giovedì, maggio 24, 2007

Dicter

Wel, dw i’n flin. Dim efo chi, peidiwch â phoeni; fy meddwl sy’n drysu’n llwyr dros dai (rhywle i fyw, nid Llanilar). Dydi’r un arall ‘ma ddim cweit oddi ar y cardiau, ond os daw at y gwaethaf wn i ddim be’ i wneud o gwbl.

Fe drown i at newyddion mwy calonogol ond does dim, fel mae’n siŵr y gallwch ddychmygu. Dw i’m ‘di bod fi fy hun ers nos Wener, ac mae’n siŵr na hoffech chi glywed mwy am bobl Metro neu Lidl. A gallwn i ddim siarad am neithiwr achos dw i byth ‘di bod mwy bord yn fy mywyd, yn cael fy ngorfodi i wylio Property Ladder, na wnaeth dim i mi ond am wneud i mi feddwl am fy sefyllfa bresennol yn galetach.


Daeth y nos i ben wrth i mi ac Ellen fynd drwy focs cyfan o fisgedi amrywiol Sainsburys efo’n gilydd, o’i ddechrau i’w ddiwedd. Mi benderfynais i mai bourbons efo’r hufen gwyn oedd y gorau.

Yn ogystal mae'r tywydd yma'n afiach a dw i'n cyrraedd y gwaith sawl haen yn fwy trwchus bob dydd. Iw.

mercoledì, maggio 23, 2007

Tro arall am y gwaethaf

Shit, yr ail tro am gartref wedi chwalu'n rhacs. Tua mis s'gen i rwan i gael rhywle. Dw i'n gorwedd mewn cachu ac ddim yn ei hoffi'r un iot.

martedì, maggio 22, 2007

Penderfyniad

Heliw blodau! Ar ôl nos Wener roeddwn i dal i deimlo’n sâl hyd ddoe, ond dw i’n teimlo’n well o lawer erbyn hyn. O ran fy salwch mae dau bosibilrwydd; y cyntaf yw y cefais fy sbeicio, a’r ail yw y cefais damaid o wenwyno alcohol. O ystyried na allwn i fyth ddychmygu neb yn fy sbeicio i er mwyn fy amharu mewn amryw ffyrdd, mi fentraf mai’r ail yw’r cynnig gorau.

Dw i rhwng mynd adref y penwythnos hwn ai peidio. Mae ‘na flys am y gogledd gen i, a gallwn i ddim meddwl le gwell na Bethesda am ŵyl y banc, ond eto mae’n drafferth fawr a ‘sneb isio mynd i bysgota efo fi felly peryg mai Caerdydd fydd â’r fraint o’m presenoldeb. Druan.

Allwn i ddim aros, cofiwch, pethau i’w gwneud.

sabato, maggio 19, 2007

Fy haeddiant

Mi chwydish ar lawr fy stafell neithiwr wedi i mi wneud tit llwyr llwyr hollol o'n hun o flaen pawb yn gwaith. Dw i'n teimlo'n ofnadwy hynod.

giovedì, maggio 17, 2007

Iaith Prydfertha'r Byd. Ffaith.

Gwych a godidog iaith yw’r Gymraeg, yn wahanol i Uzbek sef un o’r ieithoedd a seliodd Tolkien yr Iaith Ddu arni. Ond rydym ninnau’n ddedwydd o wybod y ffaith glir mai nyni’r Cymry sy’n berchen ar iaith brydferthaf y byd. Nid barn mohoni, eithr ffaith. Yn fy marn i.

Serch hynny, mae dwy ochr i’r Gymraeg modern: y Gymraeg ffynci, modern a bachog, a’r Gymraeg llwydaidd, slafaidd sydd hefyd yn amlwg.

Wele enghreifftiau o’r cyntaf: ffôn lôn, sy’n fachog iawn, a plisgwisg, sef gair dw i’n hoff iawn ohono ond dw i’m yn meddwl fy mod i erioed wedi ei ddefnyddio. Ac mae ‘na rhywbeth ynghylch ffrwchnedd, oni bai nad ydyw’n bodoli mewn difri. Mae hyd yn oed elfen o hynny yn microdon, cyfrifiadur a chyfrifiannell.

Wele’r ail set: breg-ddawnsio (breakdancing), sef y math o air sy’n gwneud i’r Gymraeg swnio fel pe na bai’n gallu cowpio â’r byd modern, neu ffôn symudol, sy’n air diddychymyg a diflas. Mae’n swnio’n rhy ymarferol i fod yn Gymraeg.

Erfyn ar bawb ydw i, os oes rhaid gwneud enwau newydd i’r Gymraeg, peidiwch ag amharu ar brydferthwch yr iaith drwy ddod fyny â geiriau ofnadwy, robotig a hyll.

Breg-ddawnsio. Hm. Unrhyw eraill awgrymiadau?

mercoledì, maggio 16, 2007

Fy Mhrotest

Iawn hogs? Does gen i fawr o fwrlwm i’w adrodd, oni bai fy mod i’n deffro cyn y larwm bron bob bore erbyn hyn. Aeth Haydn ac Ellen allan am jog neithiwr, ac wedi iddynt fynd a minnau llwyddo meistroli fy chwerthin mi es am sbin yn y car.

Hawdd o beth gwneud hynny adref. Mae ‘na ddigon o lefydd i weld, digon o bethau i’w gwerthfawrogi. Ddiweddish i fyny wrth dafarn o’r enw ‘The Pineapple’, a throi fy nhrwyn arno cyn cychwyn am adref drachefn.

Tai’m licio’r bolycs cadw’n ffit ‘ma. Dw i ‘di hen benderfynu na wnaf i fyth ymgymryd yn y ffasiwn wast o amser, ac mi gaiff llu o afiechydon ddyfod ataf a newidiwn i mo fy marn. Dw i ddim yn gweld pwynt y peth. Dw i ddim angen gallu rhedeg. Dw i ddim angen codi pwysau; dw i’n eistedd o flaen cyfrifiadur drwy’r dydd. A dydw i ddim isio colli pwysau - a does ‘run peth yn y byd sy’n ysgogi i mi wneud hynny. Mae cyhyrau i bobl sydd eu hangen, ac mae sicspacs yn ffrici (na, seriws, allwn i ddim meddwl am ddim llai deniadol. Anemia, bosib).

Felly mi wnaf brotest. Pob tro y clywaf am rywun yn mynd am jog, mi yfaf, ac i bob ymweliad â’r gampfa mi smygaf, ac mi fwytâf sglodion a lard yn llu pan welaf salad ffrwythau. Byddwch hapus â’r hyn yr ydych (oni bai eich bod chi’n rili hyll a thew neu'n dod o'r Rhondda).

Pwy a saif gyda mi?

martedì, maggio 15, 2007

Ymweliad â'r Gorffenol(ish)

Dw i newydd fod yn Undeb y Myfyrwyr. Gad i mi unioni’r sgôr cyn mynd ymlaen: gas gen i’r lle. Gas gen i’r Taf, gas gen i Solus, gas gen i’r adeilad. Mi es i’r siop yno rŵan, a phrynu potel o Lucozade Sport - Body Fuel (yn anad dim y ddiod sy’n fy ngweddu orau) a sylweddoli pa mor ddrud ydi’r blydi lle. Sut y mae myfyrwyr yn fforddio mynd yno wyddwn i ddim. Ond byddwn i ddim yn gwybod am nad es i yno fyth.

Cofio fi’n fyfyriwr? Oeddwn, un da nad astudiodd fyth a llwyddodd i gwblhau ei radd serch hynny. Un felly y byddaf, yn mynd drwy fywyd yn llithro o le i le, o fan i fan. Chredwn i ddim y gallaf newid; does pwynt i’r fath feddylfryd yn fy llyfryn i (sy’n bitw â’i meingefn yn chwâl), mae popeth dw i isio gennyf, oni bai am dŷ a thystysgrif marwolaeth Dyfed.


Mae pryniad y tŷ yn mynd drwy’r camau yn awr, o beth ydw i’n ei ddeall. Ond mae’r byd yn dal i fynd yn ei flaen, a minnau’n heneiddio. Rhyfedd sut y mae amser yn mynd yn ei flaen pan ydych chi’n heneiddio; mae’r blynyddoedd yn hedfan heibio, megis pengwin. Ar awyren. Bosib.

lunedì, maggio 14, 2007

Cymysg a difflach benwythnos

Fe ddaeth ataf ba beth yr hoffwn gwyno yn ei chylch wythnos ddiwethaf, a pheth bach ydoedd ond ni aiff i ffwrdd nes fy mod wedi’i chyhoeddi. Gormodedd o’r gair ‘blustery’ ar y tywydd, a hithau’n wyntog, yn de.

Difflach fu’r penwythnos, ond llwyddwyd rhoi cynnig lawr am y tŷ, ac fe’i derbyniwyd. Ro’n i’n fy ngwely nos Sadwrn yn llawn arswyd a braw yn hytrach na chyffro. Cam mawr i ddyn byr, yn wir.

Mi wyliem yr Eurovision nos Sadwrn. Elton John a’r Wcráin oedd orau, yn fy marn i, a chwarddais yn hunanfodlon hynod wrth weld Prydain yn plymio i’r iselfannau. Chefnogwn i mo Phrydain fyth, mewn nag Olympics na chystadleuaeth canu. Wedi’r cyfan, Cymro o gennin a chig oed wyf fi.

sabato, maggio 12, 2007

Hunan-dadansoddiad darogan canlyniadau

Oeddwn i jyst yn edrych dros fy narogan am y Cynulliad, a dyma rai pethau y ges i'n iawn a dw i bron yn synnu fy mod i wedi...

  • Bro Morgannwg (LLAF) – Ceidwadwyr yn agosáu
  • Canol Caerdydd (DEM RHYDD) – gyda mwyafrif ((cryn dipyn yn)) llai
  • Castell-nedd (LLAF) – bydd Plaid yn lleihau mwyafrif Llafur yma a bydd hi’n gymharol agos
  • Ceredigion (PC) – a bod yn onest, dw i’n gweld Elin Jones yn cadw’r sedd yn gymharol hawdd
  • Dwyfor Meirionnydd (PC) – nid yn unig yn ddiogel i’r Blaid ond hwn bydd sedd mwyaf diogel Cymru
  • Gogledd Caerdydd (CEID) – un gweddol hawdd i’r Ceidwadwyr
  • Maldwyn (DEM RHYDD) – bydd y mwyafrif Rhyddfrydol yma’n llai o lawer

Y seddau (nifer go iawn)
Llafur 25 (26)
PC 16 (15)
Ceidwadwyr 12 (CYWIR!)
Dem Rhydd 5 (6)
Eraill 2 (1)


Dim yn ddrwg o gwbl! Gwell i Gareth Wales Decides wylio'i swydd...!

giovedì, maggio 10, 2007

Ystadegau

Am dridiau dw i wedi bod isio cwyno am rhywbeth ar y blog ‘ma, ac am dridiau dw i wedi anghofio. Nid pobl Metro, fy ffrindiau na gwleidyddiaeth mohono, ond mae’n mynd ar fy nerfau. Nid myfyrwyr, na theulu nac arferion cythryblus eraill sy’n dwyn fy mryd, na’r tywydd na bwyd na phwysau bywyd arnaf.

Sut bynnag, dw i’n hoff o ystadegau, a sut mae pobl yn cyrraedd blogiau (nid f’un i yn nuig). Blwyddyn yn ôl, roedd 38% o’r pobl oedd yn cyrraedd fy mlog (o beiriant chwilio) yn ysgrifennu ‘Rachub’ i mewn, a 30% yn ysgrifennu ‘hogyn’, sy’n rhoi cyfanswm o dros dwy ran o dair i ‘Hogyn o Rachub’ mi dybiaf.

