Visualizzazione post con etichetta iaith. Mostra tutti i post
Visualizzazione post con etichetta iaith. Mostra tutti i post

lunedì, settembre 06, 2010

Diléit

Un peth od sydd wedi digwydd yn bennaf ers i mi ddechrau cyfieithu ydi rhywbeth y mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei gael y ffordd arall rownd. Yn bur aml fydda i efo gair Cymraeg yn fy mhen, ac nid gair amlwg ond yn aml yn un digon anarferol, a fydda i er fy myw methu cofio’r Saesneg. Y diweddaraf o’u plith oedd y gair ‘dirmygus’. I fod yn onest dwi ‘di methu â chofio be ydio yn Saesneg ers wythnosau ond bob amser wedi anghofio am y peth pan fo’r modd gennyf i ganfod y cyfieithiad.

Wrth gwrs, pan ofynnais i amryw bobl, Nain, Anti Nel, y chwaer, Dad a Mam (wn i ddim pam Mam achos Saesneg ydi Mam, ond mae hi newydd benderfynu dysgu Cymraeg. Mi ordrodd goffi yn gyfan gwbl Gymraeg ryw bryd yn ddiweddar, a oedd yn destun sioc i Dad, a hefyd brynu CD Bryn Fôn. Mae Mam yn licio Bryn Fôn. I like coffio dy wyneb, medd hi) beth ydi ‘dirmygus’ yn Saesneg ond ‘doedd ‘run ohonyn nhw’n gwbod beth oedd o’n Gymraeg beth bynnag.

Scornful neu contemptuous ydi ‘dirmygus’ mi wn erbyn hyn. Ac un arall diweddar oedd ‘esgeulus’. Mi allwn yn hawdd agor Cysgeir rŵan i ffeindio allan. Ond dwi’n dwat a dwi ddim am wneud. Oherwydd, er gwaethaf y teimlad rhwystredig hwnnw o methu â chyfieithu ar y pryd (fedra i ddim cyfieithu ar y pryd beth bynnag cofiwch, nid y math yna o gyfieithydd ydwi), mae ‘na ryw ddiléit dwi’n ei theimlo o wybod gair digon posh yn y Gymraeg a ddim gwbod be dio’n Saesneg, i’r fath raddau nad oes gen i glem.

Ond ew, un peth arall sy’n ddiléit i mi fod adra ydi dwi’n clwad fy hun fy acen ogleddol gomon yn llifo’n ôl. Mai’n braf gallu siarad yn digon bygythiol ac uchal heb i wneud ddweud dy fod yn bod yn ‘ymosodol’. Yn wir, dwi ‘di clywed acen Dyffryn Ogwen yn cael ei disgrifio fel ‘ymosodol’ ambell waith. Ac fel unrhyw un arall werth ei halen o Ddyffryn Ogwen, dwi’n cymryd hynny’n gompliment ar y diawl!

lunedì, agosto 23, 2010

Breuddwydion ieithyddol

Y penwythnos fu, roedd yn 17 wythnos ers i mi gael penwythnos di-alcohol. Digwydd edrych yn fy nyddiadur i weld beth oedd y sefyllfa a wnes, ac yna cyfrif am yn ôl a sylwi y cafwyd 16 wythnos yn olynol o yfed. Nid o reidrwydd sesh – efallai potel fach o win, howsparti (fi ydi’r person gwaethaf posibl i gael mewn howsparti, dwi’n absoliwt ffycin hunlla), peint slei – ond penwythnos dialcohol nis cafwyd ers sbel go dda.

Yn rhyfedd mi ges freuddwyd neithiwr ei bod eto’n nos Sadwrn ac fy mod wedi yfed gan felly adael fy hun i lawr. Uffernol yn de. Rhaid fy mod yn teimlo’n euog am yfed cymaint yn ddiweddar neu ni fyddwn yn cael breuddwyd mor rhyfedd. Ta waeth, mae hyn yn sicr wedi cyfrannu at daro’r boced yn galed yn ddiweddar. Dwi’n siomedig efo fy mherfformiad cyllidebol y mis hwn, er bod talu £60 i adael fy hun nôl mewn i’r tŷ ar ôl cloi fy hun allan yn sicr wedi cyfrannu.

Ta waeth, mae gen i ddehongliad digon syml i’r cyfryw freuddwyd yn does? Ond mae un freuddwyd a gaf sy’n ailadroddus a dwi’n ei chael yn weddol aml. Dwi’n nôl yn ‘rysgol, ac yn mynd i ddosbarth Ffrangeg, ond dydw i heb fod am fisoedd i ddosbarth Ffrangeg ac mae’r arholiadau’n dyfod a dwi’n gwybod dim. ‘Sgen i’m clem o ddim byd a dydi’r athrawesau yn poeni fawr ddim amdanaf.

Dwi’n meddwl mai gwraidd y freuddwyd honno ydi fy mod i’n eithaf digalon fy mod wedi anghofio cymaint o Ffrangeg ar ôl gadael ysgol – wedi’r cyfan, dyna sy’n digwydd i rywun pan fo’ch rheswm dros siarad iaith yn dod i ben, anghofio wnewch chi. Mae Ffrangeg yn iaith brydferth yn fy marn i. Ceir ambell iaith brydferth arall, megis Eidaleg a Rwsieg, dwi’n meddwl. A gall Cymraeg fod yn brydferth tu hwnt, ond mi all fod yn weddol uffernol hefyd ac, er fy mod yn anghytuno’n chwyrn, dwi’n dallt pam bydd rhai yn dweud “Welsh is an ugly language”.

