domenica, dicembre 31, 2006

Cerddaf ymlaen...!

Mae’n siŵr mai dyma’r adeg o’r flwyddyn i edrych nôl ac asesu a dadansoddi’r hyn a fu, er nad bydd neb yn ei darllen (does neb yn darllen blogiau ym mhythefnos olaf y flwyddyn, wyddwch chwi, heblaw amdanaf i, yn cadw golwg (a thrwyn) ar fusnes pawb arall lle nad oes rheswm imi wneud).

Sut flwyddyn fu 2006 i mi felly? Y gwychaf beth gyntaf oedd y Rhyng-gol yn dod i Gaerdydd, a minnau’n cael amser da (a ’chydig o lwyddiant am unwaith) fanno, ac wedyn y trip gwych a chafwyd i Iwerddon i wylio’r rygbi. O ran rygbi a phêl-droed doedd hi fawr o flwyddyn imi, yn enwedig wrth gefnogi Cymru, ond does dim byd anarferol yn hynny o beth, dim ond mynd i Bentrebane gyda Lowri Dwd un nos randym.

Wedyn, wrth gwrs, daeth y tridiau bythgofiadwy yna’n Prâg, lle bu imi fwynhau yn aruthrol, a byddwn i wrth fy modd yn mynd yn ôl yno rhywbryd; a dilynwyd hynny gan yr arholiadau olaf a wnaf i fyth a diwedd fy anturiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd (sydd wedi eu llawn cofnodi ar yr hwn flog a’r hen un), a phasio gyda 2:2. Wedyn dyna bethau’n mynd o chwith wrth imi adael f’anwylaf 28 Russell Street a’r Tavistock tu cefn.

Difethwyd wythnos olaf y Gym Gym imi, yr un olaf imi erioed ei fynychu fel myfyriwr, ar ei diwrnod cyntaf wrth imi ddadleoli fy mhen-glin yng Nghlwb Ifor, mynd i Ysbyty Mynydd Bychan ben fy hun, mewn sgert a het, am wyth awr, a chael fy hun yn ôl yn Rachub 24 awr yn ddiweddarach. Prin y gwelwyd y byddwn nid yn unig yn colli swydd o’i herwydd, ond popeth arall yn y calendr hafol, fel Maes B, Pesda Roc a’r Sesiwn Fawr, a bodloni ar ’sgota efo Dyfed a Kinch fu’n rhaid.

Wedi disgwyl hir a brwd daeth yr ymarfer dysgu (fu yn Rhydfelen, mae’n siŵr y ca’i ddweud wrthoch chi’n awr) y bu imi ei fwynhau ond prin y gallwn i ddelio â’r llwyth gwaith. Felly dim ond ychydig cyn y Nadolig dyma fi’n rhoi’r gorau iddi, wedi bod ar fy isaf don ers blynyddoedd wrth wneud. Felly dw i’n gorffen y flwyddyn gyda gradd a dim gwaith, felly well imi obeithio y bydd 2007 yn rhoi ychydig bach mwy o gysondeb imi, os nad mwy o lwyddiant.

Blwyddyn newydd dda!

sabato, dicembre 30, 2006

Dau fys i'r Flwyddyn Newydd

Dydi hi ddim yn gyfrinach nad ydw i’n hoff o’r Nadolig. Yn y lleiaf. Ond nid cyfrinach mohoni chwaith nad oes fawr o amynedd gen i gyda’r Flwyddyn Newydd ‘chwaith. Mae’r ddau beth yn rhy agos at ei gilydd. Hynny yw, mae’n cyrraedd ganol yr haf a does ‘na uffern o ddim i’w gwneud na dathlu, ac wedyn mae’r ddau sesh yma yn agos i’w gilydd, ac mae’r ddau yn hollol ddibwynt.

O’n i’n sâl erbyn cinio Nadolig efo pen mawr, ond mae’r Flwyddyn Newydd yn waeth. Dydw i ddim, o bawb, angen rheswm i gael sesh, ond dydw i methu chwaith mwynhau noson y 31ain o Ragfyr. Unwaith mae hi’n cyrraedd deuddeg ti un ai isio mynd adref neu ti’n sobor ac wyt ti isio mynd adref.

Felly dw i’n gwneud safiad y flwyddyn yma; un cryf ac annibynnol. Mae Dad yn mynd â fi yn ôl iawn i Gaerdydd yfory (gan nad ydw i yn bwriadu mynd â’r car y tro hwn) ac fe’r ydw i am AROS I MEWN AR Y FLWYDDYN NEWYDD BEN FY HUN A CHYSGU CYN HANNER NOS. A thwll din pawb arall.

giovedì, dicembre 28, 2006

Ffycin ceffylau

Fi sy wedi corddi, dyna'r oll, ond dau beth am geffylau

  1. Mae'n nhw'n ffwcin gwylltio fi ar y ffordd a bod titha'n gorfod slofi lawr iddyn nhw a throi'r miwsig i ffwrdd, a melltithio dan dy wynt pam ffwc dydyn nhw ddim mewn cae neu ar fynydd.
  2. Pam ei bod hi'n anghywir i gi cachu ar y ffordd (neu o flaen dy gartref) ond mai'n iawn i geffyl wneud (a'i gwneud ddegwaith yn fwy)?

martedì, dicembre 26, 2006

Fy Nadolig

Ydach chi isio clywed am fy Nadolig i? Na? Tyff.

Fe ddechreuodd pethau’n dda ar Noswyl y Nadolig. Wn i ddim amdanoch chi, ond fe fydda i, a chryn dipyn o bobl ardal Bethesda, yn cael sesh y diwrnod hwnnw. Ges i ddiawl o un, ac erbyn diwedd y nos roeddwn i wedi un ai sarhau neu chwalu hyder y rhan helaethaf o’m ffrindiau. Fel y bydda i bob tro yn llwyddo i wneud, gan ofyn pethau megis “Ti’n uffernol o denau; ti’m yn smached rŵan nagwyt?”

Fodd bynnag, diwrnod ‘Dolig a doeddwn i methu agor fy llygaid. Yr unig synnwyr oedd gen i’r bore hwnnw oedd clyw: nis fedrais weled na theimlo na dim, na symud. Ond erbyn imi godi roedd popeth yn iawn, a mynd drwy rhai o’m anrhegion, a gynwysasant pliciwr tatws.

Ond dyma’r peth: ciciodd y pen mawr i mewn tua phum munud cyn amser cinio. Prin fy mod i wedi llwyddo i ystryffaglu bwyta cinio i’r fath raddau o’r blaen. Ffwrdd â fi wedi i orwedd yn fy ngwely tan bedwar o’r gloch, cyn chwarae poker efo’r teulu a ddaru Mam guro a hithau’n heb syniad beth ydi’r rheolau (y llaw gyntaf un roedd Dad a fi efo’r rhan fwyaf o’r tsips ar y bwrdd, a dyma Mam yn datgan yn hapus bod ganddi 17 – sy’n eithaf agos i 21. Afraid dweud, heb ei sylweddoli, roedd hefyd ganddi Flush, a gurodd Dad a fi yn llwyr).

Heddiw rydan ni’n mynd i dŷ Nain am ginio, fel pob Diwrnod San Steffan, i fyta chwadan. Ta ra!

sabato, dicembre 23, 2006

Pysgotwyr Gwaethaf Cymru

Dydi'r rhan fwyaf o bobl ddim yn pysgota jyst cyn y Nadolig ac rwan rydwyf i (arwr Rachubaidd, a sonia sawl lleyg a chwedl amdano) a Dyfed (alcoholic, un o sgyms mwyaf Gwalchmai a chwaingasglwr) yn ymwybodol o hyn. Cawsom ddiwrnod dieflig.


Prin yr ydym yn mwynhau cwmni'n gilydd beth bynnag, rydych chi'n dallt, ond mae diflastdod yn gwneud rhywbeth i rywun, fel eu bod yn fodlon cael cwmni unrhyw un sy fodlon. Felly fe aethon ni gael abwyd ac ati, a gwario tua ugain punt rhyngom arno, cyn mynd thua Bae Trearddur a cholli popeth, yn cynnwys abwyd a thresys. A hynny wedi trempian fel wariars ar hyd niferus greigiau llithrog er mwyn cael y 'man 'sgota perffaith', a drodd allan fel y siomedigaeth fwyaf a gafodd unrhyw un erioed ers i'r Iddewon llawenhau bod y nwy yn cael ei droi 'mlaen er mwyn eu cadw'n gynnes.


Serch hynny, prudd y bu, ac uffernol o oer, a llithrem a rhewem wrth i'r niwl gau amdanom a'r ragwyrms ceisio ein brathu ac wrth i'r bachyn dynnu gwaed allan o Dyfed ac wrth imi chwerthin yn ynfytaidd ar ei ymgais i bysgota.

Ystyriodd Dyfed yn ddwfn os bod pysgota yn ei waed, wedi snagio a cholli abwyd drachefn

Y Cerdyn Nadolig Waethaf Erioed

Mae hyn jyst yn inconsidyryt: cerdyn Nadolig gan fy RHIENI, a pha beth y dywedyd y cerdyn ar ei thu mewn?

HAPPY BIRTHDAY

giovedì, dicembre 21, 2006

Cythreuldod y bore bach a craprwydd 'Dolig

Ers tridiau bellach dw i wedi bod yn deffro fyny am bedwar o'r gloch yn y bore ar y dot. Eithaf' sbwci, o'n i'n amau 'fyd. Beth sy'n ei wneud yn waeth ydi dw i o hyd yn deffro bryd hynny i sain cŵn y pentra yn udo ac yn cyfarth yr amser honno. Rŵan, mae hynny yn sgeri. A dim ond y fi sy wedi deffro yn Rachub oll yr amser yna o'r nos (a hithau'n bentref delfrydol ei naws, gyda phawb yn eu gwlâu am un ar ddeg, er mwyn codi gyda'r wawr i mynd i'r chwaral. Canys, gŵyr pawb bod pawb yn Nyffryn Ogwan o hyd yn gweithio yn Chwarel y Penrhyn dan gysgod yr Arglwydd Du yn ei gastell draw).

Canmolid fy mhasta bake neithiwr i’r uchel nefoedd, hefyd, i chi gael dallt. Er, chi’n gwybod beth? Dydi hi ddim yn teimlo fel y Nadolig yr un iot i mi flwyddyn yma. Dim yn y lleiaf. Dw i’m yn meddwl bod ‘Dolig ‘run peth ers bu farw’r hen Anti Blodwen farw dros flwyddyn yn ôl, bellach, ac mae pawb yn teimlo’r un peth. Piti, a dweud y gwir.

I mi, mae’r Nadolig wedi cyrraedd y stêj fel y byddwn i’n hapus iawn yn ei threulio mewn gwesty, neu dramor, neu mewn unrhyw fan lle nad oes yn rhaid i mi mewn difri ymwneud â hi o gwbl. Does ‘na ddim byd sbeshal amdani mwy.

Does ‘na ddim ewyllys da, chwaith. Ac nid cyfeirio dim ond at bobl eraill ydw i fan hyn. Pan es i Morristons Bangor ddoe roedd ‘na y bobl elusennau o gwmpas yn isio arian ar gyfer rhywun neu’i gilydd, a’r unig beth fedrwn i feddwl am oedd ‘cadwa’n glir y basdad, chei di ddim dimau gen i’ a throi fy wyneb at y llawr yn lle dal eu llygada.

Y peth gwaetha’ ydi, nid y fi di’r unig un, naci?

mercoledì, dicembre 20, 2006

Brithyll i de?

Henffych a hawddamor i bawb (ond am Dyfed)! Wyddoch chi be’? Dw i mewn hwyliau da. A phan ydw i mewn hwyliau da mae’r byd yn goleuo fyny. Ia, efallai mai diwrnod oer a gwlyb ydi hi ar ruddiau Moel Faban heddiw fore, ond mae fy nghalon innau’n tywynnu fel sêr y nos dros y rhos.

A pham, ymofynnwch? Ymhelaethaf. Dw i’n coginio heno. Coginio i’r teulu. Medra i ddim cweit esbonio pam fod hynny’n rhoi si imi, ond mae’n rhannol oherwydd bod gan well bawb yn y tŷ fy nghoginio i yn hytrach nag un Mam. Mae Mam, afraid dweud, a hithau’n fam wedi’r cwbl, yn gogyddes heb ei hail. Ond dw i’n well, yn ôl y sôn ar y winllan deuluol.

Fe es i draw i Dre ddoe ‘fyd, a phrynu Brithyll gan Dewi Prysor. Fe ges i drafferth ei dechrau hi ond dw i’n ei mwynhau rŵan, ac mae hi wedi codi fy nghalon isel hefyd. Rhyngoch chi a fi, ond do’n i’m yn gwybod pwy oedd Dewi Prysor (yn iawn) tan y bu imi weld ei lun ar gefn y clawr ac yn rhywle arall yn ddiweddar, a dw i’n meddwl fy mod i wedi ei fwydro yng Nghlwb Ifor rhywbryd. Neu’r ffordd arall rownd. Beth bynnag, cyfle da i name dropio wedi ei lwyr gymryd gennyf drachefn.

Rŵan, wedi gêm fach ar y cyfrifiadur mi af i Fangor (cachwancgadarnle’r byd gwaraidd) i brynu bwyd ar gyfer Y Wledd.

lunedì, dicembre 18, 2006

Jacpot!