Nid felly heddiw. Mae Rachub ar 19% a Hogyn ar 14% - sef tua thraean rhyngddynt. Wedi saethu i fyny’r rhestr mae ‘gibbon’ ar 11%, a ‘Little’ a ‘Mermaid’ ar 6% rhyngddynt. Mae fy mhryderu pa fath o bobl dw i’n eu denu yma. Pwy ar wyneb y ddaear sydd isio dysgu am gibbons neu’r Little Mermaid?

Oes gan unrhyw arall stori o bobl od yn dod o hyd i’w blog?


Ond na, mae’r cŵyn wedi mynd, ac un da y bu. Bydda’ i’n ôl os y’i cofiaf, peidiwch â phoeni. Wedi’r cyfan, rydych chi’r un mor bôrd a fi yn y bôn.

mercoledì, maggio 09, 2007

Sainsburys

Henffych!

Duwadd mai’n ddiwrnod annifyr. Tai’m licio’r tywydd annifyr, a tai’m licio’r tywydd braf. Ond does ots, mae’r tywydd yn un o’r pethau hynny nad oes dylanwad gennyf drosto. Tasa gen i, maei’n debyg y byddai’n bwrw eira cryn dipyn yn fwy, yn glawio pan fo Ellen yn cerdded o gwaith, yn heulog pan fy mod eisiau hufen iâ, ac yn fellt a tharannau ar Dyfed hyd Ddydd y Farn (sydd ddydd Gwener, gyda llaw).

Aethom ni, Y Tŷ, i Sainbury’s neithiwr, i siopa, fel y byddem yn gwneud o bryd i’w gilydd. Mae holl gasineb a sbeit ein heneidiau duon yn llifo yn ystod y daith hon. Ffraeo, yn hawdd, yw chwaraeon cenedlaethol ein cartref, a dyma’r Olympics. Rhwysut, yn ystod yr awr o siopa, ac wn i ddim pam, rydym ni’n mynd yn stressed hynod ac yn ffraeo, yn bennaf yn y car pan fo rhaid inni fod mor agos i’n gilydd, un ai yn fy nghar bach araf i (0 – 60 mewn mis), car drewllyd echrydus Haydn (ni ŵyr neb o le daw yr oglau, ond mae’n troi fy stumog i) neu beiriant tun Sardîns Ellen (na aiff ymhellach na Threganna heb dorri i lawr).

Mi brynish frythyll a chaws a bara brown, a theimlo’n wladaidd iawn wrth wneud. Prynodd Ellen hithau greision i fynd efo dip (creision, nid tortillas) a sbigoglys, ac Haydn ef nis gwn, ond os nad hanner cynnwys caffi Ramons ydoedd saethwch fi a’m claddu ar dir sanctaidd.

Mi af yn awr, ffyddlon ddarllenwyr (munud mae lecsiwn drosodd ‘sneb yn darllen y bradwyr – ewch i fan arall am eich thrills pleidleisiol).

martedì, maggio 08, 2007

Amrywiol benwythnos

“Bu’r Cymro yn cerdded y llwybrau cynefin drwy’r oesau…”

Wel ddaru mi ddim.

Serch hynny, bu imi eto fwynhau fy mhenwythnos. Mae hi wedi bod yn sbel ers imi gael ‘noson ddrwg allan’ felly bydd hwnnw’n dyfod yn o fuan mi dybiaf. Es i go-kartio ddydd Sadwrn eto ac roeddwn i gryn dipyn yn well y tro hwn (gwell na Owain Ne, beth bynnag. Bodlon oeddwn â hyn, nis gwadaf.) nod dim gwell ar ddal fy niod nos Sadwrn a drachefn chofiwn i fawr o ddim yn Clwb Ifor.

Hiraethais am Ddyffryn Ogwen ddydd Sul, a hithau’n ŵyl y banc. Does unman arall yr hoffwn fod yno’n fwy, ac â bod yn onest dydi Caerdydd fawr o gop ar nos Sul, heb sôn am nos Sul gŵyl y banc, ac roeddwn i wedi blino, ond yn mwynhau clywed y cafodd Ceren freuddwyd am nionod. Sbeitio bwydlenni a dirmygu cyn-ddisgyblion Rhydfelen oedd fy hanes.

Mae Gŵyl y Banc ei hun yn ddiflas hynod o ddiwrnod. Does gan rywun ddim byd i’w wneud, oni bai bod gennych chi swydd gachu a bod yn rhaid i chi weithio. Na, aros yn y tŷ a wnes o fore i’r hwyrnos, yn pwdu fy mod i rhywsut wedi llwyddo torri Windows Media Player heb unrhyw ymdrech i wneud hynny, a synfyfyrio pam mai y fi yw’r unig un o drigolion y byd sydd â chymaint o gariad at wyau ond anallu llwyr eu coginio.

Cogydd o fri dw i, fel yr ydwyf wedi ymadrodd droeon fan hyn, ond pan ddaw at ferwi wy, dydi hi ddim yn coginio neu mai’n gor-goginio; mae wy wedi’i photsian rhywsut yn llwyddo ewynnu a bydd wy wedi ffrio yn sticio i waelod y badell, waeth pa mor swmpus cyfran yr olew ynddo.

Strach i strach yw bywyd, heb na haul na golau dydd dedwyddwch ynddo, oni bai eich bod chi fel fi yn eithaf hoff o gnebrwng da a chwerthin ar bobl gyda chlefyd gwair gwaeth na mi.

venerdì, maggio 04, 2007

Gif yp, cwsg, Boost, blaaah

Dyna ni. Mai’n gif yp arna’ i. Dw i yn strachu cadw fy llygaid wedi agor (newydd sylwi ar hwn. 'Ar agor' oeddwn i'n feddwl - ffacin gradd papur toiled da i ddim uffern). DWYAWR o gwsg! Dydi hyd yn oed Lucozade a Boost heb roi, wel, boost i mi. Ac am ryw reswm mae fy mraich dde i’n brifo. Efallai fy mod i wedi cysgu ar y remôt.

Mi ddarllenais stori ar wefan y BBC am Rose yr Afr a briodwyd gan ddyn; bu iddi farw yn gadael plentyn a gŵr dynol (Lowri Dwd, mae hyn mor debyg i sut bydd dy fywyd di dyw rhywun methu dweud digon). Roedd yr afr yn edrych ychydig dan oed i mi. Sut oedd ganddynt blentyn, actiwli? Be ‘di enw’r pethau Groegaidd mytholegol hanner-gafr hanner-dyn ‘na (Kath Jones hah!)?

A ddyweda’ i rywbeth arall i chi dw i ar Facebook a Bebo ac yn hapus iawn yno diolch yn fawr iawn i chi am eich consyrn. Ond be ddiawl di’r dîl efo pobl yn rhoi lluniau ohonyn nhw’u hunain yn ifanc neu’n fabanod i fyny? Ydyn nhw go iawn yn meddwl eu bod nhw’n ciwt; achos mi ddyweda’ i wrthoch chi, dydyn nhw ddim. Neu, gwaeth fyth, a ydynt mor hyll fel nad ellir dangos i’r byd erchyllter llawn eu hwynebau afluniaidd, sâl? [Ebe fi, sydd â darlun South Park ohonof ar y Facebook yn lle llun. Ond yn wahanol i un pawb arall, mae hwnnw’n debyg iawn i mi. Gofynnwch i unrhyw un sy’n f’adnabod “ydi hwnnw’n edrych fatha fo?” ac mi atebant “ydyw, yn ddi-os”]

Dw i’n benderfynol o aros yn effro i weld saith o’r gloch, ac wedyn mi ganiatâf i fy hun gysgu. Fedra’ i ddim mynd allan heno, neu gelain a fyddwyf, a dyna fyddai colled i’r byd blogio.

Peidiwch â’i gwadu.


Ffac, oedd y cwyn yna’n teimlo’n well na gwleidydda. Croeso’n ôl, Hogyn o Rachub, croeso’n ôl.

Dadansoddiad

Wel. Noson hwyr neithiwr a dw i’n dioddef heddiw yn ofnadwy wedi cysgu dwyawr. Dyma sut ydw i am ddadansoddi’r nos:

Llafur
Da: 26 sedd a hwythau mewn meltdown, a llwyddo dal eu seddau er y bleidlais. Fe ddylai Llafur fod yn hapus iawn bore ‘ma. Canlyniad yn Wrecsam yn un dda.
Drwg: Canran isaf o’r bleidlais ers Duw â ŵyr pryd yng Nghymru, ac ambell i berfformiad gwan iawn yn Llanelli neu Gasnewydd.

Ceidwadwyr
Da: Nifer eu etholaethau yn saethu fyny, sy’n addawol iawn ar gyfer yr etholiad cyffredinol. Yn ogystal, maen nhw’n ail agos mewn sawl sedd rwan, ac mae ganddynt le mawr i adeiladu yr berfformiad neithiwr yn 2011.
Drwg: Er gwaetha’r brolio, llwyddon nhw ddim ddod yn ail o ran seddau, ac mae neithiwr wedi profi y bydd y system bleidleisio yn ei gwneud yn anodd iawn iddynt wneud hynny fyth.

Plaid Cymru:
Da: Cynyddu y rhan fwyaf o’u mwyafrifoedd presennol, Ceredigion yn diogel iawn, a Llanelli yn ganlyniad gwych.
Drwg: Llwyddon nhw ddim fentro y tu allan i’w cadarnleoedd, ac ar sail canlyniadau’r Cymoedd yn barod dydi hi ddim yn edrych eu bod nhw’n barod i wneud, a byddan nhw ddim yn 2011.

Democratiaid Rhyddfrydol:
Da: Dod yn agos mewn ambell i sedd, a chael canlyniadau calonogol mewn llefydd fel Abertwe, Casnewydd a Phontypridd.
Drwg: Llwyddon nhw ddim yn eu prif targed, Ceredigion, o bell ffordd, a dydi Maldwyn ddim yn edrych yn ddiogel iawn. Pleidlais mewn sawl rhan o Gymru yn isel tu hwnt.

Felly dyna fy marn i. Mi af yn ôl yn awr i flogio anwleidyddol nes yr etholiad nesaf. Dw i’n teimlo’n eithaf, wel, fflat, ar y cyfan.

