giovedì, luglio 09, 2009

Y Cyfredol Gasineb

Un o’m prif wendidau ydi nad wyf mor chwerw ag y gallwn fod. Wir-yr, dwi’n eithaf pur fy nghalon mewn sawl agwedd, ond weithiau, ar ddiwrnod da, gallaf fentro i isaf berfeddion uffern chwerw (ac eithaf mwynhau).

Un o’r pethau y mae gan bobl ddawn ddiddiwedd i’w gasáu ydi pobl y byddan nhw’n eu gweld yn feunydd. Yn bur ffodus, er gwaethaf fy nghwyno tragwyddol, dwi’n hoff o’r rhan fwyaf helaeth o bobl dwi’n eu hadnabod, yn wir, hyd yn oed Jarrod. Wel, efallai ddim Jarrod. Ta waeth, mae fy mhrif gasineb yn gyfeiriedig at bobl nad ydw i’n eu hadnabod.

Un felly ydi’r gwr sy’n fy heibio bob diwrnod wrth i mi fynd i’r gwaith. Fydda i’n ei weld bob dydd, cofiwch, ac yn ei gasáu, ddim cymaint â’r Blaid Lafur ond eto’n fwy na chacennau. Peth tila ydyw, yn eiddil fel lili gynta’r gwanwyn, heblaw bod ganddo wallt sinsir byr y mae’n ei sbeicio a hefyd sbectols sgwâr. Mae’n hyll fel ystlum ac yn gerdded fel pengwin, yn gamau bach bach sydyn sydyn, ac yn gwisgo bag ar ei gefn. Ac mae’r ffycar yn fyrrach na fi.

Dim ots pa mor gynnar yr âf byddaf yn ei weld rhwng yr Eglwys Babyddol a Mill Lane bob dydd. Wn i ddim i ba le y mae’n mynd, ond dwi’n teimlo y byddwn yn gorfod dweud helo wrtho os fe’i gwelaf yn rhywle wedi meddwi, sy’n biti achos dwi wirioneddol ddim isho gwneud hynny, achos dwi’n ei gasáu.

mercoledì, luglio 08, 2009

For Wales, see England

Wythnos diwethaf mi soniais am sut y mae gen i, yn ddigon aml, gywilydd o fod yn Gymro, er dydi o ddim yn aml iawn fy mod i’n cael dweud hynny ddwywaith mewn pythefnos – mae’n rhaid bod y byd ar fin darfod!

Do, mae’r Lludw wedi cyrraedd Caerdydd. Mae’r cyfryngau, o’r Western Mail i S4C wedi bod nid yn unig yn ein hannog i gefnogi Lloegr (ddim ffiars) ond yn mynnu cymaint o fraint y bydd hi i’r Cymry gynnal digwyddiad o’r fath ac, wrth gwrs, yn cyfeu’r ffaith y bydd Cymru gyfan yn bloeddio dros Loegr i’r byd. Y peth trist ydi fydd ‘na lot yn gwneud. Mae’n rhaid bod yr Awstraliaid yn meddwl ein bod ni’n licio cael ein nabod fel rhan o Loegr. Sôn am sad!

Fyddwn i ddim efo unrhyw wrthwynebiad i’r Lludw yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd pe bai gan Gymru ei thîm prawf ei hun. Mi fydd yn hwb fawr i economi Caerdydd, ac mae hynny’n beth da, dwi ddim yn dadlau hynny. Ond mae tîm criced Lloegr yn enghraifft berffaith o For Wales, see England.

Mi fyddai hyd yn oed newid enw’r tîm i ‘England and Wales’, fel ydyw mewn gwirionedd, yn rhywbeth. Ond eto, ‘does Cymro yn y garfan hyd fy neall i.

Mae gweld Come on England ar dudalen flaen y Western Mail, aelodau o glwb criced Morgannwg yn clodfori’r tîm ‘cenedlaethol’ yn fwy pathetig fyth o ddarllen papurau newydd Lloegr. Peidiwch â chael eich twyllo, maen nhw’n casáu’r ffaith bod Cymru’n cynnal y gêm a bod Hen Wlad fy Nhadau yn cael ei chanu cyn’ddi. Mae o mor rhyfedd gweld y Saeson yn bloeddio “fydd y Cymry byth yn ein cefnogi!” ar yr un ochr a chymaint o Gymry’n gweiddi “byddwn fe fyddwn!” ar y llall!

Wel, fydda i ddim. Mae’n iawn i Albanwyr beidio â chefnogi Lloegr waeth bynnag fo’r sefyllfa, ac mae ‘na Gymro bach fan hyn sy’n mynnu gwneud union yr un fath! A minnau'n meddwl y byddwn i byth yn cytuno â gwasg Llundain....!

P’un bynnag pan oeddwn i a Sion Bryn Eithin yn chwara criced ar compiwtar ym Mryn Eithin ‘stalwm roeddan ni’n cefnogi Pacistan a Salim Malik yn benodol, jyst achos bo gynno fo enw fel Sali Mali.

lunedì, luglio 06, 2009

Gweiddi ar Siân Cothi

Eisteddon ni y tu allan i’r Mochyn Du. Roeddwn wedi dechrau mynd yn chwil, mi gredaf. Cerddai dynes walltgoch yr ochr arall i’r ffordd.

“Mae honno’n edrych fel Siân Cothi,” dywedasom.

“Siân, Siân!” gwaeddasom ar ei hôl, yn lled-ffraeth ein bwriad ar y ddynes hon, yr edrychasai fel Siân Cothi, ond nid Siân Cothi mohoni.

Troes hithau atom a chwifio’i breichiau. Siân Cothi ydoedd. Dechreuodd gerdded tuag atom. Roedd yn rhaid gwneud rhywbeth.

“Sori,” myfi a waeddais. Myfi’n gweiddi ar Siân Cothi! “Sori, roedden ni’n meddwl mai Siân Cothi oeddech chi, ond Siân Cothi ydach chi!"

Chwifiodd arnom eto ac ymlaen â hi ar ei thaith. Bu’n sefyllfa ryfedd, yn sicr.

venerdì, luglio 03, 2009

mercoledì, luglio 01, 2009

WTF



Carlo - 40 mlynedd o lyfu tin

Felly deugain mlynedd yn ôl cafodd Carlo ei arwisgo yng Nghaernarfon. Efo rhywfaint o lwc, welwn ni mo’r fath daeogrwydd eto. Os daw, gobeithio y ceir protest a gwrthsefyll a gwrthwynebwyd fel y gwelwyd y tro diwethaf. Tybed a fydd gan Gymru’r egni i wneud hynny?

Na, fwy na thebyg.

Yn ôl arolwg barn gan y BBC mae tua 60% o blaid swydd Tywysog Cymru, a thua’r un faint o blaid arwisgiad arall pan ddaw’r tro. Fe’m synnwyd gan y canlyniad, rhaid i mi gyfaddef. Mae’n torri ‘nghalon fy mod yn Gymro i’r carn sy’n aml iawn yn teimlo cywilydd o fod yn Gymro. O weld taeogrwydd a diffyg hyder pobl Cymru dro ar ôl tro, heb sôn am y difaterwch cyffredinol at yr iaith, yr agwedd ddi-asgwrn cefn at annibynniaeth; dwi’n aml iawn yn meddwl y buasai’n well petawn wedi dilyn ochr Saesneg fy nhreftadaeth bersonol ac i’r diawl a’r Cymro ynof. Mi fyddai’n haws, o leiaf.

Ond yn ôl at Carlo. Dau bwynt yn unig y galla i wneud am hyn, fel un nad oedd yn agos at gael ei geni yn ystod y cyfnod. Y cyntaf ydi, dwi ddim yn weiniaethwr. Ddim o gwbl, mewn difri. Mae unrhyw wlad sydd â threftadaeth a hanes mor gyfoethog, gyda theyrn yn goron ar hynny (esgusodwch y pun gwael), yn iawn gen i. ‘Does gen i ddim byd yn erbyn y syniad o deulu brenhinol – gall yn fwy na dim grisialu gwlad, ei huno a’i hyrwyddo.

Yr ail bwynt ydi hwn: y broblem ydi mai’r wlad dan sylw ydi Lloegr. Dyna fy ngwrthwynebiad i fod yn ddeiliad i’r frenhines. Pe bawn i’n Sais (cyflawn) mi fyddwn i’n falch o’r teulu brenhinol.

Ond fel cenedlaetholwr, mae swydd Carlo yn swydd dwi’n ei weld fel sarhad ar Gymru. Mae’r egwyddor yn syml: os oes angen tywysog ar Gymru, dylai hwnnw fod yn Gymro. Mae Carlo’n symbol o orthymiad y Cymry, yn symbol o genedl a goncwerwyd. Os ydi 60% ohonom go wir yn gefnogol i hynny, yn wirioneddol credu y gall mwyaf Sais y Saeson gynrychioli Cymru, waeth i ni fod yn Orllewin Lloegr ddim.

martedì, giugno 30, 2009

Mae fy mheiriant golchi yn bwyta fy sanau

Mae’r byd hwn yn llawn hud. Hyd yn oed yn ei fodernrwydd bondigrybwyll mae dirgelwch i’w gael yn y mannau tywyll. Y fan dywyll yr wyf yn cyfeirio ati yw peiriannau golchi. Ai fi ydi’r unig un sydd ddim yn dallt, yn enw’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân, sut ar wyneb y ddaear y gellir rhoi rhif penodol o hosanau i mewn i beiriant golchi a chael llai yn ôl?

Digwyddodd hynny ddoe, ac nid am y tro cyntaf. Wn i ddim, er racio ‘mrêns hyd syrffed, sut y mae’n digwydd. Rŵan, o’r holl ledrith a rhyfeddodd a roddodd y Tad Mawr ar y ddaear, dwi’n gwbl argyhoeddedig na fwriadodd i’r peiriant golchi fod yn destun dirgelwch parthed hosanau, ond dyna ydyw o’m rhan i. Faint o sanau a gollwyd i’r bwystfil wrth y sinc ni wn – mae rhywun yn gwybod rhywbeth nad ydw i, mae’n rhaid (mae lot o bobl yn gwybod pethau nad ydw i, wrth gwrs).

Mae’n gas gen i olchi dillad. Os bydda i’n mynd i Rachub dwi o hyd yn fy henaint yn gwneud siŵr bod ‘na ddigon o ddillad budur yn dod efo fi. Mae pob rhan o olchi dillad yn orchwyl blinedig. Casglu’r cyfan drewsawr a’i roi yn y peiriant, ei dynnu (a gweld beth ddaw allan), ei osod ar y lein, wedyn mai’n bwrw glaw, wedyn ei roi yn y tymbl a digio wrth feddwl faint o drydan y mae hwnnw’n ei ddefnyddio, ac yna smwddio.

Fedra i ddim smwddio, a dwi ddim yn golygu sefyll wrth y bar min nos yn wincio ar dargedau. Na, bydd fy nillad i, waeth faint o ymdrech a roddaf i mewn i smwddio, yn parhau’n ddigon crintachlyd ar y cyfan, yn benodol trowsysau a chrysau. Gallwch weld o olwg dyn a all smwddio ai peidio, a gwn fod hynny y tu hwnt i’m dawn. Pe bai gen i ddigon o arian byddwn i’n cael rhywun arall i’w gwneud. Y broblem ydi mae pawb dwi’n eu nabod yn edrych cyn waethed â mi, a gwaeth mewn sawl achos, felly mi fyddai’n ddibwynt. Hidia befo, fues i fyth yn un am edrych yn drwsiadus p’un bynnag.

lunedì, giugno 29, 2009

Sbeitllyd yw Albany Road

Ddim ots gen i be gythraul ddywedwch chi, mae’r tywydd yn blydi horybl yng Nghaerdydd. Pump ar hugain gradd selsiws (dwi’n casáu’r gair selsiws – ma’n swnio fel cyfuniad o sensual a selsig). Mai’n chwilboeth. Does ‘na ddim chwa o awyr chwaith, ac mae’r aer yn drwm fel plwm llwm. Ac ni throf yn frown oherwydd dwi ddim am fynd allan ynddo. Ddim eto. Es allan amser cinio o amgylch y ddinas am dro, i Albany Road, a dwi ddim am wneud ‘fory os mae hi fel hyn.

Bydda i’n mynd i Albany Road yn dra aml. Wel, dim ond i fynd i Iceland, yn de. O’n i’n ddig iawn wythnos diwethaf wrth bigo fyny, ac afraid dweud prynu, carbonara eog a chorgimwch. Wn i ddim pam mai ond pan gyrhaeddish i adra y bu i mi edrych yn y bocs ei hun a sylwi bod rhyw gont sbeitllyd wedi cyfnewid y nwyddau hysbys am reis pilau. Fyddwn i ddim yn meindio gormod fel arfer ond dwi’m yn licio blydi reis pilau.

Ond arferwn dreulio cryn dipyn o amser ar Albany Road yn fyfyrwyr trydydd blwyddyn, yn bennaf yn Peacocks achos ei bod yn siop rad + arferwn eithaf hoffi dillad Peacocks. Roedd/Mae ‘na fwyty Indaidd hefyd ar ffordd – dwi’m yn cofio’r enw rŵan – ond dwi yn cofio mynd yno’n ddigon aml efo Dyfed ar ôl noson allan i nôl cyri, a chyri da ydoedd ‘fyd. Hoffais yn fawr unwaith, pan aethom yn ffyliaid gwlyb a hithau’n stido bwrw i nôl un. Llithrodd Dyfed ar y stryd laith a brifo, ac mi chwarddish i nes i mi gyrraedd adra. Un sbeitllyd fuesh i ‘rioed.

venerdì, giugno 26, 2009

Galw enwau ar bobl ... Cymraeg style!