Dyfalwch ym mha le’r ydwyf? Ia, gwlad y galon (cadarnle afiechydon y galon, hynny yw), Rachub dirion deg, yn nythu ar fronnau swmpus Moel Faban.

Dw i wastad wedi licio’r enw ‘Moel Faban’. Hi di’r mynydd lleiaf yn y Carneddau, a dw innau’n byw reit wrth ei hymyl. Dw i byth wedi cynhesu ar yr enw ‘Moelwnion’, sydd yn enw gwirion. Fe’i golygir ‘Onion Hill’ yn y Saesneg, a dw innau wastad wedi meddwl bod hynny’n enw eithriadol o ryfedd am fynydd, yn enwedig un nad ydyw’n ymdebygu i nionyn mewn unrhyw ffordd. Siriys, ‘di o ddim.

Serch hyn, un hapus ydwyf ar y funud. Heblaw fod pwysau’r byd wedi codi oddi wrthyf, mae hefyd y diléit o weled bod £750 o grant wedi mynd i mewn i fy nghyfrif banc Ddydd Llun diwethaf am y cwrs TAR ac nad ydw i’n gorfod ei thalu’n ôl! Anrhegion ‘Dolig gwell na’r arfer i bawb eleni felly! (h.y. mae pawb yn cael anrheg ‘Dolig; rhywbeth nodweddiadol canys nad ydw i’n prynu rhai byth. Efallai mai diog ydwyf, hunanol neu di-hid. Dydw i ddim yn rhy siŵr. Hoffaf ddefnyddio ‘anghofus’ yn yr hwn fater).

Iawn, gwell i mi fynd rŵan a gwneud iws o’n hun, a hithau wedi 10. Hwyl!

mercoledì, dicembre 13, 2006

Y Dechreuad Newydd

Felly dyna ni. Dim addysgu mwyach i mi. Er, mi wna i roi go arni eto rhyw ddiwrnod, dw i’n sicr o hynny. Esi weld Clive ac fe fu Clive yn dweud ei fod o isio imi aros achos fy mod i’n ‘garismataidd’. Dw i ddim yn siŵr beth mae carismataidd yn ei feddwl, hynny yw, o fewn hyn a hyn o eiriau, ond mae o’n un o’r pethau ‘na y mae pawb yn falch o gael ei alw, yn tydi?

Be wna i yn y cyfamser, felly? Dyma’r cwestiwn mawr. Dw i ffansi fy llaw ar gyfieithu, felly dw i’n meddwl mai’r trywydd yna y byddai’n ei ddilyn. Gwell imi beidio â rhoi lawr ‘rhoi'r gorau i gwrs TAR, gweithio mewn bar a rhoi pamffledi BT allan yn Eisteddfod 2004’ ar y CV. Ond Duw, dim ots. Er mae’n siŵr ar y cyfan y bu imi fwynhau’r tair mis ddiwethaf, dw i’n teimlo fod ‘na lwyth enfawr oddi arnaf. Iawn. Cau geg. Ffeindio job.

martedì, dicembre 12, 2006

Methiant arall ar gwrs bywyd

Dyna ni. Dw i wedi rhoi'r gorau i ymarfer dysgu. Dw i wedi bod yn paladurio amdani ers blwyddyn ac mae hi wedi dod at hyn. Bydd neb sy'n fy adnabod yn synnu llawer, dw i'n amau dim. Ond mae hwn yn wahanol.

Oeddwn i ISIO bod yn athro. Oeddwn i'n edrych ymlaen at ei gwneud hi. Mae'n swydd dda 'fyd, o ran cyflog a gwyliau, a swydd diddorol. Ond y gwir amdani oedd r'on i'n iwsles. Eithriadol. Doedd gen i ddim hyder yn yr hyn oni'n ei ddweud, yn bron deall dim o be oni'n ei neud, ac yn waeth fyth pan oeddwn i yn cael cyngor gan yr athrawon eraill roedd o fel iaith arall imi. Nid eu bai nhw mo hynny, yn y lleiaf, ond fi sy'n hollol ddwl.

Dw i bron a torri 'nghalon. Mi fyddai'n onast efo chi, ro'n i bron a chrio am y tro cyntaf ers dros ddegawd. Ond mi wn mai dyma'r peth iawn i'w wneud, achos dw i'n gweithio yn galetach nac ydw i erioed wedi gwneud yn fy mywyd, ac mae hi gyd yn mynd dros fy mhen, a fedrai'm gwneud dim mwy.

Diwedd trist pathetic i'm hanes i o addysgu.

domenica, dicembre 10, 2006

Y Gwir am Ddydd Sul

Mae 'na wirioneddau mawrion am Ddydd Sul. Diwrnod o ymlacio ydi hi fod, wrth gwrs, ond prin ei bod yn llwyr droi allan felly.

Dydw i ddim yn rhy ddrwg am gael pen mawr yn y bore, ond erbyn Dydd Sul, os byddaf i wedi bod allan nos Wener a Sadwrn yn enwedig, bydda i’n teimlo’n eitha’ sâl. Mae fy mol yn ei chanfod yn anodd stumogi bwyd yn enwedig. Ond fe fyddan ni wastad yn mynd allan Ddydd Sul am ginio. Aethon ni i’r Flora am fwyd heddiw, ac fe ges i ryw bei a thatws mash.

Prin y bwytasid gen i. Dydi grefi a hangover ddim yn cyd-fynd fel rheol, ac mae bwyd Dydd Sul wastad yn fynydd i’w dringo. A’r gwaethaf beth ydi erbyn yr amser yma o’r nos mae’n hanfodol fy mod i’n paratoi am goleg ‘fory a’r ysgol am weddill yr wythnos. Hynny yw, rhaid bo’r aseiniadau i gyd wedi eu gwneud a chynlluniau gwersi â rhyw fath o siâp arnynt.

Ar y funud dw i’n teimlo’n sâl ac eto mae’n rhaid imi frasgamu drwy wythnos arall. Dydw i ddim cweit yn siŵr sut dw i’n llwyddo, wchi.

lunedì, dicembre 04, 2006

domenica, dicembre 03, 2006

Lowri Dwd, fi a'r car

Wedi mynd a Lowri Llew i le Arwel aethon ni, Lowri Dwd a myfi, am dro yn y car. Nos Iau oedd hyn, pes cofiwn yn gywir. Dw i newydd wneud CD newydd, un hollol cawslyd, ac o gwmpas mannau anhysbys Caerdydd yr aethom gan ganu a bod yn gyffredinol sad gyda'n gilydd. Fe ddiweddon ni fyny yn rhywle o'r enw Canada Lake, cyn imi fynd a hi adref a chael ffycin camera sbydu yn fy nal. Dydi Nain ddim yn hapus.

Es i ddim allan penwythnos yma felly mi a'i allan heno ar nos Sul. Dw i'n methu mynd allan ar nosweithiau Sul, dydi pobl Caerdydd ddim yn gwneud. Ond mae gen i Pesda yn y gwaed a'r galon ac mae'n golled mawr gen i.

Dw i eisiau cynllunio fy ngwersi heddiw ond dw i wirioneddol heb fynadd o gwbl. Y rhan waethaf o TT, oni bai am farcio sy'n lladd rhywun, ydi cynllunio gwersi. Fydda'n well gen i mynd efo'r llif a gweld sut mae pethau'n mynd. Efallai, mewn ugain mlynedd, caf wneud hynny, ond mae'r holl strwythur a threfn yn fy nghrogi ar y funud, yn ogstal a bod yn hollol sgint a'n adicted i Bebo.

mercoledì, novembre 29, 2006

Trafferthion tai

Wel mae hyn yn sefyllfa druenus. Ma'r landlord yn AWOL, y cwmni newydd eisiau cael gwared ohonom ni, y llys wedi penderfynu bod yn rhaid inni symud yn o fuan, ac oll ynghanol cyrsiau a gwaith pawb.

Dydan ni ddim angen hyn, felly mi dwi a Haydn yn mynd i'r Citizens' Advice Bureau yfory i geisio cael ychydig o arweiniad. Trodd y landlord ddim fyny i'w hachos llys, hyd y medrwn ei ddeall, ac mae'r llys yn meddwl mai hyhi sy'n byw yma ac nid y ni.

Bolycs.

lunedì, novembre 27, 2006

Diwrnod i ffwrdd

Dw i wedi cymryd y fraint o rhoi ddiwrnod ffwr' i fi'n hun. Gan fod y coleg mor ddibwynt dw i wedi penderfynu aros adref a chynllunio fy ngwersi (heb son am fynd i Lidl i brynu mozzarella). Yn ogystal, mae gen i wddf sych ar y funud a prin y medraf siarad.

Reit, dw i'm am son wrthoch chi am y penwythnos. Roedd o'n rybish. Oeddwn i adra digon cynnar i weld y blydi Briodas Fawr (er, rhaid imi gyfaddef, dw i wedi bod yn ei dilyn yn selog hyd yn hyn). Problem mwyaf S4C ydi eu bod nhw'n rhoi y rhaglenni da neu gweddol i gyd i mewn ar y penwythnos, megis Y Briodas Fawr, Johnathan a Cnex. 'Sdim rhyfedd fod y ffigurau gwylio mor isel os mai dyna maen nhw am ei wneud.

Braf hefyd gweld y bydd Yr Alban yn annibynol cyn bo hir, ys wetws hwynt. Cymru fydd nesa', gewch chi weld. Er, na fydd hynny'n cael gwared o'r llygod o'r ty 'ma, oni bai fod y Gymru Rydd yn mynd ati ar ymgyrch ddwfn o ymwared a hwynt o 437 Newport Road efo'i holl luoedd a grym. Fe'u clywais yn mynd o amgylch y waliau neithiwr yn fy ngwely. Bastads. Dw i ofn i un mynd i mewn i'r gwely efo fi a phlannu'i hun rhwng fy nghoesau, dyna oedd yn mynd drwy fy meddwl am y ddwyawr cyn y bu imi lwyddo cysgu neithiwr.

Bwyd yn barod. Ta ra!

domenica, novembre 19, 2006

Hyngowfyr

Dyma beth od ichwi. Dydw i heb yfed dim y penwythnos yma. Yn ddiweddar iawn bydda i’n gorfod gorfodi fy hun i fynd allan. Wn i ddim pam, ond felly y mae. Er hyn, mi gredaf fod fy nghorff erbyn hyn wedi mynd i mewn i ryw ddull o wneud imi deimlo fel bod pen mawr gennyf i ar foreau Sul. Teimlais yn ofnadwy bore ‘ma, a ni fu imi fedru gorffen fy mwyd yn y dafarn ynghynt, a fyth ers hynny dw i’n teimlo’n flinedig (er bod gwaith gennyf i’w chyflawni a gwersi i’w paratoi).

Felly, ai rhyw fath o arwydd o heneiddio ydi hyn, ai fi sy’n troi’n ddiflas? Dw i’n amau’r ail un. Lle gynt y bu dim trefn i fy mywyd mae gen i un haearnaidd yn awr; ac fel y gwyddoch dw i ddim yn hoffi trefn. Codi, brecwast, pacio, ysgol, dysgu, adref, gweithio, bwyd, slobio, gwely. Diflas yn de?

Y broblem fawr ydi fod ein tŷ ni mor bell o dre fel ei bod yn drafferth mynd a dod. Ond dyna ni. Mae llygod yn y tŷ yn awr, yn mynd ar hyd y gegin pan nad ydynt yn credu fy mod i’n sbïo arnynt. Efallai dylwn i fynd o ‘ma fwy.

mercoledì, novembre 15, 2006

Gwers dda, gwers ddrwg

Does, bosib, teimlad well yn y byd pan fo gwers yn mynd yn dda. Rydych chi'n teimlo eich bod chi'n cyfrannu rhywbeth at y plant, yn teimlo eu bod nhw'n dysgu ac yn ymateb iti, ac wedyn yn dweud diolch yn fawr ar ddiwedd y wers. Ar y llaw arall, mae gwers ddrwg yn gnoc sylweddol i'r hyder. Fe ges i fy ngwers ddrwg gyntaf heddiw. Llawn dosbarth nad oeddent eisiau dysgu nac ymateb na chau eu cegau am funud yn lythrennol.

Does gwaeth, chwaith, na chadw disgyblion i mewn ar ol y wers am bum munud 'er mwyn cael gair', a gofyn iddynt wella erbyn y wers nesaf (a tithau'n eitha' sicr na wnawn nhw). Trist iawn, feri sad.

Gwers i'w pharatoi erbyn yfory. Wypdi-dw.

domenica, novembre 12, 2006

Caneuon meddw

Fe fuon ni'n y Model Inn neithiwr, a dyma fi a Lowri Llew yn ysgrifennu caneuon nad bodolant ond hoffwn eu clywed rhyw ddydd megis:

  • "Help! I Need a New Toaster (Because I Love Bread)"
  • "Let Me Into Your Pocket"
  • "It's My Turn on the Harp of Love"
  • "I Want to Poo in your House and Eat All The Cheese"
  • "If Mustard Was Tough, Then I'd Be Loved"
  • "Imagine Sex Without Some Monkeys"
  • "Armpits Are A Girl's Best Friend"
  • "Never Mind The Queue, I Have a Trolley Full of Dust"
  • "The Bread Bin - My Secret Lust"
  • "I Love Playing in the Toilet With Children"
  • I Stuck a Giraffe Up a Lampost And Now It Won't Come Down"
  • "Let Me Put a Finger In Your Fridge"
  • "Dafydd Iwan Ate My Bread and Had A Poo"
  • "I Had Sex With a Penguin And Now Need Marriage Counselling"
  • "Is That An Uncle On The Shelf of Love?"
  • "My Nose Is Attracted To The South Pole"

giovedì, novembre 09, 2006

Straen

Does dadlau nad yw straen yn effeithio arnaf yn ormodol. Er, gan ddywedyd y math beth prin fy mod i wedi bod dan wir straen o’r blaen. Do, clywoch dair blynedd o gwyno cyson ar yr hwn flog, ond rŵan mae gen i reswm i gwyno.