Diolch i bawb ddarllennodd y blog byw neithiwr (ac i Blamerbell am y plygs di-ri...!). Dw i'm yn meddwl y gwnaf i hynny eto oni bai fod diwrnod ffwr' o'r gwaith gen i!

giovedì, maggio 03, 2007

BLOG BYW: LECSIWN 2007

3:36: Reit, dw i'm mynd i'r gwely. Nai'm cysgu mwy na thebyg, ond mae'n bryd mynd. Er Llanelli a Cheredigion dw i'm yn teimlo'n llawn iawn. Rhyw deimlo ydw i nad ydym ni am wneud cystal ag oeddem ni'n credu y byddem, er gwaethaf chwaliad y bleidlais Lafur.
Chwerwfelys. Gobeithiaf y deffroaf i ganlyniadau ychydig mwy calonogol. (Ydw i'n gofyn gormod?)
**************************************
3:30: Ceredigion wedi'i gadw yn lot haws na'r disgwyl. Da iawn, Elin!
Dw i'n clywed Llanelli wrth sgwennu hwn....yyyyych nerfs....HMJ dros 13000....CEFN Y FFWCIN RHWYD HELEN!!
**************************************
3:25: Dw i'n meddwl mai fi di'r unig berson yn y byd nath ddarogan y byddai 'na swing i Lafur yng Nghanol Caerdydd! Sgroliwch lawr. Udish i, do?
**************************************
3:14: Dwyfor Meirionnydd yn predictable iawn, ond roedd Caerffili yn uffernol o siomedig. Er popeth, dydi popeth ddim yn fel i gyd heno i Blaid Cymru!!
**************************************
3:00: Plaid yn cadw Arfon. Caru Arfon.
**************************************
2:57: Calyniad sobor o wael i Blaid Cymru yng Ngorllewin Abertawe ac ym Mhontypridd. Wedi chwalu fy hwyliau cryn dipyn y ddau!
**************************************
2:39: Mae Vaughan wedi rhoi'r chwarddiad cyntaf drwy'r nos i mi drwy fynd drwy enwau rhai o ymgeiswyr y Ceidwadwyr.
Dw i'm wedi cael mensh ar y teledu o'r blaen ers imi gael cyfweliad ar Hacio yn ymwneud a phensiynau. Be ddiawl mae hogyn 22 mlwydd oed yn fod i wybod am bensiynau? Dw i'm yn planio byw hynna faint o hir (yn enwedig efo lot mwy o nosweithiau fel hyn).
**************************************
2:25: Chi'n gwybod, dw i byth wedi gweld y gegin amser yma o'r bore yn sobor.
**************************************
2:14: Blaenau Gwent. Trish Law dal i mewn. Tai'm deud clwydda; dw i'n eitha bodlon.
**************************************
2:00: Islwyn. Anniddorol. Blydi hel mae'r ymgeiswyr yn hyll.
**************************************
1:56: PWY OEDD Y PRAT OEDD YN MEDDWL BYDDAI LLANELLI YN CAEL EI ALW ERBYN UN O'R GLOCH? MAI'N DDAU A DW I'M YN 'DI GWELD DIM OND AM BLEIDLAIS RHANBARTH DYFFRYN CLWYD!
Pwy ddiawl sy'n cyfri'r pleidleisiau? Plant ysgol? Deillion? Huw Ceredig?
**************************************
1:46: O mai God mae hyn yn boring. Mae Llandudno yn edrych yn ded (er, chwarae teg, mai'n chwarter i un yn y bora). Bechod ar Alun Pugh ar strydoedd Bae Colwyn am ddeg y bore 'ma, a fynta'n mynd. A Mike German, bosib?
Yr unig beth sy'n cadw fi i fynd ydi'r blog 'ma erbyn hyn. Mae fy nghorff yn diffygio - er, ddim cweit cymaint ag y mae'r bleidlais Lafur HAH!
Ych, mae'n anodd bod yn ffraeth ar yr adeg hwn o'r dydd. Damia'r nifer sy'n pleidleisio ychydig yn uwch 'ma!
**************************************
1:31: Llafur yn poeni yn Islwyn ebe Vaughan ar ei flog; ond wn i ddim i bwy? Mae'n braf iawn gweld Llafur yn toddi - dydi o'm mwy na maen nhw'n ei haeddu ar ol degawdau o'n camrheoli.
Mike German am golli'i sedd debyg. Er nad ydw i'n licio'r Lib Dems, dw i'n rhy fath o licio Mike German.
Methu disgwyl i Bethan Jenkins cael ei hethol. Beth gwell na golwg del a meddwl genedlaetholgar?
**************************************
1:08: Dw i mor flinedig rwan. Dewch a llwyth o ganlyniad i mi plis! Roeddwn i wedi cynllunio cael mbach o gaws a chracyrs ond 'sgen i ddim blydi mynadd codi.
Dw i yn hoff o wallt Dewi Llwyd heno; er fe fyddai'n edrych yn ddoniol iawn am ben Vaughan Roderick. Aberthwn i holl seddau Plaid Cymru i weld hynny.
Er fy mod yn fodlon iawn rwan, mae'r Ceidwadwyr i'w gweld yn gwneud yn sgeri o dda. Oes 'na bosibilrwydd o'r ail safle iddynt?
**************************************
00:55: Dim fo yn San Steffan 'di boi chwaraeon S4C?
Welshi i o'n Clwb Ifor unwaith dw i'n meddwl.
**************************************
00:44: Elin Jones yn edrych yn ddiogel yng Ngheredigion medda' nhw. Mae hwn yn troi yn noson dda. Gobeitho bydd yr hen Ieuan yn iawn, neu mi fydda i'n drist braidd, a minnau wedi dod i'w licio. Ond mae gen i o hyd gwallt cryn dipyn neisiach.
**************************************
00:41: LLAFUR YN COLLI YN LLANELLI. Pan ddarllenish i hwnnw ar flog Vaughan Roderick nesi gwasgu fy nyrnau a hanner-dod, hanner-meddwlfodcymruwedisgoriocais.
HWRE I HELEN!
**************************************
00:20: Mae Rhys newydd tecstio fi yn gofyn i mi "yrru e-bost doniol i Dewi Llwyd".
Be mae Dewi Llwyd yn ffeindio'n ddoniol?
Dw i'n tynnu'n ol bod Plaid am neud yn dda yn Merthyr. Teimlo'n sili rwan. O flaen y genedl. Mwah.
**************************************
00:17: Ai fi ydio neu ydi Syr Dai Llewellyn yn edrych fel llyffant?
**************************************
00:03: Blydi hel mai'n hanner nos a dw i efo gwaith 'fory! Mae'r aberth dw i'n gwneud i ffigyrau gwylio S4C yn wirion bost, a dywedyd y gwir. Dw i'n teimlo'n hapusach rwan, ond dal yn nerfus hynod. Braf iawn yw gweld Llafur yn dadfeilio fel caws rhad ar hyd a lled y wlad. Dw i 'di penderfynu cadw ymhell i ffwrdd o gyfrij ITV o'r etholiad, yn bennaf oherwydd Gareth, sef yr unig person yng Nghymru sy'n gwybod llai am wleidyddiaeth na fi a Martin Eaglestone. Arbenigwr myn uffern!
A Dewi Llwyd paid a rhoi sylw i Faldwyn. Gas gen i Faldwyn; unwaith dw i'n cyrraedd Powys ar y daith A470 pell dw i'n teimlo fel dw i'n mygu ac na ddihangaf fyth. A phrin fy mod. Iych. Caersws? Ffacin joc.
**************************************
23:48: Vaughan Roderick yn dweud efallai bod Plaid yn ennill yn hawdd yn Arfon. Yn amlwg, roedd fy mhleidlais post yn hanfodol yn y frwydr hon.
Dw i'n dechrau chwysu, fodd bynnag. Can arall o Pepsi bydd hi, debyg. Mi brynais 24 am llai na phumpunt o Lidl diwrnod o'r blaen, jyst er mwyn cadw'n effro heno (celwydd).
**************************************
23:40: Gweld Helen Mary Jones ar S4C rwan. Dydi hi ddim yn fy llenwi efo hyder o gwbl. Byddai peidio a chipio Llanelli yn ergyd annifyr iawn i Blaid Cymru, os am ddim mwy o reswm na chael presenoldeb Helen Mary yn y cynulliad.
**************************************
23:34: Os dw i'n stopio blogio all of a sudden fydd o achos mae'r we 'di torri. Bastad gwe. Eniwe, mae Gareth Jones yn edrych yn binc iawn ar y funud. Dw i'n y gegin yn oer efo dim ond paced o Kettle Crisps i gadw cwmni i mi.
Mae'n rhaid i mi gyfaddef, dw i ddim yr un mor hyderus ag oeddwn i'n gynharach. Nerfau, bosib?
**************************************
22:36: Wedi clywed ambell i si ar S4C yn barod, a bellach dydw i ddim yn llawn hyder. Mae pethau'n agosach o lawer nag oeddwn i wedi amgyffred, debyg. Yr Ynys ddim hynny faint o ddiogel, efallai, a dydi Llanelli heb fy llenwi efo hyder yn y lleiaf.
Dw i am ddechrau crio yn barod, dw i'n meddwl. A dw i'm yn mynd i gwely am pedwar awr a hanner arall!
**************************************
22:12: Dw i'm am ddatgelu fy ffynhonnell, ond aparyntli mae Dafydd Wigley newydd ddweud bod Plaid Cymru am wneud yn well nac erioed o'r blaen...!
**************************************
22.10: Wel, dyna ni. Fydd ‘na ddim mwy o bleidleisiau yn dod i mewn rŵan. Dw i’n nerfus. Mae’n rhaid i Blaid Cymru gwneud yn dda y tro hwn, neu mi fydd hi’n ddiwedd ar genedlaetholdeb yng Nghymru, a dyna fy marn onest i a dyma pam fy mod i’n sach o nerfau.

Dw i’n hyderus am Lanelli ac Ynys Môn; yn pryderu am Arfon a Cheredigion.

Bydd hwn yn noson hir.
**************************************
Dwi bron â thorri fy mol isio dechrau’r gêm lecsiwn fawr ‘ma, felly dyma fi’n dechrau ar fy mlog byw tan tua 3 o’r gloch y bore. Ypdêtio fo bydd yn rhaid drwy’r nos, ac mae’n siŵr ysgrifennaf i ddim tan tua 10.30 rŵan, ond hoffwn i rannu ychydig o’r sibrydion dw i wedi bod yn eu clywed drwy’r dydd gyda chi, er nad ydw i’n honni bod yr un ohonynt yn ddibynadwy yn y lleiaf!

+ Gogledd Caerdydd yn edrych yn addawol i’r Torïaid, ond fe fydd yn agos
+ Mae pethau’n mynd o blaid Plaid Cymru yn Llanelli
+ Mae Ynys Môn yn edrych yn ddiogel i Ieuan Wyn Jones, ond Arfon llai felly i Alun Ffred
+ Mae’n agos yng Ngheredigion
+ Mae Islwyn yn edrych yn addawol i Blaid Cymru, gyda’r Torïaid, o bawb, hefyd yn gwneud yn dda yno (dw i’m yn coelio hyn)
+ Mae si ar led bydd Plaid yn gwneud yn dda yn Nedd, Gorllewin Abertawe ac ym Merthyr
+ Bydd Maldwyn yn hynod o agos rhwng y Toris a’r Rhyddfrydwyr


Rhowch wybod i mi os oes mwy! Mae’r gêm fawr wedi dechrau. Flwyddyn yma hoffwn i fod ar yr ochr sy’n ennill (am blydi unwaith).

I’r gâd, gyfeillion, i’r gâd!

Bôrd

Dw i'n bôrd. Tai'm licio disgwyl fel hyn. Mynd adref, lecsiwn, rwbath Lidl-aidd i de.

Oes gan rywun si etholiadol i mi, neu jyst ryw stori neu ymadrodd difyr i'm cadw ar ddihun?

mercoledì, maggio 02, 2007

Blog byw a Lidlo'i

Wedi bod yn chwilio’r we dw i’n gweld bod ‘na bobl yn gwneud blogio byw ar noson yr etholiad. Gan fy mod i’n aros i fyny, gwaeth i mi wneud hefyd, dw i’n meddwl. Dw i byth wedi blogio’n fyw o’r blaen a dw i’m yn hollol siŵr sut mae gwneud, ond mi ffeindia’ i ffordd. Ond mi fyddai’n fy ngwely erbyn 3. Mae gan rhai ohonom waith, er mae hefyd angen rhai ohonom i amlygu diffygion cosmetic rhai o’r ymgeiswyr a chwyno pa mor boring fydd y noson ar y cyfan a pa mor unig ydw i tra nad yw Dafydd Wigley yn edrych yn unig o gwbl.

Eniwe, ar ôl rant cynnar bore ‘ma mi af ymlaen i ddywed am y Trip i Lidl. Dw i wedi dweud o’r blaen, fel y bydd y selogion yn gwybod, bod Lidl yn un o’m hoff siopau; dw i’n teimlo fel Gary Glitter ar daith o’r Mudiad Ysgolion Meithrin yno. Mae’r dewis yn anhygoel a’r bwyd o safon dda (h.y. nid o Brydain).