Y peth da am y Gymraeg o ran hynny ydi bod y geiriau drwg, ar y cyfan, yn swnio’n hyll e.e. gwrach, mellten, afiach, hunllef, melltith, Rhagfyr ac ati; tra bod y geiriau am bethau da bywyd yn wirioneddol brydferth eu sain e.e. tylwyth teg, mêl, heulwen, bendith, torlan. Wn i ddim am unrhyw iaith arall y mae sŵn y gair yn cyfleu’r ystyr yn well na Chymraeg.

Credaf fod ambell iaith hyll, cofiwch, a dyma pam dwi’m yn mynd yn flin os bydd rhywun yn dweud hynny am y Gymraeg, achos byddwn i’n eithaf rhagrithiwr wedyn. Mae rhai o ieithoedd canoldir Asia, fel Uzbek, neu Fongoleg, yn erchyll i ‘nghlust i, a dwi ddim yn ffan o Arabeg. Dydi’r Saesneg ddim yn iaith hyll, hen iaith ddiflas ydi hi sy’n llawn haeddu’r teitl ‘yr iaith fain’.

Fedra’ i sgwennu’n weddol ddeallus pan fydda i ddim yn yfed, wchi, ac mi a ysgrifennwn am iaith drwy’r dydd pe cawn. Ond mae gen i bethau eraill i’w wneud! (sy’n ymwneud ag iaith, yn eironig)

martedì, aprile 13, 2010

Pleidlais bersonol

Mae treulio eich amser rhwng dwy etholaeth (a dwi ddim yn golygu cysgu mewn un a meddwi yn y llall) yn beth handi oherwydd, i bob pwrpas, gallwch ddewis ym mha un bynnag rydych chi am bleidleisio. Dyn ag ŵyr, efallai y caiff fy nghais i bleidleisio yn Arfon ei wrthod, caf weld, dwi ddim yn dallt sut y mae’r pethau hyn yn gweithio ac yn cael eu penderfynu i bob pwrpas.

Mae Grangetown, a oedd yn hollt deirffordd rhwng Plaid Cymru, Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn etholiadau’r Cynulliad yn 2007 a hefyd yn yr etholiadau cyngor yn 2008, er i’r Democratiaid Rhyddfrydol ennill bob sedd y flwyddyn honno, yn etholaeth De Caerdydd a Phenarth. Felly oni phleidleisiwn yn Arfon, mi a bleidleisiwn yn Ne Caerdydd a Phenarth.

Problem fyddai hynny o’m safbwynt i. Fel y gwyddoch, mae gen i ‘dueddiadau’ Plaid Cymru, ond dydi hynny ddim yn fy ngwneud i’n Bleidiwr – dwi jyst yn disgrifio’n hun fel cenedlaetholwr sy’n benthyg fôt i’r Blaid pan mae hi’n ei haeddu. Ond fel cenedlaetholwr heb deyrngarwch penodol at unrhyw blaid mae gen i fy rhagofynion fy hun wrth ddewis ymgeisydd i fwrw pleidlais drosto – un o’r prif ragofynion ydi bod yr ymgeisydd yn medru Cymraeg.

Fel Cymro Cymraeg, dwi isio i’m cynrychiolwyr fedru siarad Cymraeg. Ac mae hynny’n bwysig iawn i mi.

Y broblem ydi nad ydi ymgeisydd Plaid Cymru, y blaid y byddwn fel rheol yn ei dewis, hyd y gwn, yn siarad Cymraeg – a dwi wedi mynegi eisoes fy amheuon ynghylch cenedlaetholdeb honedig y Blaid yng Nghaerdydd – hynny ydi, dydi hi ddim yn genedlaetholgar iawn. Felly mae gen i wrthdaro rhwng fy egwyddorion sylfaenol a’m dewis pleidiol. Y gwir ydi, ac eithrio’r etholiadau cyngor (y mae eu pwysigrwydd yn pylu o’u cymharu ag etholiadau Prydeinig), fod gen i gur pen mawr wrth ddewis pwy i bleidleisio drosto.

Gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol a’r Gwyrddion ill dwy’n bleidiau uffernol o Seisnigaidd, a’r cyntaf yn sefyll dros ddim byd, maen nhw allan o’r cwestiwn. Ac fel plaid sy’n gwrthwynebu Cynulliad Cymru, does modd i UKIP gael fy mhleidlais chwaith. Dydi’r un ohonyn nhw’n siarad Cymraeg chwaith.

Yr AS lleol ydi Alun Michael, a ‘sdim peryg i mi roi fôt i’r ffwc gwirion. Câi Llafur mo ‘mhleidlais i fyth.

Dydi’r Ceidwadwr ddim yn siarad Cymraeg, ond nid dyna’r prif reswm na fyddwn yn pleidleisio drostynt. O ran daliadau cymdeithasol, dwi’n tueddu i raddau helaeth at y dde, er mai’n siŵr yn y canol y byddwn yn gyffredinol, ond yn economaidd dwi’n bell iawn, iawn i’r chwith. Dydi’r Ceidwadwyr ddim yn rhy addas i rywun felly, mi dybiaf!

Sy’n gadael un blaid ar ôl – sef y Blaid Gomiwnyddol. Mae’r ymgeisydd, ac arweinydd y blaid, yn Gymro Cymraeg. Yn wir, mi roddais bleidlais iddo yn etholiadau cyngor 2008 yn hytrach na Phlaid Cymru, er y daeth yn olaf ac eleni mae gan y blaid dim ond 6 ymgeisydd ledled Prydain. Mynegais bryd hynny, ro’n i’n licio’r hyn yr oedd y Comiwnyddion yn ei ddweud a dwi dal yn.

Felly, pe bawn yn pleidleisio yn Ne Caerdydd a Phenarth fe fyddai rhwng Plaid Cymru a’r Comiwnyddion. ‘Does ‘run am ennill, wrth gwrs, ac yn Arfon dwi’n bwriadu bwrw ‘mhleidlais. Os os mai yng Nghaerdydd y bydd, byddwn i ddim yn gwybod beth i’w wneud.

