martedì, maggio 16, 2006

Arthrotec 50

Wedi cael digon o boen mi es i i'r doctors bora 'ma. Bues i'n disgwyl am ddwyawr cyn iddo fy ngweld i, yn gorfod dioddef y wirdos eraill oedd yn y man aros. Y gwaethaf oedd y babi bach Siapaneaidd 'ma oedd yn crio a chrio a minnau bron a marw isho'i dagu go iawn. Oedd o'n swnio fel un o'r teganau yna mae cwn yn chwarae efo sy'n gwichian. Afiach. Mae crio babanod yn mynd drwyddaf i fel gwynt main. Diolch i Dduw aeth y bastad bach i mewn yn o fuan.

Iawn Doctor be ga'i i'r hen arennau, meddaf i. Cefn chdi sy'n brifo, medda fo, dos i cemist a chael jel i dy gefn ac Arthrotec 50. Dydi doctoriaid yn gwybod dim byd, achos fy arennau i sy'n brifo a nid fy nghefn, ond wedi dwyawr o ddisgwyl doeddwn i'm am ddadlau.

Dydi'r cyffur Arthrotec 50 (Athrotec fysa'n addasach. Ha ha.) ddim yn argoeli'n dda chwaith. Mae'n rhestru rhai o'r side-effects posib fel:
  • Diahorrea
  • Poen yn bol
  • Angen byrpio
  • Colli pwysau
  • Teimlo'n chwil
  • Problemau gyda'r iau a'r arennau (sydd ddim yn dda o gwbl, nadi?)
  • Chwyddo'r tafod
  • Digalondid
  • Colled gwallt

Felly fydd dim ots os y bydda i'n foel, dipresd ac yn byrpio fel broga ar hyd a lled City Road achos fydd fy nghefn i'n teimlo'n well. Er dydi 'nghefn i ddim yn brifo. Fy arennau i sydd yn brifo. Fyddwn i well doctor, wir.

6 commenti:

Wierdo ha detto...

Dwyt ti ddim eisiau bod yn athro? Ma dy agwedd at blant yn wych :P

Mari ha detto...

Druan ohona ti, Hogyn o Rachub. Dyma linc i ti efo ecsyrsaisus jentl ar gyfer poen cefn :D

Huw Psych ha detto...

O leia y bydda chdi'n colli pwysa!

Er fydda ti ddim mor cydli wedyn!!Lol

Huw Psych ha detto...

O leia y bydda chdi'n colli pwysa!

Er fydda ti ddim mor cydli wedyn!!Lol

Huw Psych ha detto...

O leia y bydda chdi'n colli pwysa!

Er fydda ti ddim mor cydli wedyn!!Lol

Hogyn o Rachub ha detto...

Ond dw i dal isho bod yn cydli :(!