Un o wychaf bethau ein hannwylaf iaith ydi’r gallu i alw enwau ar bobl sy’n gwbl ddiniwed ac eto’n cyfleu cymaint. Mae’r Saesneg yn wych am hyn hefyd i raddau helaeth ond mae ‘na rhywbeth mwy gwirion am y Gymraeg, sy’n gwneud iddi ragori.

Faint o fath o fwydydd y gellir sarhau rhywun yn Saesneg gyda hwy? Lemon, wrth gwrs, ond gallwn ni alw rhywun yn lemon yn Gymraeg. Ac yn nionyn. Ac yn dorth. Ac yn sgonsan (ffefryn Nain a’m ffefryn diweddar). Ac, wrth gwrs, yn ben rwdan. Allwch chi ddim mynd rownd Lloegr yn galw rhywun yn onion, loaf na’n scone (dwi byth yn cofio be ‘di rwdan yn Saesneg).

A beth am dwmffat? “Beth ti’n gwneud y twmffat?” / “What are you doing you funnel?” – penderfynwch chi p’un sydd orau.

Gallwch chi alw rhywun yn unrhyw beth dal haul yn y Gymraeg ac fe’i cyflëir mewn ffordd ddoniol, lled-sarhaus ond eto cyfeillgar – dychmygwch alw rhywun yn “hen gwpan wirion” neu’n “be sy dy haru di’r draenog?” – fe fyddent yn codi gwên yn hytrach na dwrn.

Ond yn ôl y draenog, mae anifeiliaid yn gallu bod yn faes cyfoethog a diddorol i alw enwau yn Gymraeg: colomen/sguthan, cranc, mul, cranci mul (cyfuniad!), brân, iâr, mochyn, hwch, ci, ast, deryn – ond onid ydi hi’n rhyfadd, yn Gymraeg, bod galw rhywun yn fath o anifail bron yn ddi-eithriad sarhaus iawn, ond eto chymerech mohono â’r sarhad a fyddai’n briodol gyfatebol yn Saesneg?

Gallwn wrth gwrs barablau ‘mlaen am hyn, ond dyna un o gryfderau’r Gymraeg i mi. Mae hi’n iaith fach gyfeillgar a hyblyg, y mae ei geiriau’n gwneud fawr o synnwyr ond yn golygu cymaint.

mercoledì, giugno 24, 2009

Beth ddylai rhywun ei gael i frecwast?

Fydda i’n licio brecwast, ond gan bwyll ‘rhen goes, rhaid i mi wahaniaethu. Mae ‘na frecwast ac mae ‘na frecwast does?

Fel pryd, brecwast ydi’r lleiaf hoff gen i. Mae’n ddiflas ac yn ddi-fflach. Grawnfwyd y bydda i’n ei gael yn yr haf, ac uwd yn y gaeaf. Mater o raid ydi brecwast i mi, nid pleser. Ydw, dwi’n licio uwd, er fy mod i’n meddwl bod grawnfwyd yn crap, ond all rhywun ddim cael amrywiaeth mawr rhwng deffro a gwisgo a brwsio’r dannedd a cherdded i’r gwaith. I ble y mae’r bore’n mynd ni wn.

Dydi tost ddim yn ticlo fy ffansi fel rheol – gormod o atgofion o’i fyta’n chwil gach am wn i – a dwi’m yn un am jam neu farmaled, yn benodol ers ysgol fawr pan oedd pawb yn dweud “Be ti’n gael i frecwast, mam ar led?”. Dyddiau difyr.

Fel un sy ddim yn hoffi ffrwyth, ac yn licio dweud hynny, yn arbennig wrth bobl sy’n hoffi ffrwyth yn fawr, dydi ffrwyth ddim yn ddewis i mi i frecwast. Rhaid i mi deimlo’n weddol llawn. Ys ddywedant, brecwast ydi pryd pwysica’r dydd, ond hefyd yr un mwyaf crap.

Ond, ew, bob hyn â hyn, mi gaf frecwast llawn. Pan fydda i ar death row, sy ddim yn annhebygol o ystyried fy nirmyg llwyr tuag at fwyafrif llethol y bobl rwy’n eu hadnabod (e.e. fy ffrindiau a’m teulu), y pryd olaf a gawn fydd brecwast llawn. Bacwn. Wy. Pwdin gwaed. Bîns. Tost. Selsig. Dim tomatos (pwy uffar feddyliodd y byddai hynny’n syniad da mewn brecwast?). Madarch. Panad. Mi fytwn un bob bore pe cawn, ond byddwn i’n farw erbyn fy neg ar hugain.

Heblaw am frecwast llawn dwi’m yn licio brecwast, sy’n profi bod y pethau pwysica mewn bywyd yn aml y pethau gwaethaf.

martedì, giugno 23, 2009

Dannedd duon

Yn gyffredinol feddylais i erioed fod gen i ddannedd gweddol. Mi ges fresys yn fy arddegau, ond heb eu gwisgo gormod doedd fy nannedd byth yn berffaith ac fe aethant nôl i’r un siâp a fu ynddynt gynt.

Dwi fel y rhan fwyaf o bobl. Dydw i ddim yn hoffi’r deintydd, a ‘sgen i ddim dannedd peffaith. Dydyn nhw ddim yn felyn, ond dydw i ddim yn edrych ar eu holau cymaint ag y dylwn, dwi’m yn meddwl. Wel, mi ges gadarnhad o hynny neithiwr.

Bydd yr hylenydd deintyddol y byddaf yn ei gweld bob amser yn dweud wrthyf i edrych ar ôl fy nannedd yn well. Bob tro bu’n rhaid iddi roi polish ar y dannedd ‘fyd. Bydd yn siarad yn aml, hefyd, sy ddim yn beth gwych i hylenydd deintyddol, ond fydda i ddim yn licio mynd achos mi fydda i’n cael ffrae am beidio gwneud digon.

Ond wrth frwsio fy nannedd neithiwr deimlish i’n sâl. Mae fy nannedd blaen ar y gwaelod yn iawn o’r blaen, ond pan gefais gipolwg y tu ôl i’r rheini mi ges sioc. Roedd y tu ôl yn ddu. A du go iawn hefyd, gyda llaw. A pha beth bynnag arall yr hoffwn yn y byd hwn, dwi ddim isio dannedd du.

Dydw i ddim yn siŵr beth i’w wneud. Tai’m i ddweud celwydd mae gen i ffycin ofn o’r hylenydd, a hithau wedi polishio ‘nannedd ddwywaith o’r bron erbyn hyn, ond doeddan nhw BYTH mor ddrwg â hyn o gwbl. Dwi’n meddwl yr af i Boots heddiw a gweld be sy ‘na. Dwi wedi cael sioc.

lunedì, giugno 22, 2009

Hello? It is meat you're looking for?

Mae’n ‘stalwm erbyn hyn, ond myfi a Ceren penderynasom pe byddem yn agor cigydd y byddwn yn ei alw’n Hello? Is it meat you're looking for? a llon y chwarddasom. Penderfynwyd chwarae’r un gêm nos Sadwrn, a minnau off fy mhen ar gyfuniad o gwrw a lager cyn mynd ymlaen i gael G&Ts (dwi’n caru G&T), gan ddod i fyny efo siop sgidiau o’r enw Shoe’ll Never Walk Alone a’m hoff un i, siop llenni i droseddwyr o’r enw Suspicious Blinds.

Hegar oedd fy noson i. Gwariais £70 ar adeg na ddylwn fod yn gwario cymaint. Mae’r teimlad o adael eich hun i lawr yn deimlad ofnadwy, dwi’n meddwl – fydda i’n ei wneud yn ddigon aml ac mae’n deimlad digon cyffredin ar fore Sul, gan ddeffro gyda waled wag. Nid ei fod yn f’atal dro ar ôl tro, achos pan ddaw at orchfygu temtasiwn dwi’n anobeithiol.

Welish i mo fora Sul gan fy mod yn cysgu. Dwi heb fod â chyn waethed ben mawr ‘stalwm. Llwyddais i ddim fynd i siopa, hyd yn oed, sy’n rhan annatod o’r Sul erbyn hyn. Fydda i hefyd yn siopa bwyd nos Lun, cofiwch. Prin iawn y bydda i’n gwneud dim ond am siopa bwyd.

Ond ta waeth, fydd ‘na ddim meddwi hwyl i mi am ‘chydig. Roedd yn rhaid i mi dalu llwyth mewn treth gyngor diwrnod o’r blaen (seriws, llwyth) ac mi gefais ŵys i’r llys. Anghofio oeddwn wedi gwneud, wrth gwrs, ond talu oedd yn rhaid, doeddwn i ddim am fynd i’r llys. Roedd y ddirwy ar ben y dreth yn £40. Argol, mae pres yn beth digalon.

giovedì, giugno 18, 2009

Take That. Y Basdads.

Dwi’n casáu Take That. Cofiaf yn ysgol fach eu bod nhw wedi sblitio, a daeth Llais Ogwan i’n dosbarth ni yn ysgol i gael gwybod ein barn. Yn bur ryfedd, ‘doedd Take That ddim yn boblogaidd iawn yn Ysgol Llanllechid, oni fo ‘nghof yn ddiffygiol. Dwi’n dweud hynny achos yn ystod y cyfweliadau gyda Llais Ogwan dywedodd bron pawb nad oeddent yn edifar tranc y band, a phan gyhoeddwyd y rhifyn roedd barn Jarrod efo llun ryw hogan uwch ei ben, yn dweud JARROD ROBERTS oddi danodd. Chwarddasom.

Ar ôl hynny mi aeth y drygi tew i wneud gyrfa lwyddiannus iddo’i hun ac ni chlywsom am y gweddill tan, wel, echddoe, yn fy achos i. Roedd ‘na gig Take That yn Stadiwm y Mileniwm nos Fawrth. Ro’n i wedi anghofio am hyn.

Dwi’n gyrru i’r gwaith drwy’r wythnos, ac ar y gorau o adegau dwi’n yrrwr blin, oni fo Hogiau’r Wyddfa’n lleddfu ‘nhymer. Ni leddfasant yr Hogyn wrth iddo gymryd tri chwarter awr i gyrraedd Grangetown yn ei gar, gan yngan ‘ffycin Take That’ iddo’i hun a diffodd y radio, gafael yn dynn am yr olwyn lywio a gwgu. Byddai wedi cymryd llai petawn wedi cerdded, a byddwn wedi gwneud pe bawn hysbys o’r sefyllfa.

Wrth drafod amser cinio ddoe cefais glywed bod Take That yn chwarae eto’n y stadiwm neithiwr. Meddwn i ddim ar y wybodaeth hon ac felly wedi gyrru i’r gwaith eto, ac felly’n cael pnawn cyfan i gorddi am y daith o’m blaen ar ôl gwaith. Mi es ffordd wahanol, yn hunanfodlon fy smygrwydd am fod mor ddoeth ag arallgyfeirio.

Ni weithiodd, ond o leiaf y cefais gyfle i wylltio ar drywydd gwahanol, a fu fawr o gysur ar y pryd, ond mae ‘ngwên yn llai chwerw wrth i’r ail daith honno lithro’n araf bach i’r gorffennol gwyll.

mercoledì, giugno 17, 2009

Dwi methu gweld

Mae’n dair blynedd yr haf hwn ers i mi gael prawf llygaid, sy’n ddwl a dweud y lleiaf. Wn i ddim sut y gall rhywun ofalu am ei olwg fel y gall gyda’i ddannedd, er enghraifft, ond os gellir gwneud hoffwn i wybod.

Fel pawb arall bydda i fel arfer yn deffro yn y bora efo golwg aneglur ond mae hynny wedi gwrthod ildio heddiw yn fy llygad chwith. Hwnnw ydi’r cont, fel mae’n digwydd. Mae’r golwg yn y llygad de yn iawn, diolch am ofyn, ond dydi’r llall ddim ac felly mae’r sbectolion sy’n rhaid i mi eu gwisgo (yn gwbl anfodlon) yn gryfach o lawer ar un ochr.

Profias y llygad gwallus drwy geisio darllen pethau ar y newyddion ond yn ofer. A hyn oll sydd wedi gwneud i mi feddwl y dylwn fynd am yr ail brawf llygiad hwnnw yn o handi. Cawn weld, siŵr o fod y bydda i’n iawn erbyn diwedd y dydd a chwyno heb reswm ydw i. Hynny neu fy mod i’n araf fynd yn ddall.

sabato, giugno 13, 2009

Fy hoff gerdd

Anaml y bydda i’n blogio ar ddydd Sadwrn, fel y gwyddoch, ond gan fod gennyf amser cyn mynd i’r ŵyl cwrw a seidr yng nghanol y dref, hoffwn i rannu fy hoff gerdd ers blynyddoedd â chi. Enw’r gerdd yw 'Toriad y Dydd', gan John Morris Jones:


Rwy'n hoffi cofio'r amser
Ers llawer blwyddyn faith,
Pan oedd pob Cymro'n Gymro gwir
Yn caru'i wlad a'i iaith,
Llefarai dewr arglwyddi
Ein cadarn heniaith ni,
Parablai arglwyddesau heirdd
Ei pheraidd eiriau hi,
Pan glywid yn y neuadd
Y mwynion dannau mân
Mor fwyn yr elai gyda hwy
Ragorol iaith y gân,
Ond wedi hyn trychineb
I’r hen Gymraeg a fu,
Ymachlud wnaeth ei disglair haul,
Daeth arni hirnos ddu.