Mae etholiadau’n boen yn y pen ôl i fod yn onest.

mercoledì, marzo 31, 2010

Plismona iaith

Dydw i ddim yn blismon iaith. Wel, dwi’n gobeithio ddim. Gwir, mi fydda i’n darllen golwg360 bob dydd o’r wythnos, a’r rhan fwyaf o’r amser yn twt twtian ar lu gamgymeriadau’r wefan (a’r ffaith nad ydyn nhw’n gallu cael enwau etholaethau yn iawn, hyd yn oed), ond ar y cyfan dwi ar begwn arall y sbectrwm. Mae’r blog hwn yn dyst i hynny – er, yn ddigon aml mi fydda i’n darllen ambell bost ac yn gresynu cael ambell genedl anghywir neu dreigliad coll. Pan fo chi’n ymwneud ag iaith bob dydd ddylech chi ddim cael y fath bethau’n anghywir, ond fy mlog i ydi hwn ac mi gaf felly fod mor esgeulus a dwi isio bod (a newid y cywair fel dwisho!). Dwi’n meddwl bod tafodiaith yn wych, ac y byddai’n well i bobl sy’n arfer bratiaith siarad Saesneg.

Ond mae rhai pethau y mae pobl yn eu dweud yn mynd ar fy nerfau ar lafar. Socs, shŵs, wicend, egsams, swîts. Mae hyd yn oed Ieuan Wyn Jones wrthi. Ych a fi. Buan iawn ar ôl i mi ddod i Gaerdydd y sylwish i fod gan bobl Dyffryn Ogwen Gymraeg da a digon cyhyrog ar y cyfan. Ewadd, fydda i’n meddwl weithiau, dani’n dda. Ond mae ‘na ambell i beth rhyfedd.

Byddai llawer iawn o’m ffrindiau adra yn dueddol o ddweud yr amser yn Gymraeg. Byddai hyd yn oed Dad, nad ysgolhaig mohono mewn unrhyw, unrhyw ystyr (i fod yn onast mae’n ddwl fel dafad ddall), yn dweud yr amser yn Gymraeg. Ond eto, byddai ef a hwythau’n dueddol o ddweud y dyddiad yn Saesneg: “Mae’n bum munud ar hugain i ddeg ar y ffortînth o Jwlei”.

Rhaid i mi gyfaddef fydda i bob amser yn dweud ‘Jŵn’ a ‘Jwlei’ yn hytrach na ‘Mehefin’ a ‘Gorffennaf’, ond ar wahân i’r ddau eithriad hynny mae’r misoedd yn Gymraeg i mi. Fydda i’n cyfaddawdu, wrth gwrs. Yn hytrach na dweud “yr unfed ar ddeg o hugain o Ebrill” buaswn i’n dweud “Ebrill tri deg un”, ond mae hynny’n ddigon teg, yn enwedig gan nad Saesneg mewn Cymraeg mohoni.

Un o’r ffliwcs ieithyddol mwyaf od ydi tueddiad pobl i dreiglo ar ôl berfenwau e.e. ‘sylwi fod’ yn lle ‘sylwi bod’. Rŵan, dwi’m am farnu hynny, gwell ‘sylwi fod’ na ‘realiso fod’ unrhyw ddydd, a dydi hi’m yn swnio’n erchyll ar y glust, ond dwi’n ei gweld yn rhywbeth od. Dwinnau fy hun, ar lafar, yn gwneud hynny, er fy mod i’n gwybod y rheol. Gan ddweud hynny dim ond y genedl ryfeddaf âi ati i sgyrsio yn ôl dull yr hanesydd John Davies yn ei bywyd beunyddiol.

Problem fawr y Cymry Cymraeg, mi gredaf, ac fe welwch hyn o ddarllen yn unrhyw le, ydi nad ydan ni’n gwybod sut i ysgrifennu Cymraeg, er ein bod yn cofio sut i’w siarad. Rhag ofn i chi feddwl fy mod i’n snob yn dweud hynny, nid beirniadu ydw i, am unwaith, ond dweud yn blaen nad ydym yn ysgrifennu gystal ag y gwnaethom. Dirywiad y capeli sydd gwbl ynghlwm wrth hynny, wrth gwrs. Mae pobl ifanc yn ennyn llid y genhedlaeth hŷn o ran safon eu hiaith. Ond nid unffordd mohoni o gwbl. Mae Anti Rita’n dweud bod gan fy nghenhedlaeth i ‘Gymraeg posh’!

Wn i ddim am hynny. Rhowch i mi dafodiaith dros bopeth unrhyw ddydd. Ond mae ffliwciau Cymraeg modern yn gwneud i mi weithiau wenu, weithiau digalonni ac weithiau rhyfeddu sut ddiawl ein bod ni’n dyfeisio’r ffasiwn bethau! Cenedl ryfedd o fewn cenedl ryfedd ydi’r Cymry Cymraeg, yn wir.

martedì, marzo 16, 2010

"Gwastraff amser yw Cymru ddwyieithog"

Hwra, rhywun yn gwneud synnwyr!


Mae ‘nghalon i yn tristáu wrth fynd nôl i Rachub. Dwi ddim yn cofio y tro diwethaf, er enghraifft, i mi glywed naill ai rhieni’n siarad Cymraeg â’u plant nac, yn waeth fyth, plant yn siarad Cymraeg efo’i gilydd. Mae’n llythrennol yn flynyddoedd ers i mi glywed yr ail yn sicr, er efallai nad adref yn ddigon aml ydw i.