Y broblem yw dw i’n mynd ar sbri wario, ac yn prynu pethau nad ydw i wirioneddol eisiau - roedd neithiwr yn cynnwys planhigyn wy a Rice Crackers (mi rof hwnnw i Llinos, mi fwytiff honno rywbeth).

Ma’n ysgwydd i’n brifo ar y blydi gadair ‘ma.

Be ddiawl BBC?

It [Llafur] still expects to be the largest party after Thursday's poll, but the Tories and Lib Dems could gain enough seats to form a ruling coalition, forcing it out of power.
Plaid Cymru also hopes to become the largest opposition group and speculation has been rife about its likely coalition partners.


Dyma mae hi'n dweud ar wefan y BBC, yn ogystal â honni bod gan y Ceidwadwyr 12 sedd yn y Cynulliad, ac ymddengys nad ydynt yn ymwybodol mai Plaid Cymru fu'r wrthblaid swyddogol am y pedair mlynedd diwethaf.

Mae'n peri'r cwestiwn a yw'r BBC yn ganolog efo unrhyw syniad o'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru? Neu, yn hytrach, a oes ots ganddynt?

martedì, maggio 01, 2007

Ieuan Wyn Jones (a phwt bach i Ellen)

Pwt bach i wleidyddiaeth heddiw yn unig, ac i Ieuan Wyn Jones.

Dydw i byth wedi bod yn ffan fawr i Ieuan, mi fedraf i ddweud hynny’n onest. Pob tro y llwyddodd ennill llywyddiaeth y Blaid, bu i mi bleidleisio yn ei erbyn. Byth erioed yr oeddwn i eisiau Ieuan fel arweinydd. Mi af cyn belled â dweud bod ffaeleddau 2003, a 2005 i raddau, yn fai arno i raddau helaeth. A gŵyr pawb nad rhywun i newid fy marn mohonof.

Rhyfedd felly sut y mae mis wedi llwyr drawsnewid fy marn ar Ieuan Wyn Jones. Nid yr arweinydd llipa mohono bellach; mae Ieuan bellach yn wleidydd. O safon. Pan mae o’n siarad, mae’n o’n deall ei bethau, yn ymladd ei gornel ac yn cynnal ei ddadl ag argyhoeddiad. Mae’n dod drosodd fel dyn penderfynol, cydwybodol ac egwyddorol. Dadleuwn i ddim bod ei gyfraniad i garisma yn debyg i gyfraniad Nike i blant bach yn Vietnam, ond pan mae’n siarad mae’n fy argyhoeddi. Dw i’n ei ymddiried, a dyma ddyn dw i’n teimlo sydd eisiau gwneud gwahaniaeth. Yn 2003 pleidleisiais i dros Blaid Cymru. Y tro hwn dw i’n pleidleisio dros Blaid Cymru - ac i Ieuan Wyn Jones.

Roedd hwnnw’n fwy o bwt na thybiais. “Jason dim ond blogio am wleidyddiaeth wyt ti bellach” dywedodd Ellen Angharad i mi heddiw. Ydyw, mae Ellen Angharad yn lleddfu ei diwrnod gan ddarllen fy mlog. Cerddem ninnau’n dŷ heddiw i ganol dref, Ellen, y fi a Haydn, sy’n ŵr blin a chras a’i fryd o hyd ar sglodion a ffa pob (dydi o’m yn darllen fy mlog bellach; mae’n argyhoeddedig nad yw’n haeddu’r abiws y mae’n ei ennyn gennyf. Sy’n wir. Dylai pawb arall cymryd eu siâr o roi abiws iddo).

Felly cerddem dan yr haul. Mae’n ddiwrnod braf, y math o ddiwrnod i fwyta hufen iâ neu brocio pobl dew â mop cyn rhedeg i ffwrdd. Y math o ddiwrnod i orwedd ar laswellt, datgan siâp cymylau a phyrfio’n ddwys ar ba beth bynnag sy’n gwisgo rhywbeth yn uwch na’u pen-glin. Diwrnod i’r brenin, diwrnod i’r Pab, diwrnod i’r cyfieithydd a’r hwsmon (be ddiawl YDI hwsmon? A oes UNRHYW ddiben i’r swydd?).

Dyma restr o swyddi dibwynt:
- hogyn rickshaw
- pedolwr
- rheolwr Spar
- fforiwr Gwyddelig
- brenin
- tyddynwr

lunedì, aprile 30, 2007

Edrych ymlaen i ryw lecsiwn a ryw ballu

Dydd Llun. Diwrnod gwaethaf yr wythnos, pan fydd rhywun yn dychwelyd i’r gwaith efo stamp Clwb Ifor Bach dal ar eu llaw, ond gwallt eithaf neis. Ddaru mi fwynhau’r penwythnos a fu yn eithriadol, fel ac y gwnes i’r un flaenorol. Mae Crôl Canton yn newid bach neis o bryd i’w gilydd (er fy mod i’n rhy hen a rhechlyd i fynd ar bob crôl erbyn hyn, wrth gwrs). Dw i heb fod i’r ardal am sesh ers hydoedd.

Clecs? Oes, digon. Ond rhannwn i mohonynt â chwi, canys anghyson a phrin yw fy nghof wedi wyth o’r gloch. Do, chwydais mewn blodau; do, cerddais i’r Mochyn Du gyda Dyfed (a mwynhau ei benmaenmawr ddydd Sul â diléit); do, es i doiledau’r genod yng Nghlwb Ifor (wn i ddim pam).

Yr wythnos hon byddaf yn dda. Nos Iau, mi fyddaf i fyny tan oriau mân y bore yn gweiddi’n groch dros Blaid Cymru (efo paned a chracyrs a chaws) a mynd i mewn i’r gwaith fore dydd Gwener yn sâl isio cwsg ond yn fodlon oherwydd mi fydd hi’n noson dda. Mae unrhyw noson sy’n cynnwys cracyrs a chaws yn noson dda yn fy marn onest i, gan etholiad ai peidio. Ond bydd cracyrs a chaws a chwymp Llafur yn codi gwên ar fy wyneb sarrug, y bydd yn aros yno am sbel go dda…

venerdì, aprile 27, 2007

Calon Uchel

Dydd Gwener ydyw, gyfeillion! Hwrê! Ni fyddaf allan heno, ond dw i’n benderfynol am all dayer ‘fory waeth pa mor sych a chras fy ngwddf. Ac i gael sesh, a gweled Dyfed yn crio yn ei gwrw nad yw Haydn o gwmpas iddo’i gam-drin. Mae Dyfed yn dyheu am fy mywyd dinesig, cosmopolitan, modern yn hytrach na phuteindod sodomaidd Gwalchmai a’r cylch.

Mi es i dŷ’r genod neithiwr am dro, am y tro cyntaf ers hydoedd, a braf weithiau yw cael tŷ heb Dori na Chardi i’w gweld. Er, mi es yn ddig pan glywais fod rhywun yn ystyried pleidleisio i’r Lib Dems, ac os maent yn darllen, mi dorraf bob cysylltiad â thi os gwnei'r ffasiwn beth (oni bai dy fod gwirioneddol eisiau brwsh dannedd am ddim, wedyn mae’n ddealladwy).

Felly mi gymrais frathiad o facwn Llinos (gan honni â chryn argyhoeddiad mai’r gwynt a wnaeth) cyn sgidadlo adref i weld Pawb a’i Farn, a gweld polau piniwn ffafriol iawn i Blaid Cymru neithiwr a bore ‘ma yn y Western Mail (er, roedd gwylio Wales Decides, fel arfer, yn boenus, ond dw i’n licio Gareth achos dydi o ddim yn gwybod dim byd am wleidyddiaeth). Felly mae fy nghalon a’m henaid yn uchel iawn ar y funud. I’r gad!

giovedì, aprile 26, 2007

Tonsiliau

Mae fy nhonsils yn goch a dw i’n poeri’n eurgoch. Mi ofynnaf i’r fferyllydd amser cinio beth y maent yn ei argymell. Dw i isio bod yn well i Crôl Canton ddydd Sadwrn. Tai’m yfed fel hyn.

martedì, aprile 24, 2007

14:05 - Meddyliau

Dw i’n ffycin flin. Mae’r arwerthwyr tai ‘di ffonio i ddweud bod un tŷ o’n i’n fod i mynd i weld heno wedi mynd yn barod! Mae hynny’n ddigalon iawn, iawn.

Dw i dal i dagu ‘fyd, ond hapus o’n i yn gweld dau wylan yn cael rhyw uwchben y siop perlysiau Tsieniaidd ger y Central Bar. Dw i ddim cweit yn dallt sut mae adar yn cael rhyw, a dweud y gwir.

10:24 - meddyliau

Heddiw dw i’n sâl; dw i wedi blino ac mae fy ngwddf yn teimlo fel y Sahara ar ddiwrnod penodol o boeth (o bosib Mehefin 23ain). Mae hyn oherwydd na fu imi fynd i gysgu tan ddau neithiwr, a byddwn i wedi mynd i'r gwaith yn hwyrach ond am y ffaith fy mod yn gweld tai am 5.30 heddiw. Dw i’n mynd â Haydn gyda fi, yn y gobaith y bydd ei bâr o lygaid yntau yn fwy craff na’m rhai i. Mi welaf i beth y mynnaf fel rheol. A dyna’r ffordd iawn i unrhyw un o’r naws call i fod.

Efallai y dylwn wedi cael mwy nac iogwrt i frecwast. O Lidl, cofiwch. Lidl a Sainsburys y byddaf i’n mynd. Mi es neithiwr, ben fy hun, gydag Ellen yn côr yn canu neu rywbeth, a Haydn yn diogi (mi fedraf ddweud beth y mynnaf am Haydn rŵan achos dydi o ddim yn darllen fy mlog i mwyach achos mae crynswth o’r crap wedi’i anelu yn ei gyfeiriad o). Fe fyddaf innau’n hoff o frecwast go iawn, o wy a bacwn a thost a ffa pob a phwdin gwaed. Yn wir, mi a’i bwytawn bob dydd pe cawn.

Er mwyn i mi deimlo’n well dyma restr fer o bethau dw i’m y licio:

- garddwyr
- rhoi sanau ar yn syth ar ôl cawod
- technoleg stiwpid am yr haul o brifysgol Aberystwyth
- Gateaux


Mmmm, y rhyddhad…

lunedì, aprile 23, 2007

Y Cyri

Iawn bobls? (Mae Haydn yn dweud hynny ar y funud ac yn gwylltio pawb. Nid cŵl mohono yn y lleiaf) Mi fentraf fynd i mewn i hanes fy mhenwythnos ond gan fy mod i’n awr yn 22 fedra’ i ddim cofio llawer. O gwbl. Yn enwedig pan ydwyf mor feddw â hynny. Ond mi es i Clwb ac o gwmpas y City Arms a Model Inn mwy neu lai ben fy hun drwy’r nos, yn dychryn ac yn synnu pawb yn y cyffiniau. A dw i dal efo stamp Clwb Ifor arna’ i bora ‘ma. Cawod amdani heno, mi gredaf.

Ond mi ges ddiwrnod eithaf da ddoe, o ystyried pa mor sâl oeddwn i. Treulio’r diwrnod gyda Haydn Blin ac Ellen Blin a Rhys Ioro (oedd yn flin efo Indian twp) a wnes. Wedi peint neu ddau ar hyd a lled y ddinas fe gawson ni gyri o Albany Road, gyda’r Indiaid yn bendant wedi eu dinistrio achos doedden nhw methu â helpu eu hunain rhag chwerthin pan aethon ni o ‘na.

