mercoledì, marzo 10, 2010

Dirywiad parhaus S4C

Bydd rhai ohonoch yn ymwybodol o’r stori hon, ac eraill ddim, ond os nad ydych cymerwch bum munud i’w darllen. Dwi’n ei ffendio’n digon brawychus. Os ydi’r Llew neu Rhodri yn darllen, dim dyma’ch math chi o beth, felly waeth i chi stopio darllen rŵan a mynd i wefan y BBC neu rywbeth.

Yn gryno mae’n sôn am nifer y bobl sy’n gwylio S4C, ac mai dim ond 16% o raglenni’r sianel sy’n denu dros 10,000 o wylwyr a bod rhai o’r rhaglenni mwyaf aflwyddiannus o ran nifer y gwylwyr yn rhaglenni plant.

Dylai hyn fod o ddirfawr bwys i unrhyw un sy’n meddwl bod gan y sianel gyfraniad pwysig i’w wneud – ond mae’n anodd i’w chefnogwyr selocaf gyfiawnhau ei chyllid o £100m gan y llywodraeth o ystyried y ffigurau gwylio. Mae’n cryfhau unrhyw ddadl dros dorri ei chyllid, neu hyd yn oed ei diddymu, yn aruthrol. Dydi’r ffaith bod mwy o bethau nag erioed o’r blaen i’w gwneud, fel y rhyngrwyd neu’r lleng o sianeli eraill a gynigir, ddim yn eglurhad digonol, mae arna’ i ofn.

Mae’n gosod y ddadl i ni sydd o’i phlaid ar seiliau gwan iawn. Dyna’r realiti.

Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi dod yn gynyddol amlwg dros y blynyddoedd, ond y gwir ydi bod mawrion S4C wedi bod yn ddigon hapus anwybyddu’r broblem – wedi’r cyfan, mae ganddyn nhw gyflogau anhaeddiannol o fras felly pam y dylen nhw boeni? Mae’r byd yn newid, ‘does gan S4C ddim gwylwyr sy’n gwylio’r sianel allan o ffyddlondeb. Bellach, rydyn ni isio rheswm i’w gwylio. Pam blydi lai?

A pham bod y ffigurau gwylio mor isel felly?

O ran Cyw, dwi’n meddwl ei fod yn wasanaeth da, ond faint o rieni Cymraeg sydd wedi hyd yn oed clywed amdani mewn difrif? Ddim digon. A oes ymdrech digonol yn cael ei wneud i hysbysebu’r gwasanaeth ymhlith rhieni di-Gymraeg sydd â phlant mewn ysgolion Cymraeg? Mae’n rhaid mai ‘na’ ydi’r ateb.

Teimlaf fod gormod o chwaraeon ar adegau. Mae hynny’n wrthun i nifer o’r gwylwyr selocaf. Wrth gwrs, mae gan Y Clwb Rygbi a Sgorio eu lle, ond ydi pethau fel Ralio a Golffio yn haeddu eu lle? A dywedais gyda Sgorio ambell bost nôl, mae gan y rhaglen honno ddigon o broblemau.

Y broblem fwyaf ydi bod S4C yng nghanol yr wythnos yn ddiflas, o mor ddiflas o undonog. Rhaid cael newyddion ond tybed a fyddai’n well cael y newyddion am 7 o’r gloch – dwi’n meddwl byddai pobl yn fwy tebygol o’i wylio bryd hynny. Wedi’r cyfan, bydd pobl sydd am wylio newyddion Cymru wedi gwylio Wales Today ac ITV Wales yn lle disgwyl hanner awr neu awr yn ychwanegol am y newyddion. Yn ei dro, dwi’n meddwl y byddai 7.30 yn slot gwell i Wedi 7.

Mae ffigurau Pobol y Cwm wedi dirywio ond ydi rhywun yn synnu? Neges i S4C: MAE POBOL Y CWM BUM GWAITH YR WYTHNOS YN LLAWER GORMOD. Byddai pedair, neu hyd yn oed dair rhaglen, yn hen ddigon. Yn ddelfrydol, dwi’n meddwl byddai tair am hanner awr yr un yn iawn yn lle pum rhaglen 25 munud o hyd. Mae’r gormodedd yn gwneud i bobl fel fi, a fyddai efallai yn dueddol o wylio nawr ac yn y man, fyth gwylio.

Wn i ddim beth fyddai pobl am ei weld am wyth yn lle PyC, rhaid gofyn iddyn nhw. Dydi S4C heb â chael cwis da ers talwm, beth amdani? Neu beth am rywbeth gwirion ar hyd llinellau rhaglen lwyddiannus ar y BBC fel Total Wipeout os ydi’r cyllid yno? Rhywbeth sydd am roi gwên ar wynebau pobl. Os nad ydi’r cyllid yno, gwnewch gyllid. O’r cyflogau uchaf, am un peth.

A’r diffyg mawr, mawr ar S4C ers blynyddoedd: comedi da. ‘Sdim angen rhoi rhybudd o ‘beth iaith gref’ ar ôl y Watershed, S4C, i’r diawl â’r lol ‘na. Wnes i ddim licio ‘Ar y Tracs’ – gas gen i bobl yn gwneud allan bod Cymry Cymraeg yn siarad Cymraeg yn waeth nag y maen nhw mewn difrif, a bod hynny’n grêt, mae’n fy nghorddi – ond mi wnaeth ddigon o bobl ei hoffi dwi’n siŵr. Rhaid bod ‘na dalent ysgrifennu comedi da yng Nghymru yn Gymraeg. Ewch amdani.