Mae gwarchod yr iaith yn ei chadarnleoedd gangwaith bwysicach na chreu Cymru 'ddwyieithog', rhywbeth dwi wedi'i ddweud o'r blaen sy'n wrthyn i mi beth bynnag, fel un sy'n credu mewn Cymru Gymraeg. Wn i ddim p’un ai diffyg ewyllys neu petrustra gwleidyddol, neu hyd yn oed rhyw fath o ffug barchusrwydd gwleidyddol, sy'n sail i'r ffaith na fu diogelu'r Fro fyth yn flaenoriaeth gan y Cynulliad. Un o’r pethau mwyaf damnïol y gellir ei ddweud am ein llywodraeth genedlaethol ydi bod yr ardaloedd Cymraeg wedi dirywio’n waeth nag erioed yn oes datganoli.

Dwi ddim am fanylu achos mai’n rhy fuan y bore, ond oni arallgyfeirir adnoddau’r iaith i’r Bröydd Cymraeg, fydd ‘na ddim gobaith am Gymru ddwyieithog beth bynnag, heb sôn am y Gymru Gymraeg y credaf i ynddi. A dydi’r un mesur iaith, na’r un alwad am hawliau ieithyddol, am newid hynny iot.

Ac eto, weithiau mae rhywun yn teimlo weithiau nad oes gan ddigon o bobl ots mewn difri beth bynnag.

venerdì, novembre 20, 2009

O bosib y cyfieithiad gorau welwyd

Yn aml, mae cyfieithiadau Cymraeg, ysywaeth, yn fwy hirwyntog ac yn llai bachog na'r cyfiethiadau cyfatebol yn Saesneg, ond mae un a glywais neithiwr sy'n llawer gwell na'r Saesneg gwreiddiol

Wedi clywed am Movember? Dyma pan fydd hogia'n tyfu mwstashys er budd elusen.

Y cyfieithiad?

Tashwedd.

Cymraeg 1 Saesneg 0.

mercoledì, novembre 11, 2009

Iaith y meddwl

Wn i ddim pryd y bu i’m meddwl newid o Saesneg i Gymraeg – rhywbryd yn fy arddegau mae’n siŵr. Dwi’n gwybod yn iawn pan yn iau, a hyd yn hyn ers dros hanner fy myw, mai yn Saesneg yr oeddwn i’n meddwl.

Mae pa iaith rydych chi’n meddwl ynddi yn rhan annatod iawn ohonoch. Drwy feddwl mewn iaith, rydych chi’n byw yn yr iaith honno. Fel un a fagwyd mewn cymuned Gymraeg ro’n i bob amser yn siarad Cymraeg ond prin iawn a feddyliwn ynddi, ac felly roedd ei phwysigrwydd yn goll arnaf a’m teimladau tuag ati’n ddigon ddi-hid. Gan ddweud hynny, un o’m hatgofion cyntaf a minnau’n ddigon iau o hyd i gydio’n ffedogau’r Fam, oedd amddiffyn golwg Chwarel y Penrhyn rhagddi hi, gan honni mai dyna un o’r unig resymau yr oedd y Gymraeg yn fyw.

Ro’n i’n gorddweud, sy’n rhywbeth dwi byth yn ei wneud, ond yn amlwg roedd ‘na rywfaint o dân ynof bryd hynny. Ond pryd newidiais at feddwl yn Gymraeg, dydw i ddim yn gwybod.

Ro’n i’n arfer siarad yn Saesneg gyda Nain, ac Anti Blodwen hefyd, ond yn fy arddegau ac am ba reswm bynnag dechreuais gyfathrebu’n Gymraeg â hwy, a hwythau’n ddau o gewri Buchedd Iason, fel yr enwir y ddrama anochel amdanaf wedi’m tranc. Tua phryd hynny ro’n i’n wirioneddol mwynhau astudio Cymraeg yn yr ysgol, ond hyd yn oed ar ddechrau’r brifysgol dwi’n rhyw hanner cofio lithro i Saesneg meddyliol ambell waith.

Erbyn hyn fydda i’n meddwl yn Gymraeg drwy’r amser i’r fath raddau na fyddaf bron byth yn siarad Saesneg yng Nghaerdydd nac ychwaith yn bwriadu gwneud, a phan fydd yn rhaid gwneud, gwneud hynny’n wael. Ers ychydig flynyddoedd, o drafferthu meddwl am y gair Cymraeg, bydda i’n cael trafferth meddwl am y gair Saesneg bellach.

Dim ond ychydig funudau nôl ‘doeddwn i methu’n glir â chofio beth oedd ‘afresymol’ yn Saesneg. Tra nad ydi hynny ynddo’i hun yn afresymol am wn i, mi wnaeth i mi feddwl y bu’r daith ynof o feddwl yn Saesneg i beidio â chofio gair sylfaenol yn yr iaith honno yn un ddigon hir – ond dwi’n eitha balch fy mod i wedi’i gwneud hi.

lunedì, luglio 20, 2009

Dwyieithrwydd

Cymrwch gip yma cyn i mi fynd ar bregeth. Dwyieithrwydd ar ei waethaf yn wir.

Mae’n beth od, mae’n siŵr, i gyfieithydd ddweud nad ydi o’n licio dwyieithrwydd. Er gwaethaf swnian di-ri lleiafrif o Gymry di-Gymraeg, i mi mae dwyieithrwydd yn anad dim yn gyfaddawd y mae’r Cymry Cymraeg, nid y di-Gymraeg, yn ei wneud. Mae bron yn ddull arall o orfodi’r byd mawr Saesneg i’n boddi – hynny ydi, chewch chi ddim gwneud dim byd oni bai eich bod yn ei wneud yn Saesneg hefyd.