Dw i’m yn meindio cyfaddef fy mod i wedi bod drwy Ysgol Dyffryn Ogwen ac wedyn y brifysgol yng Nghaerdydd heb wneud fawr o waith. Y gwir ydi, dw i wedi bod yn un ffodus. Dw i’m wedi adolygu ers TGAU, ac mae’r traethodau dw i wedi eu gwneud wedi bod o safon isel ond yn ddigon da imi basio. Yn waeth fyth na hynny, cofiwn i fyth ddarllen fawr o ddim ar gyfer eu hysgrifennu, gwneud ymchwil na chymryd gormod o ofal wrth eu gwneud. Gwnaed y rhan helaethaf ohonynt mewn cyfnodau o bedwar neu pum awr a minnau’n teipio fel y diawl yn malu cachu am bob dim dan haul a nef.

Felly, fel y gwelwch, yn addysgol mae fy mywyd wedi bod yn hawdd, a digon teg dywed yn ddi-her. Nid brolio ydw i o bell ffordd, mae’r ochr ddiog a diamynedd sydd gennyf yn rhywbeth bod cywilydd gennyf amdani, ond mae pethau wedi bod yn hawdd hyd yn hyn. Yn awr, mae traethawd manwl a dwfn gennyf i’w wneud a minnau prin heb ei wneud (yn dda). A fedraf i ddim methu; does cyfeiriad arall gennyf i fynd ond am hyn.

Felly dyma noson o waith sydd gennyf. Mae gwers i’w chynllunio yfory i’w wneud, yn ogystal. Ych. Tyred y Nadolig!

domenica, novembre 05, 2006

Crynu fel cryniadur

Gêm od oedd hi ddoe, yn de? A hithau yn yr wyth degfed munud dyma’r adrenalin yn dal ati i bwmpio, ac wedyn dyma’r dyfarnwr yn chwythu’i chwib a dyna ni. Chwydais i am hanner amser ddoe yn Y Mochyn Du, ond yn wahanol i’r arfer des o hyd i le da i wneud, a dymchwel fy nghinio o fadarch, cyw iâr, pupurau gwyrddion a nwdls rhwng y dail. A gwelodd neb mohonof. Balch iawn o’n i ‘fyd, a dweud y gwir wrthoch chi, achos fel arfer mai’n mynd ar hyd y llawr neu mewn i wydrau peint.

Beth bynnag, oeddwn i adref yn hynod fuan neithiwr, tua 11.30. Roedd Haydn yma’n barod yn cysgu ar ei wely, a fynta heb gael mewn i’r unlle. Mi nes i darfu ar draws barti preifat i bobl Drenewydd yn Tiger Tiger, cyn mynd o ‘na a cholli pawb a chael bwyd yn Chippy Lane am y tro cyntaf ers hydoedd.

Ceisiais am dacsi neithiwr. Roedd hi’n rhynnu, ond doedd ‘na ddim un i’w gael, ac fe fu’n rhaid imi gerdded adref, yn crynu fel cryniadur efo batris newydd (nis gwyddwn am y ffasiwn bethau, wrth gwrs). Ac felly y bu.

venerdì, novembre 03, 2006

Nid hawdd mo cynllunio gwers

Gwir yw fy ngeiriau. Ddoe, fues i’n cynllunio un wers a gymrodd, rhwng gwneud y PowerPoint, gwaith cartref a thaflenni (heb son am beth ddiawl ddyweda i yn ystod y wers) bedair awr imi. Nis dechreuais y traethawd yr oeddwn yn benderfynol o’i dechrau erbyn diwedd hynny. Stwffiais fy hun ar y soffa ac aros yno’n benderfynol am weddill y nos.

Heddiw, fodd bynnag, gyda gwers am y cynganeddion tu ôl imi, mi ddechreuaf y traethawd rŵan. Fe ges i ryw bwl o anhyder ddoe, a dechrau chwilio am jobs ar-lein yn hytrach na bod yn athro tan sylweddoli does dim byd arall sydd gennyf y ddawn i’w gwneud.

giovedì, novembre 02, 2006

'Dolig 2005

Dwi wedi bod yn aelod o youtube ers 'chydig bellach, ond byth wedi gosod fideo arno. Felly dyma'r un cyntaf; sef Cerys Matthews yn canu 'Arglwydd, Dyma Fi' yng Nghlwb Rygbi Bethesda yn 2005.

http://www.youtube.com/watch?v=fIZF1o1VLbc

mercoledì, novembre 01, 2006

Ecrafing Sbarang

Mae teimlad ofnadwy gennyf fi am neithiwr. Aml iawn mi wna i dwat o’n hun allan; dw i’n fodlon cyfaddef hynny. Ond neithiwr mae teimlad gennyf fy mod yn waeth nag erioed. Dw i’m yn cofio lot, ond fy mod i’n eistedd ar gadair yn rhywle a methu codi, a chwydu mewn i wydr peint o flaen pawb. A’r hwn fore, mae gen i gywilydd dangos fy wyneb, er nad oes neb o gwmpas i fy ngweld diolch i’r Arglwydd.

Mae gen i glais hefyd. Clampglais mawreddog sy’n ddu ac yn biws ar ochr fy mhen glin. Aeth criw ohonom i go kartio ddoe, dachi’n gweld. Fi oedd y gwaethaf o bell ffordd, yn anffodus, heb fath o reolaeth dros y cerbyd, yn troelli ar hyd y trac (neu oddi arno, i fod yn fanwl gywir) ac fe ges i ddiawl o smash ac o’r herwydd hynny cefais y clais. Er hyn, rhywsut, llwyddais i gael yr ail lap cyflymaf (ac nid dim ond myfi a gafodd sioc).

Felly dyma fi yn fy ngwely, llenni ar gau, yn poenydio am ba bethau a wnes neithiwr. Ar fy mywyd, os mae’n ddrwg ofnadwy, yfaf i ddim fel hynny eto. Efallai, yn wir, ei bod yn amser callio.

lunedì, ottobre 30, 2006

Saw III

Dydw i ddim am smalio i chi, cefais y profiad gwaethaf bosib yn y sinema neithiwr. Gwelais Saw III.

Anghofiwch y cyntaf a’r ail; mae’r rheiny’n pink bunny and pony material o’u cymharu â Saw III. Mae’n ddibwynt o waedlyd, ac mi fyddaf onest, bu bron imi chwydu yn ystod y chwarter awr agoriadol. Nid yw perfeddion a gwaed at fy nant yn y lleiaf, fel yr eglurais wythnos ddiwethaf. Bu imi fwynhau’r gyntaf yn y gyfres; yr ail nid cymaint ond yn falch fy mod wedi ei weld. Mi fedraf ddywedyd â’m llaw ar galon yr edifaraf weld y drydedd ffilm. Roeddwn i’n ypset iawn yn gadael, ac fe ges i noson annymunol iawn o gwsg neithiwr, wedi breuddwydio fy mod wedi cerdded i Langefni i brynu tŷ.

Er mwyn Duw, nad ewch i weled yr hwn ffilm.

venerdì, ottobre 27, 2006

Brêc

Mae hanner tymor arnom! Plant yn hapus, myfyrwyr yn hapus, addysgwyr yn hapus, tra bo’r gweddill ohonoch yn sdyc mewn swyddi lle na chewch wythnos o feddwi didrugaredd a llwyr. Esboniais y byddaf i’n aros o leiaf yn ychydig yn chwil o heno hyd at Ddydd Mercher. A syniad da ydyw mi gredaf.

Mi ddysgais fy ngwers gyntaf ddoe. Aeth o’n wych; a doedd ‘na ddim math o nerfau arna’ i. Rhoddodd hwnnw sioc a bŵst hyder imi. Oeddwn i angen hynny; yn gynharach yn yr wythnos doeddwn i ddim yn siŵr bod y peth dysgu ‘ma i mi, gwelwch. Erbyn hyn dw i’n eitha’ hapus dal ati a mynd ymlaen ac ymrwymo fy hun at rywbeth. Sy’n eitha’ da, achos byddwn i’m yn gwneud uffern o ddim arall ‘blaw am hynny.

Heno, mi af allan. Fe feddwaf am y tro cyntaf ers pythefnos. Methu disgwyl!

martedì, ottobre 24, 2006

Atgofion

Ymwelais â’r hen flog am y tro cyntaf ers hydoedd dim ond rŵan.

Trist iawn ydwyf. Tair blynedd o’m mywyd … wedi mynd …

lunedì, ottobre 23, 2006

Y Llun yn UWIC

Henffych gyfeillion mân a mawr! Dim gymaint y rhai mawrion. Tueddol ydynt o beidio â gallu eistedd ar gadair cyfrifiadur canys fe’i melir ganddynt felly nas medrant ddarllen yr hwn flog wrthun. Er, os mai pris gordewdra ydyw peidio â medru darllen fy mlog, prin ei fod yn bris mawr.

Yn UWIC y bûm heddiw, yn chwerthin drwy’r dydd a chael hwyl fawr. Wyddwn i ddim os ydych chi’n ymwybodol o Clive Rowlands, ond mae’r dyn yn chwedl yn ei hun, ac wedi wythnos mewn ysgol uwchradd mae’r Llun yn rhywbeth i edrych ymlaen ato, gyda’r hen Clive yn codi gwên o hyd yn ddi-ffael. Efe ydi tonic fy jin, a mawr barch sydd gennyf ato.

Er hyn mae Dydd Llun yn ddiwrnod hollol ddiddefnydd, mewn gwirionedd, a phrin y dysgaf i ddim.

Sut bynnag, gyfeillion, rwy’n mynd allan heno. Wedi mynd i’r ysgol gyda phen mawr ar fy nghyntaf wythnos yna nid byddaf yn gwneud hynny eto, ond mynd am fwyd i fwyty Eidalaidd. Pen-blwydd Rhys ydyw, felly pen-blwydd hapus iddo fo. Dw i’n ffan fawr o fwyd Eidalaidd, er mi aiff a Tsieinîs â fy ffansi o bryd i’w gilydd. Fe ges i un neithiwr am y tro cyntaf ers hydoedd a sgỳm ydoedd, gyda bîff cnoillyd annifyr a llysiau caled. Er, mae’n siŵr nad oes diddordeb gennych chi erbyn hyn, nacoes?

Oni’n ama.

domenica, ottobre 22, 2006

Ffarwel i fro fy mebyd

Wel mi ges i ddiwrnod anniddorol ddoe, o ystyried fy mod i adra’. Es i weld Nain, ac fe ddywedodd hithau ei bod hi’n meddwl fy mod i’n dod adra’r penwythnos yma, er na roddais i na neb wybod iddi. Conecshyn sydd gan Nain a fi, dachi’n gweld. Fodd bynnag, aeth hithau’n ymlaen i drafod teledu Cymraeg, ac esbonio bod Naw Tan Naw yn “rhaglen ddoniol ond lot o sôn am secs ynddo fo” a bod Tipit yn hwyl fawr i’w wylio. Eglurasai sut y mae’r gêm yn gweithio, a rhywsut llwyddodd i’w chyflwyno’n waeth nac ydyw mewn difri. Dawn sydd i Nain, yn wir; pe fyddai hithau’n ysgrifennu adolygiadau S4C byddwn ni gyd llawer mwy siomedig pan fyddai’n dod at y gwylio, dw i’n amau dim.

Typical fy mod innau wedi dod fyny ar y penwythnos bod rhyw hogan wedi cael ei herwgipio o Wrecsam a bo’r Heddlu yn cau Pesda allan o’r byd drwy archwilio pob un car sy’n mynd allan o’r pentref. Dydyn nhw heb f’archwilio i eto, er prin y dônt o hyd i ddim yn fy nghar ond am gwm cnoi a CD Dafydd Iwan. Boed y rheiny’n gryfder imi fentro’r daith lawr i’r ddinas fawr (wn i ddim pam fo pobl yn cyfeirio at Gaerdydd fel ‘y ddinas fawr ddrwg’. Nid mawr mo Caerdydd, a phrin ei bod yn ddinas mewn difri. Er, dydi hi’n sicr ddim yn ddrwg o’i chymharu â …. Wwwwww …. Sir Fôn? Heh heh. Weloch chi FYTH mo hynny’n dod, naddo?).

Sut bynnag, fe af drachefn i Gaerdydd heb weld na mynydd na llyn na chlogwyn tan y ‘Dolig. Hwyl fawr fro fy mebyd (does mab gennyf), fe’th welaf eto!

sabato, ottobre 21, 2006

Rachub yn y glaw

“He’s an ugly little bloke, but humourous and clever”

-- Mam, am Ian Hislop



Mae rhywbeth adfywiol iawn am law'r Gogledd. Does gwair yng Nghaerdydd sydd mor ir, nac yn arogli cystal â gwair y Gogledd. A dydi hi ddim fel bo’r Gogledd yn wlypach na Chaerdydd: trwy’r wythnos mae hi ‘di bod yn dywydd crap yng Nghaerdydd, ac yn ôl adroddiadau cyson Mam a Nain yn eithaf braf yn y Gogledd. Wedyn dw i’n cyrraedd, ac mae’n newid byd.