Felly y bu, ac am y tro cyntaf erioed dyma’r tri ohonom (a Rhys, wrth gwrs, oedd wedi cael gormod o ddiod, fel pa Sul bynnag sydd) yn eistedd o amgylch yr hen fwrdd dderw yn y gegin yn bwyta, ac yn hunanfodlon iawn o weld bod Haydn wedi dewis y bwyd anghywir eto, fel pob tro.

Tipyn o Stâd a gwely. ‘Misho gweithio. Mae gweithio'n crap.

giovedì, aprile 19, 2007

Fy mhen-blwydd a phroffwydo Canol Caerdydd (dyna anodd...)

Penbwl hapus i mi,
Penbwl hapus i mi,
Penbwl hapus i’r Hogyn,
Penbwl hapus i mi.

Rhyfedd, dw i’m yn teimlo’n ddwy ar hugain; dim ond ychydig bach yn llwglyd a bod angen cawod arnaf. Ond allwn i ddim gwneud popeth ar unwaith. A dywedyd y gwir i chi, dw i’m isio sôn am fy mhen-blwydd, dydi pen-blwydd ddim yn rhywbeth y byddaf i’n hoff iawn ohoni. Y peth amdanaf fi ydi, er fy mod i’n hoff hynod o sylw, mae hynny’n gorfod bod ar fy nhelerau i o hyd, ac mae fy mhen-blwydd, ysywaeth, y tu allan i fy rheolaeth.

Derbynnir anrhegion yn amodol.

Eniwe, tri chariad sydd gen i: Cymru, gwleidyddiaeth a Lord of the Rings (dw i ddim yn hollol siŵr sut y mae’r olaf yn ffitio mewn â’r ddau arall). A dw i am fentro fy llaw ar broffwydoliaeth eto; ond un mwy penodol.

Mae’r ddwy etholaeth sy’n rhan o fy mod yn rhai diogel yn y Cynulliad; Arfon i Blaid Cymru (Martin Eaglestone? Mae gen i fwy o siawns orchuddio fy hun mewn mêl a pheidio cael fy nhreisio gan Winnie the Pooh na sydd gan Martin o gael ei ethol yn Arfon), a Chaerdydd Canol, a minnau’n byw yn Y Rhath ar hyn o bryd. Mi fentraf broffwydoliaeth fechan i Ganol Caerdydd.

Mae arwyddion yn arwydd (ha!) dda o weld sut y mae pethau’n mynd. Hyd yn hyn, y Democratiaid Rhyddfrydol sy’n ennill, ond dydyn nhw ddim o llwyth; mae 'na lawer iawn o arwyddion Llafur o gwmpas (ac un Plaid Cymru ar Albany Road; dim byd i’r Ceidwadwyr hyd yn hyn). Fe’m synnwyd gan hynny; mae hwn yn un o’r seddau y byddwn i’n ei ddisgwyl i Lafur ildio - ond dw i wedi cael ambell i bamffled ganddyn nhw a’r hen Liberals (pob un yn uniaith Saesneg, afraid dweud). Ond dydyn nhw ddim i weld fel eu bod. Maen nhw’n edrych fel bod nhw’n cael yr arwyddion i fyny ac yn cael pobl i ddosbarthu eu llythyrau.

Mae’r Rhyddfrydwyr yn amhoblogaidd yn y cyngor, ac er bod Llafur yn amhoblogaidd beth bynnag peidiwch byth â diystyru eu pleidleiswyr craidd; y rheiny na fyddant yn troi allan i bleidleisio yn y Cymoedd, ond oherwydd eu bod mewn sedd nad yw bellach yn Llafur, fe ânt nhw i bleidleisio. Mi fetia’ i rywbeth. A’r gwir amdani ydi, bydd y myfyrwyr ddim yn boddran pleidleisio mewn rhifau mawrion.

Peidiwch byth â diystyru'r bleidlais Lafur craidd. Y nhw a rhoddod gic-owt i'r Blaid yn Rhondda ac Islwyn yn 2003, a hynny heb fawr o reswm oni bai mai o frîd Llafur Craidd oedd y rhan fwyaf o'r pleidleiswyr. Ddaw hi ddim at hynny yng Nghanol Caerdydd, ond nodwch ar y bleidlais hon.

Does gan Plaid ddim cyfle. Mae ‘na lawer iawn o fyfyrwyr Cymraeg yn yr ardal, ond yn fy mhrofiad i pleidleisio drwy’r post yn y gogledd a’r gorllewin y maen nhw. Ond mae’r Gymraeg yma; yn ôl rhywun dw i’n ei adnabod sy’n gweithio i’r cyngor mae llawer mwy o ffurflenni wedi eu cwblhau’n Gymraeg yn dod o’r rhan yma o’r ddinas na fyddai rhywun yn disgwyl.

Trahaus, a ffôl, yw dweud y bydd siaradwyr Cymraeg yn pleidleisio Plaid; ond maen nhw’n debycach o wneud hynny na phleidleisio dros neb arall. Mae ‘na gymuned Fwslimaidd amlwg yma hefyd, a hyd y deallwn i mae’r Blaid â chefnogaeth yn eu mysg.

Felly dyma fy mhroffwydoliaeth ar gyfer Caerdydd Canol: 34.7% yw mwyafrif y Democratiaid Rhyddfrydol ond byddwn ni’n gweld gogwydd i Lafur fan hyn, yn crafu eu hunain yn ôl yn araf bach. Nid wyf o’r farn y bydd y Rhyddfrydwyr yn hawlio dros hanner y bleidlais y tro hwn.

Bydd y Ceidwadwyr yn statig, a Phlaid yn cynyddu mymryn, ac os mae UKIP yn cadw eu deposit mae’r Wyddfa yn gaws.

mercoledì, aprile 18, 2007

2 + 2 = 22

Felly dyna ni, blwyddyn gron. Yfory mae ieuenctid â’i holl ryfeddodau go wir yn dirwyn i ben. Fe fydda’ i’n ddwy ar hugain.

Mae 21 yn flwyddyn fawr, yn ôl y sôn. Fe fu i mi, rhwng graddio, methu’n llwyr yn hyfforddi fel athro a datblygu hoffter gwirioneddol o gaws. Mae’n flwyddyn a mwy ers Prâg, tair blynedd ers y pen-blwydd bythgofiadwy yn Senghennydd (rhywle y byddaf i’n mynd heibio bob dydd, yn gwneud dim ond yn fy atgoffa o’r hen ddyddiau da). Ond mae 22 yn drothwy i rywbeth arall, yn fy marn i; mae rhywun (myfyrwyr yn benodol) yn dechrau gweithio, yn meddwl sut beth fyddai cael lle nhw’u hun. Mae ysgol wedi hen fynd, a phrifysgol ond yn gof, a beth sydd i edrych ymlaen at ond dros ddeugain mlynedd o waith (ac, er gwaetha’r honiadau, dydych chi fawr gwell o fedru Cymraeg a byw yng Nghaerdydd).

Ie, deugain mlynedd o wgu ar bobl Metro, a gwylio fy ngwallt yn teneuo’n fwy fyth (mai’n ddigon ffycin denau fel mai) a 'ngolwg yn pallu mwy. A dydw i’m yn berson iach, cofiwch, rhwng fy mhen glin, fy ysgwydd a’m problemau cysgu.

Ie, dwy ar hugain. A oes nodwedd benodol i’r oed hwnnw, neu ai fi sy’n mynnu cwyno?
Duw, mae ‘na bob amser 23…

martedì, aprile 17, 2007

Yr Argyfwng Tai ... a fi

Chi’n gwybod be? Dw i YN sdresd. Yn ofnadwy. Dim ond heddiw y mae hi wedi taro mai tri mis sydd gen i ar ôl yn y tŷ a bod angen un newydd arnaf. Mi ranna’ i fy meddwl efo chi, mae’n helpu fi i setlo.

Pan welais i’r tŷ ddydd Sadwrn dim ond un afiach oedd o, gyda thenantiaid un tŷ cae rhoi mynediad i ni a’r llall, oedd fy nghalon arni yn Grangetown, wedi ei werthu. Ni ffoniodd yr arwerthwr tai neithiwr fel yr addawodd, felly dw i mewn penbleth. Mae pethau fel hyn yn cymryd amser i’w gwneud, a ‘does gen i fawr o hynny erbyn hyn.

Prin y gallaf i fynd dros £130,000, a hynny gyda deposit etifeddiaeth gan Mam a Nain. Ac, yn dweud hynny, hyfforddi ydw i ar y funud felly dydi fy swydd i ddim ymysg y sicrhaf, mae’n siŵr. Mae pethau fel hynna’n fy mhoeni i’n arw; dw i bob amser yn meddwl bod ‘na saciad neu fil ar y ffordd (ac mae meddwl felly yn fy nghadw i ar flaenau ‘nhraed, sef yn union le ydw i’n hoffi bod). Dim peth cefn gwlad ydi methu â phrynu lle i fyw, mae'n ddigon cyffredin yn y ddinas 'fyd.

A lle i fyw, yn de? Fedra i ddim symud yn rhy bell o ganol Caerdydd, felly dw i wedi pennu Grangetown, Riverside, y Rhath a Sblot fel llefydd i fynd i (a Threganna, sy’n rhy ddrud o lawer gwaetha’r modd).

Dydi’r sefyllfa dai ddim yn deg. Dw i’n ifanc a dw i isio dechrau bywyd gyda thŷ digonol a swydd iawn. Ydi hynny’n gofyn gormod?

(gan ddweud hynny mae wastad rhywbeth yn dod fyny i mi; dw i’n argyhoeddedig bod rhywun, neu rywbeth, fel banana mewn ffoil angylaidd, yn edrych ar fy ôl yn sicrhau nad af i ar ormod o gyfeilion … hyd yn hyn)

lunedì, aprile 16, 2007

Nid blog gwleidyddol mo hwn. Cofier.

Â’r etholiad yn dyfod, dw i’n brysur yn chwilio’r we o hyd am y newyddion diweddaraf, er mae’n debyg bod ambell i berson yn rhestru'r blog hwn fel un gwleidyddol. Dydi o ddim, wchi. Bydda i’n dweud rhyw ambell i beth gwleidyddol (e.e. mae Lib Dems i gyd yn bwyta Muesli, Toris yn dirfeddianwyr cas sy’n saethu pobl dlawd a Llafur ... wel, doniol ydynt yn y bôn) o bryd i’w gilydd.

Ond trown o faterion y dydd at bethau pwysicach fel fy mywyd i, a bod yn onest i chi. Roeddwn i yn y Bae ddydd Sadwrn, gyda Rhys y dyn moel a Sioned yr hogan foel (mae hi’n gwisgo wig, medda’ nhw), a does gwell na pheint wrth ddŵr yn yr haf (er gwaetha’r ffaith nad ydyw’n haf a hefyd bod y dŵr wrth ymyl tafarn Y Lanfa yn farwaidd, gyda dim i’w gweld ond am hen long fudur a chraen budur, a gwylanod) ac mi ges liw haul o ryw fath.

Serch hyn, prin fod haul a’r Hogyn yn gyfeillion. Dros y blynyddoedd diwethaf, ers symud i Gaerdydd a dywedyd y gwir i chi, mae clwy’r gwair wedi fy meddiannu rhywfaint. Ond mae hi’n waeth flwyddyn yma, ac mae’n llygaid i’n goch ac yn fawr ac ar y funud dw i’n edrych yn eithaf tebyg i hyn:

Heb y gwallt sinsir. Diolch i Dduw. Ro’n i’n trio darllen llyfr neithiwr, yn sbectols i gyd, a phrin yr oeddwn yn gallu gweld. Dwy dabled cysgu yn ddiweddarach ac mi gysgais cyn ddyfned ac y byddwn i fwy na thebyg yn ei wneud mewn gig Genod Droog, am unwaith.