Problem fawr dwyieithrwydd ydi pan fo’n cael ei orfodi ar iaith leiafrifol yna mae’n llwyr ddileu’r angen i wneud pethau yn yr iaith honno,o ysgrifennu ynddi i gynnal digwyddiadau drwy ei chyfrwng. Dyna pam y gall rhai o elynion yr iaith ddadlau’n rhwydd, ac weithiau’n effeithiol mae arnaf ofn, yn erbyn gorfod cyfieithu pethau i’r Gymraeg – ‘does mo’u hangen. Yn bersonol, byddwn i’n fwy na hapus gweld llai o bethau dwyieithog o blaid fwy o bethau uniaith, boed hynny’n Gymraeg neu Saesneg (yn dibynnu’n helaeth ar ardal a chynulleidfa, wrth reswm).

Dydw i ddim yn rhannu gweledigaeth y gwleidyddion o Gymru ddwyieithog, chwaith, ac alla’ i ddim smalio gwneud. Fydda i bob amser yn credu yn y Gymru Gymraeg ei hiaith, Cymru ysywaeth na wela’ i mohoni fyth, ond ta waeth am hynny. Y pwynt sylfaenol dwi’n ceisio’i wneud ydi hwn: o sicrhau dwyieithrwydd pur ni ellir sicrhau dyfodol dwy iaith, ac yng Nghymru dydi dwyieithrwydd fawr fwy na ffordd o ddistewi’r Gymraeg yn ddistaw barchus.

Dwi’n amau dim i ambell Dori neu Lafurwr craff ddeall hynny flynyddoedd nôl.

Ystyriwch hyn. Ni chiliodd y cymunedau Cymraeg ar y fath raddfa â’r sefyllfa bresennol cyn i ni gyrraedd oes dwyieithrwydd. Mae sawl ffactor arall ynghlwm wrth eu dirywiad gweddol ddiweddar, ond a ydi dwyieithrwydd yn un tybed? Heddiw, gallwn ddadlau yn y Gymru newydd ddwyieithog, wleidyddol-gywir sydd ohoni mai efallai un sir sy’n parhau lle mae mwyafrif y trigolion yn siarad Cymraeg fwyaf yn eu bywydau bob dydd. Y sir honno ydi Gwynedd. Os oes yn rhaid gwneud pethau’n ddwyieithog yn y fan honno mae hi wir yn ddu arnom.

Ni sy’n nychu. Ni sy’n araf weld ein diwedd. A ydi ein cyfaddawd mawr yn fargen deg, neu’n ffordd gyfrwys o’n tawelu?

venerdì, giugno 26, 2009

Galw enwau ar bobl ... Cymraeg style!

Un o wychaf bethau ein hannwylaf iaith ydi’r gallu i alw enwau ar bobl sy’n gwbl ddiniwed ac eto’n cyfleu cymaint. Mae’r Saesneg yn wych am hyn hefyd i raddau helaeth ond mae ‘na rhywbeth mwy gwirion am y Gymraeg, sy’n gwneud iddi ragori.

Faint o fath o fwydydd y gellir sarhau rhywun yn Saesneg gyda hwy? Lemon, wrth gwrs, ond gallwn ni alw rhywun yn lemon yn Gymraeg. Ac yn nionyn. Ac yn dorth. Ac yn sgonsan (ffefryn Nain a’m ffefryn diweddar). Ac, wrth gwrs, yn ben rwdan. Allwch chi ddim mynd rownd Lloegr yn galw rhywun yn onion, loaf na’n scone (dwi byth yn cofio be ‘di rwdan yn Saesneg).

A beth am dwmffat? “Beth ti’n gwneud y twmffat?” / “What are you doing you funnel?” – penderfynwch chi p’un sydd orau.

Gallwch chi alw rhywun yn unrhyw beth dal haul yn y Gymraeg ac fe’i cyflëir mewn ffordd ddoniol, lled-sarhaus ond eto cyfeillgar – dychmygwch alw rhywun yn “hen gwpan wirion” neu’n “be sy dy haru di’r draenog?” – fe fyddent yn codi gwên yn hytrach na dwrn.

Ond yn ôl y draenog, mae anifeiliaid yn gallu bod yn faes cyfoethog a diddorol i alw enwau yn Gymraeg: colomen/sguthan, cranc, mul, cranci mul (cyfuniad!), brân, iâr, mochyn, hwch, ci, ast, deryn – ond onid ydi hi’n rhyfadd, yn Gymraeg, bod galw rhywun yn fath o anifail bron yn ddi-eithriad sarhaus iawn, ond eto chymerech mohono â’r sarhad a fyddai’n briodol gyfatebol yn Saesneg?

Gallwn wrth gwrs barablau ‘mlaen am hyn, ond dyna un o gryfderau’r Gymraeg i mi. Mae hi’n iaith fach gyfeillgar a hyblyg, y mae ei geiriau’n gwneud fawr o synnwyr ond yn golygu cymaint.

martedì, maggio 19, 2009

golwg360 - ambell i sylw

Mae pawb arall yn cynnig sylwadau ar golwg360 a dwi’n teimlo’r angen i wneud yr un peth. Rŵan, cyn i mi baladurio rhaid i mi ddweud nad ydw i’n gwybod llawer am gyfrifiadura a’r we – fel y gwelwch o’r blog hwn. Er enghraifft, hoffwn i greu ffrwd o flogiau ar yr ochr fel sydd gan nifer o flogiau eraill, ond y gwir ydi ‘does gen i ddim syniad sut i wneud y ffasiwn beth. Felly pan ddaw at feirniadu eraill sy’n ymdrin â gwebethau, alla’ i’m dweud dim.