O’r plasau a’r neuaddau
Fe’i gyrrwyd dan ei chlais,
Arglwyddi, arglwyddesau beilch
Sisialodd iaith y Sais,
A phrydferth iaith y delyn
Fu’n crwydro’n wael ei ffawd,
Ond clywid eto’i seiniau hoff
Ym mwth y Cymro tlawd,
Meithriniodd gwerin Cymru
Eu heniaith yn ei chlwy’,
Cadd drigo ar eu tafod fyth
Ac yn eu calon hwy,
Gogoniant mwy gaiff eto
A pharch yng Nghymru fydd,
Mi welaf ddisglair olau ‘mlaen
A dyma doriad dydd.

venerdì, giugno 12, 2009

Fe hoffwn i fod yn Saddam Hussein

Arferais ysgrifennu llawer pan oeddwn yn ifancach, yn enwedig pan oeddwn yn yr ysgol, ond dwi wedi hen fynd allan o’r arfer. Daeth yn bur amlwg nad oedd pawb yn dallt popeth roeddwn i’n ei ysgrifennu ‘fyd. Dwi’n siŵr mai fi oedd un o’r bobl gyntaf yn fy mlwydd a oedd yn dallt y cysyniad o gymryd y piss – a dwi wedi gwneud hynny byth ers hynny.

Pan yn rhyw 14 oed, a ninnau mewn dosbarth Cymraeg yn ‘rysgol, rhoddwyd y dasg i ni o ysgrifennu cerdd am rywun enwog yr hoffem fod. Allwch chi ddychmygu, roedd y Michael Schumachers a’r Arnold Schwarzeneggers a’u tebyg yn llu bryd hynny. Os cofiaf yn iawn, fi oedd yr unig un a wnaeth gerdd am fod yn Saddam Hussein. Hyd yma dwi ddim yn dallt pam dim ond y fi wnaeth hynny, ond fel’na mae plant yn de.

Dwi ddim yn cofio’r gerdd yn gwbl gywir ond roedd hi’n rhywbeth tebyg i

Fe hoffwn i fod yn Saddam Hussein
Yn bomio y Kurds a choncro Kuwait
Yn cael digon o olew i werthu dramor
A hwylio ar long i ganol y môr

Byw ym Magdad (sy’n rhywfaint o siom)
Dyfeisio a defnyddio niwclear bom,
Mynd gyda’r fyddin ar yr uchaf don
I ymladd yn erbyn Blair a Clinton.


Afraid dweud nath neb arall (‘blaw am Dafydd Roberts sef yr athro) ddallt y jôc, a chyn gynted ag yr oedd wedi cael ei gosod ar y wal roedd rhywun wedi’i rwygo i lawr mewn ymgais ffug-egwyddorol mi dybiaf. Mi ofynnodd sawl un i mi “Wyt ti isho bod yn Saddam Hussein” a dwi’n cofio meddwl sawl gwaith am ffwcin nob.

Byddai rŵan yn adeg ddoniol i gymharu aelodau Llais Gwynedd â Saddam Hussein, ond dwi ddim isio bod yn Golwg, cofiwch.

mercoledì, giugno 10, 2009

Be wneith rhywun dros yr haf?

Dydi o ddim yn gwybod beth i’w wneud rŵan. Fe ddaeth ac mi aeth yr etholiad yn ddigon ddisymwth, a ‘does math o ddim i’m diddori dros yr haf bellach. Fydda i ddim yn gwylio’r Llewod, er enghraifft. Dwi ddim yn wrth-Lewod fel rhai o’m cyd-genedlaetholwyr, dwi jyst yn meddwl bod y peth yn syniad stiwpid.

Ac mi fydda’n well gen i roi wanc i afr na gwylio criced.

Fel y gwelwch, os edrychwch allan o’r ffenestr (gan gymryd yn ganiataol bod gennych ffenestr addas gerllaw, oni bai eich bod yn byw mewn ogof ym Mlaenau Ffestiniog, neu Flaenau Gwent actiwli, mae’r ddau le cyn waethed â’i gilydd am wn i – rhyfedd a hwythau’n ddau ‘flaenau’ yn de?) mae’r haul hefyd wedi encilio. Mae’r Apprentice wedi dod i ben, ac yn anffodus mae Big Brother wedi dechrau (dwi heb ddilyn Big Brother am dair blynedd bellach).

Bydd y Daily Star yn sôn am Big Brother yn fwy na dim arall, a dydi’r papur ddim yn cymryd hir iawn i’w ddarllen (ychydig fel maniffesto Llais Gwynedd, er, fel bwystfil Llyn Tegid, dydi hwnnw fwy na thebyg ddim yn bodoli) ond dyna’r peth da amdano. Mi fedraf droi at y tudalennau problemau yn syth bin felly, gan ymhyfrydu yn y straeon a ddarllennaf yno.

Fydda i methu fforddio gwyliau. Mi ges wys i’r llys echddoe am i mi beidio â thalu’r treth gyngor. Mi dalais am flwyddyn gron, am ryw reswm, ond leiaf nad af i’r llys. Dwi byth wedi bod mewn llys, a byth yn bwriadu mynd oni lofruddiaf Dyfed. Fyddai’n braf.

Ta waeth, ers gadael y brifysgol mae’r hafau ychydig yn wag – nid gwyliau mohono bellach, ond un slog hir mewn swyddfa tra bod eraill yn mwynhau. Gas gen i ffwcin athrawon.

lunedì, giugno 08, 2009

Dadansoddiad etholiadol

Dydw i ddim am gynnig dadansoddiad manwl ar etholiadau neithiwr, dim ond ambell i sylw a hynny am Gymru. Mae arna i ofn nad rhai cadarnhaol mohonynt.

Mae gweld y Ceidwadwyr ar y brig yn brifo, ond mi fyddant yn dathlu, ac fe ddylent, ‘does modd dweud pa mor arwyddocaol ydi buddugoliaeth Dorïaidd yng Nghymru – ond peidiwn â gor-gyffroi. Enillodd y Ceidwadwyr yn sgîl cwymp anferthol yn y bleidlais Lafur ac nid cynnydd mawr yn eu pleidlais eu hunain. Roedd canran y pleidleisiau a gawsant yn llai nag yn 2007 ac yn debyg i’w blwyddyn erchyll yn ’97. I bob pwrpas, dydi’r Ceidwadwyr heb wneud cynnydd. Mae llwyddiant ar sail methiant arall yn gallu cuddio’r darlun llawn.

Ar y llaw arall mae gan Blaid Cymru gwestiynau mawr i’w hateb. Roedd canlyniad neithiwr yn hynod, hynod siomedig. Aeth ei phleidlais i fyny fawr ddim, ac heblaw am Lanelli dydi hi ddim yn ymddangos bod y Blaid wedi wirioneddol ennill tir ar draws Cymru. Cofiwn, y farn gyffredin ymhlith sylwebyddion gwleidyddol a’r cylchoedd gwleidyddol oedd mai Plaid Cymru fyddai debycaf o elwa ar drai Llafur. Ni wnaeth o gwbl. Efallai ei bod wedi dioddef o’i chysylltiad â Llafur yn y Cynulliad, neu efallai o ystyried y proffwydi ei bod wedi bod yn hunanfodlon a disgwyl ennill. Yn amlwg, ni wnaeth ennill digon o bleidleisiau oddi wrth Lafur, sy’n hanfodol er mwyn i’r blaid dyfu.

Gan ddweud hynny mae’n anodd meddwl beth arall y gallai Plaid Cymru fod wedi’i wneud – sy’n bryderus.

Er mor anfodlon oedd gweld UKIP yn ennill sedd, cofiwn hefyd mai bach oedd ei chynnydd, ac yn yr un ffordd â’r Ceidwadwyr, cwymp Llafur a sicrhaodd sedd iddi ac nid cynnydd mawr yn ei phleidlais ei hun. O ran y Democratiaid Rhyddfrydol, ‘does fawr i’w ddweud, fe wnaethon nhw gyn waethed â’r disgwyl, a dim ond un etholaeth a enillwyd ganddynt, sef Canol Caerdydd (mi gredaf). Mae’n cadarnhau un peth, fodd bynnag – dydyn nhw ddim yn rym o unrhyw bwys yng Nghymru.

Beth nesaf?

Mae rhywun yn teimlo bod tranc y Blaid Lafur yn anochel yng Nghymru erbyn hyn. Yr hyn nad yw’n glir ydi pwy fydd yn elwa ar hynny. O dystiolaeth dila etholiadau neithiwr, y gwir ydi pawb fawr ddim. Ond tybed a oes un posibilrwydd arall?

Mae Llafur yn colli yng Nghymru yn ddaeargryn niwclear. Seriws ‘wan. Ond mae pawb ohonom wedi cael sioc a hanner o weld y Ceidwadwyr yn dod i’r brig. Tybed, tybed a fydd hynny yn ei hun yn ysgogiad i’r Llafurwyr nad aethent i bleidleisio i bleidleisio mewn etholiad cyffredinol mewn pleidlais wrth-Dorïaidd? Gyda Phlaid Cymru yn drydydd, er yn drydydd agos, dydy hi ddim wedi ymsefydlu fel opsiwn posibl amgen i Lafurwyr oherwydd hynny, sy’n awgrymu i mi na fydd pleidleiswyr Llafur yn troi ati naill ai i brotestio, neu o ran newid sylfaenol yng ngwleidyddiaeth Cymru, fel y gwelir yn yr Alban.

Petai Plaid Cymru wedi dod yn ail, yna’r canfyddiad fyddai mai brwydr fawr y dyfodol fyddai Plaid a’r Ceidwadwyr. Y canlyniad?

Gallai colli i’r Ceidwadwyr, yn y pen draw, fod yn hwb i Lafur, a thrwy hynny o bosibl arwain at gyfnod di-dwf i Blaid Cymru.

giovedì, giugno 04, 2009

Dyma hi

Wel, mae'r diwrnod mawr yma.

Dwi wedi pleidleisio eisoes. Dwi'n meddwl fi oedd y cyntaf i'r orsaf bleidleisio achos roedd y bobl wrthi'n gosod yr arwyddion i fyny. What a saddo.

Piti mawr bod yn rhaid disgwyl tan nos Sul i weld y canlyniadau, ond mi fydda i'n chwilio am sïon o rwan tan hynny heb os!

martedì, giugno 02, 2009

Mai'n rhy boeth ac mae Eluned Morgan yn mynd ar fy nerfau

Dwi ddim yn gwybod be dwi’n fwy blin am – Eluned Morgan yn wirioneddol, o waelod calon, siarad shait ar Pawb a’i Farn neithiwr, ynteu’r tywydd chwilboeth ‘ma. Dwi ddim yn meddwl fy mod i erioed wedi ysgyrnygu cymaint ar wrthrych di-enaid (y teledu yn yr achos hwn) wrth glywed y ddynas wirion yn gwadu hawliau i’r Gymraeg yn Ewrop, heb sôn am fod mor erchyll o drahaus a dweud nad ydi gwledydd bach Ewrop yn bwysig. Onid un o brif nodau’r Undeb Ewropeaidd ydi rhoi llais i’r gwledydd bychain, nid cael unigolion hunanbwysig yn eu habwybyddu?

Diolch byth na fydd honno’n fy nghynrychioli o hyn ‘mlaen.

Ond mae’r tywydd hefyd yn rhoi cur pen i mi. O, mi welwch y penawdau – cynhesu byd-eang, Prydain fel Ibiza ymhen degawd, pawb ar y traeth (mi es i draeth Aberogwr y diwrnod o’r blaen a mwynhau ond dwi wedi llosgi ‘nghoes sy ddim yn fanteisiol). Pawb arall yn eu shorts – rhaid i mi wisgo crys a throwsus o hyd, gan chwysu chwartia yn cerad o amgylch Caerdydd yn diawlio’r haul i mi’n hun.

Fydda rhywun byth yn meddwl fy mod i’n chwarter Eidalwr. Fydd hi’n cyrraedd chwech ar hugain ryw ben heddiw, medda nhw. Gobeithio ar y diawl y bydda i’n y cysgod bryd hynny. Dwi’n cofio adrodd yn Steddfod Dyffryn Ogs ‘stalwm darn bach sydd bellach yn gymwys i mi:

Dyn bach o eira
Ar lechwedd y bryn
Ei het yn ddu
A’i wallt yn wyn,
Dim traed o’i dano
A’i lygaid yn syn,
Pan ddaw yr haul allan

Fe doddith yn llyn.

venerdì, maggio 29, 2009

Etholiadau Ewrop - Rhan II

Ymhen wythnos bydda i, a chychwi, yn gwybod canlyniadau Etholiadau Ewrop. Dwi’n llai hyderus fy mhroffwydoliaeth ddiwethaf, sef y byddai Llafur yn ennill yng Nghymru. Mae ‘na ryw reddf ynof yn meddwl y gallai fod yn flwyddyn Plaid Cymru. Mae’r reddf honno wedi bod yn drychinebus o wael, a hefyd yn rhagorol, o’r blaen. Cofiaf yn 2003 y bu i mi ddarogan etholiad llwyddiannus i Blaid Cymru yng nghystadlaeth ddarogan Maes E, ac wrth gwrs roeddwn i’n gwbl anghywir.