Mae Nain yn un o selogion y Sianel, ond mae hi’n dweud ei bod yn warthus erbyn hyn. Ymhen y pump i ddeng mlynedd nesaf bydd y selogion wedi diflannu’n llwyr drwy draul amser. Ydi mawrion S4C yn barod i gydnabod hynny, i fynd i’r afael yn yr her o ddifrif?

Yn anffodus, dwi’n amau mai ‘na’ pendant ydi’r ateb, ac y bydd y Sianel yn parhau i ddirywio.

6 commenti:

Huw ha detto...

Ti hefyd wedi anghofio'r holl chware o gwmpas gyda sylwebaeth Saesneg etc. a gyd o'r broblemau yn ei sgîl. Peth sydd yn llwyr-diddymu pwynt y sianel yn y lle cyntaf.

bed123 ha detto...

Cytuno hefo Huw, mae o'n hollol warthus mae rhaid i chi optio fewn i gael sylwebaeth Cymreag ar sianel Cymraeg. A dwi'n cytuno cant y cant hefo sylwadau hogyn o rachub, mae angen wir trawsnewid S4c, newyddion am 10, comedi da yn sicr, cwis da, ddim yn hoddi Dim Ond 1, a ddrama ysgafn i'r teulu ar noswaith sul cyn 9.

Anonimo ha detto...

Mae na gymaint o'i le hefo'r sianel nes ei bod yn anodd gwybod lle i gychwyn. Ond beth am gychwyn ar y brig? Y gwir amdani yw nad oes gan Iona J. na'r rhyfeddol biwys John Walter unrhyw gysylltiad hefo trwch y gwylwyr. Ac wrth gwrs, dyna union fwriad y sawl a'u cododd i'w swyddi presenol! Y pwynt oedd osgoi rhoi'r sianel yn nwylo 'nashis' pergylus (peidied neb a meddwl nad penderfyniadau cwbl wleidyddol roedd y rhain.) Mae'n bwysicach bod yn saff yn wleidyddol nag yn debol yn eu swyddi. A'r ffaith amdani yw fod y ddau'n ddiglem. Ac wrth gwrs mae Awdurdod y sianel yn llawn o fobl di-dda, di-ddrwg nad ydynt yn ddigon o hogia/genod i bwyntio allan wrth John Walter fod yr ymeradwr yn borcyn....

Wrth gwrs mae na broblemau penodol hefo'r arlwy. Ond mae na broblem fwy sylfaenol, hefyd, sef y ffaith fod yr uchel-reolwyr yn gwbl anaddas....

Trist iawn. Fel y rhan fwyaf o'm cyfeillion dwi wedi rhoi'r gorau i wylio a go brin yr af yn ol heb chwyldro.

bed123 ha detto...

A pam oes rhaid cael Wedi 7 a Pobol y Cwm ar POB nos? Be am Newyddion am 7 tan 730, wedyn nos Lun, Mercher a Gwener 730 - 8, Wedi 7 a nos Fawrth a Iau Pobol y Cwm 730 - 8. A be am rhaglen fel Film 2010 ar S4C? dangos be sy ymlaen yn sinema ag ar llwyfan yng Nghymru? Lle mae'r dychymyg S4C?

Dafydd Tomos ha detto...

Mae S4C yn ddibynnol iawn ar y BBC am gynnwys (a diolch byth am hynny, mae llawer iawn o raglenni safonol y sianel yn dod o'r Bîb).

Oherwydd hynny dyw hi ddim yn bosib cael y newyddion am saith. Mae Wales Today yn gorffen munudau cyn saith yn yr un stiwdio a mae angen amser i ymarfer ayyb. Mi fyddai'n ddrud iawn rhedeg dau stiwdio.

Dwi ddim yn gwylio PyC (na unrhyw sebon ers blynyddoedd) ond yn anffodus mae tuedd i unrhyw sebon ymestyn i lenwi'r amser a gwneud defnydd effeithiol o'r cyllid. Mae EastEnders mlaen bedwar diwrnod yr wythnos a mi fydden nhw'n ceisio am bump heblaw am gwynion gan eu actorion a staff.

Mae S4C Digidol yn darlledu 17 awr bob diwrnod (er fod hanner rheiny yn ail-ddarllediadau) ar gyllid oedd wedi ei gynllunio ar gyfer byd analog lle roedden nhw'n dangos 4 neu 5 awr o raglenni Cymraeg o fewn amserlen saesneg.

Felly naill ai fod yr amserlen bresennol yn rhy uchelgeisiol gyda'r arian sydd ganddyn nhw neu does ganddyn nhw ddim cyllid digonol (a dy'n nhw ddim wedi cael unrhyw arian ychwanegol nac yn debygol o gael).

Anonimo ha detto...

yr hyn sydd fwyaf trist yw'r newyddion am raglenni Cyw. Mae'r rhaglenni'n dda. Mae hysbysebu wedi bod ar gefn bysus yn y parthau hyn ond mae'r broblem yn fwy na hynny.

Y gwir yw fod nifer y teuluoedd Cymraeg ei hiaith yn gostwng a dyma'r teuluoedd sy'n mynd i wylie sianel Gymraeg. I raddai does ond ychydig y gall S4C wneud. Mae'n adlewyrch gwendid y Gymraeg fel iaith yr aelwyd naturiol.

Mae Cyw yn well na lot o stwff sy'n Saesneg ond fod gan y rhaglenni Saesneg eu marchnata amgen - cylchgronnau, sticeri etc.

O ran Cyw yr unig ateb yw fod rhieni jyst yn rhoi Cyw ymlaen i'r plant a peidio gadael i'w plant wylio stwff Saesneg. Ond dyw hynny ddim yn mynd i ddigwydd yn y rhan fwyaf o deuloedd.