Gan ddweud hynny, dwi ddim yn cael fy nhalu i wneud hynny. Peth gwirfoddol a dibwrpas ydi blog fel hwn, ond mae golwg360 i fod yn wefan broffesiynol, lle y telir pobl i wneud iddi weithio. Ar y cyfan, dwi ddim yn gallu cwyno gormod am ansawdd y cynnwys na safon y newyddiaduraeth, ond mae’r erthyglau byrion yn gwneud i rywun teimlo y bônt wedi cael eu “twyllo”. Yn gryno, dydi o ddim werth mynd i unrhyw safle i ddarllen dau neu dri pharagraff o newyddion.

Tra fy mod yn deall yn iawn nad arbenigwyr gwe sydd wedi dylunio’r safle, mae’r edrychiad yn bur warthus. Mae’n hyll, yn hen ffasiwn, yn amhroffesiynol ac yn ddigon i wneud i rywun droi’i drwyn ar unwaith. Byddai newid ffont, cael lluniau maint cywir, a dod ag ychydig o liw iddo’n ddechrau, ond o ystyried y dyfarnwyd £200,000 oni ellir bod wedi cael rhyw faint o arbenigedd i helpu i ddylunio’r safle? I mi, dyma siom fwyaf y wefan, ac yn anffodus mae’n siomedig iawn - i’r fath raddau y synnwn ar y diawl pe byddai unrhyw un sydd ynghlwm wrth y wefan yn meddwl yn wahanol.

Dydi hi fawr o syndod y bu’r ymateb hyd yn hyn yn anffafriol. Wrth gwrs, tasg a hanner ydi cystadlu â’r unig wir ffynhonnell newyddion arall yn y Gymraeg, sef BBC Cymru, ond ar hyn o bryd dydi Golwg360 ddim yn dod yn agos at y wefan honno, er megis dechrau yw hi. Ond er mwyn gwneud hynny, rhaid bachu’r gynulleidfa ar unwaith – dwi ddim yn meddwl y llwyddwyd i wneud hynny.

Gobeithio y bydd pethau’n gwella oherwydd mi fyddai gwefan lwyddiannus o’r math yn hwb i’r Gymraeg, newyddiaduraeth Gymraeg a’r Gymraeg ar-lein. Ymddengys i mi fod y lansiad wedi bod yn gynamserol braidd, ac y dylid bod wedi gwneud mwy o waith ar y wefan cyn gwneud hynny. Gobeithio na fydd y wefan ar ei ffurf bresennol yn troi gormod o ddarpar ddilynwyr i ffwrdd, unwaith ac am byth.

Dwi’n siŵr nad dyna fydd yr achos, ac mi fydda innau’n parhau i ddarllen am rywfaint, ond os nad ydi’r peth yn gwella rhagwelaf y byddwn i’n rhoi’r gorau i’w dddarllen. A fyddai’n deg gwneud hynny?

Byddai, yn fy marn i. Ydi, mae’n bwysig cefnogi mentrau o’r fath, ond mae hefyd yn bwysig bod gwasanaethau o’r fath a ddarperir yn Gymraeg o’r un safon â gwasanaethau tebyg mewn ieithoedd eraill. Hyd yn hyn, dydi golwg360 ddim.

Ond dwi’n siŵr y bydd pethau’n gwella ar fyr o dro.

giovedì, aprile 09, 2009

Pam blogio'n Gymraeg?

Galwais heibio blog Dyfrig, sy’n un o’r blogiau y bydda i yn ei ddilyn, a darllen y post diddorol hwn am pam y mae’n blogio yn Gymraeg yn unig. Does ‘na ddim llawer o’n haelodau etholedig yng Nghymru, hyd yn oed ymhlith rhengoedd Plaid Cymru, yn blogio yn Gymraeg yn rheolaidd, heb sôn am yn Gymraeg yn unig (Y Tŷ Mawr o’r Tu Mewn ydi un ohonynt gan Hywel Williams AS, ond dydi hwnnw heb ei ddiweddaru ers mis a hanner).

Mi wnes i feddwl yn sydyn pam fy mod innau’n blogio yn Gymraeg, achos dwi ddim yr unigolyn tebycaf i wneud mewn rhai agweddau. Yn dechnegol, Saesneg ydi’n iaith gyntaf i a dim ond ers Prifysgol y galla i ddweud yn onest bod fy Nghymraeg ysgrifenedig yn well na’m Saesneg ysgrifenedig; ac mi ddechreuais flogio cyn mynd i’r Brifysgol. A Saesneg ydi prif iaith fy nghartref yn Rachub, credwch ai peidio, er na chlywch air ohoni yn Stryd Machen.

Pe bawn isio cyfleu fy neges {ryfedd} i’r byd mi a flogiwn yn Saesneg, ond dydw i ddim isio gwneud hynny. Pe bawn isio ceisio cael cynulleidfa fawr, mi a flogiwn yn Saesneg, ond dwi’n fwy na bodlon ar y gynulleidfa gyfyngedig sydd gen i. Ac yn bersonol, dwi jyst ddim yn licio Saesneg fel iaith, mae hi’n ddiflas, a ph’un bynnag pan fydda i’n ei defnyddio mae hi’n gwbl aflafar.

I mi, yn hytrach na chyfleu rhywbeth i gynulleidfa a fedrai fod yn enfawr, ond yn amhersonol, gwell ceisio ei gyfleu i’r hyn o beth a garaf, sef y Cymry Cymraeg. Wedi’r cwbl, dyma fy mhobl i, y rhai dwi’n uniaethu â hwy, yn siarad ac yn chwerthin â hwy, yn treulio fy mywyd o’u cwmpas. Wn i ddim a ydi hynny’n gul, ond os mae o dwi’n ddigon bodlon bod yn gul ac ymdrybaeddu yn y Cymreictod hwnnw sy’n gwneud i mi feddwl bod y byd yn iawn ei le, ac sy’n gwneud i mi deimlo’n gynnes y tu fewn. Boed hynny drwy gymdeithasu’n Gymraeg, gweithio mewn gweithle Cymraeg neu drwy flogio’n Gymraeg.