Ydw, dw i’n ôl yn Rachub, cadarnle’r Gymraeg a smôcs rhad. Richmond, gan amlaf. Ond tu hwnt i’r pwynt hynny ydyw. Dw i’n falch o fod yn ôl. Mae mynd i’r ysgol yn llawer mwy blinedig i athro na disgybl, er cyn hwylused ydyw chwerthin am ben rhai o’r plant rhyfeddach, ymhyfrydu yn wir garedigrwydd a mwynder rhai, a blino ar y rhai trahaus ac anghynnes. Go damnia na chaf i eu henwi yma.

Felly dyna grynodeb byr ac eithaf aneglur o’m hanes diweddar ichwi. Byddaf yn dysgu fy ngwers gyntaf yr wythnos nesaf; ac er mai dim ond blwyddyn 7 y byddaf yn eu herio mae fy nerfau yn cael y gorau ohonof. Cefais freuddwyd, gwelwch, am fy ngwers gyntaf, ac fe fu’n rhaid imi weiddi nerth fy mhen a gyrru dau ddisgybl allan o’r dosbarth. Er mwyn Duw, na fydded hi fel’na go iawn.

mercoledì, ottobre 18, 2006

Arfer

Mater o arfer ydi popeth ynde? Dw i wedi dechrau arfer gyda chodi yn y bore bach a mynd i'r ysgol, a llwydo gwneuthur brechdan imi fy hun cyn hynny, cael panad a afal. Ffycin pro.

A dywedyd y gwir dw i'n well na rhai am ddeffro. Mae Haydn Blin byth a beunydd yn cysgu, er ei fod yntau'n hen fyfyriwr diog sy ddim angen gwneud dim byd bellach efo'i fywyd. Mae yntau'n cysgu ar y funud, ac yn cysgu'n ormodol a fynta'n cae codi tan o leiaf 8 fel rheol.

Nid peth diog mo Ellen, ond fydda i'n gwneud pwynt o beidio cysylltu fy hun gormod gyda pobl sy'n bwyta melons beunydd. A iogwrt, er fy mod innau'n bwyta'n iach y dyddiau hyn. Er, eto, celwyddau noeth ydyw dy fod yn teneuo os dy fod yn bwyta'n iach. Dw i dal yn dew, a mae fy ngwallt yn teneuo, a minnau'n gyffredinol llai ddeniadol pob dydd a dywedyd y gwir ichwi efo'n sbecdols a'm coes giami. Ooooh.

Dw i'n mynd adra am y penwythnos, am y tro olaf cyn y Nadolig. Efallai bod bywyd mwy diddorol fyny fan 'na ar y funud 'na fama. Gawn ni weld.

lunedì, ottobre 16, 2006

Pam dw i'n gwneud hyn imi fy hun?

Dywedyd ydwyf am yr hwn ffilm newydd y Texas Chainsaw Massacre: The Beginning. Os weloch chi'r un gyntaf fyddwch chi'n cofio bod o'n eithaf sgymaidd ei naws, ac mae hwn cryn dipyn yn waeth. Champion; mae hynny'n ffein. Ond nid imi.

Y mae dau math o bobl dachi'n gweld, pan y daw hi at ffilmiau arswyd. Y cyntaf ydi'r rhai sydd yn ffricio allan gyda rhai seicolegol, a'r ail ydi'r rhai nad ydynt yn medru handlo gwaed a darnau randym o gyrff yn cael ei dorri ffwrdd. Mi fedraf innau ddelio gyda rhai seicolegol yn llwyr: bosib iawn mai dyna'n hoff genre (blaw am ffantasi: caru ffantasi), ond pan ddaw hi'n at waed dw i'n un eitha gwael. Y broblem yw nid hynny, ond y ffaith fy mod i'n argyhoeddi fy hun fy mod i'n hoff o'r genre, mynd i'r sinema a theimlo'n ofnadwy wrth gerdded allan.

Dyna sut deimlais i neithiwr gyda'r TCM:TB. Roedd, wrth gwrs, digon o ffilmiau eraill, ond roeddwn i'n eithaf penderfynol o wylio ffilm 'sydd am fy nychryn', felly llwyddiant o noson ydoedd o ran hynny. Casau llwyddiant o noson.

domenica, ottobre 15, 2006

Byw am y Penwythnos

Addewais fy hun, wedi wythnos caled, ac yn aml annifyr o waith, y byddwn yn byw er mwyn y penwythnosau, sef meddwi nos Wener, nos Sadwrn a slobio ddydd Sul. Wedi'r penwythnos yma dw i'n eithaf digalon.

Nos Wener mi arhosais yn ty efo cans, yn gwylio pethau erchyll fel 'Tipit' a '9 Tan 9'. Roeddwn i'n gwely erbyn tua 11. Nos Sadwrn, roeddwn i'n edrych ymlaen at fynd allan, ond mi gesi cans a pheidiais a symud. Gwely erbyn tua 11. Ac rwan mai'n ddydd Sul ac yn ddydd o slobian, er fy mod i wedi cael mwy na digon o wneud hynny.

Yn wir, os dyma weithio, sef 5 dydd o waith a dau ddydd o aros mewn, gwaeth imi drengi yn awr. Dyma'r tro cyntaf ers sbel fy mod i wedi ysgrifennu blog am ddiflastdod. Ond mae'n waeth.

Cefais i freuddwyd neithiwr, am y wers gyntaf. Roeddwn yn hyderys ond gwnes ddim ond gweiddi, a gyrru plant allan o'r dosbarth a'u cael nhw'n dweud eu bod nhw'n meddwl fy mod i'n cwl cyn y wers yma. Hynod, hynod anamserol, os ca i ddweud.

giovedì, ottobre 12, 2006

Y Blinedigaeth

Pan mae rhywun yn codi am 6.50 bob bora maen nhw'n dechrau blino. Dw i'n flinedig, a minnau'n codi bryd hynny. Buan iawn bu imi sylweddoli bod gweithio yn joban flinedig, sy'n sugo'r egni ohonat. Mae'n waeth i athrawon: mynd adra, marcio, cywiro a.y.b. Ond mae o cyn waethed os ydach chi'n gwneud dim ond arsylwi bum gwers y diwrnod. Nid yw arsylwi, sef eistedd yng nghornel y dosbarth yn cymryd hynny o nodiadau a fedrwch, yn hwyl. O gwbl. Ond bydd y rhai ohonoch sydd wedi bod, neu yn, gwneud cwrs dysgu yn gwybod ei fod hi'n well o lawer na'r syniad o ddysgu y wers gyntaf. Dw i'n giakku brics.

Ches i fawr o gwsg neithiwr, er fy mod i'n fy ngwely cyn ddeg. Mi ddeffroais am tua hanner 'di un yn poeri bob mathia o stwff brown allan lawr y toiled. Poeri, nid chwydu, cofiwch, a minnau bron a thagu wrth wneud. Tybed beth ydyw? Ymwared a gwybodaeth y dydd, mi dybiaf. Neu gwario gormod o amser ynghanol mwg. Wyddwn i ddim.

lunedì, ottobre 09, 2006

Ofnadwy

Yn ddiweddar mae 'ofnadwy' yn air yr wyf yn ei defnyddio'n aml. Wn i ddim pam, ychwaith. A 'gwych'. Eithaf ofnadwy ydoedd heddiw, fodd bynnag, yn eistedd unwaith eto yn UWIC yn dysgu diawl o ddim byd, ond chwerthin ar y ffaith bod gan Llinos ddau bry cop yn ei gwallt. A ffwrdd a fi eto i'r ysgol yfory.

Dw i'n hynod flinedig. Neithiwr roedden ni draw yng nghartref y genod yn gwylio 'Top Gun', a buan iawn y bu imi sylweddoli nad yw'r ffilm yn gwneud fawr o synnwyr i neb.

Wedyn mi es i'r gwely a chysgu. Diwedd arni.

domenica, ottobre 08, 2006

Noson a Diwrnod Anniddorol

Roedd yn ddiwrnod annifyr. Gêm ofnadwy, a'r stadiwm yn ddistaw iawn. Dwi byth, yn fy myw, wedi teimlo cyn waethed wedi gêm o unrhyw math o'r blaen. Oeddwn i'n disgwyl inni guro. Ond dyna ni, mae timau Cymru wastad yn ein gadael ni lawr pan ein bod ni'n disgwyl rhywbeth ohonynt.

Felly fe'r oeddwn innau braidd yn anhapus am weddill y diwrnod. Dw i'n un o'r pobl 'na sy'n ypsetio os mae Cymru'n colli ac mae'n sbwylio fy nos. Felly dan fy sang oeddwn yng Nghlwb Ifor a phob pa le bynnag arall yr oeddwn.

Trist oeddwn hefyd na ddigwyddodd fawr o ddim a wyddwn i amdano yn ystod y nos. Hynny yw, nis cofiaf; meddw oedd fy mhryd a gwedd. Er hyn, bu imi fwynhau'r carioci yn y Model Inn yn fawr iawn, a ni'm teflid o Glwb Ifor ond mi adawais yn fuan. Oeddwn i'n flinedig, a chefais Whopper ar y ffordd adref; sy'n eithaf od achos dw i'm yn hoff iawn o Burger King, na mayonnaise, na Whoppers.

Yr hwn fore mae'r blas yn fy ngheg ohono, yn ogystal a blas bob math o bethau nad ydwyf yn sicr ar hyn o bryd beth ydynt. Mae cwrw yno. Efallai ffag neu ddau. Fodca wrth y wisdom teeth. A chwd. Lot o chwd.

giovedì, ottobre 05, 2006

Yn ol ar-lein!

Mae'n rhyddhad ond yn Newport Street mae yn awr ryngrwyd, a mi fedraf flogio yn awr cyn gymaint a mynnwn! Mwynhau'r ysgol uwchradd hyd yn hun. Mwy i ddod nawr ac yn y man!

sabato, settembre 30, 2006

I'r De

Wel, gyfeillion, wedi wythnos yn y Gogledd mae'n bryd imi ddychwelyd i Gaerdydd mawr drwg, er fy mod wedi wirioneddol mwynhau fy mhrofiad gyntaf o ddysgu yma yn y twndra. Ond myfi a fwynhaf mynd i Glwb Ifor heno, gyda phawb yn ôl yno; er fod y Llew a Ceren wedi cael ban, a Haydn mwy na thebyg wedi ar ôl iddo geisio taro un o'r bownsars y mwng wirion iddo fo. Iawn, mi ga' i gic-owt erbyn diwedd y nos, ond dim nes imi ddawnsio'n wirion a dwyn diodydd pobl eraill.

Wythnos nesaf dw i'n cael fy mharashiwtio mewn i ysgol uwchradd (ond cha i ddim dweud lle, wrth reswm. Fe gewch chi wybod rhywbryd, pan welwch chi fi yn chwil, a mi anghofia i fy mod wedi dweud wrthoch chi cyn dweud wrthoch chi unwaith eto pan fy mod yn chwil er fy mod wedi dweud wrthoch chi o'r blaen pan yn chwil ac felly'r parheid y cylch). Ac erbyn hyn dw i'n edrych ymlaen yn arw. Y ffordd wela' i hi ydi os nad ydw i ofn pobl, be ddiawl sy 'na ofni gan blant?

mercoledì, settembre 27, 2006

Nainddyfyniadau

F'annwyl Nain, seren fy nos a haul fy niwrnod! Mi esi gweld Nain wedi ysgol heddiw. Does gwell na'i gweld hi'n contio fy nhaid druan.

Mae o'n symud. 'Lle mae hwn yn mynd eto?' ebe hi.

N: What's wrong, can't you walk? You been sleeping all day?
T: No I ain't. I been on the bike doing my exercizes.
N: Well you're walking like you been sleeping. You should be all surple.
T: Surple? Ha!
N: Yes you should.
T: Well I don't know what surple means, I think you mean 'supple'.
N: Oh sorry, Mr Correct.

Oes gwaeth sarhad na hynny? Oes, os mae Nain o gwmpas.

N: Hogyn del ei Nain ydi o!
Fi: Ia, Nain.
N: Wel, mae'n rhaid i rywun ddweud bo ti'n ddel, does.

martedì, settembre 26, 2006

Yr Atrocious Ocean

Wel o leia' do'n i'm yn goro gwisgo tei heddiw. A dw i 'di penderfynu mai athro ydi'r swydd imi. Achos fedrwch chi ddim bod yn gysgwr proffesiynol. Fe allwch gysgu o gwmpas yn broffesiynol, ond nid Abi Titmuss mohonof (na Haydn) felly gwnaf i ddim mo hynny. Wel. Efallai rhywbryd. Mae puteindra yn well na dim, wedi'r cyfan. A dw i'n siŵr y blinaf i ar addysgu rhyw bryd.

Nad ymboenwch, nid oes gen i ddiddordeb yn adrodd hanes fy niwrnod ichi. Wel, efallai. Roedd un o’r plant ddoe yn credu mai enw’r ‘Atlantic Ocean’ yw’r ‘Atrocious Ocean’, ac fe fu un yn sôn am y stabings ym Methesda i’w gyfeillion o dramor pan wnaed fideos ar eu cyfer.