Mi es hefyd i chwilio am dŷ ar y wicend heb fath o lwc, felly mae hynny’n pwyso’n drwm arna’ i, gyda llai na thri mis ar ôl ar Newport Road. Digartref byddwyf â chlwy’r gwair. Casáu bywyd; mae o’n dwat.

venerdì, aprile 13, 2007

Prudd-der byw

Rydych chi o’r farn fy mod i’n berson cwynfanllyd, yn dydych chi (er nad yw eich barn o’r mymryn lleiaf o ddiddordeb i mi)? Dw i am gwyno rŵan, a chwyn hir a thrist bydd hwn, a hynny oherwydd nad ydw i’n hapus o gwbl heddiw a dweud y gwir yn onest i chi.

Do, mi es i dorri fy ngwallt neithiwr. Dw i’n ei gasáu â chas perffaith. Mae’n rhy fyr; ac er fy mod i, yn ôl rhai, yn dueddol o edrych ychydig yn well gyda gwallt byr (yn y modd y mae cachu efallai’n edrych ychydig yn neisiach na chwŷd) dydi o jyst ddim yn fi a dydi hi byth wedi bod pan fy mod i un ai wedi cael fy ngorfodi, neu drwy eiliad wallgof wedi ei dorri. A dw i’n drist, a dydw i ddim yn teimlo fel fi fy hun.

Pan dorrwyd gwallt Samson gollodd yntau ei gryfder, ac yn raddol mae fy hyder innau’n diflannu heb wallt. Ac wrth gerdded o’r siop trin gwallt ddoe byth erioed a deimlais y math baranoia ‘mae pawb yn edrych arnaf’. Bu’n syndod i mi mai bron â thagu dagrau a wnes yr holl ffordd adref, a, nadw, dydw i ddim am fynd allan y wicend ‘ma chwaith o’r herwydd fy mod i’n teimlo mor wirion.

Ychwaneger i hynny'r ffaith bod cael teulu i lawr yn sdresio fi allan ac nad ydw i’n cysgu ar y funud, a bod miloedd o eiriau yn syllu arnaf - lle trist a sâl ydyw’r byd i mi ar y funud. Trist, sâl, di-wallt. Newyn Ethiopia a thaith yr Iddewon drwy’r anialwch dyfod drosof cyn hyn. Betia’ i fod ganddyn nhw fwy o wallt. Ond debyg nad ydi rhywun ei angen yn y rhan honno o’r byd, chwaith.

giovedì, aprile 12, 2007

Twat gwallt

Dw i’n teimlo dros y boi RAC ar Heol y Frenhines (Queens Street i chi a mi). Fe fu’r lle yn lloches iddo, ond daeth yr AA yno yn llu a bellach ni welir mohono. Ond does ots gen i, AA ydw i efo.

Medaf i ddim cyfleu fy niflastod llwyr heddiw. Mae’r gwaith yn erchyll. Chefais i mo fy ngeni i gyfieithu. Dw i’m yn siŵr o ddiben fy modolaeth, chwaith, ond mi ddyfalaf ei bod yn cylchdroi o amgylch hufen iâ.

Dw i’n nerfus hefyd. Dw i’n cael fy ngwallt wedi ei dorri wedyn. Ac ni o farbwr. Gyda’r chwaer i lawr mi benderfynodd hithau bod angen makeover arnaf i. Mae hi ‘di dewis steil gwallt newydd i mi. Mae hi ‘di bwcio lle yn Tony & Guy’s p’nawn ‘ma i mi. Edrych fel twat fydda i erbyn diwedd y dydd, mi fetiaf fy holl eiddo arno (sydd yn cynnwys fy CDs Dafydd Iwan a het lwyd o Awstria).

Penderfyniad. Ewyllys. Aberth. Nôl at y gwaith.

mercoledì, aprile 11, 2007

"I'm a Naughty Boy in the World"

Dw i byth yn peidio â rhyfeddu ar sut y mae bywyd yn lluchio rhyfeddodau fel hyn ataf o hyd er mwyn eu hadrodd i bawb; ond dydw i ddim yn ddiolchgar amdani.

Fel rheol mae’n well gen i gerdded na chymryd tacsi. Er hyn, wedi mynd am fwyd efo’r teulu neithiwr, a hwythau i lawr yng Nghaerdydd am sbel, mi gefais dacsi i’r Bae er mwyn gwneud y cwis, fel pob nos Fawrth (aflwyddiant arall y bu er y gwelwyd gwella yn ein safle a’n gwybyddiaeth cyffredinol). Ond tacsi a gefais.

Dyn Arabaidd oedd y gyrrwr. Dim byd annaturiol am hynny, meddyliais. Roedd hynny tan iddo ddechrau taro’i fol a gweiddi “Fat! Fat” – a chymryd dim diddordeb fy ymatebion i (ysywaeth, nid peth angyffredin o mo hynny). Wedyn, dyma fo’n dechrau canu rhyw gân byrfyfyr (mi dybiaf) a gynhwysodd tôn gron o “I’m a Naughty Boy in the World”. Mi fentraf mai cân byrfyfyr ydoedd; wn i ddim pwy ddiawl byddai’n canu y math beth, wrth i mi edrych drwy’r tacsi i’r awyr yn gweddio am achubiaeth rhag y dyn.

Wedi nifer iawn o’r bennill, a phwyntio at butain yn y stryd a gofyn i mi “Do you like these girls?” (ac na oedd fy ateb, a gaf i gadarnhau) dyma fo’n fy ngollwg yn nhafarn Y Wharf. “£500. Not a penny less. Hah! £5. Get out of my taxi. See you next year”.

Ar fy myw na wnei, meddyliais, wrth fynd i brynu peint.

martedì, aprile 10, 2007

Tywynna'r haul drwy'r swyddfa

Amser cinio caf faguette, ac wedi hynny Lucozade a Boost i’m cadw i fynd drwy’r p’nawn. Anghenfil glwcos wyf y prynhawn, yn dyheu am awyr las a gweirydd gwyrddion.

lunedì, aprile 09, 2007

Arogl yr Afon

Fe fu’n benwythnos da. Bu imi ei fwynhau. Does gwell nag ymweliad â Gogledd Cymru, anheddle angylion.

Dw i’n mynd nôl am Gaerdydd heno. Wedi penwythnos mor hir a hapus prin iawn fy mod i isio mynd i’r gwaith yfory, ond ysywaeth 24 awr i rŵan fe fyddaf yn cyfieithu drachefn. Dw i wedi cadw fy hun yn brysur cofiwch. Mi es i Gaernarfon fore Sadwrn i brynu Diwrnod Efo’r Anifeiliaid, yn ogystal â CD Wil Tân i Nain. Fe soniem am y peth ddydd Gwener, wrth iddi fynnu yr hoffai glywed “CD newydd Sam Tân”.

“Dwyt ti’m yn rhy hen i hynny, Nain?” gofynnais
“Nadw i, mae o’n 40,” atebodd hithau, cyn inni ddatrys y pos.

Y prynhawn hwnnw mi es i bysgota gyda’r Dyn a Elwir yn Dyfed (DED). Yn anffodus bu i’r DED ddewis pysgotfan eithriadol o wael, a’r mwyaf a ddaeth i’m rhan oedd sefyll ar granc. O leiaf bu i’r DED ddal cranc - cyn sefyll arno. Eironig ydoedd. Ac nid pleserus oedd gosod y blow-worms ar y bachyn; cânt yr enw oherwydd eu tueddiad i ffrwydro'r munud y cyffyrddant unrhyw beth siarp.

Diog o ddiwrnod y caf cyn dychwelyd i’r ddinas. Bu imi atal yn nhoiledau Ganllwyd nos Iau ar y ffordd i fyny, wrth yr afon a chanfod fy mod yn cofio sut mae afon yn arogli. Dw i’m yn dweud celwydd. Ydych chi bobl y ddinas yn cofio sut arogl sydd ar afon? Anghofiais i.

Casgliad o bethau bychain yw bywyd. Dydi arogl afon fawr o beth, ond pan mae’n rhan annatod o’ch bod sydd yn amlwg wedi’i cholli mae yn dy daro yn dra chaled.

giovedì, aprile 05, 2007

Diwrnod Hira' 'Mywyd

Dw i’m am smalio y medra’ i wneud gwaith heddiw. Mae’n heulog a dw i’n gyrru i’r Gogledd heno yn syth ar ôl gwaith (sbïwch fi’n blogio’n gwaith yn ddrwg i gyd - ond mae diwygiadau i lwybrau troed Ceredigion yn troi ar rywun yn rhyfeddol o sydyn), ac mi fyddaf yno erbyn 11 er mwyn cael gweld pôl piniwn HTV. Mae hyn yn drist.

Mae pobl Metro yn dal i fy hambygio ar y ffordd i’r gwaith. Hyd yn oed pan dw i’n cerdded tu ôl i’r rhywun (côc yn din o agos) maen nhw dal yn llwyddo i stwffio papur o fy mlaen i a datgan “Metro?”. “Dim diolch” bydda i’n ei ddweud bob tro. Fel arfer, wrth ddweud “diolch” yng Nghaerdydd fe fydd ar hyd y llinellau “Thank you diolch yn fawr”, oherwydd mae’n bwysig dweud ‘diolch’, jyst er mwyn dangos bod ‘na Gymry Cymraeg o gwmpas y lle, yn ogystal â Phwyliaid a Somalis. Ond pan fyddaf mewn tymer drwg, rhyw dim diolch hunanfodlon a swta a ddaw o’r genau i ganlyn targed fy llid. Prin iawn fy mod i isio siarad Saesneg pan fo tymer drwg drosof; rhywsut mae naws y Gymraeg yn addasach o lawer o ran llid a dirmyg.


Gas gen i fod yn y gwaith pan fo rhywbeth gennych chi i wneud ar ôl gwaith a ti bron â marw isio’i gwneud hi. Fe fydd yn ddiwrnod hir. Safwch gyda mi yn y bwlch, gyfeillion; deuwch ataf i’r adwy.

mercoledì, aprile 04, 2007

Y Fi Fawr Wleidyddol

Wel, dyna ni. Rhois fy mhen ar y bloc a darogan beth fydd yn digwydd yn 2007, er yn anffodus dydw i ddim yn gweld Plaid Cymru yn curo hyd at 16 sedd. Dw i yn, fodd bynnag, yn gobeithio’n arw na fydd Llafur yn cadw ei mwyafrifoedd enfawr, dall; na fydd y Ceidwadwyr yn torri tir newydd ac y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn chwalu. Pa ddiffygion bynnag sydd i’r Torïaid a Llafur (ac mae cyfrolau bethau yn hyn o beth, a chrynswth i Blaid Cymru hefyd), o leiaf bod gronyn o egwyddor a choelio yn eu credoau. Dw i’n gwrthwynebu Llafur oherwydd eu hagwedd dirmygus tuag at y Gymraeg; y Toriaid, oherwydd eu bod nhw ar ochr dra gwahanol i’r sbectrwm gwleidyddol imi, ond mae fy ngwrthwynebiad i’r Democratiaid Rhyddfrydol yn seiliedig ar eu dimbydrwydd llwyr fel mudiad gwleidyddol.

Serch hynny, dw i’n amau mai anghywir oedd y datganiad isod wrth edrych eto bore ‘ma. Ond mi sticia’ i iddo. Mae fy ngwleidyddiaeth i, sydd wastad wedi bod yn rhan o fy mywyd, wedi ei seilio ar ffydd ddall.

1997 oedd pan ddaru mi dechrau cymryd diddordeb mewn gwleidyddiaeth, a buddugoliaeth Llafur. Dw i’n cofio, yn 12 mlwydd oedd, gobeithio o waelod f’enaid mai’r Ceidwadwyr fyddai’n ennill. Tori bach oeddwn i, yn hoff o’r teulu brenhinol a Phrydeindod. Diolch i Dduw y daeth fy nglasoed yn ddigon sydyn.