Ond hefyd fyddwn i ddim am i neb gyfieithu’r blog ‘ma (gwn na fydd hynny’n digwydd wrth gwrs, ond wyddoch chi fyth...). Mae angen gwneud rhai pethau yn gwbl Gymraeg, fel y dywed Dyfrig. Gwn nad ydi’r blog hwn yn gyfraniad i’r Gymraeg ac nad oes gwerth iddo, ond mae o dal yn rhywbeth Cymraeg a byddai dim byd yn gallu fy argyhoeddi i’w wneud fel arall. Mae’n un cornel fechan iawn o’r byd lle nad yw Saesneg yn gallu treiddio a bo’r Gymraeg yn oruchaf.

Hefyd wrth gwrs, er nad ydyn ni Gymry Cymraeg yn dweud yn agored, ‘dan ni’n ofnadwy am siarad am bobl nad ydynt yn siarad Cymraeg reit o’u blaenau, ac wedyn gweiddi’n groch nad ydyn ni byth yn gwneud ffasiwn beth.


Ond ein cyfrinach fach ni ydi honno, wrth gwrs!

lunedì, gennaio 26, 2009

Oakwood ac Awkward

Ai fi ydi’r unig un sy ‘di sylwi bod Gogs yn dweud Oakwood ac awkward yn union yr un peth?

Enghraifft:
“Wnaeth o fihafio yn y ffair?”

“Na, roedd o’n (cwblhewch)”

giovedì, novembre 27, 2008

Aelwydydd Cymraeg

Rhywsut yn fy niflastod a chwilio am wybodaeth des ar draws adroddiadau ysgolion Estyn. Un o’r pethau wnaeth wir dorri fy nghalon oedd gweld nifer y plant o aelwydydd Cymraeg mewn rhai o gadarnleoedd y Gymraeg. Dyma sampl bach:

Ysgol Gynradd Aberaeron (Ceredigion) – 31%
Ysgol Llanilar (Ceredigion)– 22%
Ysgol Gynradd Cemaes (Môn) – 4%
Ysgol Rhosneigr (Môn) – 8%
Ysgol Dolgellau (Gwynedd) – 20%
Ysgol Llandygai (Gwynedd) – 8%
Ysgol Gynradd Dolwyddelan (Conwy) – 30%
Ysgol Gynradd Gymraeg Gwauncaegurwen (Nedd Port Talbot) – 35%
Ysgol Babanod Rhydaman (Caerfyrddin)– 22%
Ysgol Gynradd Brynaman (Caerfyrddin) – 30%
Ysgol Gynradd Pontyberem (Caerfyrddin) – 48%

Mae rhai’n ofnadwy. Yn wir, yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin prin iawn y dewch ar draws ysgol lle daw dros hanner y disgyblion o aelwydydd Cymraeg eu hiaith. Deallaf fod y mewnlifiad yn chwarae’i ran yng Ngheredigion, ond os cofiaf o dop fy mhen mae’r canran a anwyd yng Nghymru yn Sir Gaerfyrddin yn uwch na chyfartaledd Cymru, felly mae gweld llefydd fel Rhydaman mor isel wir yn gwneud i rywun feddwl a oes dyfodol i’r Gymraeg yn ardaloedd helaeth iawn o Gymru.

mercoledì, ottobre 01, 2008

lunedì, settembre 29, 2008

Sbonc y glennydd

Gwyddoch yn iawn mae un o’m dileits ydi enwau anfeiliaid yn Gymraeg, a dyna ydi enw ar anifail: sbonc y glennydd. Wyddoch chi beth ydyw, pan fyddwch yn chwilota drwy wymon (dwi ddim yn ymgymryd â hyn yn aml, gyda llaw) y creaduriaid bach chweinllyd hynny sy’n llechu yno. Wel, sbonc y glennydd ydi honno. Hoffwn fod yn sbonc y glennydd yn anad dim, yn wymonllyd fodlon ar y byd.

Rhyfedd ydi gweld hefyd un neu ddau o amrywiaethau. Fel y gwyddoch morgi ydi siarc, ond catfish ydi morflaidd. A chath fôr ydi ray. Sut ddaru hynny ddigwydd ni wn, ond bydd pethau felly wastad yn fy niddori hyd fy ngwely angau.

mercoledì, settembre 17, 2008

Dirywiad safon yr iaith

Efallai fy mod i’n swnio’n rêl cyfieithydd bach trist, ond mae safon iaith yn bwysig i mi, ac mae bratiaith yn troi fy stumog. Wn i ddim p’un a wnaethoch wylio Taro 9 neithiwr, a drafododd ddirywiad y Gymraeg ymhlith plant ysgol, ond dydi hi fawr o syndod, er ei fod yn benbleth ac yn gwneud fawr o synnwyr.

Fy “nghenhedlaeth” i (nid dyma’r gair cywir ac mi egluraf pam nes ymlaen) ydi un o’r rhai olaf, mi gredaf, fydd â Chymraeg cref, naturiol. Yn 23 oed, mae gen i a llawer iawn o’m cyfeillion, yng Nghaerdydd o bob rhan o’r wlad neu’r rhai yn Nyffryn Ogwen, grap ar ymadroddion ac idiomau, ac rydym yn siarad Cymraeg gyda’n gilydd.

Dwi ddim yn honni o gwbl fod i ni Gymraeg perffaith di-wall, mae hynny’n gwbl anghywir. Ond eto mae hynny’n rhywbeth sy’n gyffredinol gan y cenedlaethau. Os ystyrir cenhedlaeth fy Nain (70+), maen nhw’n defnyddio llawer mwy o eiriau Saesneg unigol na ni, ‘eroplên’, ‘compiwtar’, ‘e-mail’ ac ati. Yn wir, bu i fy modryb sydd newydd gyrraedd ei 60, dwi’n credu, ddweud wrthyf fod gan fy nghenhedlaeth ‘Cymraeg posh’. Clod yn wir.