Ond deunaw oeddwn i bryd hynny. Yn wir, yn 2007, y fi wnaeth y broffwydoliaeth gywiraf ar Faes E, gan felly ennill tair potel o win coch, ac roedd ambell broffwydoliaeth ar y blog hwn hefyd yn rhai da. Mae’n rhaid felly fy mod i’n gwella wrth heneiddio, ond gwell i mi beidio â bod yn rhy trahaus!

Yr hyn sydd wrth wraidd fy newid agwedd ydi’r busnes treuliau, sydd dal heb effeithio ar Blaid Cymru, ond sy’n parhau i effeithio’n echrydus o andwyol ar Lafur, ond hefyd ar y Ceidwadwyr. Pwy fydd yn manteisio?

Ni ellir tanystyried effaith pleidlais UKIP ar y Ceidwadwyr yng Nghymru. Un enghraifft berffaith o hynny yw canlyniad Bro Morgannwg yn y Cynulliad yn 2007. Methodd y Ceidwadwyr ag ennill y sedd o 83 o bleidleisiau, a llwyddodd UKIP ddenu 2,310 o bobl i bleidleisio drosynt. Nid athrylith yn unig allai ddallt pe na bai UKIP wedi sefyll, byddai o leiaf 83 o’r pleidleisiau hynny wedi mynd at y Ceidwadwyr, a byddai’r Fro yn las.

O edrych ar ganlyniadau tebyg, mae dadl gref mai UKIP fydd prif fuddiolwr unrhyw bleidleisiau a atgyfeirir oddi wrth y Ceidwadwyr. Pe na bai UKIP yn bodoli yn 2007, y Ceidwadwyr yn bur hawdd fyddai ail blaid Cymru o ran pleidleisiau yn yr etholaethau. Mae’n parhau’n wir y gall nifer weddol fach o bleidleisiau ennill a cholli seddau.

Yng Nghymru, mae’n anodd gweld pwy ond am Blaid Cymru allai gael budd o unrhyw bleidleisiau a ddaw oddi wrth Lafur. Mewn rhai ardaloedd gellid dweud mai’r Democratiaid Rhyddfrydol fyddai’n elwa fwyaf, ond ni ellir ychwaith diystyried a) effaith y busnes treuliau ar y blaid honno na, b) pa mor wan yw’r blaid yng Nghymru. Ac yn y cyd-destun Cymreig, gallwn hefyd ddiystyru’r BNP, a diolch byth am hynny.

Gan ystyried felly y byddai angen i UKIP a/neu’r Democratiaid Rhyddfrydol ennill degau o filoedd o bleidleisiau yn fwy yng Nghymru, ar adeg y bydd y nifer sy’n pleidleisio yn llawer is na’r tro diwethaf, i ennill y bedwaredd sedd – wel, mae’n ymylu at fod yn annhebygol iawn i’r naill a’r llall.

Ond yn ôl at Blaid Cymru. Gall y Blaid ennill mwy o bleidleisiau o’r newydd oddi wrth Lafur na’r Ceidwadwyr. Byddwn yn dadlau bod uchafbleidlais Plaid Cymru yn uwch nag uchafbleidlais y Ceidwadwyr yng Nghymru – hynny ydi bod nifer uchaf y bobl a fyddai o bosibl yn ystyried pleidleisio dros Blaid Cymru yn uwch na nifer y bobl a fyddai o bosibl yn ystyried pleidleisio dros y Torïaid yng Nghymru. Mae hynny’n seiliedig ar y ffaith mai prif ‘farchnad’ Plaid Cymru o ran denu pleidleisiau newydd ydi o blith pobl a fyddai fel arfer yn pleidleisio Llafur, sef y grŵp mwyaf o etholwyr yng Nghymru hyd heddiw.

A thra bod popeth yn awgrymu nad ydi Plaid Cymru eto wedi ad-ennill y gefnogaeth a gafodd ddegawd yn ôl, mae’n hysbys bod Llafur Cymru yn wannach o bethwmbrath. ‘Does ychwaith unrhyw arwyddion gwirioneddol yn awgrymu bod y glymblaid wedi cael effaith wirioneddol wael ar bleidlais Plaid Cymru, er gwaethaf rhai o’i methiannau.

Ac mae hyn mewn adeg lle mae Llafur Cymru yn rym bur annrhawiadol a blinedig. Y cwestiwn mawr ydi, pan ddaw ati, a fydd Llafur yn colli digon o bleidleisiau, a’r Blaid neu’r Ceidwadwyr yn ennill digon o bleidleisiau?

Mae angen bod yn ofalus fan hyn. Ar ddiwedd y gân rhaid cofio, hyd yn oed mewn oes lle y mae Llafur ar drai, mae ei phleidlais graidd yn gryfach na phleidlais graidd yr un blaid arall. Nid y bobl hyn o reidrwydd yw’r rhai sy’n pleidleisio dros Lafur doed â ddêl, ond yn hytrach y rhai sy’n pleidleisio drosti pan fônt yn synhwyro bod eu hangen ar y blaid. A ydi’r grŵp hwn yn parhau’n grŵp digon mawr a dylanwadol i newid llif yr etholiad hwn? Wn i ddim am hynny bellach, mewn degawd deuwn at adeg, mi dybiaf, na fydd y grŵp hwn o etholwyr yn bodoli – ond tybed a ydi’r cryfder hwnnw, gwir gadernid y blaid Lafur Gymreig, yno o hyd?

Dyma’r etholiad yn anad ‘run arall y cawn weld hynny.

Cofiwch hefyd hawdd yw dweud mai dyma’r blaid a gafodd etholiad ‘trychinebus’ yn 2007 – llai hawdd yw cyfaddef er gwaethaf hynny llwyddodd o hyd ennill 11 o seddau’n fwy na’r ail blaid fwyaf, sy’n nifer sylweddol o seddau yn y Cynulliad.

Y gwir ydi, dwi ddim yn meddwl y gall neb wir broffwydo pa ffurf fydd ar dir gwleidyddol Cymru wythnos i heddiw. Y peth anhygoel ydi bod rhai yn dechrau sôn am y ras am y bedwaredd sedd fel un ddeuwedd rhwng Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr. Nid dyna’r realiti, wrth gwrs, ond mae hi’n dechrau edrych fel photo finish, a dwi’n mwy na fodlon cyfaddef y tro hwn, er gwaethaf fy mhrofwyddoliaeth gynt, dwi wirioneddol ddim yn gwybod pwy sydd am ennill y sedd olaf.

Newidia i ddim mo’r broffwydoliaeth honno, ond tasa chi’n fy ngorfodi heddiw i roi papur pumpunt ar bwy fydd efo dwy sedd ... bydda’n rhaid i mi fod yn onest a rhoi bet ar Blaid Cymru. A chredwch chi ddim pa mor rhyfedd ydi dweud hynny!

mercoledì, maggio 27, 2009

Cawliach meddyliol

Mae’n rhaid fy mod i’n falch iawn o gael fy rhewgell newydd. Cefais freuddwyd ei bod wedi malu neithiwr a bod angen cynnal profion arni. Diolch byth ‘na breuddwyd ydoedd achos mi fyddwn i’n ofnadwy o ypset pa na bai hwnnw’r achos.

Fel y gwelwch dwi heb flogio’r wythnos hon. Ddylwn i ddim fod yn anniolchgar ond mae’n gas gen i wythnosau gŵyl y banc. Wrth gwrs, dwi’n hoffi gwyliau cymaint â neb arall, ond mae ‘na rywbeth erchyll am gael y dydd Llun i ffwrdd o’r gwaith. Rhywsut, drwy ryw ledrith, mae’n gwneud i’r pedwar diwrnod o weithio deimlo’n hirach nag wythnos lawn, yn ogystal â chynnwys dau ddiwrnod gwaethaf yr wythnos, sef dydd Mawrth a dydd Iau.

Dylem ni gael gwyliau banc ar ddydd Gwener. Rhywsut byddai hynny’n teimlo fel penwythnos hir llawnach a mwy boddhaus, yn bysa?

Wn i ddim amdanoch chi, ond dwi’n gwylio’r Apprentice yn driw. Dwi wrth fy modd efo’r rhaglen, ac wrth fy modd yn casáu pawb sy’n cystadlu. Mae cymhelliant, synnwyr busnes da ac ysgogiad i gynyddu’n faterol yn bethau y mae llawer o bobl yn eu parchu, ond dwi ddim o gwbl, sy’n gwneud methiant yr ymgeiswyr yn felysach o bethwmbrath. Ond fydda i methu gwylio heno oherwydd ffeinal Cynghrair y Pencampwyr. Tai’m i sôn am honno rŵan – mae fy nerfau yn dechrau meddu fy nghorff eisoes. Yfory mi fyddaf yn drist neu’n orfoleddus – gall chwaraeon fod yn gas yn ogystal â gwych.


Reit, nôl i’r caib a’r rhaw.

venerdì, maggio 22, 2009

O na ddeuai chwa i'm suo?

O na ddeuai chwa i’m suo
O Garnfadryn ddistaw bell?
Fel na chlywn y gynau’n rhuo,
Ond gwrando ar gân y dyddiau gwell.


Hoffwn i chwa ddod i’m suo ar hyn o bryd, o unrhyw le (heblaw am Garnfadryn, yn bur eironig). Dwi’n eitha hyngover. Aethom i’r Curry Clyb fel arfer ond ‘doedd Rhys ddim yn teimlo’n rhy dda felly mi aeth adra’n fuan.

Tua 9 oedd hynny, a doeddwn i ddim wedi cael digon o alcohol, dyna’r gwir. Ro’n i isio mwy. Yn bur anffodus, roedd ‘na lwyth o ganiau Brains yn tŷ, ac wrth i mi eistedd lawr o flaen y teledu a Question Time, sydd ddim patch ar Pawb a’i Farn os gofynnwch chi i mi, agorais y can cynta’. Ew, mi oedd yn dda.

Ymhen dim roeddwn wedi hen argyhoeddi fy hun y dylwn yfed pob un wan jac o’r caniau. Ffwl ydw i. Eisteddais fel malwen o flaen y teledu, a’r cloc a drodd, a’r rhaglenni aeth o ryfedd i ryfeddach. Roedd Extreme Male Beauty, am ddynion sy isio edrych yn dda, yn ddiddorol. Dwi’n bur ffodus, nid oherwydd fy mod i’n edrych yn dda (tai’m i geisio eich twyllo, dwi’n edrych fel crwban heb ei gragen sy ‘di bod yn buta McDonalds am fis) ond oherwydd dwi’n fodlon ar y ffordd dwi’n edrych, ac yn meddwl bod hynny’n beth pwysig, os caf rannu f’enaid â chi.

Wedyn daeth ryw raglen ryfedd ymlaen am hen ferched yn mynd i Dominica i gael secs efo dynion du ifanc. Roedd honno’n rhaglen ryfedd yn wir, ond erbyn hyn ro’n i wedi dechrau meddwi.

Erbyn i mi wylio awr o Alan Partridge ar DVD (a fenthycais/ddygais gan Lowri Llew) roedd hi wedi un o’r gloch, â’r holl ganiau’n wag. Erbyn hynny, er i mi yfed digon o ddŵr, ro’n i’n gwybod yn iawn y cawn ben mawr yn y bora. Ro’n i’n gywir, wrth gwrs, a dyma pam fy mod yn teimlo fel hyn.

giovedì, maggio 21, 2009

Cymry'r Frechdan

Yn rhannol er mwyn arbed arian ac yn rhannol oherwydd nad ydw i’n licio gwario, fydda i’n mynd â brechdan i’r gwaith bob bore. Yn wir, mae’r peth mor ddiflas ag y mae’n swnio. Yn ymarferol, dwi ddim yn unigolyn creadigol nac arloesol. I’r gwrthwyneb bydd rhywun yn cadw at y cyffredin yn amlach na pheidio, ac adlewyrchir hyn yn fy mrechdanau.

Beth ydi’r frechdan orau? Pa frechdan sydd fwyaf ymarferol i fynd i’r gwaith? A ellir cyfuno’r ddau beth? Wn i ddim, nid gwyddonydd na phoffwyd mohonof, ond gwn fy mod yn dechrau diflasu. Bron bob dydd naill ai iâr (nid un cyfan), twrci (eto nid un cyfan) neu ham (sy ddim yn anifail fel y cyfryw) efo ciwcymbr fydda i’n ei wneud. Weithiau mi fentraf domato, ond bydd tomato yn gwneud i frechdan droi’n wlyb.

Brechdan lobsgows ydi brenin y brechdanau yn nheyrnas fy meddwl yr ymwneir ag ef â brechdanau. Neu frechdan ffishffingars – unrhyw beth poeth sy’n toddi’r menyn. Ew, dwi yn ffan o fenyn cofiwch, a digonedd ohono. Bydd rhai ddim yn rhoi menyn ar frechdan, yn ôl y sôn ar y winllan, a dwi ddim yn dallt hynny. Mae bara heb fenyn fel Elfyn Llwyd heb fwstash, y mae’r ddau’n cyd-ddibynnu ar lwyddiant ei gilydd, sydd o bosibl y gymhariaeth waethaf dwi wedi’i gwneud ers dechrau blogio chwe mlynedd nôl.

A chan ddweud hynny, tynnaf fy sylw uchod fod brechdanau’n ddiflas yn ôl. Mae brechdan yn fwyd bob tywydd – o gorgimychiaid a letys yn awyr iach yr haf, i frechdan gaws a phanad ger y tân pan fo’r nos yn ddu. Mae brechdanau yn wych.