Wedyn mae rhywun yn clywed bod hanner dda o’r plant yn dod o gartrefi di-Gymraeg (neu sy’n Gymraeg ond ddim yn pasio’r Gymraeg ymlaen i’w plant, sydd jyst yn typical, tydi?). Ac mi sbwyliodd hwnnw ychydig ar fy hwyliau, dw i’n fodlon cyfaddef, er bod y Gymraeg yn gryf yn yr ysgol.

Beth bynnag, isio son amdanaf fi fy hun ydw i, nid pethau mwy, a phwysicaf (os ydyw’r math beth yn bodoli yn yr hwn fyd). Wythnos i heddiw fe fydda i yn yr ysgol uwchradd. Mae hynny’n eitha’ dychryn rhywun, a dywedyd y gwir yn onest. Dychrynais unwaith hefyd yn meddwl bod ci wrth fy ymyl ond fy mharker ydoedd, er mai stori wahanol ydi honno nas chaiff mo’i hadrodd fyth yma.

Ac os ma’r plant yn fy nghosi eto mi roia i slap iddyn nhw. Y moch bach. Ciwt.

Ymfeddalaf..

lunedì, settembre 25, 2006

Meddalu

Dw i'm yn meindio cyfaddef nad oes gen i fawr o ddim i'w ymfalchio ynddo fo. Un o'r pethau, fodd bynnag, yr wyf yn ymfalchio ynddo'n ddi-ymddiheuriad yw'r ffaith fy mod i'n hen beth ystyfnig, bengaled ac oeraidd ei galon ar y cyfan. Mae gen i galon o garreg dan yr hwn arwyneb boliog gnawdiol, a fel phob rhyw berson felly dw i'n ymfalchio ynddo.

Felly faint o sgytwad ges i heddiw wrth ddarganfod fy mod i'n eitha hoff o weithio gyda plant? Fel y dywedais, fedra i ddim enwi ysgolion, ond dw i mewn ysgol gynradd am wythnos a heddiw fe fu imi mwynhau caredigrwydd y plant yn ofnadwy, a'r ffaith eu bod nhw isio siarad, amdanynt hwy eu hunain ac amdanaf fi wrthyf. Rydym ni'n son am blant sy'n llai na phump yma, a gwr bonheddig (myfi, canys pendefig ydwyf fy naws, nis gallaf mo'i gwadu) sydd wedi ers ei fywyd fel oedolyn pregethu'i gasineb a'i ddirmyg tuag at blant, a'r ffaith y sbadded ef ei hun cyn eu cael.

Ond mwynheais heddiw. A fyddech chwi nad ydych yn f'adnabod ddim yn llawn dallt yr ysgytwad a gefais wrth fwynhau. Byddai pawb sy'n f'adnabod yn dallt, ond ddim cweit yn dallt pam fy mod yn ei chyfaddef o flaen pawb. Dw inna'm chwaith.

Ymhle yr atelir? Cwningod yn anifeiliaid anwes a chandi fflos i frecwast? Treulio f'amser yn gwylio My Little Pony a phrynu llyfrau lliwio mewn? Boed i Dduw maddau imi am heddiw gwahanoleiddio fy hun o'r ffordd ag Efe a'm gwnaed. Dw i'm am droi'n sofft. Mi a'i allan heno a sgwashio bwni, jyst er mwyn profi fy hun yn iawn.

domenica, settembre 24, 2006

Y 50 nesaf o pethau sy'n eich cythryddu...

Mae’r penwythnos gyntaf nôl wedi rhoi cyfle imi adlewyrchu drachefn ar fywyd. Neu, yn hytrach, y pethau drwg am fywyd. Pwynt bywyd ydi eich cythryddu cyn eich gyrru i’r uffern. Felly, a fi yn fy olaf aflonyddiadau (mwy na thebyg – does gen i fawr o hyder am hyd fy oes), dyma mwy fyth o bethau i’ch corddi cyn eich diwedd prudd. Ac er mwyn profi i Delyth nad diog mohonof:

51) Pan fyddwch yn mynd i bysgota a dachi’n rhedeg allan o linell
52) Y bastads ar Queen’s Street sydd eisiau siarad efo chi am elusennau neu ‘pa sudd afal ydych chi’n yfed’
53) Pobl sy’n gofyn ‘be ti ‘di ddal’ pan ti’n pysgota
54) Cwestiynau amlwg eu hateb
55) Pobl sy’n mynnu dy fod yn edrych yn drist/blin pan nad wyt o gwbl
56) Pryfaid bychain
57) Trwyn Gwyneth Glyn
58) ‘Ti mond yn gweld tylwyth teg os ti’n coelio ynddyn nhw’. Pam?
59) Y ffaith bod y mwyafrif o’r Cymry ddigon stiwpid i bleidleisio dros Lafur

60) Marwolaeth ar amser anaddas – fel hers o dy flaen pan ti efo can milltir arall i gyrraedd nes Caerdydd
61) Munchkins
62) Celebrity Love Island
63) Llysieuwyr
64) Unrhyw un sy’n mynnu fod gan goed deimladau
65) Babanod
66) Genod 14 sydd isio babi
67) Pobl sy’n cynllunio pethau i’r manylyn olaf
68) Smartcars
69) Pobl sy’n giglo pob tro mae rhywun yn dweud ‘69’. Fel fi. Hihihi!

70) Pobl sy’n rhoi enwau gwirion i’w plant, fel ‘Peaches’, ‘Apple’ neu ‘Gruffudd ab yr Ynad Coch’
71) Fersiwn McFly o ‘Don’t Stop Me Now’
72) Trendy Bars
73) Pobl sy’n dweud bod acen y gogledd yn swnio’n ‘thic’. Gennai newyddion ichi; dachi’n swnio’n waeth.
74) S4C yn portreadu pawb o’r gogledd fel pobl ddigalon, alcoholic, a phawb o Gaerdydd fel ‘cŵl’.
75) Rhoi pethau’n ôl yn yr oergell heb ffoil na clingfilm arno
76) Gweithwyr bar sy’n edrych yn hurt arnat pan ti’n dweud ‘peint o Carling’ yn lle ‘pint of Carling’. Plîs.
77) Pobl sy’n mynd ‘Waw! Ti mor Gymraeg!’
78) ‘Dwi’m yn gwrando ar nhw achos mae nhw’n boblogaidd’
79) Goths. Yn enwedig y rhai sy’n meddwl eu bod nhw’n ‘unigryw’.

80) Hipis.
81) Pobl sy’n gofyn wrthot ti’n stryd os cawn nhw 10c er mwyn prynu panad
82) Gweithwyr bar/siop sych
83) Rhieni sy’n bwydo eu plant gyda têc-awê bob nos
84) Scientology
85) Unrhyw un sy’n fy annog i i fyw fy mywyd i’r eithaf. Dw i’m isio.
86) Llefrith soya
87) Pobl sydd byth yn trio bwyd newydd
88) Powys
89) Pobl sy’n mynnu bod galw rhywun du/Pakistani a.y.b. yn ddu/Pakistani yn hiliol

90) Acen Lerpwl
91) Pam dachi ar fin cwblhau rhywbeth, ac mae pethau’n mynd yn anghywir, a ti’n teimlo dy fod yn gorfod dechrau eto
92) Mab Dr Mark Sloan
93) Ynganu ‘ei’ fel ‘ai’ yn y Gymraeg
94) Gwefusau tragwyddol llaith rhai pobl
95) Pan fo past dannedd ar fy wefus a does neb yn dweud wrthot ti tan amser cinio
96) Siopau Bwyd Iach
97) Pobl gwyn sydd efo gwallt fel rasta
98) Pobl heb farn
99) Gorfod smalio eich bod hi’n hapus dros rywun, tra eich bod yn nwfn eich calon wedi gobeithio am eu chwalfa

100) Cael sialens, fel, dywed, ysgrifennu 50 mwy o bethau sy’n eich cythryddu, neu cael ei lablo fel ‘diog’, a methu anwybyddu hynny, a gorfod ei gwneud.

venerdì, settembre 22, 2006

Dechrau go iawn go iawn

Bydda i'n mynd i ysgol fach am wythnos wsos nesa'. Gwell imi beidio dweud pa un. Na pha ysgol uwchradd y bydda i'n mynd i; Duw a wyr pwy sy'n darllen y rybish yma, ond efallai eu bod nhw eisiau dymchwel fy myd drwy gwybod popeth amdanaf sy'n eitha hawdd gwneud gan fy mod i'n dweud cyn gymaint o bethau ar yr hwn flog. Anadl.

Dw i'm am eich cadw chi. Yn Rachub ydwyf drachefn, wedi gyrru fyny heddiw ac yfed lot o ddwr canys fy mod allan neithiwr a chanfod fy hun mewn gaybar efo Nerys Crymych. Sy'n eitha od, tydi?

martedì, settembre 19, 2006

Bore da

Dw i'n dechrau mwynhau'r cwrs, ond fel a allwch weld 'sgen i dal ddim rhyngrwyd yn y ty. Dim ots. Dw i'n gwneud wythnos yn yr ysgol fach wythnos nesa ac erbyn fyddai'n ol fydd gynnon ni hwnnw'n ty. Fedrai'm sgwennu mwy achos mae gen i ddarlith plys mae'r botwm DELETE wedi torri ar y cyfrifiadur yma jyst er mwyn pisio fi off. Casau 9.08AM

mercoledì, settembre 13, 2006

UWIC

Helo 'na! Shwmae! Ie, fi Dai sy 'ma. Oni bai na Hogyn o Rachub dw i, a dw i'm yn gofyn sut ydach chi achos dwimisho. Newydd gyrraedd UWIC a darganfod bod y cwrs yn edrych yn erchyll. Ac mi oedd miwsig Clwb Ifor nos Sadwrn yn erchyll. Ac mae'r pryfaid yn ein ty ni yn Newport Road yn erchyll, a hynny oherwydd nad oedd Haydn nac Ellen wedi rhoi'r biniau allan am fisoedd. A dw i'n teimlo'n erchyll yn gorfod codi bob bore am wyth a mynd i Cyncoed. Ga'i sioc flwyddyn yma, wchi.

Dw i'n dechrau mewn ysgol mewn llai na phedair wythnos. Mae hynny'n fy nychryn. Ond ma'n beth da gweld fod pawb arall wedi cael cymaint o sioc a mi.

Fedrai'm aros. Mae'r clicio parhaol yn ystafell gyfrifiaduron UWIC yn mynd ar fy mhen. Dw i wedi blino. Dw isho bod yn fyfyriwr drachefn.

mercoledì, settembre 06, 2006

Dychwelyd

Iep, dw i'n dychwelyd i Gaerdydd heddiw, ac oni bai fod Haydn wedi tynnu fys allan o'i din a gosod rhyngrwyd yno clywch chi ddim gennyf fi am sbel. Peidiwch poeni, fydd gen i'm byd i wneud ond slagio plant ysgol off.

Twdls!

lunedì, settembre 04, 2006

50 o bethau sy'n fy nghythryddu

Iawn, dw i wedi dwyn y syniad yma'n llwyr off edefyn ar y Maes, ond gan fy mod i wedi gwneud 32 yna'n barod dw i'n teimlo'r casineb yn llenwi fyny ynof, ac os na ddyweda i mwy mi wna'i ffrwydro.

(1) Dyncio bisgedi mewn te
(2) Pobl sydd ddim yn indicetio
(3) Motobeics yn dy oddiweddyd
(4) Hysbyseb DFS [cytuno efo Fampir]
(5) Carafanau ar y lon
(6) Pan dachi'n sdyc tu ol i car araf uffernol ond methu ei phasio achos mae pawb tu ol ichdi'n dy oddiweddyd
(7) Hen bobl sy'n cwyno pa mor ddrwg ydi'r byd rwan
(8) Girly-girls
(9) Cathod sy'n eistedd ac yn sbio arnat yn smyg
(10) Acen Crymych

(11) Pobl sy'n yfed te gwan
(12) Pobl sy'n dweud 'dw i ffansi cyri' a chael Korma, be 'di point?
(13) Genod sy'n mynnu dydyn nhw'm isho bwyd achos gathon nhw 'darn o dost bora 'ma'
(14) Pete a Nikki
(15) Plant efo tadau cyfoethog sy'm angen gweithio byth
(16) Pobl sy'n enwog am ddim byd e.e. Paris Hilton, Tara Palmer-Tompkinson, Callum Best
(17) Pobl sy'n teimlo'n sal pan ti'n egluro mai cig yw cnawd fu unwaith yn brefu'n braf fore gynt, neu cnawd celain
(18) The X-Factor, Pop Idol, Wawffactor a phob ryw sioe felly
(19) Unrhywun sy'n cymryd mwy na hanner awr i 'wneud eu hunain yn barod' pan ti dim ond yn mynd i'r pyb/siop leol/Tescos

(20) Bowsar oren Clwb Ifor
(21) Ffrindiau ysgol doeddet ti'm actiwli yn ffrindia efo, ond ers ti'n mynd i coleg mae nhw wrth eu boddau efo chdi
(22) Unrhyw un sy'n meddwl bod 'yfed botal o win cyn mynd allan' yn 'nyts'
(23) Pobl sy'n meddwl eu bod nhw'n 'nyts'/'crazy'
(24) Chocaholics. Barus ydynt, nid caeth.
(25) Saeson sy'n meddwl fod Cymru a'r Cymry a'r Gymraeg yn 'quaint' [gwaeth ydyw hyn na dirmyg neu casineb]
(26) Pobol sy'n goddiweddyd drwy fynd 50mya ar y ffordd ddeuol
(27) Pobl sy'n mynd y medrant weld yn iawn heb sbecdols pan nas fedrant o gwbl
(28) y Seiad Cerddoriaeth
(29) Rheiny sy'n mynd dramor heb boddran dysgu 'diolch' yn yr iaith frodool a sy mond yn bwyta bwyd Prydeinig yno

