweld yn gwneud fymryn yn well nag yr oedd nifer o sylwebyddion gwleidyddol yn ei ddisgwyl.
O blaid y Blaid? Isafswm cefnogaeth o tua 10,000 o leiaf mewn etholiad San Steffan. Buddugoliaeth gyfforddus gyda bron i 6,000 o bleidleisiau (34%) yn etholiadau Ewrop y llynedd. Ac mae ei huchafswm pleidleisiau ar Fôn, ymddengys, yn uwch na Llafur.
Yn eu herbyn?
Wel, mae Llafur yn dra amhoblogaidd, ac mi fydd yn anoddach, mi gredaf, i Albert Owen argyhoeddi ei gefnogwyr selog i bleidleisio y tro hwn – anoddach nag yn 2001 neu 2005. Mae’n anodd ei weld yn cael mwy o bleidleisiau nag yn 2005, sef ychydig dros 12,000. Hefyd, mae isafswm pleidleisiau Llafur, yn San Steffan o leiaf, fwy na thebyg tua wyth i n aw mil ar hyn o bryd yn fy marn i, sy’n sylweddol is na phleidlais isaf ei phrif wrthwynebwyr.
Ond mae’n siŵr bod cysur o fath yn y ffaith bod Llafurwyr Môn yn debycach o aros adref na bwrw pleidlais dros unrhyw un o wrthwynebwyr Albert Owen.
Mae problemau Plaid Cymru yn ddigon dwfn hefyd: ymgeisydd gwan, fe’i terfir gyda’r brwsh economaidd hefyd, a bydd Peter Rogers yn ennill ambell i gannoedd o bleidleisiau oddi wrthi o leiaf. Ar Ynys Môn, gall hyd yn oed UKIP, sy’n sefyll, ddwyn ambell bleidlais – mae pleidlais y Blaid ym Môn yn fwy Ceidwadol o lawer nag Arfon gyfagos.
Serch hynny, Plaid Cymru ydi’r ffefrynnau haeddiannol ar Ynys Môn eleni. Mi ddylai adennill y sedd. Ond mi ddylai wirioneddol fod wedi ennill yn 2001 a hefyd yn 2005. Yn wahanol i Geredigion, y dylai fod wedi ei chadw yn 2005, nid yw’r Blaid mor uchel ei chroch ym Môn. Ac eto, heblaw am duedd ryfedd yr Ynys o gadw’r deiliad, mae’n ddigon anodd cyflwyno dadl gref pam y dylai Albert Owen ennill. Y gwir ydi, mae’n fwy na phosibl y gwelwn y ddwy blaid yn colli pleidleisiau yma.
Mi allaf yn hawdd weld hefyd Albert yn cynyddu ei fwyafrif, neu Blaid Cymru yn ennill yn bur hawdd. Fel y dywedais, dwi jyst ddim yn gwybod. Mentraf ddweud nad oes NEB yn gwybod pwy fydd yn ennill y frwydr am Fôn yn 2010.
Proffwydoliaeth: Plaid Cymru ar sail tebygolrwydd! Ond sori, dwi ddim hyd yn oed am geisio dyfalu’r mwyafrif!
3 commenti:
Diolch am y gyfres - diddorol iawn! Syt mae'r map terfynol yn gymharu efo'r bwcis? Dwi'n siwr bod y bwcis yn rhoi Llanelli i Llafur, a Cheredigion 5/6 i Plaid a LibDems. Ti'n foi betio?
Eithaf tebyg ar y cyfan! Y prif wahaniaethau ydi Llanelli, Dwyrain Abertawe, Ceredigion i raddau (dwi'n disgwyl hi'n weddol hawdd i Blaid Cymru) a Brycheiniog a Maesyfed - dwi 'di ei chwarae hi'n eithaf saff ar y cyfan!
Erthygl dda ar sir fon. I fod yn honest fedrai ddim ei galw hi chwaith (hydnod fel trigolyn o'r ynys). Ond mae hi'n anodd gor-ddweud pa mor wael ydi ymgeisydd y plaid. A chwarae teg i A Owen, mae o wedi cadw ei enw dda hydnod ymysg y sgandal treuliau a cau "tinto" Caergybi. Os swni yn hogyn fetio (a dwi ddim), buddugoliath o rhyw 500 i Albert fydd o. Tydi sir fon ddim angen plismon bitw, er fyddai yn ei pleidleisio trosdo mis mai.
Posta un commento