Mae’r Cymry yn licio’u baramenyn yn fwy na’r un genedl arall, wrth gwrs – ni yn anad neb yw hil y baramenyn. Yn wahanol i neb arall medrwn fyta baramenyn gydag unrhyw bryd a roddir o’n blaen, ac nid yn anaml ledled erwau’n gwlad y clywir ‘wyt ti isio bechdan?’ gan fam wrth i’w thylwyth ddechrau ar gyri neu chilli neu ginio go iawn.

Tybed beth ydi hoff frechdan y Cymry? Nosweithiau hirion a dreuliaf yn ystyried y cwestiwn hwnnw (sy’n gelwydd). Roedd un o’m ffrindiau sydd o Reading, y tro diwethaf iddo ddod i Gymru fach, wedi cael sioc o weld faint o siopau brechdanau/baguettes sydd yng Nghymru, ac maen nhw’n bla yma. Ond pla addfwyn ydyw, arwydd pendant o symlrwydd y Cymry yn eu hanfod.

Mae’r Cymro a’i frechdan yn bennaf gyfeillion.

Setla’ i bob tro am frechdan caws a ham a thomato. Dwi’n meddwl bod hyn yn bennaf oherwydd mai dyma’r unig beth all fy nhad ei baratoi, ym maes bwyd, sy’n fwytadwy.

Ond dyna’r drafferth â brechdan – mae ‘na gormod o ddewis, gormod o gyfuniadau, ac o’r herwydd dyna pam, mae’n siŵr, y bydda i’n parhau i fynd â brechdan ham i’r gwaith yn feunydd.

martedì, maggio 19, 2009

golwg360 - ambell i sylw

Mae pawb arall yn cynnig sylwadau ar golwg360 a dwi’n teimlo’r angen i wneud yr un peth. Rŵan, cyn i mi baladurio rhaid i mi ddweud nad ydw i’n gwybod llawer am gyfrifiadura a’r we – fel y gwelwch o’r blog hwn. Er enghraifft, hoffwn i greu ffrwd o flogiau ar yr ochr fel sydd gan nifer o flogiau eraill, ond y gwir ydi ‘does gen i ddim syniad sut i wneud y ffasiwn beth. Felly pan ddaw at feirniadu eraill sy’n ymdrin â gwebethau, alla’ i’m dweud dim.

Gan ddweud hynny, dwi ddim yn cael fy nhalu i wneud hynny. Peth gwirfoddol a dibwrpas ydi blog fel hwn, ond mae golwg360 i fod yn wefan broffesiynol, lle y telir pobl i wneud iddi weithio. Ar y cyfan, dwi ddim yn gallu cwyno gormod am ansawdd y cynnwys na safon y newyddiaduraeth, ond mae’r erthyglau byrion yn gwneud i rywun teimlo y bônt wedi cael eu “twyllo”. Yn gryno, dydi o ddim werth mynd i unrhyw safle i ddarllen dau neu dri pharagraff o newyddion.

Tra fy mod yn deall yn iawn nad arbenigwyr gwe sydd wedi dylunio’r safle, mae’r edrychiad yn bur warthus. Mae’n hyll, yn hen ffasiwn, yn amhroffesiynol ac yn ddigon i wneud i rywun droi’i drwyn ar unwaith. Byddai newid ffont, cael lluniau maint cywir, a dod ag ychydig o liw iddo’n ddechrau, ond o ystyried y dyfarnwyd £200,000 oni ellir bod wedi cael rhyw faint o arbenigedd i helpu i ddylunio’r safle? I mi, dyma siom fwyaf y wefan, ac yn anffodus mae’n siomedig iawn - i’r fath raddau y synnwn ar y diawl pe byddai unrhyw un sydd ynghlwm wrth y wefan yn meddwl yn wahanol.

Dydi hi fawr o syndod y bu’r ymateb hyd yn hyn yn anffafriol. Wrth gwrs, tasg a hanner ydi cystadlu â’r unig wir ffynhonnell newyddion arall yn y Gymraeg, sef BBC Cymru, ond ar hyn o bryd dydi Golwg360 ddim yn dod yn agos at y wefan honno, er megis dechrau yw hi. Ond er mwyn gwneud hynny, rhaid bachu’r gynulleidfa ar unwaith – dwi ddim yn meddwl y llwyddwyd i wneud hynny.

Gobeithio y bydd pethau’n gwella oherwydd mi fyddai gwefan lwyddiannus o’r math yn hwb i’r Gymraeg, newyddiaduraeth Gymraeg a’r Gymraeg ar-lein. Ymddengys i mi fod y lansiad wedi bod yn gynamserol braidd, ac y dylid bod wedi gwneud mwy o waith ar y wefan cyn gwneud hynny. Gobeithio na fydd y wefan ar ei ffurf bresennol yn troi gormod o ddarpar ddilynwyr i ffwrdd, unwaith ac am byth.

Dwi’n siŵr nad dyna fydd yr achos, ac mi fydda innau’n parhau i ddarllen am rywfaint, ond os nad ydi’r peth yn gwella rhagwelaf y byddwn i’n rhoi’r gorau i’w dddarllen. A fyddai’n deg gwneud hynny?

Byddai, yn fy marn i. Ydi, mae’n bwysig cefnogi mentrau o’r fath, ond mae hefyd yn bwysig bod gwasanaethau o’r fath a ddarperir yn Gymraeg o’r un safon â gwasanaethau tebyg mewn ieithoedd eraill. Hyd yn hyn, dydi golwg360 ddim.

Ond dwi’n siŵr y bydd pethau’n gwella ar fyr o dro.

lunedì, maggio 18, 2009

Y cyw bach cynta'

Dwi’n gwybod fy mod yn paladurio am anifeiliaid yn weddol aml ar y blog hwn (rhaid bod yn onest, dydi ‘y flog hon’ jyst ddim yn swnio’n iawn) ond alla’ i ddim helpu hynny. Tristaf agwedd ar y ffaith hon ydi fy mod i’n siarad ag anifeiliaid o hyd. Fel babanod, rhaid mi siarad yn Gymraeg ag anifeiliaid – y gwahaniaeth mawr yw fy mod i’n licio anifeiliaid, sy’n glyfrach eu ffordd a changwaith yn fwy hylan.

Fel rheol dwi ddim yn licio adar cymaint ag anifeiliaid eraill, er bod yr enwau a roddir ar adar yn y Gymraeg, megis y tingoch, y dryw penfflamgoch, sgrech y coed, iâr y diffeithwch, gwybedog y gwenyn a gwylan y gweunydd oll yn enwau gwirioneddol brydferth (efallai nid y tingoch llawn cymaint) – heb sôn am yr ystydebol ond anfarwol titw tomos las a’r jî-binc.

Nid yr un o’r rheini, am wn i, a ddaeth i’r ardd y diwrnod o’r blaen. Mae ‘na gryn dipyn o adar to yn nythu yn Grangetown. Cyw bach ydoedd yn yr ardd, yn hedfan yn drwsgl a digyfeiriad, wrth i mi daflu basil allan i’r ardd nad oedd wedi tyfu. Ar yr iorwg celain ydoedd, sydd ar y ffens rhwng y tŷ a drws nesa’. Roedd i’w weld yn ddigon cymysglyd p’un bynnag.

“Helo shwcs,” medda fi wrtho gan fynd yn ôl i’r tŷ, heb lawn werthfawrogi bryd hynny pa mor drist ydi siarad i aderyn, yn enwedig un nad ydych chi’n ei adnabod. Bu i’r bach drydar yn ôl i mi, fel rhywbeth o ffilm Disney, cyn hedfan yn syth i mewn i ffenest y bathrwm gan hanner gnocio’i hun allan cyn landio’n ôl ar y wal.


“Twat,” medda fi wrth fy hun, cyn mynd yn ôl i’r tŷ.

giovedì, maggio 14, 2009

Etholiadau Ewrop - proffwydo

Mae’r byd gwleidyddol yn bur ddiddorol ar hyn o bryd, dwi’n meddwl, gyda’r holl gyffro (wel, ffars) am dreuliau ac etholiadau Ewrop ar y gorwel. Fel pawb arall, dwi wedi fy syfrdanu gyda barusrwydd rhai o’n haelodau etholedig – allwch chi ddim beio pobl am beidio â phleidleisio, na fedrwch? Ond, bydd y busnes treuliau yn mynd o ddrwg i waeth, mae’n siŵr (er bu i mi chwerthin rhywfaint o ddarllen bod un AS sy’n ddyn wedi hawlio £1.11 am dampax), a bydd yn effeithio’n andwyol ar Lafur a’r Torïaid yn bennaf, a hynny gan fod pobl yn chwilio am unrhyw beth i roi cic i Lafur ar hyn o bryd, a bod treuliau’r aelodau Ceidwadol yn atgyfnerthu’r syniad eu bod i gyd yn gyfoethfawr a chefnog – delwedd y mae David Cameron wedi ceisio’i chwalu.

Y agwedd ar y saga sy’n fy niddori ydi pa effaith a gaiff ar etholiadau Ewrop, yng Nghymru’n benodol, wrth reswm. A fydd y dadrithio enfawr sydd mewn gwleidyddiaeth bleidiol yn sgîl hyn, yn enwedig o ran Llafur a’r Ceidwadwyr (ac i raddau llai y Democratiaid Rhyddfrydol), yn arwain at bleidleisiau i’r pleidiau llai ynteu dim ond llai o bobl yn pleidleisio i’r pleidiau mawrion?

Hyd y gwela i, yng Nghymru, mae Plaid Cymru wedi cadw’i phen yn glir o’r saga – wn i ddim beth ydi hanes treuliau ei thri AS ond dywedodd Elfyn Llwyd y diwrnod o’r blaen nad oes ganddyn nhw unrhyw beth i’w guddio. Os ydi hynny’n wir, ac mewn difri dwi’n credu bod hynny’n wir, mae ‘na gyfalaf gwleidyddol fan hyn i Blaid Cymru. Tybed a fydd hi’n manteisio arno? Dwi’n credu pe gwnâi, y gallai o bosibl ennill yr ail sedd Gymreig yn Senedd Ewrop. Fuo byth dric gwleidyddol mwy effeithiol na bod yn burach na’ch gwrthwynebwyr.

Er hynny, mae greddf yn dweud yn wahanol. Er gwaethaf trafferthion enbyd y blaid Lafur, mae’n anodd iawn o hyd gweld y blaid honno’n colli’r ail sedd, a hynny am ddau reswm. Yn gyntaf, dwi ddim yn gweld y Democratiaid Rhyddfrydol yn ennill digon o bleidleisiau yng Nghymru i allu ennill y bedwaredd. Yn wir, yn sgîl y treuliau, byddwn i’n fodlon dyfalu y byddant unwaith eto yn bumed yng Nghymru y to ôl i UKIP – plaid fechan a all yn sicr fanteisio ar y llanast, yn enwedig o ystyried gwendid cymharol o BNP yma.

Yn ail, dwi ddim yn meddwl bod gan y Ceidwadwyr na’r Blaid y gefnogaeth graidd i allu ennill mwy o bleidleisiau na Llafur eto. Ydi’r Ceidwadwyr wedi eu heffeithio gan y treuliau, a Phlaid Cymru gan ei chlymblaid â Llafur? Mae’r rheini’n ffactorau anodd i’w hystyried; y gwir ydi, dydyn ni ddim yn gwybod eto.

Roedd etholiad diwethaf Ewrop yn drychineb i Blaid Cymru. Na, ‘doedd neb wir yn disgwyl iddynt gadw eu hail sedd wrth i’r niferoedd yn cynrychioli Cymru ostwng o bump i bedwar, ond a oedd rhywun yn disgwyl iddi ddisgyn y tu ôl i’r Ceidwadwyr am y tro cyntaf ers 1987, a gweld ei phleidlais yn syrthio 12%?

Mae amhoblogrwydd Llafur, hanes y treuliau, y glymblaid a difaterwch y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn gwneud y canlyniad yng Nghymru yn aneglur tu hwnt – dadleuwn i yn amhosib i’w broffwydo. Ond mi âf gyda fy ngreddf y tro hwn:

Llafur 2
Ceidwadwyr 1
Plaid Cymru 1

gyda Phlaid Cymru eto’n cael llai o bleidleisiau na’r Torïaid. Dybiwn i y bydd y ddwy blaid honno’n ennill rhwng 20% a 25% o’r bleidlais, gyda Llafur dros 25% ond nid yn fwy na 30%, a UKIP eto’n bedwerydd.

Ond tai’m i roi bet arno.

martedì, maggio 12, 2009

Helo o'r Eidal

Na, dwi ddim yn yr Eidal. Hoffwn i fod, ond dwi ddim.

Ewch i’r sarhad yn y blogiad ‘Nôl o Farselona’. Dilynwch y ddolen a gwnewch hynny a fynnwch ohono. Fedra i ddim dallt dim – pam fyddai rhywun o’r Eidal, sy’n licio cathod yn amlwg, yn dweud helo i mi? Os cyfieithwch y dudalen, ac fe ellir gwneud hyn (gwnewch yn Saesneg – fedra i ddim yn Gymraeg), fe sylwch fod y peth y tu hwnt i bob dealltwriaeth. Mi gefais dro ar gyfieithu fy mlog i Saesneg ar un o’r pethau hynny. Cyfieithwyd

Mai’n ffwcin boeth ‘ma

i

Fault heartburn ffwcin hot here


Sy’n ticlo fi os nad neb arall, dim ond am y ffaith dwi’n siŵr y byddai rhywun yn gallu dweud hynny’n Maesgeirchen ac y byddai’n gwneud synnwyr.

lunedì, maggio 11, 2009

Nôl o Farselona

Dyma fi’n fy ôl o Farselona felly gyfeillion! Hwra! I fod yn onest efo chi, gallwn i fod wedi g’neud efo diwrnod yn fwy o wyliau ond ta waeth am hynny, do mi a welais y traeth a’r Sagrada Famillia a’r Camp Nou a chael fy nghonio gan y cwrw drud a dod nôl yn edrych fel tomato efo llosg haul.