(30) Anlwc tragwyddol timau chwaraeon Cymru
(31) Pianos efo un nodyn allan o diwn
(32) Ffasiwn, a phobl sy'n mynnu cadw fyny efo bob dim
(33) Hen berthnasau sy'n dweud wrtha ti dy fod wedi newid, er nad wyt ti wedi
(34) Pobl sy'n dalach na fi
(35) Rheiny a ofnant unrhyw fath o wrthdaro. Cachwrs.
(36) Pan fo rhywun yn anghywir, ti'n gwybod eu bod nhw'n anghywir, ond mae nhw dal yn argyhoeddedig eu bod nhw'n gywir
(37) Y pobl 'na sy'n mynd yn flin neu'n ypset pan ti'n lladd pry
(38) Y ffaith bod miliynau o bobl yn gwylio sebonau opera
(39) Jonsi

(40) Agwedd nifer o bobl os nad wyt ti ddim yn licio cerddoriaeth 'ymylol' ti ddim yn cŵl. Ffyc off.
(41) Mamau sy'n rhedeg o amgylch y bwrdd bwyd fel twrci a cae eistedd lawr a mwynhau'r bwyd eu hunain
(42) Pobl ti'm yn abod yn iawn, ond pan ti'n eu gweld nhw mae nhw'n gofyn yr un hen gwestiynau i ti, er eu bod nhw'n gwybod yn iawn beth fydd dy ateb
(43) Neis-neisrwydd
(44) Genod sy'n gofyn i ti sut maen nhw'n edrych, ac yn gwylltio pan ti'n dweud y gwir
(45) Cardigans
(46) Y ganran fechan o fyfyrwyr ffroenuchel a snobyddlyd 'well-na-chi' prifysgol Aberystwyth
(47) Celwyddgwn sy'n honni bod pobl efo sbecdols yn medru edrych yn 'cŵl'
(48) WHAT EVER!
(49) Hogia'n gwisgo pinc

(50) Y gân Iwcs newydd 'na sydd wastad ar Champion FM a sydd, heb os na oni bai, y gân mwyaf ofnadwy yn hanes y bydysawd, a'r ffaith bod Champion FM neu unrhyw orsaf arall yn fodlon chwarae'r math erchylltra annuwiol

sabato, settembre 02, 2006

Bwrw

Mai'n bwrw glaw yn sobor iawn, felly dw i wedi bod yn edrych ar blogs pawb arall ac ati. Mi eshi draw i weld Chwadan a mi es i'r wefan Wikicharts o fanno, sy'n dangos pa dudalennau yw'r mwyaf poblogaidd. Ymysg y pump ar hugain mwyaf poblogaidd oedd:

5. List of Big-bust models and performers
7. List of female porn stars
8. Sexual intercourse
9. List of sex positions
10. Masturbation
11. List of gay porn stars
12. Nude celebrities on the internet
13. Pornography
19. Homosexuality
24. G-string
25. Anal sex

Felly mae bron i hanner o chwiliadau 'Top 25' Wikipedia yn rhai budron. Mi ges i eitha gwên wrth ddarllen rhai ohonyn nhw, fel List of Fictional Diseases (17), Norway (18), Dragon Ball Z (32), List of famous left-handed people (53), Greece national basketball team (86) a Pat Boone yn rhif 98. Cofiwch, mae gan Wiki Saesneg dros filiwn o dudalennau, sy'n gwneud rhai o'r dewisiadau uchod yn rhai da iawn. Ond mae'r diddordeb mawr mewn rhywbethau yn gwneud imi gofio dyfyniad o Blackadder, cofio...

DR JOHNSON: Sir, I hope you're not using the very first English dictionary to look up rude words!
BLACKADDER: Why not? That's what all the others will be used for...

Mae'n iawn, chi.

Peth arall diddorol oedd y wefan yma, sy'n hawlio cofnodi 1 - 10 mewn dros 5000 o ieithoedd. Iawn, medda fi, ond mae rhai jyst yn wirion. Er enghraifft, yn ôl y wefan mae'r Cardis yn cyfri i ddeg megis:
în, tô, târ, câr, cŵi, sich, soch, nîch, noch, dê.


Oni fedar rhywun gadarnhau imi nad hwn mo'r achos? PLIS!

venerdì, settembre 01, 2006

Mad Max

Henffych! I dŷ Nain dw i'n mynd heddiw. Mi ffoniodd neithiwr a dweud y byddai'n gwneud ffish mewn sôs imi i ginio. Ddim yn siwr faint yn union dw i'n edrych 'mlaen i hyn, ond dyna ni. Nid ydi Nain yn gogydd ar y naw. A dweud y gwir dim ond Yorkshire Pudding mae hi'n gallu gwneud yn gall; mae hyn oed ei grefi hi'n medru blasu fel glo. Eniwe.

Fe awn a'r ci am dro medda' hi. Iawn, medda' fi. Mae Nain yn gwarchod ci ei chwaer a'm hen fodryb, Nel, am ychydig o ddyddiau. Bastad ydyw o'r enw Max, neu fel y mae gweddill y teulu yn ei gyfeirio ato, Mad Max. Does golwg o ddofi arno; mwncwn wyllt o gi sy'n cyfarth ac yn tynnu ac yn gwneud lol am ddim byd, ac, yn ôl Nel, 'Dydi o methu dallt Cymraeg, 'mond Susnag'. Sy'n egluro rhywbeth, o leiaf (mae hyn yn wirach fyth os yr ystyrrir nad yw Nel yn un o ddefnyddwyr ceinaf yr iaith fain, os yn wir y gellir ddefnyddio'r math iaith yn gain).

Felly dyna fy niwrnod i. Mae Mam yn dweud fod yn rhaid imi ddysgu sut mae clymu tei. Gwir ydyw'r geiriau, canys nad wyf gyda'r syniad cyntaf sut mae gwneud, a dydi hynny fawr o help o ystyried mewn mis fydda i'n gorfod gwneud pedwar diwrnod yr wythnos (a dw i'm yn meddwl fydd unai Haydn neu Ellen yn hapus iawn os dw i'n eu deffro nhw i wneud imi). A mae hi isho dysgu mi sut i smwddio. Yn hyn o beth, nid yw fy nghyfnod yn y Brifysgol wedi bod cystal a chyfnod Glyn yn nhŷ Big Brother. Unwaith y smwddiais, unwaith rhois y ffidil yn y to. Sawlgwaith llarpiog fu 'nillad.

Bydd rhaid imi fynd mewn 'chydig. Da bydded.

mercoledì, agosto 30, 2006

Y Disgwyl

Nid yw amynedd ymysg fy rhinweddau. Mae'r tueddiad i bryderu, fodd bynnag, yn bendant yn nodwedd gennyf. Ac ar y funud, gyfeillion, mae'r cyfuniad yn un eithaf gwenwynig. Gadewch imi ymhelaethu, os caf.

Dw i wedi bod yn dweud wrthoch chi am fisoedd (os fuoch chi'n gwrando) fy mod am fynd i wneud hyfforddiant fel athro. Mae wythnos i fynd tan fy mod yn dychwelyd i Gaerdydd a dechrau'r cwrs, a dw i bron a ffrwydro eisiau ei dechrau, er fod fy lefelau petruswch yn codi'n gynyddol ac yn gynt. Er bod deufis-ish tan ei bod yn digwydd, dw i ddim yn edrych ymlaen at sefyll flaen dosbarth am y tro cyntaf. Dw i ddim yn amau fod hyn yn gyffredin ymysg athrawon-i-fod, er dydi hynny fawr o gysur ar y funud.

Mae digon o bethau i'w ystyried: a fydden nhw'n gwrando? a fyddent yn cambihafio? beth os mae 'na gwffio yn y dosbarth? beth os dw i'n gorfod rhoi ffrae i rhywun talach na fi (sy'n eitha tebygol o ddigwydd)? Nid yw'r hyn gwestiynau yn f'esmwytho yn y lleiaf.

Be' dw i'n ei arswydo fwyaf ydi'r wythnos i'w gwneud mewn ysgol gynradd yn gyntaf. Efo plant go iawn, nid rhai yn eu harddegau sydd efo gronyn o ddealltwrieth o'r byd a'i manion bethau. Mae plant bach yn fy ngwneud i'n sal, a dw i byth yn blino dweud hynny.

Fodd bynnag, ymhen pythefnos fydda i mewn darlithoedd drachefn, ac wedyn yn ceisio dysgu. Ffac, dw i'n pryderu.

domenica, agosto 27, 2006

Vindaloo

Dw i yn dwat. Twat llwyr, a dweud y gwir. Roeddwn i wedi cael diwrnod arferol o aflwyddiannus o ran pysgota, ac wedi gorfod dioddef gweld fy arch-elyn, Dyfed, yn dal mecryll tra na chefais i ddarn o wymon i gwneud bara lawr efo hyd yn oed. A chyrraeddish i'm adra tan tua hanner awr wedi naw ac fe'r o'n i'n llwgu, ac mi benderfynish gael Indian.

Dw i ddim erioed wedi bod yn ffan o fwyd Indaidd. Dim ond tua dechrau fy nhrydedd flwyddyn yn y brifysgol y bu imi cael blys go iawn am gyri poeth. A fe fuon ni'n arfer mynd i Clwb Cyri Weatherspoons bob wythnos (dim y cyri gorau, na, ond rhad ydoedd), ond unwaith fe fu imi gael y vindaloo yno, ac fe'i hoffais yn fawr, er fy mod yn chwysu wrth ei fwyta.

Felly lawr i Sitar Indian ar Stryd Pesda es i a phenderfynu bydda vindaloo yn braf. Fel mwnci, nis ystyriais y byddai gwahaniaeth aruthrol rhwng vindaloo yr Ernest Willows ac un lle cyri go iawn. Felly mi gyrhaeddais adra ac eistedd lawr a dechrau bwyta.

Dyna pryd aeth pethau'n anghywir; yn gyntaf bu imi ei fwyta'n sydyn iawn, a bu bron imi chwydu pan ddaru'r poethder fy nharo. Ac mi darodd. Ystryffaglais, dim ond yn llwyddo buta chwarter y bastad peth, ac wedi yfed botel fach o Cola cyn llwyddo hynna. I'r bin yr aeth; a minnau'n sal, fy ngyms yn brifo, fy mhen yn curo o'r oherwydd.

Wrth gwrs fe wnaed y trip i'r toiled, ond roeddwn i wedi gorfod cael Immodium yn ystod y diwrnod felly teimlo'n sal a llawn fu fy hanes. Gwely. Match of the Day. Llwgu a sal. Casau vindaloo.

venerdì, agosto 25, 2006

UFOs yn Rachub

Ia wir, ac nid son am Sheila ac Eric dw i.

Fel hyn y bu hi; roedd hanner Rachub heb drydan am thua pedair awr a hanner neithiwr. Roedd rhywun wedi taro mewn i un o'r polion letric a llwyddo gadael rhan isaf Rachub heb olau. Sbwci ydoedd yn wir. Fe es i a 'Nhad am dro rownd Rachub, dim ond er mwyn gweld lle oedd efo golau ac ati.

Braf ydyw blacowt. Mae pawb yn mynd ar y strydoedd ac yn cwyno am ba mor felltigedig ydyw pethau. Ond wedi mynd o Llan dyma fi'n edrych fyny i'r awyr a gweled rhywbeth gwyn od yn sgleinio, ac yn symud yn sydyn iawn. Nid hofrennydd nac awyren mohoni - doedd 'na'm tail-lights arni, ac nid oedd yn symud fel un, ychwaith. Roedd hi tua hanner ffordd drwy'r awyr, ac yn mynd am y dwyrain ac yn symud braidd yn grynedig ac igam-ogam. Fe fuon ni'n ei gwylio am tua dwy funud (yn lythrennol) cyn iddi ddiflannu.

Dyewdodd Dad mai lloeren ydoedd, ond welish i'r un lloeren yn symud cyn gyflymed neu mor rhyfedd. Erratic movements oedd chwedl Dad wrth ceisio egluro i Mam. Goin' zig-zag udish i. Ond mae hi'n 'chydig o ddirgelwch.

Nid hwn mo'r tro cynta' i Ddyffryn Ogwen gael ei styrbio gan bodau o eraill blanedau, wrth gwrs. Dw i'n cofio, ychydig o flynyddoedd nol a minnau ddim eto wedi mynd i'r brifysgol fe fu cynnwrf mawr yn Nyffryn Ogwen oll pan welwyd goleuadau mawrion yn erbyn yr awyr a'r cymylau am filltiroedd. Ac yn wir ichwi fe fu cynnwrf. Es o gwmpas ar fy meic - roedd pawb yn Tyddyn Canol allan yn edrych, ac Ike Moore (alci sydd erbyn hyn yn gelain) yn tynnu lluniau efo'i gamera. Lawr i Goetmor yr es wedyn a roedd pobl yn y stryd yn edrych, ac un dyn efo'i gamcordyr.

