lunedì, gennaio 02, 2006

Dw i'm isho mynd i Langefni

Dw i'm yn licio 2006; mai'n oer a 'sdim byd da ar y teledu. Yfory dw i'n gorfod mynd a'r car am MOT i Langefni a dw i'n sdyc yno am dair awr. Be ffwc dw i fod i wneud yn Llangefni am dair awr ('blaw snortio rwbath rownd cefn Kwiks a gwerthu ffags i blant ysgol feithrin ym Mhencraig)? Yr unig gysur fydd gennai ydi na fyddwn i yng Nghaergybi; a dydi hynny fawr o gysur.

Os oes gan rhywun unrhyw wybodaeth ar adlonaint ddi-ri Llangefni, rhowch wybod imi (awgrymiadau cyn belled a Rhostrehwfa yn dderbyniol)

5 commenti:

Huw ha detto...

Cer a camera gyda chdi, a gwna photo-diary.

Huw Psych ha detto...

os fysa chdi di neud hyna mi fysa na lun ohona fi ynddo fo!! Os fysa chdi di gadal fi wbod mi fyswn i di gallu cal hyg gin ti gan dy fod di mor cydli!!

Hogyn o Rachub ha detto...

Hoffwn i ddim wedi 'styrbio ar dy antics dwyn hen ddynion a'u mynd a nhw i'r siop bapur!

Huw Psych ha detto...

Na phoener! Mi o'n i wedi cael cymaint o fraw i dy weld di yna, bu bron i fi adal y gadair wheelio lawr yr allt dim ond er-mwyn rhoi hyg i chdi (gan fod chdi mor cydli)! Lwcus bod fi wedi rheoli fy emosiwn!!
Gei di hyg tro nesa, bosibl iawn ma yn clwb nos sadwrn fydd o!!
;o)

Anonimo ha detto...

Just blogging for a while, found your site that also happens to be around buy drums, so just saying what's up.

Charles