Lle mawr ydi Barselona. Rhy fawr, buom ni ar holl am bump awr yn chwilio am y Camp Nou. Ges i flistars. Do’n i’m yn rhy fodlon ar hynny. Dwi bob amser yn meddwl mai’r Camp Nou ydi’r stadiwm uwch bob un y mae rhywun isio’i gweld. Tai’m i ddadlau, roedd o’n ffantastig. Ro’n i hefyd yn meddwl bod y Sagrada Familla yn wirioneddol cŵl ond roedd o’n llawer llai nag ydi o mewn lluniau, ond yn tydi popeth (yn anffodus)?

Un siom anferthol oedd yr Icebar, lle mae popeth wedi’i wneud o rew. Fe’i ceir ger y traeth godidog, ac yn swnio’n lot well nac ydi o. Heb sôn am fod yn llai na chroth pry’ cop, dydi popeth ddim wedi’i wneud allan o rew, ac fel Cymry pur o galon nid oeddwn i na Rhys yn oer iawn, gan agor ein cotiau a thynnu ein menig. Wast o bymtheg ewro os bu erioed.

Ond dwi wedi bod rŵan, ac rŵan dwi’n ôl. Byddwn i methu byw ym Marselona, cofiwch, mae’r bywyd yn rhy wahanol i’r wlad hon, ac mae gen i orwelion cyfyng a bodlon, ac yn licio grefi gormod.

Dadbacio, golchi dillad, gorfod mynd i gwyno bod ‘n ffwcin rhewgell dal ddim wedi cyrraedd (dwi’n casáu Comet erbyn hyn, maen nhw’n absoliwt ffycwits de). Ydi wir, mae pethau’n ôl yn eu lle.

venerdì, maggio 01, 2009

Myned

Wel, wythnos nesa fydda i ym Marselona gyfeillion, felly bydd Hogyn o Rachub yn mynd i gysgu am ychydig yn llai na phythefnos. Welwn i chi wap.

Cadwch y ffydd!

giovedì, aprile 30, 2009

Blin, Ypset, Pwdlyd

Bydd ambell ddigwyddiad yn gwneud i chi feddwl mae bywyd yn fitsh. Ddigwyddodd hynny i mi ddydd Sadwrn, fel mae’n digwydd, wrth i’r rhewgell dorri. Hyd y gwela i roedd y cont peth wedi torri ers cryn dipyn a minnau heb sylwi, ond alla i ddim gwneud popeth a chadw llygad ar popeth yn tŷ ‘cw.

Wrth gwrs bydd rhywun yn colli bwyd yn sgîl torri’r rhewgell ac o ganlyniad erbyn dydd Mawrth roedd fy nhŷ yn drewi fel rhech lobsgows. Fydd rhywun ddim isio gosod biniau tu allan yn rhy fuan yn Grangetown oherwydd mae’r gwylanod a’r llygod mawr yn cynghreirio i wneud hynny o lanast a allant cyn i’r sbwriel gael ei gasglu.

Argyhoeddais fy hun ar fyr o dro y gallai pethau fod yn waeth. Ar y cyfan, dwi’n un o’r bobl hyn sy’n mynd yn ofnadwy o flin ac ypset a phwdlyd pan fydd pethau felly’n digwydd (sy’n cynnwys pethau fel tollti uwd ar lawr a gweld nad ydi rhywbeth wedi golchi’n iawn yn y peiriant golchi) cyn adfer ymhen ychydig.

Darllenais ryw ychydig fisoedd yn ôl, ar gyfartaledd, y mae’n cymryd pum peth da i ddigwydd i ni i ‘wneud fyny’ am un peth drwg. Yn bur anffodus dwi wedi cymryd hynny i ‘mhen a bellach yn dragwyddol mewn tymer od, yn disgwyl i’r peth da nesaf ddyfod tra’n rhwbio amryw gachwriaethau bywyd o’m hwyneb serchus.

mercoledì, aprile 29, 2009

Arweinydd Plaid Cymru heb ddannedd

Dwi ddim yn gwybod sut i egluro’r freuddwyd a ddaeth ataf neithiwr i chi, a cheisio ei chyfleu mewn ffordd gall. Y gair mwyaf priodol i’w disgrifio ydi ‘sad’.

Roedd fy nghar wedi torri i lawr ar Stryd Machen. Yn bur ryfedd yr unig beth oedd yn bod arno, yn y pen draw, oedd fy mod yn defnyddio’r goriadau yn anghywir, ond fel y gallwch ddychmygu ro’n i’n hynod ypset. Ac roedd pwysau mawr arnaf, gyda minnau’n gwneud yr araith fawr yng nghynhadledd flynyddol Plaid Cymru. Dwi ddim yn siŵr sut y cipiais yr arweinyddiaeth, ond o leiaf fod hynny’n gadarnhad o faint o folocs ydi breuddwydion.

Lowri Llewelyn a ddywedodd fy mod i’n “siwtio arwain côr o gŵn i gyfarth mewn tiwn”, sy ddim cweit yr un peth ag arwain Plaid Cymru, er y gellir dadlau bod tebygolrwydd.

Ta waeth, wedi cyrraedd y gynhadledd disgynnodd fy nant allan. Mae hon yn thema gyffredin yn fy mreuddwydion i, a fwy na thebyg oherwydd nad oes gen i’r dannedd deliaf (nid fy mod yn berchen ar ddannedd erchyll, cofiwch, ond nid Hollywood Smile sy rhwng fy ngên a’m trwyn o bellffordd). Gyda’m car yn sâl, a minnau mewn cyflwr ofnadwy erbyn hyn gan nad oeddwn wedi paratoi unrhyw fath o araith, roedd y sefyllfa’n gwaethygu. Cefais ddiffiniad o’r we o ddannedd yn disgyn allan mewn breuddwydion, sef:

Another rationalization for these falling teeth dream may be rooted in your fear of being embarrassed or making a fool of yourself in some specific situation. These dreams are an over-exaggeration of your worries and anxiety

A gwn ar y pryd i mi deimlo felly. Yn ffodus, Ieuan Wyn Jones a ddaeth i’r llwyfan ataf a rhoi araith yr oedd wedi’i hysgrifennu ymlaen llaw i mi, a dwi’n meddwl y bu i mi ei darllen i’r gynhadledd a mawr glod a gefais. Hyd yn oed bora ‘ma dwi’n teimlo fy mod mewn dyled i Ieuan Wyn Jones am achub fy nghroen. Uffar o beth tasa IWJ yn sôn am freuddwyd y gafodd am ‘roi araith i wancar heb ddannedd’ neithiwr hefyd, ond dowt gen i neith o.

Wn i ddim beth oedd neges y freuddwyd, heblaw bod fy nghar am dorri lawr, sydd yn debyg iawn, gan fod y paneli bron â malu erbyn hyn, sy’n torri fy nghalon. Dwi ddim hyd yn oed am foddran damcaniaethu’r gweddill.

martedì, aprile 28, 2009

'Dan ni gyd am farw o glefyd moch

Swine fever. Mochyn o haint medda’ nhw, ac mae pawb yn y byd am farw ohono. Gor-ddweud, mi wn, y gwir ydi does ‘na fawr o neb yn poeni ar hyn o bryd, er bod Jaci Soch yn llawn haeddu pryderu. Dydw i, wrth gwrs, ddim yn poeni. Wedi’r cyfan, mae ‘na ugain miliwn o bobl yn byw yn Ninas Mecsico, a 150 ohonynt sydd wedi cael y clefyd hyd yn hyn. Fawr o bandemig, nadi?

Gwell i mi beidio â siarad yn rhy fuan, cofiwch. Fi fydd y cynta i fynd, mae’n system imiwnedd innau’n wannach na’r Cynulliad.

Dwi’n cofio’r holl helynt efo ffliw’r adar ychydig flynyddoedd yn ôl hefyd, gyda Lowri Dwd druan yn poeni o waelod calon bod rhywun yn dechrau tyfu plu o ganlyniad i’r haint honno (sydd, rhag ofn nad ydych chi up to scratch efo’r petha’ ‘ma, ddim yn wir. O gwbl). Tua’r cyfnod hwnnw fe wnes ypsetio Dyfed hefyd gan iddo gredu fy stori gelwyddog bod Syr Trefor Macdonald wedi marw mewn damwain car efo John Suche. Ta waeth, be wnewch o gyfeillion sy’n bwyta fajitas sosij neu sydd efo trwyn sy’n edrych fel fajita sosij?

Be uffar mae ‘talwm’ yn ei feddwl? Hynny ydi, as in ‘ers talwm’? Mae’n swnio fel enw ar fardd canoloesol thic. Mae ‘na lot o eiriau fel’na nad ydw i’n eu dallt.

lunedì, aprile 27, 2009

Pengwin yn pwdu

Mae’r rhain wastad yn gwneud i mi wenu (neu wgu llai), a dwi wedi postio rhai o’r blaen, sef beth y mae pobl yn ei ysgrifennu ar beiriannau chwilio wrth ddod ar draws fy mlog, dyma ddetholiad bach diweddar:

Ysgol Gynradd Brynaman
O fel mae’n dda gen i ‘nghartref
Pengwin yn pwdu
Banana Watch
Sgeri Men
Tisho ffwc?
“lleuwen steffan” “meic stevens”
O fy Iesu Bendigedig

Cymry hoyw ar lein

Tair cynhadledd

Fydda i’n licio’r tymor cynadleddau gwleidyddol. Trist, mi wn, ond gwir. Fydda i’n licio clywed be sy gan y gwleidyddion i’w ddweud, er fy mod i’n ddigon sinicaidd o wleidyddiaeth erbyn hyn fel y gwyddoch.

Roedd un y Blaid ychydig wythnosau’n ôl, ac mae’n rhaid i mi ddweud roedd o’n uffernol o drawiadol os gwnaethoch ei gweld ar y teledu. Slic, proffesiynol – gweddol ddi-sylwedd ar y cyfan, er hyd y gwn i dydi trafod polisïau bellach ddim yn ffordd dda o ennill pleidleisiau – newid byd o’r Blaid cyn datganoli. Yn fwy na hynny fe ddaeth yn amlwg dros y teledu yr hyder sy’n treiddio drwy’r Blaid ar hyn o bryd, ac er gwaetha’r siomedigau yn ystod llywodraeth, ymdeimlad ei bod ar y trywydd cywir. Wn i ddim a ydw innau’n cytuno’n llwyr â hynny, wrth gwrs, ond er mwyn bod yn beiriant gwleidyddol effeithlon mae’n rhaid i blaid fod yn gyfforddus â’i hun ac yn hyderus yn ei pholisïau.

Pwy fyddai wedi darogan, mewn difrif, ddeng mlynedd yn ôl, mai Plaid Cymru o gryn ffordd fyddai’r cyfathrebwr gorau, y cyflwynydd mwyaf effeithlon? Mai’n dro byd ers hynny erbyn hyn, ond gellir gweld yn amlwg mai dyma blaid sydd heb eto gyrraedd ei hanterth.

Daeth yn amlwg iawn dros y penwythnos bod anterth Llafur wedi diflannu i niwl amser erbyn hyn. Ar y teledu edrychai’n gynhadledd wael. Dwi’n meddwl y dywedodd Vaughan Roderick ei bod yn amlwg mai dyma blaid sydd mewn trafferthion ariannol (o ystyried y set amaturaidd) ac sy’n heneiddio. Prin a welid wyneb di-rych yn y gynulleidfa. Mae’r blaid Lafur ar drai yng Nghymru – o ran cyllid, ei gallu i gyfathrebu, ei haelodaeth, ei chanlyniadau etholiadol – ac o’i safbwynt hi, mae’n ffaith sy’n boenus o amlwg.

Roedd yr areithiau a welais yn rhai ystrydebol ofnadwy, heb ganolbwyntio ar y sefyllfa sydd ohoni. Pwysleisio gwerthoedd traddodiadol, digon teg, ond am gynhadledd gyfan? Roedd araith Rhodri yn ofnadwy o fflat; gellid teimlo anniddigrwydd rhai aelodau Llafur pan ddywedodd fod Llafur o blaid datganoli, cyn mynd ati i enwi Torïaid gwrth-ddatganoli, wrth gwrs heb roi hysbys i’r diddiwedd niferoedd yn ei blaid ei hun sy’n ei gasáu.

Y peth tristaf, mae’n siŵr, o gynhadledd y blaid Lafur ydi mai felly y disgwyliodd pawb iddi fod. Ni siomodd neb yn hynny o beth – roedd yn flinedig, yn ddi-egni, yn ddiwedd taith.

Rŵan, wnes i ddim cymryd fawr o sylw o gynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol, ond gafodd hi fawr o sylw p’un bynnag. Roedd y set yn erchyll a phob araith a welais yn ddi-fflach. O safbwynt niwtral mi ellir gweld yn hawdd tra bod y Dems Rhydd yn rhyw fath o rym yn Lloegr maen nhw’n gwbl amherthnasol yng Nghymru. Yn gwbl, di-amheuaeth o amherthnasol. Y broblem ydi bod y blaid honno’n fwy Seisnigaidd na hyd yn oed y Ceidwadwyr yng Nghymru yn fy marn i, er mae’n siŵr na fyddan nhw’n cytuno â hynny.