A'r diwrnod wedyn bu i bawb glywed mai goleuadau o glwb nos Amser ydoedd, a theimlem oll yn sili, braidd.

giovedì, agosto 24, 2006

Gwich Gwich Gwrach y Rhibyn

A minnau'n un ar hugain mlwydd oed mae rhai pethau dal i fy nychryn a'm anesmwytho. Cefais f'atgoffa o hyn neithiwr, fel mae'n digwydd. Dyma fi yno'n gorwedd yn fy ngwely (ceg yn brifo o hyd) a mae 'na rw sŵn WIAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAWIAAAAAAAAAW yn dod o'r ardd. A mi ddychrynais tan cofio beth oedd. Cathod, wrth gwrs, yn ganol nos. Mae'n wirioneddol gas gennai y ffordd mae'n nhw'n seinio wedi'r machlud, mae'n mynd drwyddai ac yn gwneud imi deimlo'n aflonydd iawn. Iych.

Peth arall sydd wedi rhoi cryn braw imi'n ddiweddar ydi ryw grëyr enfawr yn fflio o amgylch y tŷ 'ma ynghanol y dydd. Dw i'n cael cipolwg sydyn o'r peth a fyntau'n hedfan yn powld ac yn meddwl be ffwc cyn imi gofio a brysio i'r ffenast i'w weld. Ond hen adar argoelus ydynt, efo'u gyddfau hir a'u llwydni, yn edrych fel Gwrach y Rhibyn, dw i bob amser wedi dychmygu, er nad erioed gwelais Wrach y Rhibyn (sydd, mae'n siwr, yn trigo wrth ribyn, ond nid ydw i, na Chysgeir, yn gwybod beth ydyw rhibyn, ac byth, mi gredaf, wedi ymweld â un).

Coeliwch ynteu ddim ond fydda i bob amser wedi meddwl bod sain cathod fin nos yn debyg i sut y byddai Gwrach y Rhibyn yn swnio. Dw i'm yn cofio'n iawn pryd fu imi glywed am Wrach y Rhibyn gyntaf, ond darllen amdani a wnes a phob amser meddwl y byddwn i, a finnau ben fy hun, yn cael ei gweled. Na, wir-yr rwan; a medrai weld sut beth ydi hi, hefyd. Mi dynna i lun ichi.



Ym, dw i'n gwybod bod hwnnw'n lun gwael (os nad crap) ond fel hyn y mae Gwrach y Rhibyn yn edrych yn fy marn i. Dw i'n mynd i lechu ffwrdd rwan.

mercoledì, agosto 23, 2006

Llond Ceg

Dw i'n siarad fel twat ar y funud achos mae un ochr fy ngheg wedi llwyr ymgolli ei theimlad. Dw i'n amau y bydd hyn yn para'n hir - yn anffodus fe fu'n rhaid i mi gael ddau dosage o y stwff 'na sy'n neud ichdi golli teimlad achos doedd un ddim yn ddigon a bu imi weiddi. Mae hyn yn golygu

1. Dw i'n amlwg efo gwrthsefyll mawr tuag at gyffuriau
2. Fydda i'm yn cael buta tan y p'nawn

Fysa well gin i futa. Dw i'n llwgu.

martedì, agosto 22, 2006

Nerfau

Mae rhai pethau yn fy nychryn. Dw i ddim, rhaid imi gyfaddef, yn ffan o'r deintydd na'r siop trin gwallt (sy'n golygu fyd gennai wallt hir a dannedd drwg), ond yfory dw i yn mynd am fy ffiling. Do, mi benderfynais mynd drwodd efo'r peth.

Gwneith hi ddim lles imi, chwaith, a finnau'n iawn fel ydw i. Dw i byth wedi ddallt y pwynt i ffilings. Mae bob un dw i wedi ei chael wedi syrthio allan ac yn cael eu traflyncu gennyf.

Ond mae gen i ofn. Mae meddwl am cael nodwydd yn fy ngheg yn gwneud imi deimlo'n sal iawn iawn. Am 9 y bora, eniwe.

Mi eshi weld y physio yn 'Sbyty Gwynedd ddoe ar gyfer dy mhen glin a mi roddodd hithau ymarferiadau imi wneud ond dw i ddim am achos rebal bach dw i.

lunedì, agosto 21, 2006

Extreme Tracker

Oes 'na rywun arall yn hollol obsesd gyda'r dyfais fach yma?

Pob tro fydda i yn ymwelyd a fy mlog fy hun neu un rhywun arall dw i'n mynd yn syth am y teclyn yma. Un rhan yn benodol sydd o ddiddordeb imi, sef, fel dw i wedi dweud o'r blaen yma, y darn lle ma'n dangos beth y mae rhywun yn teipio mewn i beiriant ymchwil er mwyn dod at wefan.

Mae rhai o'r pethau mae pobl yn teipio i mewn yn ddigon od fel ac y maen nhw i ddod yma, yn ddiweddar yn cynnwys pethau megis "dw i'n mwynhau yfed", "Gwynfor ab Ifor" (dw i BYTH wedi son am Gwynfor ab Ifor ar yr hwn flog), "fy ngwlad a'm cartref" (pwy ffwc sy'n 'sgwennu hynna mewn i Google?) a "ceren tonteg" (yn amlwg Ceren sydd wedi teipio hyn). Ac, o hyd, mae 'na bobl yn teipio mewn "Meic Stevens" a "Meinir Gwilym" ac yn dod yma.

Dw i'm yn dallt hynny. Wedi 'blog' 'hogyn' neu/a 'rachub', y peth mwyaf poblogaidd er mwyn dod yma ydi, un ffact, "Meic Stevens". Wedi'i ddilyn gan "Meinir Gwilym". Od iawn o fyd, ond diddorol, hefyd.

domenica, agosto 20, 2006

Welish i Dafydd Iwan

Do, yn Harry Ramsdens, misoedd yn ôl. Ond 'sneb yn coelio fi, er imi gymryd llun a phopeth.


Dw i'n rili ypset. 'Sneb yn coelio fi byth.

sabato, agosto 19, 2006

Dechrau a diwedd

Chei di'm gwell na rwbath yn dod i ben a rwbath arall yn dechrau. Mae'r haf felly imi; pan orffena'r tymor bêl-droed mae Big Brother yn dechrau (llongyfarchiadau i Glyn am ddod yn ail, wrth gwrs, ac am i S4C gynhyrchu un o'r rhaglenni waethaf yn eu hanes), a phan orffenna Big Brother dyma'r pêl-droed yn dechrau drachefn.

Mae pethau'n argoeli'n ddrwg, fodd bynnag. Dw i digon ypset bod United wedi gwario penwmbrath o £18m ar Michael Carrick, ond yn waeth fyth dw i'n cael Dyfed yn penderfynu 'sgwennu llythyron imi (h.y. ripio darn o gylchgrawn allan efo llun o ddynas ddu arno, 'sgwennu 'gŵr chdi' ar y cefn a'i gyrru drwy'r post, i'r enw Iason "Hobbit" Rachub Morgan. Hyn, ebe hwynt, yw'r diffiniad o 'adloniant' yng Ngwalchmai). Ac mai'n bwrw, sydd o leiaf yn codi fy nghalon.

Dydi fy mhlendren i cae dal dim am rhy hir ers tua mis yn awr, sydd o gryn gonsyrn imi, a dw i'n mynd i 'Sbyty Gwynedd Ddydd Llun er mwyn cael ffisiotherapi. Wela i mo'r pwynt; dw i fyth am wella aparyntli. Mae o fel ddyn ar ei wely angau yn cael llwyad o Galpol er mwyn wella'i annwyd.

Hen bryd imi fynd rwan. Dw i'n mynd i Besda heno am beint, ylwch chwi. Ar nos Sadwrn, sy jyst yn sili, achos does neb yn mynd i Besda ar nos Sadwrn, dim ond nos Wener a nos Sul. Yn wir, myfi ydyw Plentyn y Chwyldro.

giovedì, agosto 17, 2006

Obitus Ante Dyfed

Obitus Ante Dyfed ydi arwyddair swyddogol Rachub. Ni wyddwn i hynny o'r blaen.

Fedra i'm stopio i siarad. Wir-yr. Dwisho cawod, achos fe fues i'n Llangefni neithiwr, a mae pawb angen cawod ar ôl noson allan yn Llangefni.

Ffe es i Sioe Mon gyda Kinch a fe welsom Dewi Tal ac yntau a ddangosodd ei syn-tan a'i ddefaid inni. Dwi byth wedi sylweddoli mor fawreddog ydyw bôls meheryn o'r blaen, chwaith. Ond mae'n rhaid 'u bod nhw'n brifo wrth redeg o gwmpas.

Cefais gyri neithiwr. Dyna pam rwyf ar frys. Ta ra!

martedì, agosto 15, 2006

Y Gorberffaith

Henffych hawddamor, gyfeillion, myfi a ydwyf teimlo'n Gymraeg fy naws heddiw, a phaham lai? Dw i wastad wedi hoffi darllen Cymraeg orberffaith, a bod yn onast efo chi, a fel hynna byddwn i'n siarad taswn i'n ddewin (Iason y Goedwig).

Ydi 'gorberffaith' yn baradocs? Achos perffaith ydi, wel, y di-nam, y gwych hollol digamsyniol na'i threiddir gan gam neu, wrth gwrs, amherffeithrwydd.

Ydi 'gorberffaith' yn gyfystyr ag amherffaith? Oherwydd y mae 'gor-' yn awgrymu gormodedd, ac nid ydyw gormodedd, na'i chroes-air, annigonol, yn berffaith, nac ydynt? Sy'n golygu eu bod yn amherffaith. Yn tydi?

Ffacinel mi ddechreuish i'r blog yma eisiau siarad am be' wna'i heddiw a dw i wedi mentro mewn i Peter Wyn Thomas territory. Ac nid braf mohoni yma.

lunedì, agosto 14, 2006

Dyfyniad Gwirion y Diwrnod #1

Mam: "I've bought some black things from Marks you like to eat."

Myfi: "What?"

Mam: "Er, blueberries."

domenica, agosto 13, 2006

Anturiaethau Rhys a'r Byd

Mae'r Archdwpsyn ei hun, Rhys Sgwbi, wedi penderfynu mynd o amgylch y byd. Udodd o ddim wrtha i, chwaith. Mae'n cadw cofnod o'i anturiaethau yma.

venerdì, agosto 11, 2006

Genwair Golledig

Pam ydw i'n 'sgwennu'r blog 'ma? Wel, er mwyn i bobl cael chwerthin ar fy mhen i. Un peth dw i wastad wedi sylweddoli ydi bod 'na wastad rhyw anffawd od yn digwydd imi, sy'n ddigon i gadw blog fel hyn fynd ar y distawaf o amseroedd. Yn anffodus, mae ar y funud wastad yn ymwneud â physgota, felly os nad oes gynnoch chi ddiddordeb ewch i ddarllen blog Rhys Llwyd, neu rhywbeth.

Eniwe, mae'n cymryd amser mynd o Fethesda i Fae Trearddur. Mi brynais i 'mbach o sandeels yn Star cyn mynd ymlaen i'r lle a'i chyfeiriwyd ati ynghynt. Wedi gyrru mawr mae'n rhaid i rywun ddadbacio a chario'u genwair a'u abwyd a'u bocs a'u stand a fenthyciwyd gan athro waethaf Cymru a chwilio am rywle i'w chastio. A hynny a wnes, wrth gwrs, wedi bachu’r sandeels ar y bachyn a’r cyntaf gast aeth i mewn i’r Môr Wyddelig (sef, o bosib, y Môr efo’r naws lleiaf Wyddelig bosib). Y genwair a grynodd, myfi a thynnodd, a snagiodd y cont ar rhyw garreg.

Bryd hynny tynnu mae rhywun hyd syrffed er mwyn ceisio ei ddadfachu o’r creigiau, a mae genweiriau yn bethau cryfion sy’n medru delio â hynny. Ond nid f’un i. Ar un tyniad anferthol, dyma hi’n cracio’n ei hanner. Yn ffwcin genwair i. Y peth gorau nad oedd neb o gwmpas i weld (oni bai am ddau mewn cwch na sylweddolasant, mi gredaf), a’r doniolaf beth dw i’n amau dim ond gweld hanner fy ngenwair i’n llithro’n araf ar y llinyn i lawr tuag at y Môr Wyddelig, hanner can llath isod. Safais am eiliad yn ei gwylio, yn hanner eisiau crio, hanner eisiau neindio mewn ar ei hôl.

Torri’r llinyn oedd yn rhaid, agor can o Lwcozêd, ac eistedd efo’r gwynt rhwng fy ngwallt a loes yn fy nghalon.

martedì, agosto 08, 2006

Y Deintydd

Os nad yw deffro a chodi am hanner awr wedi wyth yn ddigon drwg (iawn, hangowfyr o fod yn fyfyriwyr, ond daliwch efo fi), mae codi am hanner awr wedi wyth yn gwybod dy fod yn gorfod mynd i'r deintydd ym Mangor erbyn naw YN ddigon drwg. Os nad gwaeth. Myfi a es yn blaque i gyd.

Un o'r cas bethau sydd gennyf am y deintydd, oni bai am y drilio cyson, ydi y peth 'na sy'n gwneud sain fel hwfar ac yn sugo pob leithder allan o dy geg. Chychwi a wyddoch yr hyn a soniaf amdani, a dirprwy y deintydd sydd gyda hi. Roedd yr un yma'n chwarae gem o 'faint o'i dafod o fedra i sugno mewn iddo', sy'n ffain, tu allan i ddeintyddfa, ond yno nid yw, yn fy mhrofiad broffesiynol i (onid yw'r ffaith fy mod yn Faglor yn y Celfyddydau yn ddigon yn awr i gyfiawnhau'r fath ollwybodaeth?).

