Dwi am ddweud rhywbeth y bydd y rhan fwyaf ohonoch yn anghytuno ag ef: dros yr ychydig flynyddoedd nesaf Pontypridd ydi’r sedd debycaf yng Nghymru o droi’n hollt bedair ffordd. Er yn draddodiadol Llafur ei naws, mae Plaid Cymru wedi bod yn rym yma ers 1999. Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol ar gynnydd cadarn yma, ac mae poblogaeth fach o fyfyrwyr yma hefyd. Wrth i’r cymoedd deheuol hefyd raddol droi’n faestrefi i Gaerdydd gall hyd yn oed y Ceidwadwyr fanteisio ar hynny – yn wir dyma’r unig ran o RCT y mae ganddynt gynghorydd ynddo.
Ond beth am y sefyllfa gyfredol? Awn drwy hyn fesul plaid, a ‘does lle gwell i ddechrau na gyda’r deiliaid cyfredol, Llafur, a gallwn gael getawê gyda gwneud hynny’n fras.
Ar ôl cael bron i 30,000 o bleidleisiau ym 1997, cafodd ychydig yn llai na 21,000 yma yn 2005, felly mae hi dal yn sedd gadarn i’r blaid Lafur – ond ‘does angen i chi fod yn fathemategydd i weld maint y dirywiad. Mae hi hefyd wedi dal y sedd yn y Cynulliad yn weddol ddiffwdan ers ’99. Ac yn etholiadau Ewrop y llynedd cafodd dros fil yn fwy o bleidleisiau na’r ail blaid.
Dwi’n meddwl fy mod wedi gwneud fy symiau yn iawn, a bod 24 o gynghorwyr yn etholaeth Pontypridd. O’r rhain, mae hanner yn Llafur. Does ‘na heb fod trai enfawr yma ar y cyngor i Lafur ers 1999. Y gwir plaen amdani ydi hyn: mae gan Lafur fwyafrif o 13,191 yma ac mae angen gogwydd o 16.7% ar yr ail blaid i’w disodli. Mae Pontypridd, er gwaethaf popeth, yn un o’i chadarnleoedd. Ond gyda Kim Howells yn ymddeol, ac mae ganddo barch mawr yn yr etholaeth, mae’r mwyafrif hwnnw yn debygol iawn o leihau.
Plaid Cymru sydd nesaf ar fy rhestr wirio. Yn draddodiadol, dydi Plaid Cymru ddim mor gryf ym Mhontypridd ag ydi hi yn y Rhondda neu Gwm Cynon, ond roedd yn un o lond dwrn o seddau y daeth o fewn trwch blewyn i’w cipio ym 1999, gan lwyddo cael bron deng mil o bleidleisiau. Ers hynny, mae ‘na drai wedi bod. Roedd gogwydd o 11.5% oddi wrth y blaid yn etholiadau Cynulliad 2003, ac erbyn 2007 daeth y blaid yn drydydd siomedig.
Yn San Steffan, daeth Plaid Cymru yn ail yn 2001 gan bron ddyblu ei phleidlais. Dwi’n meddwl ei bod yn deg dweud ein bod bellach yn disgwyl i Blaid Cymru wneud tua chystal ag y gwnaeth y flwyddyn honno, ond daeth yn bedwerydd yn 2005. O’r ugain o gynghorwyr a lwyddodd Plaid Cymru eu hanfon i’r Cyngor yn 2008, dim ond pedwar ddaeth o’r rhan hon o’r sir.
Aeth pethau’n well yn 2009. Daeth y blaid yn ail eto, ond roedd hi’n ail gwael mewn gwirionedd – ni tharodd yr 20%. Cael a chael fydd hi i Blaid Cymru yma eleni. Byddai cael nifer debyg o bleidleisiau, yn hytrach na chynnydd, wirioneddol yn mynd â hi’n ôl i gam un.
Gan ddweud hynny, mae tua 10,000 o bobl yn yr etholaeth wedi pleidleisio i Blaid Cymru yn y gorffennol - nid yn unig ym 1999, ond yn isetholiad 1989 hefyd. Mae’r Blaid hefyd mewn sefyllfa well i ddenu Llafurwyr dadrithiedig na’r Ceidwadwyr neu’r Dems Rhydd yn y rhan hon o’r byd, felly dydi sicrhau’r ail safle eleni ddim yn anobeithiol. Hefyd, yn wahanol i’r pleidiau eraill, mae Plaid Cymru yn dueddol o ehangu neu grebachu yn ddaearyddol. Ar hyn o bryd mae hi ar gynnydd. Drwy wneud yn weddol yn y sir yn 2008 a 2009, ac i’r de yng Ngorllewin Caerdydd, gall effeithio ar Bontypridd yn y pen draw. Amser a ddengys os oes sylweddol i’r ddamcaniaeth honno.
Ond nid y Blaid ydi’r unig un i nesáu at y 10,000 mewn cof – mae’r Ceidwadwyr wedi hefyd. Yn wir, ar ôl cael ychydig dros y deng mil ym 1983, cafodd tua hynny yn ’87 a ’92 (ond nid isetholiad 1991). Tua hanner y bleidlais honno y mae wedi cael ers hynny, ond dydi’r Ceidwadwyr ddim wedi cael llai na phum mil chwaith, felly mae ‘na isafswm pleidleisiau eithaf pendant yma ar lefel San Steffan. Efallai y daeth y gefnogaeth gyson honno i’r amlwg wrth i’r Ceidwadwyr sicrhau sedd cyngor yma yn 2008 – y tro cyntaf ers cyn cof, os nad erioed, iddynt sicrhau cynrychiolaeth ar RCT.