Yn olaf, ar nodyn wahanol, ond ydi hi’n gwylltio rhywun arall bod straeon fel hyn yn ymddangos ar frig ffrwd newyddion hafan BBC Cymru ond ddim hyd yn oed yn cael lle yn unman ar BBC Wales? Bydd rhai’n dadlau nad ydi stori o’r fath o ddiddordeb i’r di-Gymraeg ond o ystyried y stori ei hun, yn yr achos hwn o leiaf, mae’n anodd gen i goelio hynny.

venerdì, aprile 24, 2009

A wnewch ateb y cwestiynau canlynol?

Peidiwch â phoeni, ‘does gen i ddim byd o sylweddol i’w ddweud heddiw a hithau’n ddydd Gwener. Er y rhyddid agos dwi ddim wedi mwynhau fy hun yr wythnos hon. Gellir yn aml gweld pa fath o dymer sydd arnaf drwy faint o flogiau y byddaf yn eu cynhyrchu. Os wyf fywiog a hapus, mi wna i un bob dydd. Os wyf ddifynadd a chrintachlyd, mi wnaf un gan fy mod yn teimlo ryw ffug ddyletswydd i wneud hynny.

Gellir felly dadansoddi fy mod wedi bod yn fasdad blin yr wythnos hon. Wrth gwrs, mi dreuliais y rhan fwyaf o’r blynyddoedd a fu yn flin, yn benodol yn ‘rysgol. Cofiaf un tro mewn ffug arholiad amhwysig nodwyd arno “A wnewch ateb y cwestiynau canlynol...” ac mi a ysgrifennais ‘na’ wrtho a symud ymlaen i’r dudalen nesaf.

Doedden ni ddim yn hapus iawn gwneud rhai yn Saesneg chwaith, yn dewis ysgrifennu ‘Ffwc Inglish’ ar y dudalen flaen a gwneud dim am weddill y wers. Mi ges rywfaint o ddileit gan un o’r athrawon fodd bynnag wrth iddo gyhoeddi, yn dra ddig, bod y cwricwlwm yn nodi bod yn rhaid i ni gael o leiaf un wers yn Saesneg y flwyddyn honno. “Gwrandewch yn astud,” meddai, “wan, tŵ, thri, ffôr, ffaif ... iawn, dyna lol ‘na drosodd”. Da ‘di Cofis.

Mi es i dŷ’r genod neithiwr am dro ac mi fytodd Lowri Llewelyn lond paced o grŵtons. Dyna pam ei bod hi’n gwrthod dod am rôl borc efo fi heddiw. Medda hi.

mercoledì, aprile 22, 2009

Dadansoddiad o effeithiau'r Gyllideb

As if bo gen i blydi clem!

Nefoedd yr adar, sôn am ddilyn y ddolen waetha' bosib...

The Fast Show ... a lol arall

Ydach chi’n cofio The Fast Show? Ro’n i wrth fy modd efo fo, a heb gyrraedd dau ddigid pan darodd y gyfres gyntaf y sgrîn tua ’94. Mi brynais y cyfresi ar DVD ychydig fisoedd nôl ond wnes i mo’u gwylio’n iawn tan i Rhys ddod i fyw ataf am fis (dros fis yn ôl erbyn hyn).

Dwi’n cofio ei gwylio yn nhŷ Nain – y math o raglen, er nad oedd o’n ‘ddrwg’, roeddech chi pan yn blentyn yn meddwl eich bod chi ychydig yn ddrwg yn ei gwylio. Doeddwn i heb chwerthin cymaint ers sbel cyn ailwylio’r cyfresi, mae nhw’n ffantastig (do, mi wnes orchfygu’r awydd i ddweud Brilliant! fanno). Dim ots gen i be ddywedith neb, dydi comedi’r 00au (sy bron â mynd, waaa!) methu cymharu â’r 90au o gwbl.

Y peth gorau am y Fast Show i mi ydi na fedra i ddewis fy hoff gymeriad. Yn y rhan fwyaf o sioeau tebyg mae o’n ddigon hawdd gwneud hynny, hyd yn oed Little Britain (er bod hwnnw’n shait ar ôl y gyfres gyntaf i fod yn onast), ond fedrwch chi ddim gwneud efo’r Fast Show, er (efallai yn apelio at fy ochr blentynnaidd – pan fûm blentyn a hyd at heddiw) roedd Chanel 9 wastad yn un o’n i’n licio’n fawr iawn iawn. P’un a oedd y sgets orau ai peidio, mae’n rhaid i chi fod yn athrylith gomedïol i gael pobl i biso chwerthin dim ond o ddweud Sminki Pinki hethethetheth pethethetheth pssssssssshit, yn does!

Ond ta waeth, o atgofion plentyndod, cofiaf nad plentyn mohonof mwyaf (er fy mod i’n fyr a thic a bod yn dal yn well gen i wylio cartŵns na Top Gear).

Clywais y diwrnod o’r blaen ddarn o gyngor a wnaeth i mi deimlo’n fodlon fy myd, rhaid i mi ddweud, sef “ti’n mynd yn hen pan fyddi’n cofio dy benblwyddi”. Do, mi gyrhaeddais y pedair ar hugain ddydd Sul, ond gan nad wyf yn cofio nos Sadwrn (yn llythrennol rŵan, bu i mi gael cic owt o’r Model Inn medda’ nhw, ond dwi ddim yn cofio bod yno – efallai mai celwydd ydi’r peth) mae’n rhaid bod hynny’n golygu y galla i estyn fy ieuenctid yn artiffisial am flwyddyn yn rhagor.

Mi ddywedon nhw ar newyddion bora ‘ma bod ‘na filiwn o eiriau yn Saesneg erbyn hyn. Miliwn yn ormod, uda i.

Hefyd, at ddibenion hunan-hysbysebu gwyliwch Byw yn yr Ardd ar S4C am 8.25yh nos Iau. Wel, os hoffech weld fy nghardd....

giovedì, aprile 16, 2009

Fy nghynhebrwng

Roedd edefyn ar Faes E yn ddiweddar iawn am ba fath o gynhebrwng yr hoffech ei gael. Dwi gyda fy ffrindiau wedi trafod y pwnc hwn ers cyn cof erbyn hyn, i’r fath raddau ei fod yn bwnc sgyrsio tra-phoblogaidd rhyngom. Roeddwn yn hapus mai nid y ni oedd yr unig rai a ystyriodd y peth, ond fel y bydd June Whitfield yn ein hatgoffa, mae’n beth pwysig i’w ystyried, a phwy all ddadlau â honno? Gellir hefyd dadlau’n llwyddiannus, fel unigolyn sy heb drefnu cynllun pensiwn hyd yn hyn oherwydd ei gred gref na fydd yn byw cyn hired â manteisio ar ei ffrwyth, dwi’n rhywun perffaith i ddwfn ystyried Y Cynhebrwng.

Mae’n siŵr, er fy swnian, nad Pabydd y byddwyf fyth yn y pen draw, felly hen gynhebrwng Anglicanaidd diflas y bydd. O, Fy Iesu Bendigedig fyddai’r emyn cyntaf a genid, gyda geiriau hynod canmoliaethus (ac, felly, celwyddgar) parthed fy mywyd yn y canol wedi’u dilyn gan Bantyfedwen. Pantyfedwen ydi’n hoff emyn, fel mae’n digwydd, wrth i mi ei ddewis i gynhebrwng Anti Blodwen flynyddoedd nôl, sy’n fan cychwyn rhyfedd i gael eich cyflwyno i’ch hoff emyn. Dwi’n siŵr nad oes gan Blodwen ots am hynny.

Y gân olaf, wrth fy hebrwng i’r bedd (ac i’r bedd y byddai, dwi ddim isio cael fy llosgi a’m lluchio i’r pedwar gwynt), wn i ddim. Byddai’r Brawd Hwdini’n amhriodol, ac Yma o Hyd yn gas (heb sôn am gael pawb yn swnian “dio’m isio clwad hwn eto myn uffarn!”), a Ble Ges Ti’r Ddawn? jyst yn cymryd y piss go iawn o ystyried mai y fi fyddai’n gelain. Mi adawa i rywun arall ddewis y gân ddelfrydol, fel Lowri Dwd – bydd yn dda ei chael i fod o iws i mi yn fy nghynhebrwng a hithau’n ddim o help yn ystod fy myw.

Maen nhw’n (ia, ‘y nhw’ ddirgel eto) dweud wrth i rywun fynd yn hŷn eu bod yn mynychu mwy o angladdau na phriodasau. Dydi hyn ddim yn wir i mi. Dwy briodas fues iddynt erioed, ac yn y ddwy priododd fy nghefnder. Dwi ‘di colli cownt ar angladdau erbyn hyn ond mae o deirgwaith gymaint ag o briodasau dwi’n sicr.

Ond ta waeth tai’m i fwydro gormod am farwolaeth heddiw a minnau’n edrych ymlaen i fynd i Wetherspoons heno, er mai un cyri doji ydym oll o gwrdd â’n creawdwr, ebe hwy.

mercoledì, aprile 15, 2009

Wiwer Cajun

Fues yn y Gogledd ar y penwythnos ac o ganlyniad ni chododd yr awydd i flogio, er i Nain ddweud ambell i beth dwl fel arfer, megis nad ydi hi’n licio John Hardy, sy’n ddigon teg. ‘Sgen i ddim barn ar John Hardy, ond mi a chwarddais arno’n fflyrtian â thrawswisgwr nos Iau ddiwethaf.

Hidia befo am hynny, wn i ddim a ddywedais i mi roi’r gorau i greision dros y Grawys, ac mi lwyddias, felly neithiwr penderfynais (gyda chymorth y Llew a Ceren) flasu’r rhai newydd y mae Walkers yn eu cynnig. Siomedig oeddent ar y cyfan.

Y gorau, ac mae’n rhaid i mi ddweud ro’n i’n fodlon iawn ar hyn, oedd y Wiwer Cajun. Dwi’n amau dim nad ydi o’n debyg i Wiwer o gwbl, ond roedd ben ac ysgwydd uwch y gweddill, ac yn bersonol mi wnes eithaf mwynhau. Yn ail felly ddaeth yr Nionyn Baji. Dydw i ddim yn licio’r rhain fel rheol ond mi wnaeth yn iawn fel creision, ond ddim yn ddigon nionllyd, fel onion rings efo llai o flas.

Yn drydydd oedd y siom fwyaf sef y Pysgod a Slogion, yr oeddem ein tri yn disgwyl pethau mawr ganddo. Roedd yn gas gen i’r rhain ond doedd Ceren a Llew ddim yn meindio. Maen nhw’n debyg i Scampi Fries a dwi’m yn licio’r rheini. Yn bedwerydd, ac rydyn ni’n cyrraedd lefelau ffieidd-dra fan hyn, roedd y Builders Breakfast a oedd yn blasu fel smokey bacon y mae rhywun wedi rhechu arno – na, dwi’m yn jocian, maen nhw.

Yn bumed daethai’r Chwadan a Hoisin, y cytunais â’r Llew ei fod yn blasu fel pot pourri. Blas cas ar y diawl, a siom arall i ni.

Ond yn olaf o bell ffordd ydi’r Siocled a Chilli. Peidiwch â phrynu hwn er mwyn dyn. Y peth ydi mae hwn YN blasu fel siocled a chilli, am wn i, a dydi o ddim yn neis. Dydi pobl gall ddim yn byta’r ffasiwn bethau p’un bynnag (nac wiwerod mae’n siŵr, ond dim ots am hynny).

Rhowch wybod i mi os ydych chi wedi trio un, mae gen i ddiddordeb mewn creision. Gobeithio mai’r wiwer aiff â hi.

giovedì, aprile 09, 2009

Pam blogio'n Gymraeg?

Galwais heibio blog Dyfrig, sy’n un o’r blogiau y bydda i yn ei ddilyn, a darllen y post diddorol hwn am pam y mae’n blogio yn Gymraeg yn unig. Does ‘na ddim llawer o’n haelodau etholedig yng Nghymru, hyd yn oed ymhlith rhengoedd Plaid Cymru, yn blogio yn Gymraeg yn rheolaidd, heb sôn am yn Gymraeg yn unig (Y Tŷ Mawr o’r Tu Mewn ydi un ohonynt gan Hywel Williams AS, ond dydi hwnnw heb ei ddiweddaru ers mis a hanner).

Mi wnes i feddwl yn sydyn pam fy mod innau’n blogio yn Gymraeg, achos dwi ddim yr unigolyn tebycaf i wneud mewn rhai agweddau. Yn dechnegol, Saesneg ydi’n iaith gyntaf i a dim ond ers Prifysgol y galla i ddweud yn onest bod fy Nghymraeg ysgrifenedig yn well na’m Saesneg ysgrifenedig; ac mi ddechreuais flogio cyn mynd i’r Brifysgol. A Saesneg ydi prif iaith fy nghartref yn Rachub, credwch ai peidio, er na chlywch air ohoni yn Stryd Machen.

Pe bawn isio cyfleu fy neges {ryfedd} i’r byd mi a flogiwn yn Saesneg, ond dydw i ddim isio gwneud hynny. Pe bawn isio ceisio cael cynulleidfa fawr, mi a flogiwn yn Saesneg, ond dwi’n fwy na bodlon ar y gynulleidfa gyfyngedig sydd gen i. Ac yn bersonol, dwi jyst ddim yn licio Saesneg fel iaith, mae hi’n ddiflas, a ph’un bynnag pan fydda i’n ei defnyddio mae hi’n gwbl aflafar.