Dyma deintydd yn rhoi rhyw ddei yn fy ngheg i wedyn, i ddangos lle mae'r plaque. Mi oedd llawer. A wedyn mi ges i'r wers 'na dachi'n gael pan dachi tua phump am sut i frwshio'ch dannedd yn gywir. Ffycar iddi. Oni'n teimlo'n rel ffwcin lemon, yn nodio a mynd 'ies' yn boleit iawn o hyd, 'ai si'.

A mae'n rhaid imi fynd yno drachefn am ffiling mewn wythnos neu rwbath. Wel, dydw i'm isho. Felly mi fyddai'n bendantaidd ac yn annifyr a'i chanslo, a dal ati i fyw fy mywyd heb haearn yn fy ngheg.

lunedì, agosto 07, 2006

Bywyd Ddiffygiol

Mae'r 'Steddfod i'w weld yn brysurach na'r arfer tua Abertawe ffor'na. Ond fydda i ddim yn mynd achos 'sgen i ddim pres. Dim ots, rili, achos bob tro dw i'n mynd i Abertawe dw i'n endio fyny'n dod o 'na heb gofio diawl o ddim, eniwe, a synnwn i'n fawr tasa hynny'n wahanol pe fyddwn i'n mynd flwyddyn yma.

Oeddwn i am fynd i 'sgota ddoe ond mi benderfynodd Dyfed y byddai'n well ganddo fflachgachu. Felly mi gefais fwyd yn lle Nain yn lle, yn llawn mwynhau ei sylwadau diddiwedd, fel 'sbia hwn yn gwatshad bob dim dw i'n neud' am fy nhaid, oedd dim ond yn edrych a sy ddim yn deall Cymraeg. Dw i'n gwybod fod o'n gas, ond, dw i wrth fy modd yn dweud pethau am bobl yn y Gymraeg a gwybod yn iawn nad ydyn nhw'n dallt gair o'r hyn dw i'n ei ddweud.

Yfory rwy'n mynd i'r deintydd. Nis hoffaf y deintydd. Maen nhw'n cwyno bod fy nannedd yn or-felyn o hyd, cyn mynd ati i holi os ydw i'n yfed gormod, ysmygu neu gwneud pob math o rhyw bethau anwar anghywir felly. Er, dw i'n ddigon gelwyddar ac ystrywgar i gadw'r gwir, pa wir bynnag ydyw, oddi wrthynt. Ond fel nad yw coes croc a sbecdols yn ddigon i anharddu rhywun, mae dannedd melyn yn, felly mi a'i 'fory mewn hyder da.

Yn ogystal a hyn mae gennai'r ffisiotherapydd yn ddiweddarach yn y mis, felly bydd hynny'n hwyl, wrth imi gael fy mhlygu blith-draphlith hyd torri a rhwygo pob peth yn fy nghorff. Bastads.

giovedì, agosto 03, 2006

Ychafi

Heddiw fe fu imi cymryd llond ceg o mozzarella o cefn ffrij, cyn sylweddoli ei bod hi gyd wedi llwydo ac yn blasu fel llwch Iddew.

mercoledì, agosto 02, 2006

Y Ffrae Fawr a degawd bach arall ichwi

Bonjour, ys dywedaf pe fyddwn rodresgar (dw i'm yn wirioneddol gwybod beth mae rhodresgar neu'r Saesneg amdano pretentious, yn ei olygu, ond mae pobl wastad yn dweud 'paid a bod yn pretenshys' wedi clywed rhywun yn dweud rhywbeth mewn Ffrangeg).

Mae'r dyddiau diwethaf wedi eu lliwio gan ffrae mawr. Anghofiwch Libanus ac Israel ac Hezbollah, myfi a Kinch sydd wedi bod yn dadlau am bysgod. Efe, Fodedern-wr, sy'n honni mai coaley y bu inni eu dal y diwrnod o'r blaen. Myfi sticiaf at bass. Rwan, os oes rhywun yn darllen sy'n dallt y petha' 'ma, plis ymatebwch neu mi fydd y ffrae yma'n mynd hyd diwedd ein dyddiau (wel, ei ddyddiau ef, dw i'n llawn eisiau parhau gyda'm mywyd trist a phrudd, a goroesi pawb dw i'n adnabod, jyst er mwyn fod yn fastad).

Annhebyg iawn y gwna i oroesi neb, wrth gwrs. Dw i bob amser wedi teimlo mai Mis Mawrth y bydda i'n marw.

Eniwe, i'r rhai ohonoch sy'n darllen y blog hwn, ac felly'n amlwg yn cymryd rhyw fath o ddiddordeb yn fy modolaeth (yn hytrach na bywyd, hynny yw), efallai y cofiwch mai hwn yw'r degfed flwyddyn yr wyf wedi bod yn cadw dyddiadur. A hithau'n Awst 2ail, dw i am weld be wnes bob diwrnod am ddegawd.
  • 1996: 'No record of what happened today'. Dechrau da.
  • 1997: Mynd i Gaergybi. Oni'n 'bored'.
  • 1998: Unwaith eto, does dim manylion yma. Bob amser wedi meddwl bod Awst yn boring ond blydi hel...
  • 1999: 'Mellt a tharannau'. Storm, debyg.
  • 2000: Ymlacio drwy'r dydd a chodi am 11.34
  • 2001: 'Mae gen i lai i ddweud bob dydd' (a phob blwyddyn, debyg)
  • 2002: Cyrraedd adref o'm gwyliau yn Yr Eidal, wedi casau y gwyliau'n llwyr, un o benwythnosau gwaethaf fy mywyd
  • 2003: Hei, guess what? Dim cofnod.
  • 2004: Ffeindish i allan y byddwn yn ennill £60 am weithio'n Steddfod Casnewydd ... sef £105 yn llai na ddywedish i wrth Mam y byddai'n ennill. Wps.
  • 2005: Blwyddyn i heno, eshi weld Mim Twm Llai yn chwarae yn Cofi Roc. So mai'n flwyddyn ers imi weld Mim Twm Llai mewn gig.

Casgliad: ar y cyfan, mae Awst yr 2ail yn ddiwrnod boring.

martedì, agosto 01, 2006

Canolfan Byd Di-Waith

Haleliwia! Mae gen i reswn ddilys i gwyno!

Ond rheswm drwg. Roedd yn rhaid imi ffonio fyny Canolfan Byd Gwaith Wrecsam fyny heddiw, a mi wnes ar y linell Cymraeg. Fe fues i'n disgwyl ugain munud cyn rhoi'r ffôn lawr a ffonio am y linell Saesneg, lle cefais i rhywun yn ateb o fewn dau funud. Yn lythrennol.

Felly dw i'n flin a dw i am gwyno a gwneud ffys mawr. Dio'm yn deg, nadi?

lunedì, luglio 31, 2006

Penwythnosa

Fel un o Besda, nos Wener a nos Sul yw fy mhenwythnos. Anaml a'i allan i Fethesda ar nos Sadwrn. Felly, fel arfer, nos Wener a nos Sul es allan. Oeddwn i'n eithaf siomedig neithiwr am na chafwyd loc-in yn y Vic, a dylwn wedi aros yn yr annwyl Sior, mi gredaf, er y bu imi bron a lladd hen ddyn wrth y tai bach (stori byr).

Er hyn dw i heb wneud llawer dros y penwythnos, a heb actiwli meddwi. Dachi'n gwybod y teimlad gwaetha? Ceisio yfed a methu achos unai bo gynnoch chi ben mawr (nid yn lythrennol, bydda chi'n yfed mwy efo pen mawr mi dybiaf) neu eich bod newydd bwyta clamp o bizza. Dyna wnes i, wrth gwrs.

Deep pan ydi'r boi. Dw i'm yn dallt y wimpy weeds bach sy'n cael thin cryst. Deep pan ydi pizza dyn go iawn. Digon o gaws, digon o dopping, a stumog llawn. Mae thin cryst fel y cwrw ddialcohol 'na, neu fel tost heb fenyn neu Llafur heb y streak gwrth-Gymraeg. Ddim yn iawn. Annuwiol. Ffiaidd. Anfad. A phawb a'u bwytant. Dachi'n gwybod pwy ydach chi.

Iasgob mae'r blog 'ma'n dirywio.

venerdì, luglio 28, 2006

Anlwc

Mae rhai pobl yn lwcus; ennill y loteri, ffeindio tenar ar lawr o bryd i'w gilydd, wastad yn rhoi'r tostar ar y setting cywir. Nid myfi. Dw i'n berson anlwcus iawn ar y cyfan, rhwng pennau gliniau (ydw, dw i dal i gwyno am hynny) a mynd i bysgota a sylweddoli ar garreg bod handlen y rîl wedi disgyn off yn Duw a ŵyr ymhle (sydd, os ydych chi'n deall pysgota, yn golygu nad medrwch bysgota).

Blin oeddwn y bore 'ma hefyd yn derbyn drwy'r post gwrthodiad o'm cais am fudd-dal analluogrwydd. Dw i'n iawn rwan, wrth gwrs, ond am dros fis doeddwn i ddim ac yn methu gweithio, a gwrthodwyd y budd-dal ar y sail nad oeddwn i wedi gweithio digon yn ystod y ddau flynedd ddiwethaf er mwyn ei haeddu. Wel, naddo, ffycin myfyriwr ydw (oeddwn) i. Taswn i'n iach byddwn i wedi medru gweithio a chael arian a medru talu'r hanner-rhent o £125 am y tŷ yng Nghaerdydd am y mis ond na, nis medrwn. A dydi o'm fel fy mod i'n rhyw sgyman oedd yn ffugio, a dydw i'm ychwaith wedi mynd ar y dôl fatha llwyth o bobl dw i'n abod. A dw i'n flin iawn.

'Sdim lwc yn digwydd imi fyth. Bu imi ennill £12 ar scratchcard unwaith (a'i wario oll ar all you can drink for a tenner yn Yates yn syth bin). Ffwcin mynadd.

mercoledì, luglio 26, 2006

Y Pysgotwyr

Bydd lot o'r blog yma dros yr haf yn cael ei ymrwymo i'm hanesion bysgota, mi gredaf. Ddoe, tua Bae Treaddur yr es, gyda Dyfed a Kinch (yr un blewog a'r un jinjyr). Kinch ddywedodd bod 'na rywle yno o'r enw Mackrel Rock, er chafon ni fawr o facrell a dweud y gwir. Dim ond draenogiaid.

Na, dw i'm yn malu cachu; fe fu inni ddal chwe draenog ym Mae Treaddur. Ond, i chwi'r rhai ddi-Gysgeir, mae draenogiaid, yn ogystal a meddwl y creaduriaid pigog sy ddim yn fod i yfed llefrith ond mae pawb yn ei roi iddyn nhw bethbynnag, yn golygu bass. A dw i'n dallt yr enw, hefyd, oherwydd mae gan y bygars bigau ar eu cefn a bu inni gyd cael ambell i nip annifyr ganddynt (yn eu cael yn ol drwy waldio'u pennau a'u diberfeddu). Er, bu imi'n bersonol golli dros hanner fy 'traces' a phwysynnau.

Ar y pryd doedden ni ddim yn sicr beth yn union oedd y petha 'ma. Dw i byth wedi gweld draenog o'r blaen. Ond mi es tua Gwalchmai (sef y lle mwyaf stiwpid yn y byd, sy'n cynnwys capel o'r enw Capel Coch sydd ddim yn goch ac Eglwys Gatholig sydd yn edrych fel bwthyn). Nyni a goginiasom ddau o'r rhain i de, heb y syniad cyntaf o sut mae di-esgyrnu pysgod na dim, a mi lwyddais innau lyncu mwy o esgyrn na sy'n iach (ac o'i herwydd dw i wedi rhoi off mynd i'r lle chwech am cyn hired a sy bosib).

Yfory dw i'n cael fy mlas gyntaf ar bysgota llyn yn Llyn Alaw, a heno mae Grandad yn coginio y ddraenog fwyaf a ddaliais (dau bwys a hanner) a mi a'i fytaf i de.

venerdì, luglio 21, 2006

Cyri cangarw

Ffacinhel mai'n boring 'ma. Does gen ddim i'w wneud ond hel llwch ar fy sbecdols a gweiddi 'aw!' bob tro dw i'n cymryd cam gam.

Y nos ydi'r waethaf beth yn y byd. Eshi gwely am naw neithiwr a gwylio Bad Girls am awr, cyn y crap annioddefol ond adictif o'r enw Big Brother, ac wedyn Gordon Ramsay's F-Word cyn ceisio cysgu. Mi wnaeth imi feddwl am fwydydd egsotig.

Triodd Gordon grocodeil neithiwr, a hoffwn innau wneud hefyd. Eithaf prin, mewn difri, yw fy mhrofiad o fwydydd gwahanol: estrys a siarc ydi'r mwyaf mentrus ydw i wedi bod, er mae gennai restr o'r hyn beth hoffwn eu blasu. Ci, er enghraifft. Os mae o'n ddigon da i Korea, ma'n ddigon da imi (dw i'm am hyd yn oed mentro gwneud jocs sal am hot dogs). Zebra, hefyd: strips streips, efallai? Cangarw hefyd, oeddan nhw'n gwerthu cyri cangarw yn Llanberis ychydig yn ol dw i'n cofio. Siwr bod 'na ddigon o gic iddi. HA!

Iesu dw i angen job.