Mi fflyrtiais gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol am sbel hir (mae ‘fflyrtio gyda Democrat Rhyddfrydol’ yn swnio’n ddiflas iawn, ond yn ddoniol pes gwelir rhywun arall yn gwneud a methu dianc o’r sefyllfa) cyn ymsefydlu’n Bleidiwr wedi imi fynd am brofiad gwaith i swyddfa Dafydd Wigley yn ’99, cyn ymuno efo’r Blaid y flwyddyn wedyn. Dw i’n cofio bryd hynny doeddwn i ddim yn or-hoff o’r syniad o annibyniaeth, ond rŵan dw i gyda’r mwyaf brwd drosti, er y gwreiddiodd fy nghariad yn y Gymraeg yn fuan yn fy mywyd, wrth i mi fynnu i Mam fy mod i’n falch o Chwarel y Penrhyn oherwydd “dyna’r unig reswm fod yr iaith Gymraeg yn fyw”. Ffeithiau anghywir, calon dda (hanes fy mywyd ymhob maes).


Ddim yn ddrwg am hanner Sais efo sblash o Eidalwr, nac ydi?

martedì, aprile 03, 2007

Mis i fynd...!

Dw i ddim am smalio fod yn pyndit gwleidyddol da iawn. A dywedyd y gwir, bob tro dw i’n proffwydo mae’n troi allan yn anghywir. Serch hyn, fel efallai y gwyddoch, mae diddordeb gennyf mewn gwleidyddiaeth, a chan fod etholiadau’r Cynulliad fis i ffwrdd, dw i am rhoi fy mhen ar y bloc a phroffwydo popeth.

Aberafan (LLAF)
Aberconwy (PC) – dw i’n mentro bydd proffil Gareth Jones yn ennill hwn i’r Blaid gyda’r Ceidwadwyr yn ail agos; er, ‘sdim cyfle i PC yma mewn etholiad San Steffan
Alyn a Glannau Merswy (LLAF) – cynulliad isaf Cymru
Arfon (PC) – mwyafrif i’r Blaid yn etholiadau’r Bae; agosach o lawer yn San Steffan
Blaenau Gwent (ANN) – iawn, dydi Trish Law ddim byd arbennig, ond fe fydd hi’n cadw’r sedd ar Fai 3ydd
Bro Morgannwg (LLAF) – Ceidwadwyr yn agosáu
Brycheiniog a Maesyfed (DEM RHYDD)
Caerffili (PC) – hwn bydd sioc y nos, gyda Llafurwyr yn mynd at Ron mewn digon o rifau i’r Blaid fynd drwy’r canol
Canol Caerdydd (DEM RHYDD) – gyda mwyafrif cryn dipyn yn llai
Castell-nedd (LLAF) – bydd Plaid yn lleihau mwyafrif Llafur yma a bydd hi’n gymharol agos
Ceredigion (PC) – a bod yn onest, dw i’n gweld Elin Jones yn cadw’r sedd yn gymharol hawdd
Cwm Cynon (LLAF) – Plaid yn crafu’n ôl, ond ddim digon o bellffordd
De Caerdydd a Penarth (LLAF)
De Clwyd (LLAF)
Delyn (LLAF)
Dwyfor Meirionnydd (PC) – nid yn unig yn ddiogel i’r Blaid ond hwn bydd sedd mwyaf diogel Cymru
Dwyrain Abertawe (LLAF) – cynnydd yn y bleidlais Dem Rhydd
D. C’fyrddin a De Penfro (LLAF) – Llafur drachefn, ond mwyafrif llai fyth iddynt dros Blaid Cymru
Dwyrain Casnewydd (LLAF)
Dyffryn Clwyd (LLAF)
Gogledd Caerdydd (CEID) – un gweddol hawdd i’r Ceidwadwyr
Gorllewin Abertawe (LLAF) – ond agosach rhwng Llafur a Plaid
Gorllewin Caerdydd (LLAF) – Plaid yn ail yn bell tu ôl i Rhodri
Gorll. C’fyrddin a Dinefwr (PC)
Gorllewin Casnewydd (LLAF)
Gorllewin Clwyd (LLAF) – dw i am fentro yma y bydd hi’n agos iawn rhwng Llafur, y Ceidwadwyr a’r Blaid, ond bod Llafur yn mynd â hi o drwch blewyn
Gwyr (LLAF)
Islwyn (LLAF) – mae rhai yn dweud bydd Plaid yn adennill hwn. Dim cyfle, yn fy marn onest i.
Llanelli (PC) – bydd Plaid yn cipio hwn o tua mil o bleidleisiau
Maldwyn (DEM RHYDD) – bydd y mwyafrif Rhyddfrydol yma’n llai o lawer
Merthyr Tudful (LLAF)
Mynwy (CEID) – lleiafrif llawer llai i’r Ceidwadwyr ar ôl ymadawiad David Davies
Ogwr (LLAF)
Pen-y-bont (LLAF) – diogel i Carwyn Jones
Pontypridd (LLAF)
Preseli Penfro (CEID) – agos iawn rhwng PC, Llafur a’r Ceidwadwyr, ond ar noson dda mi eith hwn yn Geidwadol
Rhondda (LLAF)
Torfaen (LLAF)
Wrecsam (Cymru Ymlaen) – John Marek yn dal y sedd o fwyafrif llai byth mewn cynulliad isel
Ynys Môn (PC) – Ieuan i gadw hwn OND bydd Rogers yn ei wthio yr holl ffordd; mater o gannoedd o bleidleisiau

Canolbarth Cymru – PC 1, Llaf 1, Ceid 2
Gogledd Cymru – PC 1, Ceid 2, DRh 1
Canol De Cymru – PC 2, Ceid 2
Dwyrain De Cymru – PC 2, Ceid 2
Gorllewin De Cymru – PC 2, Ceid 1, DRh 1

Llafur 25 -4
Plaid Cymru 16 +4
Ceidwadwyr 12 +1
Dem Rhydd 5 -1
Eraill 2 0

A rhywsut, dydw i ddim yn cytuno gyda’r uchod. Ond fe gawn ni weld!!

lunedì, aprile 02, 2007

Castell uwch Mynydd Parys

Felly, dyna ni. Mae’r Haydn wedi mynd adref, a fi ac Ellen sydd ar ôl yn yr hen dŷ annwyl ar Newport Road. Ond ddoe mi ges i’r diwrnod mwyaf unig yn hanes fy mywyd. Roedd Ellen yn Aberystwyth, efo côr neu ryw beth felly, a minnau yn gorfod ymddiddori fy hun drwy fwyta. Roedd yn fewnwelediad eithaf trist o sut y gallasai bywyd ben fy hun fod; hynny yw, a minnau’n ceisio prynu tŷ erbyn mis Mehefin. Er, mae ambell i fonws, megis cadw drws y lle chwech ar agor wrth biso, a chanu i mi fy hun.

Y nos a ddaeth, a gwylio A Nightmare on Elm Street a wnes. Tila ydwyf yn y bôn; tu ôl i’r cadernid gwryw, gadarn hwn mae creadur meddal Dairylea-aidd yn trigo, sydd ddim yn licio pethau sy’n mynd bymp yn y nos na sbwnjys. Mentraf ddweud bod y coedydd y tu allan i’r tŷ yn gwneud eu gwaethaf i ddod i mewn neithiwr.


Serch hynny, dw i’n edrych ymlaen at y penwythnos hir sy’n dyfod a chael mynd i’r Gogledd am sbel. Dw i angen ychydig o awyr iach, mynyddoedd a pizza call; a dywedyd y gwir dw i’n byw ar gyfer teithio i’r Gogledd ar y funud. Hynny a phan fyddwyf yn byw ar gastell uwch Fynydd Parys.

martedì, marzo 27, 2007

Jyst synfyfyrio'n sydyn

Ai fy yw'r unig un sy'n llwyr colli'r ewyllys i anadlu rhwng tri a phedwar o'r gloch yn y gwaith?

lunedì, marzo 26, 2007

Achubiaeth Swreal

Mae gen i bum munud yn sbâr i ddywedyd stori fechan i chi. Neithiwr fe dorrodd Ellen lawr yn agos i gylchfan Gabalfa (yn ei char, nid yn feddyliol) a fu’n rhaid i mi a Haydn fynd i’w hachubiaeth, â’i char yn tagu fel hwran ar gôc. Felly mi aeth Haydn a hithau yn ei char hi o fy mlaen, gyda’r hazards ar, a minnau y tu ôl, yn rhoi’r hazards ar fel y dymunais, ac yn canu’r corn arni hi am fynd y ffordd anghywir neu siglo ar hyd a lled y ffordd.

Teimlad od iawn, ar y motowê, oedd rhoi Radio Cymru ymlaen, a chlywed miwsig cowbois yn dod ac yn llenwi fy nghar (Cowbois Rhos Botwnnog, dw i’n eitha’ siŵr), a minnau’n dilyn Ellen yn ofalus iawn, y ddau ohonom efo hazards ar, yn mynd 30 milltir yr awr. Heb air o gelwydd ni theimlodd fel dim ond am y car chase arafaf a mwyaf swreal a welwyd yn yr hwn fyd erioed.
Ond bu i mi fwynhau, nis ddadleuaf.

domenica, marzo 25, 2007

Beth am gynnau tan?

Mae sawl person wedi dweud wrthyf hyd fy oes fy mod i’n hogyn gwirion. Nos Wener, bu i ni i gyd fynd allan ar hyd a lled Caerdydd (Cathays, beth bynnag). Mynd yn ôl i lle’r genod wnes i ddiwedd nos, ac archebu It’s Pizza Time am dri o’r gloch y bore o fanno.

Myfi a deflais un o grysau-t Gwenan i mewn i’w lamp hi. Hi a ddeffrodd yn meddwl bod ‘na olgau o amgylch y tŷ felly y byddai’n mynd i’r gegin a gweld pwy oedd yn coginio cyn sylweddoli mai ei lamp a’i chrys oedd ar dân, hwnnw wedi bod yn llosgi’n araf yno ers oriau.

Doedd hi methu â deffro Llinos. Ymateb Lowri Dwd oedd cnocio ei larwm dân o’r to (gyda help gennyf fi) wrth i Gwenan redeg o amgylch y tŷ yn gweiddi i bawb ddeffro. Ni lwyddodd. Dywedais i wrth y Dwd ‘dos di, fydda i’n iawn’ er mair’ tebygolrwydd oedd y byddwn yn llosgi yn y fan a’r lle.

Chyneuwn i mo dân eto. A’r tro nesaf, mi godaf yn lle. Bosib. Oeddwn feddw.

mercoledì, marzo 21, 2007

Y Ceinaf Gelf

Mae’r blogio ‘ma yn mynd yn seriws. Dw i’n gwneud bob dydd ar y funud ond does ots. Mae gen i gymaint i sôn am ar y funud, fel dw i’n siŵr y gwelwch, ac mae’r frwydr yn erbyn pobl Metro yn parhau. Ni chânt ond am wg gennyf i yr hyn dyddiau, ac mae hyd yn oed y no thank you yn mynd yn hen. Angau iddynt, foch uffern!

Felly mi aethom ni i’r Bae neithiwr drachefn a gwneud yn waeth fyth ar y cwis, er fy mod i’n haeddu ennill (fedra’ i ddim siarad ar ran neb arall wrth gwrs, ond pan mae gynnoch chi frên fatha fi rydych chi’n llawn disgwyl ennill popeth).

Mi es hefyd am gyri neithiwr i’r Pen & Wig ac fe’r oedd hi’n boeth iawn a dydi hi’n gwneud dim lles i mi hyd heddiw. Dw i’n un o’r bobl ‘ma sy’n meddwl medra’ i handlo cyri poeth (er nad oedd hwnnw neithiwr yn boeth iawn), fel cred fy nhad amdano’i hun hefyd, a’r oll a wnaf yw chwysu, cwyno a chael poen yn bol wedyn.