I mi, yn hytrach na chyfleu rhywbeth i gynulleidfa a fedrai fod yn enfawr, ond yn amhersonol, gwell ceisio ei gyfleu i’r hyn o beth a garaf, sef y Cymry Cymraeg. Wedi’r cwbl, dyma fy mhobl i, y rhai dwi’n uniaethu â hwy, yn siarad ac yn chwerthin â hwy, yn treulio fy mywyd o’u cwmpas. Wn i ddim a ydi hynny’n gul, ond os mae o dwi’n ddigon bodlon bod yn gul ac ymdrybaeddu yn y Cymreictod hwnnw sy’n gwneud i mi feddwl bod y byd yn iawn ei le, ac sy’n gwneud i mi deimlo’n gynnes y tu fewn. Boed hynny drwy gymdeithasu’n Gymraeg, gweithio mewn gweithle Cymraeg neu drwy flogio’n Gymraeg.

Ond hefyd fyddwn i ddim am i neb gyfieithu’r blog ‘ma (gwn na fydd hynny’n digwydd wrth gwrs, ond wyddoch chi fyth...). Mae angen gwneud rhai pethau yn gwbl Gymraeg, fel y dywed Dyfrig. Gwn nad ydi’r blog hwn yn gyfraniad i’r Gymraeg ac nad oes gwerth iddo, ond mae o dal yn rhywbeth Cymraeg a byddai dim byd yn gallu fy argyhoeddi i’w wneud fel arall. Mae’n un cornel fechan iawn o’r byd lle nad yw Saesneg yn gallu treiddio a bo’r Gymraeg yn oruchaf.

Hefyd wrth gwrs, er nad ydyn ni Gymry Cymraeg yn dweud yn agored, ‘dan ni’n ofnadwy am siarad am bobl nad ydynt yn siarad Cymraeg reit o’u blaenau, ac wedyn gweiddi’n groch nad ydyn ni byth yn gwneud ffasiwn beth.


Ond ein cyfrinach fach ni ydi honno, wrth gwrs!

mercoledì, aprile 08, 2009

Hiraeth

Artaith, a dim llai, ydi gweithio mewn swyddfa pan fo hi’n braf, a llai na blwyddyn nôl dywedais yn wir mai ar adegau fel hyn yr wyf yn methu’r Gogledd yn fwy na dim. Wrth gwrs, gall Caerdydd fod yn lle hynod braf yn y tywydd hwn, a ‘does ‘run man yng Nghymru all gystadlu gyda nifer ac amrywiaeth y gerddi cwrw, a heb fod yn ymhongar ar adeg fel hon mae Bae Caerdydd ymhlith y llefydd mwyaf braf a geir yng Nghymru gyfan.

Ond ynof ar y funud, ac ar bob ryw adeg lle y mae’r haul yn gwenu a’r tywydd yn fwyn, y mae awydd cryf am fy mro fy hun; i glywed distawrwydd Cwm Llafar a cherdded traethau Menai. Bryd hynny mae byw yng Nghaerdydd yn agos at frifo.

Melltith cariad, hiraeth. Y broblem fwyaf, mi dybiaf, ydi bod gen i ddelwedd ramantus am Ogledd nad yw'n bodoli. Ffwl dwi.

martedì, aprile 07, 2009

Cystadleuaeth

Gall rhai freuddwydio am roc a rôl ac enwogrwydd byd-eang, ymrwbio’n y mawrion a chyffuriau a rhyw a phrynu pymps sy werth dros £25 (tai’m i wneud ffasiwn beth) ond myfi a fyddwn fodlon pe cawn lwyfan bach a phiano wrth f’ymyl, yn canu i dorf o hen bobl tra bod eu hwyrion a’u hwyresau yn gwneud sŵn yn cefn yn gwneud popeth y gallant i beidio â gwrando arnaf. Ac mi a ganwn drwy’r nos, yn swyno’r gynulleidfa gyda ryw ddau foi arall, â’n harmonïau yn esgyn ar wynt tawel noson o haf.

Fydd hynny ddim yn digwydd achos dwi ddim y person gorau i gael fel rhan o dîm pan ddaw at gystadlu, sy’n gwyro o’r enghraifft uchod yn fwy nag y gobeithiais cyn ysgrifennu. Waeth i mi barhau, byddai peidio ‘mbach o gywilydd.

Mae’n siŵr mai dyna pam fy mod yn licio chwarae badminton a thenis ac yn casáu chwarae pêl-droed a rygbi. Fel rheol dwi’n unigolyn erchyll o anhunanol, ond dwi’n licio’r gogoniant a ddaw o fuddugoliaeth unigol. Mi wnes uno lluoedd gyda Ceren mewn gêm o Fonopoli unwaith – ffurfiem “Y Bartneriaeth” yn wyneb y golled o’n blaen yn erbyn Haydn Blin a’r Lowri Llewelyn (a oedd pen eu hunain) – ac wrth gwrs gwnaethom rogio. Collasom pan ganfu Haydn Blin ein twyllo a lluchio’r bwrdd chwarae. Gorymatebodd, ond cont blin fu hwnnw erioed.

Ond un peth a ddywedaf ydi, mewn amgylchiadau o’r fath, mae’n gas gen i chwarae yn erbyn pobl nad ydynt yn gystadleuol. Enghraifft berffaith o hyn a gododd eto yn Monopoly (gyda llaw dwi ddim yn chwarae Monopoly yn aml, er gwaethaf yr awgrym o hynny a roddir yn y neges hon) pan landiodd y Llewelyn ar eiddo Lowri Dwd a hithau heb fawr o bres, gan achosi’r Dwd i ddatgan nad oedd yn rhaid iddi dalu.

W, mi gochais. Mae’r strîc gystadleuol yn ddwfn ynof p’un ag yw’n Fonopoli neu sboncen yn erbyn Ellen. Mae Ellen, y person a drodd fy meddwl oddi ar drywydd diniweidrwydd, yn ei thro wedi troi’n gystadleuol. Pan fydda i’n colli shot fydda i’n cicio’r wal, tra ei bod hi’n waldio’r bêl tuag ataf (y bitch uffar). Mae’n dangos bod cystadleuaeth yn magu cystadleuaeth.

Yr unig achos fedra i feddwl amdano lle y byddai’n hwyl bod yn erbyn gelyn digystadleuol ydi mewn rhyfel, neu o bosibl drafftiau achos am ryw reswm dwi BYTH yn ennill drafftiau. Dwi’n siŵr o waelod calon mai’r tro diwethaf i mi ennill gêm o’r bastad gêm honno oedd flynyddoedd yn ôl yn erbyn Nain, sydd, er gwaethaf aflwyddiant cyffredinol fy mywyd, yn gyflawniad digon pitw.

lunedì, aprile 06, 2009

Colomennod

Cenhadon budreddi
Ffieiddiaid yr Wybren
Adar Annwn

Uchod mae rhai o’r enwau dwi’n rhoi i golomennod. Nid colmennod y wlad, wrth gwrs, ond colomennod dinesig a threfol. Dyma chi anifeiliaid afiach.

Fel un anaeddfed bydda i’n hoffi taro fy nhroed i lawr neu neindio ar ôl un o bryd i’w gilydd i gael gwared ohonyn nhw, er nad oes gan golomennod fawr o ofn ohono i. Ddaru mi boeri ar golomen unwaith, a oedd yn hwyl achos doedd dim ots ganddi, ond parhaodd i sefyll yno efo saleifa yn hongian o’i hadain.

Wythnos diwethaf mi welais rywbeth arall a drodd arnaf, sef colomen yn bwyta sigaret. Wn i ddim amdanoch chi, ond dydi hynny ddim yn iawn i mi. Nid o ran byd dynion yn tarfu ar drefn naturiol natur eithr pa fath o ffieiddbeth a fyddai isio bwyta sigaret yn y lle cynta?

Yr ateb ydi’r golomen. Hen aderyn budur ydyw.

giovedì, aprile 02, 2009

Arolwg barn bonigrybwyll arall gan Beaufort

Mae Beaufort Research, ar ran Plaid Cymru, wedi cyhoeddi arolwg barn arall ar fwriad pleidleisio’r Cymry.

Mi soniais am hyn beth amser yn ôl pan gyhoeddwyd yr arolwg diwethaf, ac mae eraill wedi gwneud yr un fath. Dydi’r rhain jyst ddim yn ddibynadwy a phan fydd ambell un yn ceisio eu clodfori, rowlio’n llgada wna i. Er enghraifft, mae’n honni pe cynhelid etholiad cyffredinol yng Nghymru heddiw mai +1% y byddai’r Torïaid a Llafur yn –2%; o ystyried yr hinsawdd wleidyddol oes rhywun call yn fodlon credu mai dyna fyddai’n digwydd, hyd yn oed yng Nghymru?

Yn ogystal â hynny mae’n anodd gen i gredu y byddai pleidlais y blaid Lafur yn cynyddu mewn etholiad Cynulliad, er y gellid dadlau nad hawdd yw dyfalu beth fyddai’n digwydd i’r Ceidwadwyr o ystyried eu hanffawd diweddar yn y Bae.

Dwi ddim ychwaith o’r farn bod Plaid Cymru eto wedi ail-gyrraedd lefelau ’99 fel yr awgrymir – dwi’n mwy na bodlon beio IWJ am hynny hefyd. O droi ei hun yn wleidydd trawiadol yn ymgyrch ’07 a’r trafodaethau dilynol mae o wedi syrthio’n ddirfawr yn fy meddwl i erbyn hyn, ac mae’n rhaid i rywun synfyfyrio am ba hyd y gall ddal ati i ddiystyru barn aelodau ei blaid ei hun.

Gall y Blaid o dan arweinyddiaeth IWJ yn 2011 gael siom enfawr, ond mae dwy flynedd tan hynny, dwy flynedd, gobeithio, lle y gellid ymwared ar Ieuan Wyn Jones. Cawn weld. Dwi’n argyhoeddedig na welir ailadrodd o berfformiad 1999 y blaid gyda hwn wrth y llyw.

Yn ôl at y pôl, wn i ddim pa ddull o arolygu a ddefnyddiodd Beaufort ond mae’n anodd gen i gredu ei fod yn fwy cywir na’r dulliau blaenorol a ddefnyddiwyd ganddynt – fyddai’n awgrymu bod yr arolwg yn anghywir. Oni fyddai’n fwy o les i Blaid Cymru, a gwleidyddiaeth yng Nghymru yn gyffredinol, pe mabwysedid dull Cymreig o gynnal arolygon barn? Hoffwn weld pwy a holwyd fesul grwpiau, jyst er diddordeb.

mercoledì, aprile 01, 2009

600fed post y blog newydd - Pasteion

Brwydr fawr y meddwl ydi’r frwydr honno rhwng y cydwybod a’r awydd; y rhyfel parhaus rhwng gwneud yr hyn yr hoffech ei wneud, a’r hyn y dylech ei wneud. Er ei fod yn bosibl mai basdad tew ydw i.

Byddaf, mi fyddaf yn licio bwyd da ond chewch chi’m gwell na chlamp o drawiad calon mewn pastai a elwir yn Greggs. Na, does dim ots gen i fod y cynnyrch yn rhad, sydd yn debygol iawn yn deillio o anifeiliaid y’u camdriniwyd a bwyd wedi’i brosesu (ffwc ots gen i am ffwcin iâr) – mae rhywbeth blasus am lai na phunt yn beth digon anodd ei ganfod ac mi fanteisiaf arno bob cyfle a gawn.

Er mi wnes arbrofi ddoe. Nid yn anaml yr af i Greggs, AR ÔL cael fy nghinio, am rywbeth bach i’w fyta. Tai’m i gyffwrdd ar y cacennau, er bryd hynny yr hoffwn fod yn ‘berson cacan’, sef rhywun sy’n hoffi cacennau ac nid clamp o sbwnjbeth waeth i mi egluro. Angelcake fyddwn i, debyg, tawn i’n ‘berson cacan’ yn llythrennol, ond ta waeth am y bolycs ‘na. Mi fydda i’n hoff o bastai, a bob tro bron yn mynd am y chicken bake.

Rŵan, fel gwybodusyn o’r radd flaenaf gwn nad yr iachaf o fwyd y byd mohono, ond dydi bwyd iach fel rheol ddim yn flasus, ac mae pobl sy’n treulio’u bywydau’n ddi-gig gan lyncu hadau ac afocados yn bur aml yn bethau bach tila, gwelw eu gwedd sy’n mynd i gaffis masnach deg, ond dwi’n mwydro fy rhagfarn rŵan. Ta waeth, abrofais, gan archebu bake gwahanol efo caws, selsig a bîns.

Peth blasus ydoedd, fedr neb ddadlau, ond weithiau mi gaiff rhywun rywbeth sy’n BLASU yn afiachus, er ei fod yn taro’r sbot, ac neno’r tad petawn wedi cael strôc yn y fan a’r lle nid a synnwn.

Dwi’m yn ymddiried mewn unrhyw un sy’n dweud bod hyn a’r llall yn dda neu’n ddrwg i chdi, beth bynnag. Dwi’n siŵr i mi ddarllen mewn papur newydd yn ystod yr un wythnos o yfed gwin coch bod fy nghyfle o gael cancr yn uwch, ac wedyn ei fod yn lleihau ar clefyd y galon. Yn ddisymwth braidd hefyd mae wy bod diwrnod yn dda i chdi ar ôl bod yn ‘ormodedd’ am hanner canrif. Byd bach gwirion ydyn ni’n byw ynddo de.