Serch hynny, dydi’r Ceidwadwyr byth wedi gwneud yn dda iawn yma yn y Cynulliad – pedwerydd fel rheol ydyn nhw yma. Ond efallai bod etholiad San Steffan, yn enwedig ar adeg lle bo’r Ceidwadwyr ar gynnydd, yn wahanol. Mae’r cynsail yno; y cwestiwn yw a all y Ceidwadwyr adennill y lefel honno o gefnogaeth bron ugain mlynedd yn ddiweddarach.
I fod yn deg, daeth yn drydydd parchus yn Etholiadau Ewrop – tua 500 pleidlais y tu ôl i Blaid Cymru. Gyda UKIP dim ond mymryn y tu ôl iddynt hwythau’n eu tro, teg dweud y gallai’r Ceidwadwyr fod wedi dod yn ail yma ar ddiwrnod gwell.
Daw hynny â ni at y blaid ddaeth yn ail parchus iawn yma yn 2005 – y Democratiaid Rhyddfrydol. Cyn 2005, nid oedd ganddynt fawr o hanes yma, ond mae pethau wedi newid yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Er na chyrhaeddwyd yr 20%, na chwaith y 10,000 hudol y profwyd ei fod o fewn cyrraedd Plaid a’r Ceidwadwyr, cawsant 7,827 o bleidleisiau, a oedd yn sylweddol fwy na’r ddwy blaid hynny.
Er na lwyddwyd i ennill yr un faint o bleidleisiau yn 2007, disodlodd y Rhyddfrydwyr Blaid Cymru fel ail blaid Pontypridd ar lefel y Cynulliad. Yn wir, cynyddodd eu pleidlais 13.2%, sy’n anferthol o gynnydd. Petai rhywun yn teimlo bod ganddynt seiliau cwbl gadarn yma, byddai dyn yn disgwyl iddynt wthio i ennill yma yn 2011.
Ond mae seiliau yma. Mae pob un o gynghorwyr RCT y blaid yn yr etholaeth, sef 4 (cymaint â Phlaid Cymru), ond fel ymhobman daeth siom y llynedd wrth i’r blaid ddod yn bumed yma. I fod yn deg, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gyson gwneud yn ofnadwy mewn etholiadau Ewropeaidd yng Nghymru. Dyfalu y byddem petaem yn dweud ein bod yn gwybod i bwy y byddai’r dros fil a bleidleisiodd i’r Gwyrddion neu’r BNP, neu’r 2,500 a bleidleisiodd i UKIP, yn bwrw pleidlais drostynt mewn etholiad cyffredinol. Dadl arall ydi honno, ond mae’r posibiliadau yn ddigon eang.
Beth ddysgwyd o hynny felly?
Mae pleidlais y Blaid Lafur yn dirywio yma ar raddfa debyg i nifer eraill o seddau Cymru.
Gall y Ceidwadwyr ennill hyd at 10,000 o bleidleisiau yma mewn etholiad cyffredinol, ac mae isafswm gweddus i’w cefnogaeth.
Mae bron i 10,000 o bobl wedi pleidleisio dros Blaid Cymru yma, ond mae hi wedi bod ar drai cymharol yma ers degawd.
Y Democratiaid Rhyddfrydol sy’n ail yma ac maent wedi bod yn cryfhau ers blynyddoedd bellach.
Yr unig sicrwydd sydd gennym ydi y bydd Llafur yn colli pleidleisiau. Gan gael 52.8% o’r bleidlais yn 2005, mae’n hawdd ei gweld yn cael llai na hanner eleni. Gyda Kim Howells yn ymddeol fel AS, gallai’r bleidlais gwympo’n syfrdanol ond mae’n anodd gen i weld, hyd yn oed yn y sefyllfa waethaf yn San Steffan, y caiff Llafur lai na 40% yma eleni. Mewn difri, synnem oll petai’n gwneud cyn waethed â hynny.
Mae dyfalu pwy ddaw’n ail yn ddigon anodd - a dwi’n dweud dyfalu yn hytrach na darogan am dda reswm. Tua 3,300 o bleidleisiau oedd rhwng yr ail a’r pedwerydd safle y tro diwethaf - sy actiwli ddim yn lot, dim ond pump y cant o’r etholwyr. Mae’n anodd hefyd, yn y sefyllfa sydd ohoni, gyflwyno dadl dda dros pam y byddai’r un o’r tair plaid arall yn colli pleidleisiau. Tueddaf i feddwl ei fod yn fater syml o bwy fydd yn ennill y mwyaf.
Os ystyried amhoblogrwydd Llafur, mae’n deg dweud y gall yr ail blaid, pa bwy bynnag y bo, agosáu at y deng mil. O ran y Rhyddfrydwyr, dwy fil o bleidleisiau’n ychwanegol byddai ei hangen i gyflawni hyn, felly nhw sy’n y sefyllfa orau, ond mae’r cenedlaetholwyr a’r Ceidwadwyr wedi profi y gallant ennyn y lefel honno o gefnogaeth.
Yn fy marn onest i, ymhen y deg i bymtheg mlynedd nesaf, os bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn parhau i gryfhau, Plaid Cymru yn adennill y gefnogaeth y gall ei chael, y Ceidwadwyr yn cynyddu eu sail, a Llafur yn parhau i ddirywio, fe fydd Pontypridd o bosibl yn ras bedair ffordd.
Eleni, mae un sicrwydd – daw Llafur adref ym Mhontypridd.
Proffwydoliaeth: Mwyafrif o 6,000 – 8,000 i Lafur dros y Democratiaid Rhyddfrydol.
1 commento:
Bum yno yn canfasio yn yr is-etholiad pan aeth Kim Howells i mewn. Penwythnos i'w chofio! Syd Morgan yn sefyll ar ran y Blaid - be ddaeth ohono fo?
Dyfed.
Posta un commento