Er, fe’r ydwyf yn haeddu Gwobr Nobel am Gwyno; y ceinaf o gelfyddydau’r byd. Mae'n cymryd dawn a dirmyg i gwyno'n iawn, a nid dim ond cwyno am y pethau mawrion megis diwedd y byd, gwleidyddiaeth a broccoli ond am y pethau bychain hefyd; pwy ohonoch gallwch weled drwg ym mhob un peth a welir neu glywir ar ddaear? Dydi o, actiwli, ddim yn rhy anodd o beth i'w wneud, ond nid y cynnwys eithr arddul y gwyn sy'n bwysig. Mae angen griddfan ac ochenaid dwys, llais cwynfanllyd a geiriau dethol. A dyna yw cwyno da.

martedì, marzo 20, 2007

Dyheadau

Iawn bobl y byd? Banana i bawb? Dim problem.

Felly mi aeth neithiwr yn ddidrafferth. Nid fod unrhyw beth wedi digwydd. Ie wir, dw i’n edrych ymlaen i fy siop fechan. Gas gen i olchi dillad, mae un o gant a mil o bethau bychain sy’n cyfrannu at y carth enfawr a elwir yn fywyd imi. Felly dw i wedi dod fyny â’r cynllun slei o brynu mwy. Serch hyn, mae diffyg arian yn un o’r pethau mawrion sy’n distrywio popeth yn fy mywoliaeth, ond bydd yn rhaid imi ddysgu byw felly. Arwydd ar gyfer y dyfodol ydyw.

Does gen i ddim mo'r arweinydd neu’r gwyddonydd neu’r athrylith ynof, gwelwch. A taswn i’n seleb fyddwn i’n un o’r rheiny ar sioe gêm ganol nos y mae rhai pobl yn adnabod yr wyneb ond neb yr enw.

Taswn i’n alcoholic bydda neb isio yfed efo fi. Taswn i’n gogydd ni fyddai neb yn bwyta fy mwyd. Taswn i’n butain fydda neb isio cysgu efo fi. Taswn i’n ysgrifennu byddai neb yn darllen fy ngherddi na’m straeon. Mae’n rhaid i mi, er mwyn Duw, stopio gyfuno pethau dydw i’m yn dda iawn arnynt.

Na, dw i am cael affêr efo smackhead tŷ cyngor, a mynd ar Trisha.

lunedì, marzo 19, 2007

Cynlluniau

Sudachi rapsgaliwns? Oes ‘na rywun arall yno sy’n licio madarch ond eto ddim yn cîn iawn arnyn nhw pam maen nhw’n laith a mae ‘na sdd yn rhedeg ohonynt ar hyd a lled y plant. A dweud y gwir, dw i’n teimlo’n eithaf sâl.

Ddim cymaint o sâl â Rhys Ioro, os ca’ i ddweud, neithiwr, a fynta’n chwydu o flaen Eglwys Gospel yn y Mynydd Bychan cyn dod i mewn i’n cegin a siarad am ‘drychfilod’ a dywedyd geiriau mawrion megis ‘dywedyd’ a ‘trychfilod’ (yn benodol).

Mae gen i ddiwrnod mawr yfory. Dw i’n mynd am dro efo’r Kinch i ganol dre yfory amser cinio i brynu crysau; a ninnau ein dau angen edrych yn smart i gwaith. Ac wedyn dw i’n mynd gyda Lowri Dwd am beint, sef rhywbeth nad ydan ni wedi gwneud gyda’n gilydd ers cyn cof.

Duw a ŵyr, efallai yfory fe gofiwn ni pam!

domenica, marzo 18, 2007

Haha Saeson!

Helo! Gwaeddwch! Bloeddiwch! Ymnoethwch! Mae Cymru wedi curo Lloegr! Ha! Onid ydyw’n wir, er yn druenus felly, nad ydyw’r Cymry gyda fawr ots am guro neb arall ond am y Saeson? Wedi’r wythdeg munud ddoe mi deimlodd bod holl boen y gemau cynt yn anweddu i ffwrdd a bod gwerth i guro Lloegr yn fwy na dim. Wrth gwrs, a gwelsoch chi mo hyn yn dod, roeddwn yn feddw.

Ia wir dyna ddiwedd fy hanes mewn difri. Dw i wrth fy modd gyda’r Mochyn Du, a bu i Dai Sgaffalde gynnig sedd i mi. Heb fymryn o sbeit, dydi Dai Sgaffalde (aka Emyr Wyn) ddim yn siwtio gwisgo crys sy’n dweud SAMURAI; mae o braidd fel afal yn honni mai banana ydyw. Serch hyn y sedd a gynigiwyd i dîn bodlon iawn.

Heddiw fe fyddaf yn cyfri’r gost o’r noson, wedi imi unwaith eto cael 20 Chicken McNugget wrth gerdded adref ar ôl Clwb a theimlo’n sâl iawn o’i herwydd, ond fedra’ i ddim helpu licio Chicken McNuggets. A cheir gwell bwyd na stwnsh iâr mewn cytew od?

Ni chredaf.

venerdì, marzo 16, 2007

Metro

Myfi a glof yr hon wythnos o flogio parhaus gyda chwynfan traddodiadol. Os mae un peth yr ydym ni’r Cymry yn dda am hynny yw cwyno, ac nid eithriad mohonof yn hyn o beth. O gwbl. Fel y gwyddoch. Pobl Metro sy’n ennyn fy llid anferthol, diddiwedd heddiw.

I’r rhai ohonoch nad ydych yn gweithio yng Nghaerdydd, a bydd cyfran go dda ohonoch, megis y person ac ysgrifennodd “jason morgan gay porn” ar Gwgl cyn dyfod i’r blog hwn rhywsut, mi egluraf. Mae Metro yn bapur newydd am ddim y mae pobl yn ei roi allan ar y strydoedd gyda’r bore. Wn i ddim ba bwy bynnag yw’r hyn bobl; creaduriaid od yn llechu dan bont y rheilffordd ger Sainsburys, ac yn gofyn mewn llais isel gyda gwên gam, “Metro?”


Maen nhw wedi gofyn hynny i mi bob bore yr wyf wedi cerdded i’r gwaith, a hynny er fy mod wedi gwisgo’r un het a’r un gôt pob diwrnod yn ddi-ffael, a hithau’n oer. A phob diwrnod myfi a wrthodaf. Poni chânt y neges? Dydw i ddim isio Metro. Mae’n crap. A hoffwn ei ddatgan yn groch i’r byd.

giovedì, marzo 15, 2007

Osgo gwael

Roeddwn i’n cerdded i’r gwaith heddiw a gwelais Haydn ar ochr arall y ffordd yn cerdded i’w ddarlithoedd. Osgo gwael sydd ganddo, mae top ei gorff yn hongian oddi-ar y gweddill ohono. Ac mae Ellen yn cerdded fel pengwin parhaol pissed off am gael ei watwar gan gwmni fisgedi, ac yn ôl y sôn mae gen i dinc o’r hoyw ynof wrth gerdded lawr y stryd; os, yn wir, y cymerir bod Brad Pitt yn hoyw, wrth gwrs.

Fedra’ i ddim disgwyl tan y penwythnos ac rwy’n anelu am y Sadwrn fel llofrudd am dir sanctaidd. Does gan Gymru fawr o gyfle o guro, wrth gwrs, gŵyr pawb hynny, ond mae gwyrthiau’n bosib, wedi’r cyfan, mae gan Blaid Cymru tair sedd yn San Steffan o hyd, er gwaethaf cael Ieuan Wyn Jones yn arweinydd, ac mi gurodd y Tramp y Lady yn y diwedd yn do? Gas gen i ffilmiau efo anifeiliaid yn siarad, fel Babe. Unig bwynt anifeiliaid yw cael eu bwyta a gorau po gyntaf y’i bwyteir i gyd.

mercoledì, marzo 14, 2007

Y Graith Seicolojical Ffug (neu, blogiad arall efo teitl eithaf randym)

Iawn chief? Dw i’n flinedig oherwydd fe’r aethom ni i’r Bae neithiwr, i ryw warws a’i trowyd yn far, a chwarae cwis. Dydw i, na neb arall am wn i, wedi chwarae cwis tafarn ers yr ail flwyddyn yn y Mackintosh pan oeddem ni’n wael uffernol. Felly y bu eto, a daeth yr holl deimladau ffiaidd o rwystredigaeth a dicter a syndod ac anfodlonrwydd cyffredinol yn ôl ataf, a doeddwn i ddim yn hapus, yn enwedig gan mai y Fi oedd yn gyrru, a does gwaeth na siarad efo Haydn ar ôl iddo fo gael ambell i beint a fynta’n mynnu bod gen i deep psychological scars. Sydd, a gaf i gymryd yr hwn gyfle i ddweud, ddim yn wir.

Ac felly y mae bod gan Kinch swydd yn awr, a bydd yn ennill mwy na fi. Sydd, wrth gwrs, o loes calon i rywun mor sinigaidd ac ydwyf innau. Nid cenfigennus, wrth gwrs, dydw i ddim yn neud cenfigen. Bydd i’n gwneud lot o deimladau eraill, cofiwch, yn cynnwys dryswch, hunan biti a sbeit, i enwi’r rhai sydd fwy na thebyg y tri uchaf.
Dw i’n mwydro. Gwell i mi weithio mwy.

martedì, marzo 13, 2007

Enw Gwychaf yr Anifeiliaid

Newydd sbotio yr enw gorau ar anifail yn hanes yr iaith Gymraeg pe’i chyfieithir. Sea snail yn Gymraeg yw iâr fôr lysnafeddog – faint o wych y byddai pe’i hadlewyrchir yn Saesneg fel snotty sea chicken?

lunedì, marzo 12, 2007

Gwaed

Helo gyfeillion, sut mae’r hwyl? Dw i’n teimlo’n ofnadwy oherwydd fy mod i’n hynod, hynod flinedig. Eithriadol felly, a dywedyd y gwir yn ei gwirionedd plaen. Gallaf i ddim, er fy myw, gofio rhannau enfawr o nos Sadwrn, er bod ambell i lun eithaf doniol ond cywilyddus wedi dod o’r unman i ddangos eu hunain ar Facebook. A blin oeddwn efo rhyw hen goc oen ddaeth ataf a heb ysgogiant ddatgan : “There’s only two people I hate, the English and Welsh-speakers!” Twat.

Aethom ni ddoe am fwyd i ryw dafarn o’r enw The Deri, oedd yn flasus tu hwnt i flas. Dyna’r tro cyntaf dw i wedi llawn lwyddo bwyta cinio dydd Sul ar ddydd Sul ers hydoedd gyda hangover (a dyma lle dw i’n fod i ddweud bod Llinos isio mensh ar fy mlog, felly dyna ni: Llinos). Mi esh i i dŷ’r genod nes ymlaen i wylio Lady and the Tramp, sef ffilm nad ydw i wedi ei weld o’r blaen ac mi benderfynais fod ‘na ormod o plotholes ynddo fi i mi.
Hwyrach ymlaen, cawsom ni adref bizzas ac eistedd o flaen y teledu i wylio Fallen Angel. Nid ydyw o syndod mai’r unig ffordd yr wyf innau a Haydn ac Ellen yn bondio gyda’n gilydd yw drwy wylio rhaglenni llofruddiog eu naws; y mae’n gyfle i ni ymdrybaeddu yn ein cyd-awch am waed a phrudd-der i’r ddynol-ryw a phob rhyw un sydd efo car neisiach neu dŷ gwell na ni. Ac mae hynny’n lot o genfigen.