Ia wir, Cymraeg gwerinol sydd gennym ni. Mae gen i brofiad prin o’r Gymraeg yn ysgolion y cymoedd, ac er mor braf yw gweld twf yn nifer siaradwyr Cymraeg (h.y. y nifer sy’n medru Cymraeg - gwyddom oll yn iawn fod nifer y bobl sy’n defnyddio Cymraeg fel eu prif iaith ar drai ers cyn cof) de Cymru ni ellir disgwyl i blant ysgol yn y fan honno ddysgu Cymraeg naturiol - daw Cymraeg naturiol o siarad Cymraeg gyda’r teulu, gyda ffrindiau ac i raddau helaeth drwy fyw mewn cymdeithas Gymraeg. Gyda dirywiad enbyd y pethau hynny, dirywiad a welir yn y Gymraeg ei hun, hefyd.

Ond yn yr ardaloedd Cymraeg ac ymhlith teuluoedd Cymraeg digwyddodd rhywbeth i’r ‘genhedlaeth’ nesaf. Sôn wyf i am genhedlaeth fy chwaer. Dydyn nhw ddim yn genhedlaeth wahanol i ni - tair blynedd yn iau, ond o siarad â ffrindiau sydd â brodyr a chwiorydd o’r oedran hwnnw daw un peth yn drist o amlwg - mae safon eu Cymraeg yn is na ni, ac maent hefyd yn siarad llai o Gymraeg na ni.

Mi dorrodd rhywbeth yn rhywle, rhywsut. A hynny’n ddiweddar. Nid ydynt mor hoff o gerddoriaeth Gymraeg - galla i ddim dychmygu fy chwaer yn defnyddio Facebook Cymraeg neu’n ymuno â Maes E (yn wir, pan sefydlwyd Maes E roedd rhai o’r aelodau amlycaf yn ifanc - tua 16-17 oed - faint o bobl mor ifanc â hynny sydd bellach ar Faes E? Ddim cymaint). Dydi’r un cariad at iaith ddim yn amlwg yn eu plith.

Y peth trist ydi, dw i ddim yn meddwl fy mod yn gor-gyffredinoli.

Efallai bod y cymunedau Cymraeg wedi dirywio ychydig yn ormod, wn i ddim. Efallai bod oes datganoli wedi gwneud pobl yn rhy gyfforddus parthed yr iaith. Ond mae un ffaith yn sicr. Mae’r Gymraeg yn wannach ymhlith yr ifanc (sef i’r perwyl hwn pobl sy’n 20 oed ac yn iau) nag y bu erioed, ac yn deillio o hynny mae safon y Gymraeg yn dirywio. I nifer, dydi hi jyst ddim digon pwysig i boeni amdani. Geiriau yw iaith – dyna’r cyfan.

Wn i ddim, efallai bod rhywbeth felly’n dod ag aeddfedrwydd. Efallai mai’r lleiafrif a gynhaliodd safon erioed. Ond os yw iaith yn datgymalu, mae hi’n marw. Os mae hi’n colli ei chystrawen, yn cyfieithu yn slafaidd ac yn ymwared â’i hymadroddion, nid iaith mohoni mwyach.

Wn i ddim, ychwaith, ddyfodol y Gymraeg, neu p’un a oes dyfodol iddi mewn gwirionedd. Ond mi wn os bydd y duedd sydd ohoni’n parhau, bydd y dyfodol hwnnw ychydig yn llai goleuach nag y bu.

mercoledì, settembre 03, 2008

Y gwahaniaeth mwyaf rhwng y Cymry a'r Saeson

Un o enghreifftiau Geiriadur Prifysgol Cymru o’r defnydd o’r gair Sais:

Sais, Sais y gâch ei bais,
Y Cymro glân y gâch allan. (1660)


Wn i ddim amdanoch chi, ond credaf y ceir gwirionedd ym mhopeth.

martedì, gennaio 08, 2008

Spring Onion

Be ffwc ‘di ffradach? Oes y ffasiwn air yn bodoli, neu ai rhywbeth a fathais yn fy meddwod Nadoligaidd ydoedd? Wn i ddim, ond mae o wedi bod yng nghefn fy meddwl ers talwm, a ‘sgen i ddim mynadd chwilio geiriadur Bruce, a dydi Cysill da i ddim i neb mewn difri calon.

Wedi cam-glywed oeddwn i, gan gredu bod rhywun yn galw ‘spring onion’ yn ffradach. Y gair y byddaf yn ei ddefnyddio yw sloj; wn i ddim amdanoch chi. Fodd bynnag, fel y merllys a drafodwyd gynt, mae sawl gair Cymraeg am y ‘spring onion’ hefyd. Dywed Bruce mai sibolsyn, siolen, sgaliwn a shibwnsyn ydyw’r geiriau ar ei chyfer, sydd eto yn fwy na sydd i’r Saesneg (er yn ddibwynt felly).

Yn wir, cymaint o hoff yr ydwyf o’r gair sloj fel y byddaf yn prynu’r llysieuyn ei hun yn ddyfal, dim ond er mwyn cael dweud wrth bobl fy mod wedi cael ‘sloj i de’ neithiwr. Nid celwydd mo hyn: o ran eu blas ni welaf fawr o rinwedd iddynt, ond o ran y gair sloj mi fwytwn un y diwrnod pe cawn y cyfle.

Reit, dyna bum gair Cymraeg am y ‘spring onion’. Tybed a oes mwy?